Rebecca Roberts

All posts tagged Rebecca Roberts

Mwy o Helynt a Sêr y Nos yn Gwenu

Published Mai 25, 2023 by gwanas

Ymddiheuriadau am beidio sgwennu dim fan hyn ers oes pys. Dwi’n darllen llwyth o lyfrau ond rhai oedolion ydyn nhw fwya ers tro, felly dyma ddau i chi ar gyfer yr arddegau, a dau blesiodd fi’n fawr:

Mwy o Helynt, Rebecca Roberts i gychwyn. Dilyniant i #helynt wrth gwrs. Ac mi nath i mi grio! Ond dwi ddim am ddeud pam – heblaw mai ar y diwedd ddigwyddodd o. Ro’n i yn fy ngwely a mwya sydyn roedd y gobennydd yn wlyb.

Dwi’n hynod falch bod cymeriad dewr, byrbwyll, ffraeth a doniol Rachel Ross yn ei hôl. Dwi’n gwybod y bydd nifer fawr o ddarllenwyr ifanc yn cytuno achos mi wnaeth #helynt  gydio yn eu dychymyg nhw go iawn. Roedd ’na ddarllenwyr llawer iawn hŷn wedi eu plesio’n arw hefyd. Dwi’n cofio’i thrafod hi efo llyfrgellydd wedi ymddeol ac roedd o wedi dotio.

Ar ôl gorfod gadael eu cartref yn y Rhyl wedi’r hyn ddigwyddodd efo Jason, y dyn a’i magodd hi, a’r dyn fu’n camdrin ei mam hi, mae Rachel wedi llwyddo i greu bywyd newydd. Mae’n byw efo’i mam a’i chwaer fach mewn rhan arall o ogledd ddwyrain Cymru ac wedi setlo mewn ysgol – wel, coleg chweched dosbarth newydd – mae ganddi gariad a bob dim, a hwnnw’n rhannu’r un hiwmor â hi a mae o’n “weirdo sy’n obsessed efo Avicii a Swedish House Mafia, ond dwinne’n weirdo sy’n obsessed efo Slipknot…” Mae hi’n dechrau dod i nabod Tony, ei thad go iawn hefyd, er mai yn y carchar mae hwnnw o hyd – ar gam, wrth gwrs. Ond dan ni’n gwbod y bydd Rachel mewn rhyw fath o helynt cyn bo hir… ai oherwydd Jason, sy’n mynd i gael ei ryddhau o’r carchar cyn bo hir? Gewch chi weld. Dwi ddim am ddifetha cynllunio gofalus yr awdur. Ond ro’n i’n gwingo am benodau, yn meddwl “Na, Rachel, paid…o, hec… dyma ni.” Mae isio ysgwyd Rachel weithiau. Ac nid hi yn unig chwaith – ro’n i isio sgrechian ar un o’r cymeriadau eraill ar un adeg. Y twmffat gwirion. Grrr. Ac wedyn roedd ’na gymeriad arall – wel! Dwi’n gwybod nad ydi trais byth yn syniad da ond tasai gen i fat baseball…

Dyna ddawn Rebecca: i wneud i ni falio am y cymeriadau (da) a bod isio iddyn nhw ddod allan o bob twll maen nhw ynddo. Ac mae Rebecca Roberts yn gallu creu chwip o dyllau. Dilyniant gwerth aros amdano. Ardderchog – eto. A dyma’r dudalen gyntaf i chi:

Mae ’na gymeriad tebyg iawn i Rachel yn Sêr y nos yn gwenu gan Casia Wiliam. Mae Leia wedi aros yn fy nghof i am hir. Mae hi’n gneud pethe dwl ac yn gyrru ei theulu’n hurt ac yn brifo pobl, ond mae hi’n berl o gymeriad, yn ddoniol, yn ffraeth, yn fyrbwyll ac mae angen ei hysgwyd* hithau hefyd ond dach chi’n dal i’w hoffi hi ac mae hi’n galon i gyd. *Gyda llaw, dwi ddim yn trio annog pobl i ysgwyd pobl ifanc – dywediad ydi o, iawn?

