Mwy o Sara Mai

Published Chwefror 1, 2022 by gwanas

Ymddiheuriadau! Dwi methu credu/coelio mod i ddim wedi cael cyfle i sgwennu fan hyn ers cyn Dolig. Dwi wedi bod yn darllen LLWYTHI o lyfrau ond dim digon o nofelau Cymraeg gwreiddiol i blant, sori.

Ond dwi newydd orffen yr ail lyfr am Sara Mai a Sw Halibalŵ, sef Sara Mai a Lleidr y Neidr. Dyma’r clawr:

Ydi o cystal â’r cynta? Yndi/ydy! Cystal bob tamed yn fy marn i, ac mae na ddarnau ynddo fo wnaeth ddysgu gwers i mi (mwy am hynny nes mlaen)

Dyma’r dudalen gynta:

Do’n i ddim wedi clywed y gair ‘bolgodog’ tan rŵan chwaith.

A dyma dudalen wnaeth i mi wenu:

Mae hynny wedi codi blas gobeithio.

Felly pa ran ddysgodd wers i mi? Y wers mae Sara Mai yn ei dysgu am Jasmine, cariad ei brawd mawr, Seb. Mae gan Jasmine ewinedd hir, miniog a llais siwgr-candi-mêl; mae’n golur i gyd ac mae ganddi ofn nadroedd – neu’n esgus bod ganddi er mwyn cuddio tu ôl i’w chariad a gwneud iddo fo deimlo’n gry a dewr a gwarchodol. Wel, fel’na ro’n i’n darllen rhwng y llinellau o leia – ond mae Sara Mai yn bendant yn teimlo yr un fath â fi. Ond ydan ni’n iawn i bŵ-pŵian pobl fel Jasmine? Nacdan! Roedden ni’n dwy ar fai. A wnai mo’no fo eto – addo. Mae gen i ffrindiau a theulu sy’n addoli colur ac ewinedd hirion, miniog ac maen nhw’n bobol iawn. Neis hyd yn oed.

Ond mi fydd raid i chi ddarllen y llyfr i weld sut mae Sara Mai yn dysgu ei gwers. Mwy nag un wers â deud y gwir. Mi fyddwch chi’n gwingo – fwy nag unwaith – ac yn meddwl ‘Naaa Sara Mai! Be ti’n feddwl ti’n neud?’

Oes, mae ‘na neidr (peithon arbennig iawn) yn mynd ar goll ond mae ‘na lawer iawn mwy na hynny yn y nofel fach hyfryd hon.

O, a sbiwch: braf cael ymateb i’r llyfr cynta ar dudalen Clwb Darllen Cymraeg ar Facebook:

Mae Rebecca ac Ellie am fynd i brynu’r dilyniant ddydd Sadwrn – a dwi’n gwybod y bydd Ellie wrth ei bodd unwaith eto. Ac yn y sylwadau ar FB, yn ogystal â chanmol Sara Mai – a’r awdur Casia Wiliam wrth gwrs – mae cwpwl o famau wedi deud pa mor dda ydi cael deunydd gwreiddiol yn Gymraeg. Yn tydi! Dyna holl ddiben y blog yma – i drio tynnu sylw at y rhai gwreiddiol sy’n DAL i gael eu boddi gan y cyfieithiadau.

Ho hym.

Un am nofelau ydw i fwya wrth gwrs ond dyma ddau lyfr ffeithiol/gwahanol i chi:

Dau lyfr hardd a hyfryd a difyr iawn mewn gwahanol ffyrdd. Genod Gwych 2 wrth gwrs yn debyg iawn i’r cynta ond efo merched medrus gwahanol, yn cynnwys yr anhygoel Vulcana!

A llwyth o weithgareddau difyr y byddwn i wedi bod wrth fy modd yn eu gneud yn hogan ifanc. Fel dylunio dwy ffrog i Mary Quant – wir yr. Anodd credu, mi wn.

Straeon a feithiau arbennig o dda eto gan Medi Jones-Jackson a lluniau hyfryd gan Telor Gwyn.

IOGA

Ail lyfr Leisa Mererid a Cara Davies am ioga ydi ‘Y Wariar Bach’ – a dwi wrth fy modd efo’r teitl yna! Dyma rai o’r tudalennau cyntaf:

Mae’r geiriau a’r odlau wir yn “galw arnaf i” a dach chi byth yn rhy hen i drio bod yn seren wib.

Nac yn orila. Mae isio treiglo gorila yn does? Ond mae’n edrych yn od…

Dau lyfr hyfryd, sy’n cael y sylw maen nhw’n eu haeddu, gobeithio.

