Gwasg gomer

All posts tagged Gwasg gomer

Lliwio a gwrando

Published Ebrill 2, 2020 by gwanas

Cystadleuaeth lliwio Cadi:

Mae Janet Samuel, Meinir Y Lolfa a finnau wrthi’n gweithio ar lyfr lliwio Cadi, sy’n cynnwys lluniau o’r pedwar llyfr sydd yn y gyfres hyd yma. Dyma’r llun fydd ar y clawr:

CADI POSTER A4 FRONT COVER BLEED copy

A deud y gwir, mae’r lluniau a’r posau i gyd yn barod (diolch, Janet!) a dwi wedi sgwennu brawddegau ar gyfer pob llun. Meinir sy’n goruwchwylio a golygu’r cwbl o’i chartref. Ond does ‘na neb yn y Lolfa i argraffu ac ati am sbel, nag oes! Felly yn y cyfamser, mi gafodd Gwenllian, y ferch greadigol sy’n gwneud gwaith marchnata Y Lolfa, y syniad gwych o gynnal cystadleuaeth lliwio.

EUbvKQvXsAAUmtq

Mi allwch chi weld a lawrlwytho’r daflen i’w lliwio fan hyn: https://rebrand.ly/Cadi

Mae gynnoch chi fis i liwio! Dyddiad cau: 30 Ebrill 2020

Ond cofiwch, os nad oes gynnoch chi argraffwr, mi allwch chi gopïo’r llun neu greu eich dehongliad eich hun, dim problem. Pob lwc! Dwi’n edrych ymlaen yn arw at gael gweld eich lliwiau llachar chi.

PROLOG MERCH Y GWYLLT

Dwi’n sgwennu ar gyfer oedolion hefyd wrth gwrs, ac ar gyfer oedolion YN UNIG mae Merch y Gwyllt sydd i fod i gael ei gyhoeddi yn yr haf… ryw dro… rhyw sut.

Merch y Gwyllt f2

Gwasg Gomer sydd yng ngofal y nofel honno, ac mae eu Mr Marchnata nhw, Sam, yn llawn syniadau creadigol hefyd. Roedd o am i mi ddarllen fersiwn sain o’r Prolog, sydd ddim yn hir o gwbl, ond diolch byth, mi wnaeth actores go iawn sy’n ffan o Gwrach y Gwyllt gynnig ei chymorth: Fflur Medi Owen:

66760796_10157043061605239_2245877805403340800_o60687759_10161525970390618_4548100264560689152_o

Ia, hi! Un o’n hactoresau gorau ni. Ers dechrau’n ifanc iawn efo Rownd a Rownd (dyna sut ddois i i’w nabod hi gynta) mae hi wedi gwneud llwyth o bethau: Pili Pala yn ddiweddar, Blodau, Y Tad, a wna i byth anghofio ei pherfformiad fel Iesu Grist yn Iesu! drama Aled Jones Williams.

Wel, mae ganddi’r llais perffaith ar gyfer llyfrau hefyd. Dwi wedi gwirioni efo’i pherfformiad. Ro’n i’n bownsio rownd y tŷ ar ôl gwrando arno!

A dyma sut mae Nici Beech wedi ei ddisgrifio:

Trît amser te!
Dyma prolog Merch y Gwyllt – dilyniant i Gwrach y Gwyllt gan Bethan Gwanas sydd i fod i ddod allan mis Mehefin.
Perffaith efo panad…6 munud a hanner o hyd ac yn cael ei ddarllen gan yr hyfryd Fflur Medi Ferch Rhiannon

Felly, os oes gynnoch chi 6.5 munud i’w sbario/llenwi, ac yn enwedig os oes gynnoch chi nam ar eich golwg, cliciwch ar hwn:

https://amam.cymru/GwasgGomerPress

Mwynhewch!

free-audio-books-e1472412645291

A sôn am lyfrau sain, mae @BorrowBox ar gael o’ch llyfrgell am ddim, er eu bod wedi cau. Mae ‘na e-lyfrau llafar ac e-lyfrau Cymraeg arno, ar gyfer plant ac oedolion. Yn ôl Bethan M Hughes (sy’n gweithio yn y maes):

Y cwbl sydd angen ei wneud ydi lawrlwytho’r ap, creu cyfrif hefo’ch cerdyn llyfrgell, ac awê! Mae modd ymaelodi arlein trwy wefan eich llyfrgell/cyngor. Yn yr ap chwiliwch dan ‘categori’ am y rhai Cymraeg.