Mae ’na lwyth o gymeriade difyr yn y llyfr yma a deud y gwir, yn cynnwys hen bobl, ac mae geiriau Mary Jones yn y cartref henoed yn hyfryd. Nes i orfod rhoi’r llyfr i lawr ac anadlu’n ddwfn am hir cyn cario mlaen. Ond efallai mai’r busnes rhoi dŵr ar ben y lobsgows darodd dant efo fi. Wedi bod ene…

Hon ydi nofel gyntaf Casia ar gyfer oedolion ifanc, a nefi, mi wnes i fwynhau. Mi fysa hon, fel #helynt yn gneud drama lwyfan wych, a chyfres deledu. Mae ’na deimlad ‘Normal People’ amdani oherwydd ei bod hi am ddau berson ifanc yn trio gneud synnwyr o’u bywydau a’u perthynas ond nes i gymryd at gymeriadau Leia a Sam y boi beics yn llawer mwy nac at Connell a’r hogan ’na, methu cofio ei henw hi – o ia, Marianne.

Hon yn fy marn i ydi’r nofel orau i Casia ei sgwennu hyd yma. Mi wnes i feirniadu drafft o nofel ganddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol ryw dro ac mae’r gwahaniaeth rhwng honna a hon yn dangos ei bod hi wir wedi dysgu a mireinio ei chrefft. Da iawn Casia! Ro’n i’n gwybod ers i mi dy glywed yn blentyn cynradd yn disgrifio hapusrwydd fel sglefrio ar enfys bod ’na botensial…

Dyma’r clawr cefn a’r dudalen gyntaf:

Mwy o Sara Mai

Published Chwefror 1, 2022 by gwanas

Ymddiheuriadau! Dwi methu credu/coelio mod i ddim wedi cael cyfle i sgwennu fan hyn ers cyn Dolig. Dwi wedi bod yn darllen LLWYTHI o lyfrau ond dim digon o nofelau Cymraeg gwreiddiol i blant, sori.

Ond dwi newydd orffen yr ail lyfr am Sara Mai a Sw Halibalŵ, sef Sara Mai a Lleidr y Neidr. Dyma’r clawr:

Ydi o cystal â’r cynta? Yndi/ydy! Cystal bob tamed yn fy marn i, ac mae na ddarnau ynddo fo wnaeth ddysgu gwers i mi (mwy am hynny nes mlaen)

Dyma’r dudalen gynta:

Do’n i ddim wedi clywed y gair ‘bolgodog’ tan rŵan chwaith.

A dyma dudalen wnaeth i mi wenu:

Mae hynny wedi codi blas gobeithio.

Felly pa ran ddysgodd wers i mi? Y wers mae Sara Mai yn ei dysgu am Jasmine, cariad ei brawd mawr, Seb. Mae gan Jasmine ewinedd hir, miniog a llais siwgr-candi-mêl; mae’n golur i gyd ac mae ganddi ofn nadroedd – neu’n esgus bod ganddi er mwyn cuddio tu ôl i’w chariad a gwneud iddo fo deimlo’n gry a dewr a gwarchodol. Wel, fel’na ro’n i’n darllen rhwng y llinellau o leia – ond mae Sara Mai yn bendant yn teimlo yr un fath â fi. Ond ydan ni’n iawn i bŵ-pŵian pobl fel Jasmine? Nacdan! Roedden ni’n dwy ar fai. A wnai mo’no fo eto – addo. Mae gen i ffrindiau a theulu sy’n addoli colur ac ewinedd hirion, miniog ac maen nhw’n bobol iawn. Neis hyd yn oed.