Go brin bod y 3 llyfr uchod yn y sêl llyfrau plant a phobl ifanc sy mlaen ar hyn o bryd. Dim clem pryd mae’n dod i ben, ond mae ‘na fargeinion i’w cael! Dan ni awduron wastad yn siomedig pan dan ni’n gweld ein llyfrau yn y bwced bargeinion, ac eleni – dwi yna! Wel, nid un o fy llyfrau gwreiddiol i dwi’n falch o ddeud, ond cyfieithiad. OND MAE’N CHWIP O GYFIEITHIAD! O lyfr Almaeneg, nid un Saesneg, os nad oeddech chi’n gwybod, ac mae o’n hilêriys. Er mai fi sy’n deud. Bachwch gopi am £3.50!

Y Disgo Dolig Dwl

Published Rhagfyr 11, 2021 by gwanas

Dyma’r llyfr Nadolig mwya gwirion a boncyrs i mi ei weld eto. Ond do’n i’n disgwyl dim llai gan yr awdur Gruffudd Owen a’r arlunydd Huw Aaron.

Mae’r ddau wedi sgwennu a chyhoeddi llwyth o bethau gwallgo, gwirion a gwych yn y gorffennol. Rhowch y ddau efo’i gilydd a dyma’r canlyniad!

Dwi wedi ei fwynhau’n arw a dwi jest â drysu isio’i ddarllen yn uchel i blant y teulu. Mi fyddan nhw wrth eu bodd. A deud y gwir, dwi wedi cytuno i neud sgwrs efo dysgwyr (ia, oedolion) nos Fercher, a dwi isio darllen hwn iddyn nhw. Pam lai?

Mae’r cyfan mewn penillion sy’n odli:

Ac yn llawn idiomau a Chymraeg naturiol y gogledd:

Ia, fel ‘chwysu chwartia’, a ‘paned’ yn hytrach na ‘dishgled’ – a nes mlaen ‘Mrs Corn, gr’aduras’ ond mae pawb yn gwybod be ydi paned, tydyn? Os dach chi’n riant/Tadcu/Mamgu/athro o’r de, jest rhowch acen gog ymlaen, fel rhywun o Rownd a Rownd neu rywbeth, ac mae croeso i chi neud hwyl am ein pennau ni! Ond mae Gruffudd yn byw yn y de ac yn briod â Gwennan, merch o Ddyffryn Cothi’n wreiddiol, felly mae o’n gallu defnyddio pethau eitha deheuol hefyd, fel ‘chwysu’n stecs.’

Dwi ddim am ddeud be sy’n digwydd yn y stori, ond mae Sion Corn a’i griw yn cael disgo (cliw yn y teitl) yng Ngwlad yr Iâ:

A dyna un o fy hoff dudalennau, oherwydd y lliw a’r llun, ond yr holl syniad a’r arddull sgwennu hefyd. Mae’n gwneud i mi wenu, a dwi’n gallu clywed y plant (a Taid) yn chwerthin. Ond mae ‘na lawer mwy na hyn yn digwydd yn y disgo dwl ‘ma, felly ewch i chwilio am neu i ofyn am gopi ar gyfer eich hosan Dolig. Gwasg Carreg Gwalch £6.95. Clincar o lyfr i’w ddarllen cyn neu ar ôl eich cinio Dolig – ac unrhyw adeg liciwch chi. Ganol Awst os liciwch chi, os fydd hi’n rhy boeth.

O, a sori mod i ddim wedi rhoi llawer o sylw i ddim na neb ar hwn ers tro – dwi wedi bod yn brysur! Dyma lun sy’n egluro peth o’r prysurdeb:

A bydd nofel ar gyfer oedolion allan fis Chwefror, a dan ni wedi bod yn trio penderfynu pa fath o glawr fyddai’n apelio fwya. Iechyd, mae o wedi bod yn ddifyr gweld be sy’n apelio at bwy!

Bydd raid i chi aros i weld am ba un aethon ni.

Cranogwen gan Anni Llŷn a Rhiannon Parnis

Published Tachwedd 7, 2021 by gwanas

Dyma’r llyfr cyntaf mewn cyfres am fywydau ysbrydoledig pobl o Gymru, pob un wedi herio’r drefn mewn rhyw ffordd a llwyddo “er gwaetha pawb a phopeth.” Bydd pob llyfr wedi ei sgwennu gan awdur gwahanol a’i ddarlunio gan arlunydd gwahanol – difyr a theg iawn!

Ac Anni Llŷn sy’n cael y fraint o gyhoeddi ei geiriau yn gyntaf. Nag oes, does ‘na ddim llawer o eiriau fel y gwelwch chi:

– ond dyna’r grefft dach chi’n gweld. Dewis y geiriau cywir, a’u gosod mewn ffordd glir ond difyr a chynnil. Llyfrau ar gyfer plant dan 7 ydi’r rhain yn ôl y manylion ar gwales.com ond dwi’n siŵr y bydd neiniau nes at 70 yn eu mwynhau hefyd!