Pob hwyl ar y gwrando – a’r lliwio!

Y Twrch a chyfres am feirws…

Published Mawrth 13, 2020 by gwanas

Mae’r Twrch Cymraeg wedi cyrraedd! A llyfrnod bach handi, ylwch:

IMG_0466

Mae’r llyfr yn fwy nag o’n i wedi’i ddisgwyl, ac yn edrych yn GRET!

IMG_0469

Dyma flas o’r tu mewn i chi:

IMG_0465IMG_0468IMG_0467

A sbiwch del ydi’r ‘end papers’ (rhywun yn gwybod oes na derm Cymraeg am rheiny?):
IMG_0470

I’r rhieni, mae ‘na ddarn ychwanegol am hanes y llyfr dros y blynyddoedd (yn cynnwys enwau’r cŵn mewn gwahanol ieithoedd) a darn am sut y daeth y fersiwn Gymraeg i’r fei O’R DIWEDD! A pham penderfynu ar Dwrch yn hytrach na Gwahadden…

Gyda llaw, os fydd hyn yn codi diddordeb mewn tyrchod/gwahaddod, mae Siân Lewis wedi cyhoeddi cyfres am yr un anifail:

51u18Q0FXkL._SX353_BO1,204,203,200_

Llyfrau yn y gyfres Ffrindiau Bach a Mawr, sef cyfres o lyfrau darllen ar gyfer disgyblion CA1/2 Ail Iaith. Llyfrau gwybodaeth syml am y twrch daear.

Hefyd, i blant chydig hŷn, mae Dafydd Llewelyn wedi sgwennu am Tomi:

getimg

Ac mae na dyrchod yn rhain hefyd:

A be am fynd draw i Ganolfan y Dechnoleg Amgen tua 3 milltir i’r gogledd o Fachynlleth ar yr A487 ger pentref bach Pantperthog, i gyfarfod Megan y Wahadden?

megan3-1920x1020

“Ymwelwch â byd tywyll tanddaearol Megan y Wahadden a darganfod mwy am y creaduriaid sy’n byw yn y pridd” meddai’r blyrb. Dwi rioed wedi gweld Megan fy hun, ond mae’n edrych yn wych yn y llun!

LLYFR AR GYFER OEDOLION IFANC:

Diolch i Lia sy’n gweithio yn Llyfrgell Dolgellau, dwi wedi darganfod awdur Saesneg sy’n sgwennu llyfrau wirioneddol anturus a brawychus ar gyfer oedolion ifanc. Roedd hi wedi sylwi mod i’n benthyca llwyth o lyfrau OI, ac mi gynigiodd ddod â’i chopi personol o The Enemy i mewn i mi gael blas.

Charlie Higson fu’n actio yn ‘The Fast Show’ (holwch eich rhieni) ydi’r awdur, dyma fo:

charlie-higson-967a727

A nefi, mi ges i fy machu gan The Enemy! Jest y peth i fechgyn a merched tua 12+ sy’n mwynhau cael sioc bob yn ail bennod. A’r peth od ydi: mae o am fyd lle mae ‘na feirws wedi cymryd drosodd, feirws sydd ddim yn effeithio ar blant!

Shocked-Face-1

Wel, nid rhai dan 15 oed o leia. Mae’r oedolion i gyd unai wedi marw neu wedi troi’n zombies… difyr. Felly oes, mae ‘na lot o ymladd a marw, felly peidiwch â mentro os nad ydach chi’n hoffi’r math yna o beth. Ond o… mae ‘na gymeriadau hyfryd. Ydyn nhw’n marw? Gewch chi weld.

3 llyfr oedd i fod yn y gyfres, ond mae’r rheiny wedi bod mor llwyddiannus, mi sgwennodd o 7 yn y diwedd!

71+UajF0YlL

Mwy o lyfrau i’r plant iau

Published Tachwedd 25, 2019 by gwanas

Dwi wedi cael pecyn hyfryd o lyfrau plant GWREIDDIOL gan Wasg Gomer, rhai gan hen lawiau a rhai gan enwau newydd. Dyma ddau sydd yr un maint (eitha mawr):

IMG_4453

Ac un fymryn llai gan Nia Parry:

EKOb8j8XYAcyfak-1

Yn union fel ‘Siôn Corn a’r Anrheg Gorau Un’, mae ‘Gwyn y Carw Claf’ yn gywaith prydferth rhwng (y Prifardd) Tudur Dylan Jones a Valériane Leblond.