Ond mi fydd raid i chi ddarllen y llyfr i weld sut mae Sara Mai yn dysgu ei gwers. Mwy nag un wers â deud y gwir. Mi fyddwch chi’n gwingo – fwy nag unwaith – ac yn meddwl ‘Naaa Sara Mai! Be ti’n feddwl ti’n neud?’

Oes, mae ‘na neidr (peithon arbennig iawn) yn mynd ar goll ond mae ‘na lawer iawn mwy na hynny yn y nofel fach hyfryd hon.

O, a sbiwch: braf cael ymateb i’r llyfr cynta ar dudalen Clwb Darllen Cymraeg ar Facebook:

Mae Rebecca ac Ellie am fynd i brynu’r dilyniant ddydd Sadwrn – a dwi’n gwybod y bydd Ellie wrth ei bodd unwaith eto. Ac yn y sylwadau ar FB, yn ogystal â chanmol Sara Mai – a’r awdur Casia Wiliam wrth gwrs – mae cwpwl o famau wedi deud pa mor dda ydi cael deunydd gwreiddiol yn Gymraeg. Yn tydi! Dyna holl ddiben y blog yma – i drio tynnu sylw at y rhai gwreiddiol sy’n DAL i gael eu boddi gan y cyfieithiadau.

Ho hym.

Un am nofelau ydw i fwya wrth gwrs ond dyma ddau lyfr ffeithiol/gwahanol i chi:

Dau lyfr hardd a hyfryd a difyr iawn mewn gwahanol ffyrdd. Genod Gwych 2 wrth gwrs yn debyg iawn i’r cynta ond efo merched medrus gwahanol, yn cynnwys yr anhygoel Vulcana!

A llwyth o weithgareddau difyr y byddwn i wedi bod wrth fy modd yn eu gneud yn hogan ifanc. Fel dylunio dwy ffrog i Mary Quant – wir yr. Anodd credu, mi wn.

Straeon a feithiau arbennig o dda eto gan Medi Jones-Jackson a lluniau hyfryd gan Telor Gwyn.

IOGA

Ail lyfr Leisa Mererid a Cara Davies am ioga ydi ‘Y Wariar Bach’ – a dwi wrth fy modd efo’r teitl yna! Dyma rai o’r tudalennau cyntaf:

Mae’r geiriau a’r odlau wir yn “galw arnaf i” a dach chi byth yn rhy hen i drio bod yn seren wib.

Nac yn orila. Mae isio treiglo gorila yn does? Ond mae’n edrych yn od…

Dau lyfr hyfryd, sy’n cael y sylw maen nhw’n eu haeddu, gobeithio.

Go brin bod y 3 llyfr uchod yn y sêl llyfrau plant a phobl ifanc sy mlaen ar hyn o bryd. Dim clem pryd mae’n dod i ben, ond mae ‘na fargeinion i’w cael! Dan ni awduron wastad yn siomedig pan dan ni’n gweld ein llyfrau yn y bwced bargeinion, ac eleni – dwi yna! Wel, nid un o fy llyfrau gwreiddiol i dwi’n falch o ddeud, ond cyfieithiad. OND MAE’N CHWIP O GYFIEITHIAD! O lyfr Almaeneg, nid un Saesneg, os nad oeddech chi’n gwybod, ac mae o’n hilêriys. Er mai fi sy’n deud. Bachwch gopi am £3.50!

Gwobrau Tir na n-Og 2021

Published Mai 24, 2021 by gwanas

Llongyfarchiadau anferthol i’r ddwy ddaeth i’r brig eleni, sef Casia Wiliam a Rebecca Roberts!

Dyma’r tro cyntaf i’r ddwy ennill y wobr, a dwi’n gwybod eu bod nhw wedi gwirioni.

Ro’n i eisoes wedi deud pa mor wych oedd y ddwy nofel yn y blog yma – rhowch y teitlau yn y bocs chwilio os am weld be’n union ddywedais i. Ond os ydach chi’n rhy ddiog, wel, ro’n i’n canmol i’r cymylau.

