Wps! Dwi wedi bod mor brysur yn blogio am lyfrau pobl eraill, dwi wedi anghofio deud bod Cadi a’r Celtiaid bellach yn y siopau!
Dyma’r clawr:
A dyma rai o fy hoff luniau gan Janet Samuel:
A dyma luniau efo’r ysgrifen yn y darnau adawodd Janet ar gyfer yr ysgrifen:
A dyma ddarn efo tipyn golew o sgwennu. Oes, mae ‘na waith darllen ar lyfrau Cadi, ond ro’n i isio creu llyfrau oedd yn rhy hir i’w darllen mewn un eisteddiad, achos – yn fy marn i – mae’n gwneud i blant arfer efo’r syniad o stori hirach/hwy, a gobeithio eu bod yn edrych ymlaen at gael mwy o’r stori y noson wedyn – a’r un wedyn! O, ac os sylwch chi, mae’r gair ‘pwmpian’ yna eto. Achos dyna, yn bendant, fyddai’n digwydd pan fyddai pawb yn cysgu yn yr un lle, a dwi’n nabod llawer o blant sy’n mwynhau hiwmor ‘blas y pridd’… a rhieni hefyd!
Mi fydd plant Ynys Môn yn nabod lle mae Cadi’n beicio ato fan hyn:
Ia, stafell gladdu Bryn Celli Ddu. Yno, ar fore diwrnod hira’r flwyddyn, mae Cadi’n cael ei gyrru’n ôl mewn amser i Oes y Celtiaid, ac yn dysgu ambell wers – ac yn cael ambell antur! Mae hi’n dysgu pa mor bwysig ydi dal ati a pheidio â rhoi’r ffidil yn y to, ac nad oes angen poeni os fydd hi’n gwneud camgymeriadau, achos fel’na mae rhywun yn dysgu.
Mae hi hefyd yn dysgu agor ei llygaid a’i chlustiau a chanolbwyntio go iawn.
Mi fydda i’n darllen peth o’r stori ym Mhlas yn Rhiw ddydd Sadwrn a Sul Tachwedd 30/Rhagfyr 1af, ac hefyd yng Nghanolfan Henblas, Y Bala ar nos Iau Rhagfyr 5ed rhwng 6 a 7 (noson siopa hwyr y Bala), ac wedyn yn Nhŷ Siamas yn ystod noson siopa hwyr Dolgellau tua 5-6 o’r gloch. Gobeithio eich gweld yno a chofiwch atgoffa eich rhieni/nain/taid/modryb/ewyrth i ddod â £5.99 efo nhw i brynu copi!
Mi ges i wahoddiad i’r Sioe Aeaf yn Llanelwedd ond dwi’n dysgu Cymraeg i oedolion bob bore Llun a Mawrth, sori. A sôn am rheiny: mae fersiwn newydd o Bywyd Blodwen Jones hefyd yn y siopau, efo clawr newydd gan Brett Breckon!