Dwi’n falch iawn mai merch ydi’r cymeriad cynta yn y gyfres (ond roedd mwy o ferched wedi gorfod goresgyn rhwystrau ers talwm, doedden? Dal i neud? Trafodwch…) ac mae Cranogwen yn gymeriad sydd wir yn haeddu mwy o sylw.

Llongwr oedd tad Sarah Jane Rees (dyna oedd ei henw iawn) a dyna oedd ei breuddwyd hithau, ond bryd hynny, doedd merched ddim yn cael gweithio ar longau.

Ond roedd Sarah yn ferch benderfynol iawn…

ac yn 15 oed, llwyddodd i berswadio ei thad i’w gadael i ymuno â’i griw ar ei long. Ieee! Gweithiodd yn galed a datblygu i fod yn chwip o forwr. Roedd hi isio rhannu ei sgiliau a’i gwybodaeth, felly aeth ati i ddysgu eraill am gyfrinachau’r môr a sut i hwylio.

Roedd hi’n aml-dalentog, ac yn mwynhau sgwennu cerddi hefyd – dan yr enw Cranogwen.

Dipyn o ddynes! Mae na lawer mwy amdani yn y llyfr ond bydd raid i chi brynu copi (neu fenthyca o’r llyfrgell) os am wybod mwy.

Mi faswn i wedi bod wrth fy modd yn cael darllen llyfrau fel hyn am enwogion o Gymru pan ro’n i yn yr ysgol gynradd – ond doedd pobl fel Cranogwen ddim yn ‘enwog’ pan ro’n i’n 7 oed. Nac yn 14 oed. Ond ro’n i’n gwybod am Florence Nightingale a’r Frenhines Fictoria a’u tebyg. Roedd hi’n hen bryd i ni roi’n goreuon ni ar bedestal!

Mae darluniau Rhiannon Parnis yn siwtio’r testun i’r dim, a dwi wrth fy modd efo’r clawr. Mae’n llyfr hyfryd. Da iawn, Llyfrau Broga!

Ac mae ‘na fwy ar y ffordd:

Ia, fi sydd wedi sgwennu am Shirley, a Casia Wiliam sydd wedi sgwennu am Gwen, ac mi wnai rannu’r rheiny efo chi pan fyddan nhw wedi eu cyhoeddi.

Llyfrau Broga £5.99

Llyfrau i blant iau – ac un Saesneg i rai hŷn

Published Hydref 21, 2021 by gwanas

Mae gen i bentwr o lyfrau i’w darllen ar y bwrdd acw, ond dwi’n llwyddo i fynd drwyddyn nhw yn ara bach.

Dwi’n hynod falch bod y 3ydd llyfr am Y DYN DWEUD DREFN wedi cyrraedd.

Mae hon, fel y ddau arall gan Lleucu, yn hyfryd. Y tro yma, mae’r Dyn Dweud Drefn yn meddwl mai fo ydi pêl-droediwr gorau Cymru.

Ond dydi o ddim yn gadael i’r ci chwarae – “Dydi cŵn ddim yn gallu chwarae pêl-droed, siŵr iawn…” ac mae o’n deud hyn fwy nag unwaith, a’r ci druan yn cael ei yrru i ffwrdd fwy nag unwaith, ac mae plant yn mynd i fwynhau’r ailadrodd yma’n arw.

Mae lluniau Gwen Millward unwaith eto’n cyfleu siom y ci bach i’r dim:

Be sy’n digwydd? Wel, y ci sy’n achub y dydd eto debyg iawn! Ond bydd raid i chi brynu/benthyg y llyfr o’r llyfrgell i weld os ydi’r Dyn Dweud Drefn yn dal i ddeud y drefn ar y diwedd. Bargen am £4.95. Gwasg Carreg Gwalch.

O, ac os ydach chi isio gweld be wnes i ddeud am y ddau lyfr arall fan hyn, jest teipiwch Dyn Dweud Drefn yn y darn Q yn y blwch i fyny ar y dde.

Llyfr arall gan Wasg Carreg Gwalch ydi A AM ANGHENFIL gan Huw Aaron.

Does ‘na fawr o waith darllen, achos llyfr am yr wyddor ydi o, ond mewn arddull Huw Aaronaidd iawn! Mae ‘na anghenfil i fynd efo pob llythyren:

Ambell enw yn gyfarwydd ond rhai na fyddwch chi wedi clywed amdanyn nhw o’r blaen:

A nifer sydd wedi dod o ddychymyg gwallgo a boncyrs Huw:

Ond mae gen i deimlad efallai bod ei blant wedi ei helpu i greu yr enwau ‘ma, neu o leia wedi dweud wrtho os oedden nhw’n eu hoffi neu beidio.