Ro’n i hefyd wedi deud ei bod hi’n gystadleuaeth arbennig o glos eleni, ac mae hynny’n arwydd o’r ffordd mae’r byd cyhoeddi llyfrau Cymraeg i blant wedi ffynnu ac aeddfedu dros y blynyddoedd dwytha ‘ma. Felly llongyfarchiadau i bawb oedd ar y rhestr fer.

Ond diolch hefyd i’r gweisg a’r golygyddion am feithrin a chomisiynu llyfrau mor dda. Mae pobl o’r diwedd yn dechrau deall pa mor wych ydi llyfrau plant, ac oedolion yn mwynhau ein nofelau Cymraeg gymaint â’r plant/ bobl ifanc.

Diolch arbennig hefyd i’r beirniaid:

O’r top chwith fel bysedd y cloc, Alun Horan, Hywel James, Morgan Dafydd a Nia Morais. Cynhyrchydd teledu ydi Alun, awdur a chynorthwyydd dysgu ydi Nia, athro cynradd (ar gyfnod sabothol yn gweithio ar ei Ph.D) a sylfaenydd gwefan Sôn am Lyfra ydi Morgan, a Chadeirydd y panel oedd T Hywel James, sef cyn-Brif Lyfrgellydd Cyngor Gwynedd, ac un o’r llyfr-garwyr mwya dwi’n eu nabod! Mi fues i’n gweithio efo fo am rai blynyddoedd yng Nghaernarfon pan ro’n i’n hyrwyddo llenyddiaeth yng Ngwynedd – un o’r swyddi mwya difyr i mi eu cael erioed, ac iddo fo oedd llawer o’r diolch am hynny.

Os oes ‘na rywun yn gwbod ei stwff o ran llyfrau, Hywel ydi hwnnw. Dwi’n 100% siŵr ei fod o wedi bod yn Gadeirydd gwych (mae o’n dawel ond yn hynod graff a theg) a bod y lleill i gyd wedi dysgu lot ganddo fo, fel y gwnes i.

Da iawn bawb. Edrych ymlaen at wobrau 2022 yn barod!

Y Castell Siwgr

Published Mai 4, 2021 by gwanas

Mae’r nofel hon gan Angharad Tomos ar restr fer llyfrau uwchradd Gwobr Tir na n-Og efo #Helynt, Rebecca Roberts a Llechi, Manon Steffan Ros. Dwi eisoes wedi canmol y ddwy honno, a rhaid i mi ddeud, mae Y Castell Siwgr yn gystadleuydd cryf arall. Does gen i wir ddim syniad mwnci pwy eith â hi, achos mae’r tair mor wahanol a’r tair yn haeddu gwobr.

Dwi mor falch nad ydw i’n un o’r beirniaid!

Arddangosfa yng Nghastell Penrhyn gan Manon ysbrydolodd Angharad.

A’r dyfyniad yma yn fwy na’r un, beryg:

Hanes dwy ferch ifanc sydd yn y nofel: Eboni (neu Yamba i ddefnyddio ei henw go iawn), caethferch ar blanhigfa’r teulu Penrhyn yn Jamaica; a Dorcas o Ddolgellau sy’n gwehyddu’r wlanen sy’n creu’r dillad mae pob caethwas yn gorfod ei wisgo, cyn cael ei gorfodi i fynd i Gastell Penrhyn i fod yn forwyn.

Mae sefyllfa’r ddwy yn debyg mewn sawl ffordd: gwaith hurt o galed o fore gwyn tan nos a chael eu trin fel baw isa’r domen. Allwn i ddim peidio â chymharu bywydau’r ddwy: bod yn gaethferch sydd waetha wrth gwrs, cael eich trin a’ch hystyried fel un o’r anifeiliaid, a chael eich taro a’ch chwipio a’ch treisio; ond doedd bywyd Dorcas fawr gwell ar ôl symud i’r castell mewn gwirionedd.

