Mwy o Helynt a Sêr y Nos yn Gwenu

Published Mai 25, 2023 by gwanas

Ymddiheuriadau am beidio sgwennu dim fan hyn ers oes pys. Dwi’n darllen llwyth o lyfrau ond rhai oedolion ydyn nhw fwya ers tro, felly dyma ddau i chi ar gyfer yr arddegau, a dau blesiodd fi’n fawr:

Mwy o Helynt, Rebecca Roberts i gychwyn. Dilyniant i #helynt wrth gwrs. Ac mi nath i mi grio! Ond dwi ddim am ddeud pam – heblaw mai ar y diwedd ddigwyddodd o. Ro’n i yn fy ngwely a mwya sydyn roedd y gobennydd yn wlyb.

Dwi’n hynod falch bod cymeriad dewr, byrbwyll, ffraeth a doniol Rachel Ross yn ei hôl. Dwi’n gwybod y bydd nifer fawr o ddarllenwyr ifanc yn cytuno achos mi wnaeth #helynt  gydio yn eu dychymyg nhw go iawn. Roedd ’na ddarllenwyr llawer iawn hŷn wedi eu plesio’n arw hefyd. Dwi’n cofio’i thrafod hi efo llyfrgellydd wedi ymddeol ac roedd o wedi dotio.

Ar ôl gorfod gadael eu cartref yn y Rhyl wedi’r hyn ddigwyddodd efo Jason, y dyn a’i magodd hi, a’r dyn fu’n camdrin ei mam hi, mae Rachel wedi llwyddo i greu bywyd newydd. Mae’n byw efo’i mam a’i chwaer fach mewn rhan arall o ogledd ddwyrain Cymru ac wedi setlo mewn ysgol – wel, coleg chweched dosbarth newydd – mae ganddi gariad a bob dim, a hwnnw’n rhannu’r un hiwmor â hi a mae o’n “weirdo sy’n obsessed efo Avicii a Swedish House Mafia, ond dwinne’n weirdo sy’n obsessed efo Slipknot…” Mae hi’n dechrau dod i nabod Tony, ei thad go iawn hefyd, er mai yn y carchar mae hwnnw o hyd – ar gam, wrth gwrs. Ond dan ni’n gwbod y bydd Rachel mewn rhyw fath o helynt cyn bo hir… ai oherwydd Jason, sy’n mynd i gael ei ryddhau o’r carchar cyn bo hir? Gewch chi weld. Dwi ddim am ddifetha cynllunio gofalus yr awdur. Ond ro’n i’n gwingo am benodau, yn meddwl “Na, Rachel, paid…o, hec… dyma ni.” Mae isio ysgwyd Rachel weithiau. Ac nid hi yn unig chwaith – ro’n i isio sgrechian ar un o’r cymeriadau eraill ar un adeg. Y twmffat gwirion. Grrr. Ac wedyn roedd ’na gymeriad arall – wel! Dwi’n gwybod nad ydi trais byth yn syniad da ond tasai gen i fat baseball…

Dyna ddawn Rebecca: i wneud i ni falio am y cymeriadau (da) a bod isio iddyn nhw ddod allan o bob twll maen nhw ynddo. Ac mae Rebecca Roberts yn gallu creu chwip o dyllau. Dilyniant gwerth aros amdano. Ardderchog – eto. A dyma’r dudalen gyntaf i chi:

Mae ’na gymeriad tebyg iawn i Rachel yn Sêr y nos yn gwenu gan Casia Wiliam. Mae Leia wedi aros yn fy nghof i am hir. Mae hi’n gneud pethe dwl ac yn gyrru ei theulu’n hurt ac yn brifo pobl, ond mae hi’n berl o gymeriad, yn ddoniol, yn ffraeth, yn fyrbwyll ac mae angen ei hysgwyd* hithau hefyd ond dach chi’n dal i’w hoffi hi ac mae hi’n galon i gyd. *Gyda llaw, dwi ddim yn trio annog pobl i ysgwyd pobl ifanc – dywediad ydi o, iawn?

Mae ’na lwyth o gymeriade difyr yn y llyfr yma a deud y gwir, yn cynnwys hen bobl, ac mae geiriau Mary Jones yn y cartref henoed yn hyfryd. Nes i orfod rhoi’r llyfr i lawr ac anadlu’n ddwfn am hir cyn cario mlaen. Ond efallai mai’r busnes rhoi dŵr ar ben y lobsgows darodd dant efo fi. Wedi bod ene…

Hon ydi nofel gyntaf Casia ar gyfer oedolion ifanc, a nefi, mi wnes i fwynhau. Mi fysa hon, fel #helynt yn gneud drama lwyfan wych, a chyfres deledu. Mae ’na deimlad ‘Normal People’ amdani oherwydd ei bod hi am ddau berson ifanc yn trio gneud synnwyr o’u bywydau a’u perthynas ond nes i gymryd at gymeriadau Leia a Sam y boi beics yn llawer mwy nac at Connell a’r hogan ’na, methu cofio ei henw hi – o ia, Marianne.

Hon yn fy marn i ydi’r nofel orau i Casia ei sgwennu hyd yma. Mi wnes i feirniadu drafft o nofel ganddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol ryw dro ac mae’r gwahaniaeth rhwng honna a hon yn dangos ei bod hi wir wedi dysgu a mireinio ei chrefft. Da iawn Casia! Ro’n i’n gwybod ers i mi dy glywed yn blentyn cynradd yn disgrifio hapusrwydd fel sglefrio ar enfys bod ’na botensial…

Dyma’r clawr cefn a’r dudalen gyntaf:

Gadael sylw