Ond mae ‘na fwy na dim ond yr wyddor yma… mae ‘na ddiweddglo annisgwyl wnaeth i mi wenu fel giât!

Mi wnes i gŵglo lluniau ‘smiling gate’ a dyma’r petha agosa ato ges i. Syniad fan hyn am fygiau/crysau T Cymraeg? Dyma sgwigl hynod sal wnes i jest rŵan ond dwi’m yn disgwyl gweld hwn ar unrhyw fwg yn fuan:

Ond hei, newydd feddwl. Oes ‘na sgôp fan hyn am straeon ‘Y Giât Hapus’ – neu ‘Y Llidiart Llawen/Llon’?

Na? Iawn, anghofiwch o ta.

Cyn mynd, mae’n rhaid i mi sôn am hon:

Iesgob, mi wnes i ei mwynhau hi. Nofel gyntaf athro uwchradd sy’n foslem. Mi gafodd ei ddychryn gan yr hanes a’r ymateb i’r hanes am y 3 merch yn eu harddegau aeth i Syria i ymuno efo ISIS. Y canlyniad ydi nofel ddoniol, ffraeth, cynhyrfus, bwysig. Addas ar gyfer yr arddegau ac oedolion. A deud y gwir, mae angen rhoi copi i unrhyw un sydd angen dysgu am Foslemiaid a bobl sydd ddim yn ddosbarth canol a gwyn. Gwych.

Dwi’n sôn mwy amdani ar bodlediad Colli’r Plot – y bennod wnaethon ni ei recordio wythnos yma, fydd yn barod yn fuan – ac oedd yn andros o hwyl i’w gwneud. Dwi’n meddwl y gwnewch chi fwynhau’r sŵn buwch.

Mwy o Wyliau, Cyfres Fferm Cwm Cawdel

Published Medi 29, 2021 by gwanas

Dwi ddim yn siŵr sut lwyddais i i fethu’r llyfr cyntaf yn y gyfres hon, sef Gwyliau Gwirion, am ffermwraig ifanc o’r enw Ffion yn mynd â’i gwartheg am wyliau:

ond roedd ‘na ganmol iddi ar wefan sonamlyfra.com erbyn gweld, ac mae’n swnio’n andros o hwyl.

O wel! Dwi newydd ddarllen yr ail yn y gyfres, sef Mwy o Wyliau (Mŵŵŵy o wyliau?) lle maen nhw i gyd yn mynd i Gaerdydd.

Trafod lle i fynd am wyliau (sori, mae wordpress yn mynnu gwasgu’r llun fel hyn! Grrrr…)

Fel hogan ffarm fy hun, dwi wrth fy modd efo syniad a sgwennu Gwennan Evans, yr awdur. Er gwaetha’r hyn mae nifer o bobl y trefi a’r dinasoedd yn ei gredu, does ‘na DDIM digon o lyfrau efo cefndir amaethyddol i blant yn Gymraeg! Ac mae plant cefn gwlad angen gweld eu hunain mewn llyfrau cyfoes hefyd, chwarae teg. Dwi’n siŵr bod plant trefol isio gweld mwy o fywyd cyfoes ar fferm hefyd, er nad yw gwartheg yn sefyll ar ddwy goes fel hyn fel arfer, wrth gwrs.

Mae darluniau Lleucu Gwenllian yn hyfryd; syml, ond effeithiol!

Disgwyl am drên

Dwi wrth fy modd efo’r llun uchod ohonyn nhw’n disgwyl yn daclus am y trên i’r brifddinas.

A hwn wedi cyrraedd:

Ond efallai mai hwn ydi fy ffefryn:

Wrth gwrs y bydden nhw isio cael hunlun/selffi!

Mae’r llyfrau wedi eu hanelu at ddarllenwyr tua 4-8 oed, gyda chydig iawn o waith darllen a mwy o waith astudio’r lluniau. Byddai’n hawdd gorffen darllen hon mewn un noson amser gwely.

Gan mai un o Ddyffryn Cothi ydi Gwennan yn wreiddiol,

mae’r stori’n ddeheuol gyda geiriau fel ‘yn grac’ a ‘dere’, ond mae pawb o Fôn i Fynwy yn deall geiriau felly bellach, siawns? Dwi wir ddim yn meddwl y bydd plant bach Ynys Môn yn cael trafferth efo’r stori, yn enwedig os ydyn nhw wedi arfer mynd i Sioe Llanelwedd. Ond erbyn meddwl, dydyn nhw ddim wedi cael cyfle i fynd yno ers dwy flynedd rŵan, naddo? Hanner eich bywyd os dach chi’n 4 oed.