Mae ‘na olygfeydd ysgytwol yma, a rhai do’n i ddim wedi disgwyl eu gweld gan Angharad am ryw reswm. Mi wnes i ei chlywed hi’n deud yn rhywle bod gwneud yr ymchwil wedi bod yn sioc iddi – ar y podlediad ardderchog yma dwi’n meddwl:

https://ypod.cymru/podlediadau/carudarllen

Pennod 6, lle mae mari Siôn yn holi Angharad, Manon a Rebecca.

Mi fydd y nofel yn sicr yn sioc i rai darllenwyr yn eu harddegau, hyd yn oed i’r rhai sydd wedi dilyn yr erchyllterau y tu ôl i ‘Black Lives Matter’. Mae’n dibynnu be maen nhw eisoes wedi ei weld ar bapur ac ar sgrin.

Dwi’n cofio’r sioc ges i wrth wylio cyfres deledu Roots nôl yn y 1970au:

Mi fyddwn i yn fy nagrau bob nos Sul yn gweld Kunta Kinte, Kizzy a Chicken George yn cael eu trin mor anfaddeuol o greulon gan bobl wyn. Erbyn meddwl, dyna un o’r cyfresi teledu newidiodd fi fel person a siapio fy syniadau a fy nghredoau am byth.

Roedd y golygfeydd treisiol yn ysgwyd rhywun i’r byw, ac mae Angharad wedi llwyddo i wneud yr un peth ar bapur, yn Gymraeg. Efallai y byddan nhw’n ormod i ddarllenwyr iau, mwy sensitif, felly bosib bod angen bod tua 15 oed cyn darllen hon, neu 14 oed aeddfed. Ond dwi’n eitha siŵr y bydd darllen am hanesion y ddwy ferch ifanc yma yn aros yn y cof.

Dyma’r dudalen gyntaf:

Ydi, mae bywyd Dorcas yn llawn hwyl a fflyrtian. Ond bydd pethau’n newid erbyn Pennod 8:

Nac ydi, dydi’r eirfa ddim yn hawdd, na’r arddull chwaith, felly nofel Set 1 fydd hon mewn ysgolion, dybiwn i. Ond mi faswn i wrth fy modd yn cael clywed yr ymateb a’r trafod yn y dosbarth wedyn. Byddai’r rhai sydd ddim cystal am ddarllen/siarad Cymraeg ar dân isio gallu darllen Cymraeg yn well ar ôl gwrando ar y trafod, siawns?

Mae ‘na linellau yma sy’n neidio allan arnach chi, fel:

“…Mae byw heb chwerthin yn ffurf greulon ar gaethiwed.

Dylai pawb fod yn rhydd i chwerthin.”

“Doeddwn i ddim yn casáu neb ers talwm. Ond rŵan dwi’n llawn casineb. Rhaid ei fod o’n rhywbeth sy’n lledu fel salwch, yn haint sydd yn mynd o’r naill i’r llall.”

Ac mae ‘na lawer mwy. Ond darllenwch y llyfr drosoch chi’n hun; mi fydd golygfeydd a llinellau gwahanol yn neidio allan i ddarllenwyr gwahanol, a dyna be sy’n gneud trafod llyfrau mor ddifyr.

Pob lwc i’r tair nofel, a chofiwch wylio Heno nos Iau, 20 Mai 2021, pan fyddan nhw’n cyhoeddi enwau’r enillwyr ym mhob categori. Dwi ddim yn ei chofio hi mor agos â hyn ers blynyddoedd!