FullSizeRender

Yn hon, mae merch fach o’r enw Greta yn darganfod carw bach cloff yn y goedwig. Mae’n helpu’r carw bach drwy glymu ei sgarff am ei goes. Fisoedd yn ddiweddarach mae Gwyn, y carw bach, yn rhoi cnoc ar ffenest Greta ar Noswyl Nadolig ac yn mynd â hi ar antur gyda Siôn Corn.

IMG_4455

Yn anffodus, fel uchod, mae’r ysgrifen weithiau’n anodd ei weld, ond efallai mai fi a fy llygaid sy’n mynd yn hen. Ond y rhan fwya o’r amser, mae’r stori’n berffaith glir – ffiw!

FullSizeRender-1

FullSizeRender-3

Mae hi’n stori Nadoligaidd wirioneddol hyfryd, efo tro yn y gynffon fydd yn codi gwên, ac mae’r cwpledi’n llifo’n hawdd (wel, mae o’n brifardd, be dach chi’n ddisgwyl?) a dwi’n edrych mlaen yn arw i’w darllen hi ym Mhlas yn Rhiw Tachwedd 30 a Rhagfyr 1af (dwi wedi cael gwahoddiad i ddarllen yno yn eu dathliadau Nadolig eto eleni).

Partneriaeth newydd sbon ydi’r awdur Llio Maddocks a’r arlunydd Aled Roberts. Mae’r lluniau yn ‘Y Môr-leidr a fi’ yn fwy cartwnaidd, fel y gwelwch chi:

FullSizeRender-2

Mae Llio hefyd wedi mynd am gerddi bach sy’n odli, a hynny mewn ffordd llawer mwy boncyrs nag arddull dawel, hamddenol Tudur Dylan. Dwi wrth fy modd efo’r syniad a’r stori: mae’n llawn dychymyg, ac mi fydd unrhyw Nain yn hapus iawn yn darllen hon efo’i hwyrion. Mae’r plentyn yn hoffi dydd Gwener oherwydd mai Nain “sy’n fy nghasglu o’r ysgol, nid Mam.” Ha!

IMG_4460

Dan ni’n cael gweld wedyn pam fod cwnmi Nain yn gymaint o hwyl. Mae hi’n un dda am fwydo ei ddychymyg a dan ni’n cael gweld be mae hi’n ei guddio yn y cwpwrdd dan staer a be’n union yw ei chyfrinach. Cawn gwrdd â’r giang ar fwrdd y llong, parot, dolffiniaid a theigr!

Fy hoff ddarn i ydi hwn am gyrtens/llenni’r llofft. Iawn, hwyliau’r llong ta:

IMG_4458IMG_4459

Mae’r Carw yn £6.99 a’r Mor-leidr yn £5.99.

Llyfr cwbl wahanol ydi ‘Cwmwl Cai.’ Llyfr pwysig, allai fod o help mawr i blant bach fel Cai: bachgen bach sy’n cael ambell i bwl tywyll di-obaith lle mae o dan straen. Weithiau, mae bob dim yn iawn:

IMG_4462

Ond weithiau, mae o’n drist ac yn poeni:

IMG_4463
IMG_4465

Mae llawer o blant bach fel Cai yn y byd. Mae’r llyfr hwn yn normaleiddio’r teimladau dwys yma ac yn cynnig syniadau ymarferol i blant a’u gofalwyr am ffyrdd i godi’r cwmwl a chodi ysbryd.

IMG_4466FullSizeRender

Mae Nia, efo help arbenigwyr yn y maes, a lluniau Gwen Millward, wedi creu llyfr hyfryd am y technegau o lonyddu ac ymdawelu sy’n seiliedig ar ‘ymwybyddiaeth ofalgar’ neu ‘mindfulness’. Dwi’n siŵr y bydd o o gymorth mawr i blant fel Cai a’u teuluoedd. Mae ‘na lawer mwy o syniadau a thechnegau yn y llyfr, yn cynnwys rhoi dy hoff degan ar dy fol a’i wylio’n mynd i fyny ac i lawr wrth i ti anadlu. A dychmygu Mam yn diffodd y cyfrifiadur am dipyn.