Mae’r stori’n llawn hiwmor ysgafn, fel un o’r gwartheg yn syllu ar y cae yn Stadiwm Genedlaethol Cymru (syniad da peidio ei alw’n Stadiwm Principality, achos does wybod pryd fydd y noddwr yn newid a’r enw’n gorfod newid eto!) ac yn meddwl: “Sgwn i faint o fêls maen nhw’n gallu eu cael mas o hwn?”

Ffordd dda o ddysgu plant be sydd i’w weld a’i wneud mewn gwahanol ardaloedd o Gymru. Ond hwyl y stori a’r gwahanol wartheg sy’n bwysig.

Sgwn i lle fyddan nhw’n mynd mynd ar wyliau yn y llyfr nesa? Bet bydd ‘na gastell yno…

Gwasg Carreg Gwalch £6.

Gwil Garw a’r Carchar Grisial

Published Awst 31, 2021 by gwanas

Ddoe, yn yr haul, ar ôl bod yn brwydro efo biniau ein maes carafanau (pam fod cyn lleied o bobl yn dallt y gair AILGYLCHU?!), mi ges i fwynhad mawr yn darllen hwn:

Ro’n i wedi cyfarfod Gwil Garw o’r blaen, yn y cylchgrawn Mellten, ond do’n i methu cofio os o’n i wedi darllen rhannau o’r stori hon o’r blaen. Dwi’n mynd yn hen ac anghofus, ocê?

Beth bynnag, roedd y cyfan yn teimlo’n newydd sbon danlli i mi, ac mi wnes i wir fwynhau’r stori a’r hiwmor a’r lluniau.

Dyma flas o lyfr diweddara yr anhygoel Huw Aaron i chi:

A tydi ‘Grooiiinc/Groooiinnnc’ yn cyfleu sŵn baedd yn berffaith?

Roedd sylwadau ffwrdd-â-hi Gwil yn codi gwên yn aml:

Na, tydi Gwil ddim yn foi neis iawn, nac yn arbennig o glyfar; mae o’n taflu ei hun i bethau heb feddwl am y canlyniadau o gwbl, a heb wrando ar gyngor y bobl a’r creaduriaid o’i gwmpas, oherwydd yn ei farn o, mae Gwil yn arwr ac yn andros o ryfelwr. Ac ydi, mae o, ac fel mae’n deud ar y clawr cefn, fo ydi arwr y stori – yn anffodus!

Oherwydd ei natur “Awê ac amdani!” mae’n creu sefyllfaoedd difyr, digri. Mi ges i fel oedolyn fy mhlesio a dwi’n 100% y bydd y llyfr hwn yn apelio at ddarllenwyr ifanc sy’n mwynhau straeon llawn hiwmor – a hwnnw’n hiwmor sych yn aml.

Pa oed? Anodd deud. Dibynnu ar y plentyn. 8/9 +? Mi wnes i ofyn i Caio, fy nai 10 oed roi ei farn ar ddau lyfr arall tebyg gan Llyfrau Broga: Yr Allwedd Amser a Rali’r Gofod 4002, ond dydi o byth wedi sbio arnyn nhw. Hm. Ond dwi’n meddwl efallai y bydd o’n fwy tebygol o sbio ar hwn – a mwynhau. Gawn ni weld – ond dwi’n canmol, iawn! Ac am ryw reswm, dwi’n mynd i weld colli rhai o’r creaduriaid bwystfilaidd rhyfedd… mi wnes i gymryd atyn nhw’n arw. Yn enwedig Y Ceidwad. Bydd raid i chi ddarllen y llyfr eich hun i weld pam…

Mae safon a diwyg y tudalennau yn dda iawn, ac mae’n llyfr braf i afael ynddo. Llyfrau Broga sy’n cyhoeddi. £6.99.

Mwynhewch!

Ysgol y Felinheli a Cadi a’r Celtiaid

Published Gorffennaf 15, 2021 by gwanas

Sori, ond mae’n rhaid i mi rannu hwn efo chi, achos dwi wedi gwirioni’n rhacs, wedi mopio’n llwyr ac wedi dotio at ddoniau a dychymyg plant Ysgol y Felinheli! A’u hathrawes Mrs Roberts.

Daeth y criw o Blwyddyn 3 yn fuddugol yng nghystadleuaeth Bl 3 a 4 ‘Darllen Dros Gymru’. Y dasg, fel bob blwyddyn oedd trafod llyfr oddi ar restr ddarllen a chyflwyno perfformiad i ddenu eraill at ddarllen llyfr arall oddi ar y rhestr. A chwarae teg iddyn nhw am ddewis ‘Cadi a’r Celtiaid’ i’w pherfformio!