#Helynt – nofel ar gyfer yr arddegau

Published Rhagfyr 16, 2020 by gwanas

Dwi wrth fy modd bod cymaint o nofelau da allan ar gyfer pobl ifainc rŵan. A dyma i chi un sy’n agos iawn at fy nghalon i: ‘#Helynt’, gan Rebecca Roberts o Brestatyn. Dwi’n gwybod am hon ers tro oherwydd mi ges i’r cyfle i helpu Rebecca i’w datblygu hi, diolch i wobr Ysgoloriaeth Emyr Feddyg drwy’r Steddfod. Diolch yn fawr i Dyfed Edwards am ddyfarnu’r wobr honno iddi, a diolch i Rebecca am weithio mor galed arni. Doedd hi ddim angen llawer o help mewn gwirionedd, roedd yr arddull, y stori a’r cymeriadau yn cydio o’r cychwyn. Mae’r nofel yn chwa o awyr iach oedd gwir ei angen ar y byd llyfrau, am ferch sy’n wahanol iawn i’r criw dosbarth canol arferol sydd mewn llyfrau Cymraeg. Goth o’r Rhyl!

Bu Rebecca a minnau’n cyfarfod mewn caffi yn Frongoch ger y Bala (bron hanner ffordd rhwng Rhydymain a Phrestatyn) yn rheolaidd i weithio ar y nofel (a sgwrsio a bwyta) ac roedd hi’n bleser gweld y gwaith yn datblygu. Mi wnaeth hi fy helpu i gymaint ag o’n i’n ei helpu hi, achos ro’n i wedi bod ar faglau am chwe mis ar ôl anaf i’r nerfau yn fy nghoes, ac mae gan Rebecca hogan fach sydd â dwy goes brosthetig… dyna sut i roi pethau mewn perspectif. Ro’n i wedi defnyddio fy rhwystredigaeth i sgwennu am gymeriad yn colli ei goes yn nhrioleg y Melanai, ac roedd hanes hogan fach Rebecca wedi fy ysbrydoli i wneud hynny. Dwi’n meddwl mai dyna roddodd yr hyder i Rebecca wneud Rachel, y prif gymeriad, yn amputee. A dwi mor falch.

Felly roedd pori drwy’r llyfr wedi iddo gael ei gyhoeddi yn brofiad arbennig o ddifyr i mi. Mae o fymryn yn fyrrach (syniad da bob amser) ac mae’r iaith weithiau’n teimlo’n ‘gywir’ iawn i mi, ond dwi’n cofio trafod hyn efo Rebecca. Dyna sut mae hi’n siarad Cymraeg. Pan dach chi ‘n dod o deulu di-Gymraeg a’r iaith yn un ysgol, fwy na heb, dach chi YN defnyddio geirfa gywirach na rhywun o Blaenau neu Gaernarfon, yn deud ‘creision’ yn lle ‘crips’. Mae hynny ynddo’i hun yn chwa o awyr iach. A dwi wrth fy modd efo’r ffordd mae Rachel yn gwirioni efo ambell air Cymraeg:

Jolihoitan – am air ffantastig. Mewn ‘ymgais i ehangu ein geirfa’, mae ein hathrawes Gymraeg yn rhoi gair newydd uwchben y bwrdd gwyn bob wythnos. Rwyt ti’n cael pwynt llys am ddefnyddio Gair yr Wythnos mewn darn o waith dosbarth neu waith cartref. Jolihoitan oedd gair yr wythnos ddiwethaf, ond roedd o’n eitha anodd ei ddefnyddio mewn traethawd am Hedd Wyn.

Oherwydd hynny, dylai pobl ifainc a hŷn sydd wedi, neu yn dysgu Cymraeg fwynhau hon yn arw. Ond oherwydd y stori a’r cymeriadau, mae Cymry Cymraeg o bob oed wedi ei mwynhau hi hefyd, ac wrth gwrs, pobl sy’n nabod y Rhyl yn fwy na neb! Bron nad ydi’r dref yn gymeriad arall ynddi, a dwi isio mynd yn ôl yno rŵan, i weld y llefydd a’r bobl sydd yn y nofel. Arwydd o lyfr sydd wedi cydio, ynde?