Oherwydd Covid, fidio amdani yn hytrach na sioe lwyfan, a dyma fo. Mi gafodd ei gynllunio ar y cyd rhwng 8 disgybl o flwyddyn 3 a Mrs Roberts yn ystod eu clwb ffilm, mae’n debyg:

youtu.be/eL68TH0_rYQ (gobeithio bod y linc wedi gweithio…)

Gwych ta be?

Llongyfarchiadau hefyd i Ysgol Llanbrynmair ac Ysgol y Gelli ar ddod yn gydradd ail, ac Ysgol Penrhyncoch am ddod yn drydydd. Gobeithio y bydd modd gweld eu fidios nhw ryw dro hefyd.

Llinos Penfold oedd yn beirniadu’r trafod a Mari Lovgreen yn beirniadu’r perfformiadau. A dyna i chi waith braf ynde!

Mwy o fanylion a mwy o enillwyr fan hyn…

Rightwards arrow

2 lyfr newydd sbon i blant bach a Llyfr y Flwyddyn

Published Gorffennaf 9, 2021 by gwanas

Pan dynnais i’r llun, ro’n i wedi meddwl sôn am y 4 llyfr yr un pryd ond mae na dipyn o waith darllen ar y 2 yn y cefn, felly llyfrau’r plant iau – Ben Llestri a’r bwced ych-a-fi a Nos Da, Tanwen a Twm amdani y tro yma:

Mae Ben Llestri a’r bwced ych-a-fi gen i ers tro ond dwi wedi bod fymryn yn brysur yn ddiweddar rhwng bob dim (yn cynnwys symud tŷ) felly doedd gen i jest mo’r amser i sgwennu dim, er i mi ei ddarllen o’n syth – a mwynhau’n arw.

Mae Huw Davies yr awdur yn amlwg yn hen law ar sgwennu i blant (fo sgwennodd y nofel Saesneg ‘Scrambled’ i blant uwchradd), ac mae o’n bendant yn nabod plant – a phlant sydd fymryn bach yn ddrwg. Wel, yn ddrygionus ta.

Clywodd ei wraig yn dwrdio un o’u plant un diwrnod, a daeth cymeriad direidus Ben Llestri i fodolaeth yn fuan wedyn. Mae lluniau’r arlunydd Lowri Roberts yn grêt – a sbiwch be sy ar siwmper/crys chwys Ben… pa mor hir fydd hi’n cymryd i’r darllenydd ifanc ddeall pam fod ‘na blatiau a chyllyll a ffyrc ar ei siwmper o sgwn i?

Be am y stori? Wel… un diwrnod mae Ben (Llestri) yn teimlo’n ddiflas felly mae’n penderfynu chwarae tric.

*Dyna pryd mae triciau’n cael eu chwarae gan amlaf ynde? Pan does ‘na ddim byd arall i’w neud, neu pan dydy rhywun ddim yn gallu meddwl am unrhyw beth gwell i’w neud. Neu pan nad oes rhywun callach o gwmpas i ddeud wrthach chi: “Ym, be am beidio?”

Ta waeth, dyma be mae Ben yn ei neud:

A llawer mwy o bethau afiach tebyg! Wedyn, mae’n gosod y bwced ar ben y drws ac yn disgwyl…

Ac yn disgwyl…nes i fwy o bobl fynd drwy’r drws. Be sy’n mynd i ddigwydd? Bydd raid i chi brynu a darllen y llyfr i gael gwybod! (£4.99 Y Lolfa). Mi fydd yn apelio at blant bach tebyg i Ben, yn BENdant, ond bydd rhieni a modrybedd a neiniau a theidiau a phwy bynnag sy’n darllen efo’r plant yn cael hwyl efo’r llyfr yma hefyd.

Mae ‘na rywbeth yn deud wrtha i y cawn ni fwy o helyntion Ben Llestri. Edrych mlaen!

A dyma lyfr arall fydd yn plesio’r plant a’r oedolion fel ei gilydd: Nos Da, Tanwen a Twm.

Mae’n amser gwely ar Tanwen a Twm, a dan ni’n cael mynd drwy bob cam cyfarwydd (a’r seiniau) efo nhw:

A fy ffefryn i – achos dyma ro’n i’n mwynhau ei neud yn blentyn (a wastad yn gadael i’r plant ro’n i’n eu gwarchod wneud hefyd – ond peidiwch â deud wrth eu rhieni):

Ond rydan ni gyd yn gyfarwydd efo’r problemau sy’n codi jest cyn iddyn nhw setlo tydan? Teganau angenrheidiol wedi cael traed… rhywbeth brawychus o dan y gwely… y stafell yn rhy dywyll… UNRHYW BETH HEBLAW CYSGU!