Bydd cymeriad y fam a Jason, y tad, yn gwneud i chi feddwl, a dwi’n rhagweld trafodaethau difyr yn y dosbarth amdanyn nhw os gaiff hon ei darllen mewn ysgolion – ac mi ddylai! Mae ‘na hen ddigon i’w drafod am y cymeriadau i gyd, deud gwir. A dwi’n caru Rachel. Mae hi’n andros o gymeriad er mod i isio ei hysgwyd hi weithiau, ond roedd gwir angen fy ysgwyd innau pan ro’n i ei hoed hi.

Mae Llyfrgelloedd Cymru wedi creu taflen adnabod awdur am Rebecca:

A dyma linc i’r wefan:https://llyfrgelloedd.cymru/aotm/rebecca-roberts/

Dyma i chi dudalen gynta #Helynt i chi gael blas:

A dyma syniad i chi o sut gymeriad ydi Rachel, a’i chwaer fach, Sara:

A dwi isio dangos y ddwy dudalen hon i chi am weithdy drama, sy’n ffraeth a llawn hiwmor ( a’r hen ast, Eira) ond hefyd yn rhoi syniad i chi o agweddau dwys y nofel:

Na, dydi fy lluniau i ddim yn glir iawn – bydd raid i chi brynu eich copi eich hun yn bydd? £8.50, Gwasg Carreg Gwalch. Mae hi’n nofel onest, gyfoes a phwerus. Ond mae ‘na ddarnau fydd yn gneud i chi wenu hefyd.

Ac mae’r clawr yn berffaith.

A dyma wybodaeth yng ngeiriau Rebecca ei hun:

Beth ydych chi’n gobeithio y bydd darllenwyr yn ei gael o’r stori hon?

Er bod y stori yn delio â themâu difrifol fel camdriniaeth ddomestig, bwlio, anabledd ac iselder, rydw i’n gobeithio bydd pobl yn teimlo fod y stori yn un gadarnhaol sydd â neges am hunanhyder, hunan-barch a charu pwy wyt ti.

Pa wybodaeth arbenigol neu ymchwil oedd ei hangen i ysgrifennu’r llyfr hwn?

Rydw i’n fam i blentyn sydd ag anabledd corfforol, felly doedd dim angen i mi wneud gwaith ymchwil gan fod gen i eisoes ddealltwriaeth eithaf unigryw o’r heriau ymarferol, yr apwyntiadau meddygol, ynghyd â’r cryfder a’r agwedd gadarnhaol sydd ei hangen i fyw bywyd llawn fel mae Rachel yn llwyddo i wneud.

Hefyd, roedd angen i mi ddeall sut brofiad oedd mynd i’r carchar. Yn ffodus, mae fy mam yn ynad yr heddwch felly roedd hi’n medru rhoi disgrifiad manwl o sut brofiad ydi ymweld â charchar, canllawiau dedfrydu ac ati.

Felly os dach chi’n chwilio am anrheg i rywun yn eu harddegau, prynwch hon. Neu os ydi pethau’n fain arnoch chi, benthycwch hi o’r llyfrgell. Mi gaiff Rebecca ryw 8.5c am bob benthyciad – os ydi hi wedi cofio cofrestru efo PLR (Public Lending Rights) – tip i bob awdur yn fan’na!

Gwefan sonamlyfra a #Helynt

Published Rhagfyr 8, 2020 by gwanas

Mi fydda i’n sgwennu am #Helynt cyn bo hir, ond yn y cyfamser, dyma adolygiad gwych o #Helynt gan Rebecca Roberts: https://www.sonamlyfra.cymru/post/helynt-rebecca-roberts

Mae ‘na lwythi o adolygiadau ar y wefan hon, AND THEY’RE BILINGUAL! Defnyddiol tu hwnt, ac wedi ei chreu gan rywun llawer mwy dawnus o ran technoleg na fi. Mae o dipyn iau na fi…

A chofiwch logio mewn er mwyn gallu gadael sylw. Mae eich sylwadau chi’n bwysig. Mae’r un peth yn wir am fy mlog innau; dwi’n gwirioni bob tro y bydd rhywun yn gadael sylw. Er gwybodaeth…

A rhag ofn eich bod yn chwilio am lyfr lliwio i’w roi fel anrheg Nadolig, cofiwch am hwn. Tydi o’n lun hyfryd?

Dwi wedi gofyn am lun o’r canlyniad…

Llyfrau Steddfod Dyffryn Conwy

Published Awst 14, 2019 by gwanas

Dyma’r llyfrau brynais i ar y maes yn Llanrwst:

20190807_093802

Dwi hanner ffordd drwy Carafanio ac yn mwynhau’n arw! Ond roedd gen i fwy o lyfrau ar fy nesg cyn mynd i’r Steddfod, yn cynnwys Treheli gan Mared Lewis:

9781784617158

a Mudferwi gan Rebecca Roberts:

Mudferwi-clawr

Llwyth o ddarllen o mlaen i felly! A dwi’n meddwl mai ar gyfer oedolion mae’r rheina i gyd – heblaw Horwth efallai? Ond dydi hwnnw ddim yn edrych fel un ar gyfer plant, chwaith. Mi wnai adael i chi wybod wedi i mi eu darllen i gyd, a chan mod i angen gorffen sgwennu fy nofel fy hun yn y cyfamser, mi allai fod yn sbel go lew, iawn?

Roedd hi’n Steddfod hyfryd, er ei bod hi wedi bod yn amhosib gweld a chlywed bob dim. Doedd darllen stori Sali Mali ynghanol y sŵn a’r miri yn y Pentre Plant ddim yn hawdd (diolch i bawb wnaeth aros!) ac mi ges i fodd i fyw yn cyfarfod ffans Cyfres y Melanai ar stondin y Cyngor Llyfrau:


Diolch arbennig i Courtney o Lundain am ddod i chwilio amdana i ar ol y sesiwn arwyddo (roedd ei nain yn canu ar y llwyfan yr un pryd â’r sesiwn arwyddo swyddogol…).

Gyda llaw, mi fues i’n sbecian rownd y cefnau a dyma sut mae staff y CLLC yn llwyddo i lenwi’r silffoedd drwy’r wythnos:
20190805_144234

Sgwrs ro’n i wir am fod yn ran ohoni oedd yr un am amrywiaeth mewn llyfrau plant, ond ro’n i’n brysur yn cynnal gweithdy sgwennu ar y pryd…

20190806_112329

Ond mae ‘na erthygl am y drafodaeth ar BBC Cymry Fyw fan hyn:

https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/49255371?fbclid=IwAR3OHkG5mH2NqdCVRLUerNntqFvT2hjZLCGtj-gjCJabW6rPywno2ehQP4E

A dwi’n cytuno 100% efo Elin Haf Gruffudd Jones y dylai cyhoeddwyr llyfrau o Gymru edrych ar gyfresi o dramor er mwyn cael gwell amrywiaeth. Pam troi at lyfrau Saesneg o hyd? A deud y gwir, dwi newydd gytuno i gyfieithu llyfr plant oedd yn Almaeneg yn wreiddiol… mwy am hynny eto – ond DWI WRTH FY MODD!

A newyddion gwych o lawenydd mawr: mae Cyfeillion y Cyngor Llyfrau wedi lansio cystadleuaeth er mwyn cael mwy o nofelau ar gyfer oedolion ifanc. Gwobr o £1,000 ar gyfer y penodau cyntaf & synopsis! Mae gynnoch chi tan Chwefror 20fed 2020, a dyma fwy o fanylion:

Cystadlaeuaeth llunio Nofel 2019

Brysiwch i feddwl am syniad – a SGWENNWCH!