Cwtsh a sws a diffodd y golau… ond ai dyna ddiwedd y diwrnod i Twm a Tanwen – a’u rhieni/nain/taid/gwarchodwyr? Go brin…

Mae unrhyw un sy’n blentyn bychan ac unrhyw un sydd wedi gorfod cael plentyn bach i fynd i’w wely yn mynd i fwynhau hon. Mae pob un yn canu cloch! A’r darllen storis cyn cysgu… ac un arall… ia ia, wedi bod ene!

Y pâr priod/rhieni Luned a Huw Aaron sydd wedi sgwennu hwn, a dwi’n eitha siŵr y bydd yn boblogaidd tu hwnt. £6.95 Gwasg Carreg Gwalch.

A sôn am Huw Aaron… mae o ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2021! Llongyfarchiadau, Huw – a phawb arall sydd arni. Mae’n mynd i fod yn chwip o gystadleuaeth.

O’m rhan i, Mynd amdani ar gyfer y categori barddoniaeth, Tu ôl i’r Awyr ar gyfer y ffuglen, O.M. ar gyfer y ffeithiol a #Helynt ar gyfer y categori plant (sori, Huw!). A’r brif wobr? Hm… mae’n anodd penderfynu – ond un o’r pedwar yna… mi faswn i’n hapus tase unrhyw un o’r 4 yna’n mynd â hi. Faswn i ddim yn anhapus tase unrhyw un o’r lleill yn fuddugol chwaith, cofiwch.

Pob lwc i bawb!

Gwobrau Tir na n-Og 2021

Published Mai 24, 2021 by gwanas

Llongyfarchiadau anferthol i’r ddwy ddaeth i’r brig eleni, sef Casia Wiliam a Rebecca Roberts!

Dyma’r tro cyntaf i’r ddwy ennill y wobr, a dwi’n gwybod eu bod nhw wedi gwirioni.

Ro’n i eisoes wedi deud pa mor wych oedd y ddwy nofel yn y blog yma – rhowch y teitlau yn y bocs chwilio os am weld be’n union ddywedais i. Ond os ydach chi’n rhy ddiog, wel, ro’n i’n canmol i’r cymylau.

Ro’n i hefyd wedi deud ei bod hi’n gystadleuaeth arbennig o glos eleni, ac mae hynny’n arwydd o’r ffordd mae’r byd cyhoeddi llyfrau Cymraeg i blant wedi ffynnu ac aeddfedu dros y blynyddoedd dwytha ‘ma. Felly llongyfarchiadau i bawb oedd ar y rhestr fer.

Ond diolch hefyd i’r gweisg a’r golygyddion am feithrin a chomisiynu llyfrau mor dda. Mae pobl o’r diwedd yn dechrau deall pa mor wych ydi llyfrau plant, ac oedolion yn mwynhau ein nofelau Cymraeg gymaint â’r plant/ bobl ifanc.

Diolch arbennig hefyd i’r beirniaid:

O’r top chwith fel bysedd y cloc, Alun Horan, Hywel James, Morgan Dafydd a Nia Morais. Cynhyrchydd teledu ydi Alun, awdur a chynorthwyydd dysgu ydi Nia, athro cynradd (ar gyfnod sabothol yn gweithio ar ei Ph.D) a sylfaenydd gwefan Sôn am Lyfra ydi Morgan, a Chadeirydd y panel oedd T Hywel James, sef cyn-Brif Lyfrgellydd Cyngor Gwynedd, ac un o’r llyfr-garwyr mwya dwi’n eu nabod! Mi fues i’n gweithio efo fo am rai blynyddoedd yng Nghaernarfon pan ro’n i’n hyrwyddo llenyddiaeth yng Ngwynedd – un o’r swyddi mwya difyr i mi eu cael erioed, ac iddo fo oedd llawer o’r diolch am hynny.

Os oes ‘na rywun yn gwbod ei stwff o ran llyfrau, Hywel ydi hwnnw. Dwi’n 100% siŵr ei fod o wedi bod yn Gadeirydd gwych (mae o’n dawel ond yn hynod graff a theg) a bod y lleill i gyd wedi dysgu lot ganddo fo, fel y gwnes i.

Da iawn bawb. Edrych ymlaen at wobrau 2022 yn barod!

Y Castell Siwgr

Published Mai 4, 2021 by gwanas

Mae’r nofel hon gan Angharad Tomos ar restr fer llyfrau uwchradd Gwobr Tir na n-Og efo #Helynt, Rebecca Roberts a Llechi, Manon Steffan Ros. Dwi eisoes wedi canmol y ddwy honno, a rhaid i mi ddeud, mae Y Castell Siwgr yn gystadleuydd cryf arall. Does gen i wir ddim syniad mwnci pwy eith â hi, achos mae’r tair mor wahanol a’r tair yn haeddu gwobr.

Dwi mor falch nad ydw i’n un o’r beirniaid!

Arddangosfa yng Nghastell Penrhyn gan Manon ysbrydolodd Angharad.

A’r dyfyniad yma yn fwy na’r un, beryg:

Hanes dwy ferch ifanc sydd yn y nofel: Eboni (neu Yamba i ddefnyddio ei henw go iawn), caethferch ar blanhigfa’r teulu Penrhyn yn Jamaica; a Dorcas o Ddolgellau sy’n gwehyddu’r wlanen sy’n creu’r dillad mae pob caethwas yn gorfod ei wisgo, cyn cael ei gorfodi i fynd i Gastell Penrhyn i fod yn forwyn.

Mae sefyllfa’r ddwy yn debyg mewn sawl ffordd: gwaith hurt o galed o fore gwyn tan nos a chael eu trin fel baw isa’r domen. Allwn i ddim peidio â chymharu bywydau’r ddwy: bod yn gaethferch sydd waetha wrth gwrs, cael eich trin a’ch hystyried fel un o’r anifeiliaid, a chael eich taro a’ch chwipio a’ch treisio; ond doedd bywyd Dorcas fawr gwell ar ôl symud i’r castell mewn gwirionedd.

Mae ‘na olygfeydd ysgytwol yma, a rhai do’n i ddim wedi disgwyl eu gweld gan Angharad am ryw reswm. Mi wnes i ei chlywed hi’n deud yn rhywle bod gwneud yr ymchwil wedi bod yn sioc iddi – ar y podlediad ardderchog yma dwi’n meddwl:

https://ypod.cymru/podlediadau/carudarllen

Pennod 6, lle mae mari Siôn yn holi Angharad, Manon a Rebecca.

Mi fydd y nofel yn sicr yn sioc i rai darllenwyr yn eu harddegau, hyd yn oed i’r rhai sydd wedi dilyn yr erchyllterau y tu ôl i ‘Black Lives Matter’. Mae’n dibynnu be maen nhw eisoes wedi ei weld ar bapur ac ar sgrin.

Dwi’n cofio’r sioc ges i wrth wylio cyfres deledu Roots nôl yn y 1970au:

Mi fyddwn i yn fy nagrau bob nos Sul yn gweld Kunta Kinte, Kizzy a Chicken George yn cael eu trin mor anfaddeuol o greulon gan bobl wyn. Erbyn meddwl, dyna un o’r cyfresi teledu newidiodd fi fel person a siapio fy syniadau a fy nghredoau am byth.

Roedd y golygfeydd treisiol yn ysgwyd rhywun i’r byw, ac mae Angharad wedi llwyddo i wneud yr un peth ar bapur, yn Gymraeg. Efallai y byddan nhw’n ormod i ddarllenwyr iau, mwy sensitif, felly bosib bod angen bod tua 15 oed cyn darllen hon, neu 14 oed aeddfed. Ond dwi’n eitha siŵr y bydd darllen am hanesion y ddwy ferch ifanc yma yn aros yn y cof.

Dyma’r dudalen gyntaf:

Ydi, mae bywyd Dorcas yn llawn hwyl a fflyrtian. Ond bydd pethau’n newid erbyn Pennod 8:

Nac ydi, dydi’r eirfa ddim yn hawdd, na’r arddull chwaith, felly nofel Set 1 fydd hon mewn ysgolion, dybiwn i. Ond mi faswn i wrth fy modd yn cael clywed yr ymateb a’r trafod yn y dosbarth wedyn. Byddai’r rhai sydd ddim cystal am ddarllen/siarad Cymraeg ar dân isio gallu darllen Cymraeg yn well ar ôl gwrando ar y trafod, siawns?

Mae ‘na linellau yma sy’n neidio allan arnach chi, fel:

“…Mae byw heb chwerthin yn ffurf greulon ar gaethiwed.

Dylai pawb fod yn rhydd i chwerthin.”

“Doeddwn i ddim yn casáu neb ers talwm. Ond rŵan dwi’n llawn casineb. Rhaid ei fod o’n rhywbeth sy’n lledu fel salwch, yn haint sydd yn mynd o’r naill i’r llall.”

Ac mae ‘na lawer mwy. Ond darllenwch y llyfr drosoch chi’n hun; mi fydd golygfeydd a llinellau gwahanol yn neidio allan i ddarllenwyr gwahanol, a dyna be sy’n gneud trafod llyfrau mor ddifyr.

Pob lwc i’r tair nofel, a chofiwch wylio Heno nos Iau, 20 Mai 2021, pan fyddan nhw’n cyhoeddi enwau’r enillwyr ym mhob categori. Dwi ddim yn ei chofio hi mor agos â hyn ers blynyddoedd!