Dwi’n siŵr y byddai’n talu i oedolion sy’n byw dan gymylau gael copi o hwn hefyd.

Ond dull arall o godi’r galon ydi mynd ar gwrs sgwennu creadigol i Ganolfan Tŷ Newydd, fel y gwnes i a chriw (arbennig) o ddysgwyr dros y penwythnos. Dyma fi a Sarah Reynolds, fy nghyd-diwtor – ar y dydd Sul, cofiwch!

EKKkmTVXYAEn3Oc

Mae hi wedi cyhoeddi 2 gyfrol yn Gymraeg ers dysgu Cymraeg yn rhugl:

Llyfrau hwyliog, ysgafn, sy’n donic – ond yn llawn gwirioneddau… ac mae hi’n gweithio ar nofel Saesneg ar hyn o bryd. Dwi’n edrych mlaen yn barod!

Beth i’w brynu yn y Steddfod?

Published Gorffennaf 26, 2019 by gwanas

Mi fydd ‘na lwyth o lyfrau hen a newydd o bob math ar faes yr Eisteddfod yn Llanrwst, a llwyth o ddigwyddiadau a chyfleon i gyfarfod awduron hefyd. Fel hwn, er enghraifft:

EAJzBwLXsAIbevT

A dwi wedi addo darllen stori yn y Pentre Plant am 3.00 ar y pnawn Llun, sef fy stori yn Straeon Nos Da Sali Mali.

image001

Roedd un arall o’r awduron yn darllen a llofnodi yn y Sioe yn Llanelwedd, sbiwch:

EAKEM6VXUAAGLS5

Ia, Elen Pencwm, efo plentyn mawr iawn ar ei glin – brawd un arall o’r awduron, fel mae’n digwydd! Llyr Ifans yr actor ydi hwnna, a Rhys (actor arall…) sydd wedi bod yn sgwennu.
A dyma’r llun bach sydd ar ddiwedd stori Elen:

20190726_162534

Mae’r llyfr yn un hyfryd, clawr caled, efo tudalennau a lluniau sgleiniog, a dyna pam ei fod yn £12.99. Ond mae’n drysor bach o lyfr, efo 12 o straeon gwahanol. Mi wnes i fwynhau pob un ond mae’n siŵr y bydd rhai gwahanol yn apelio at wahanol ddarllenwyr ifanc.

Mae’n deud ar y cefn y bydd yn apelio at blant o bob oed. Hm, dwi’m yn siwr am hynna, chwaith! Ar gyfer plant iau mae Sali Mali a’i ffrindiau wedi’r cwbl.

Dyma flas i chi o stori Tudur Owen, i chi gael syniad (mae’n un dda!), ac mae ‘na lun mawr fel’na efo pob stori:

20190726_162458

A dyma ddechrau un Rhys Ifans, sydd, fel y byddech chi’n ei ddisgwyl, yn ddigri:
20190726_162445

Mae hyd yn oed Eigra – ia, yr anhygoel Eigra Lewis Roberts (bydd sesiwn amdani hi yn y Babell Lên gyda llaw) wedi cyfrannu stori, ac un dda ydi hi hefyd:

20190726_162523

Mae ‘na fwy nag un Prifardd wedi cyfrannu. Mae Mererid Hopwood yn un arall, ac mae diweddglo ei stori hi’n dangos i chi sut gymeriad sydd gan Mererid. Ydi, mae hi’n un glên ac annwyl, ac yn fardd:

20190726_162604

Mae’n siŵr bod fy stori innau’n deud llawer am fy nghymeriad innau, a dewis sgwennu am Y Pry Bach Tew drwg wnes i…

20190726_163420

Bydd raid i chi brynu/benthyca copi o’r llyfr i weld sut lun mawr ges i! Ac i ddarllen gweddill y straeon.
Llongyfarchiadau i Simon Bradbury am wneud lluniau mor hyfryd.

Gyda llaw, os wnewch chi brynu copi o Barn y mis yma, mae ‘na lawer o sylw i lyfrau plant ynddo, yn cynnwys Straeon Nos Da Sali Mali a nifer o’r llyfrau dwi eisoes wedi eu hadolygu ar y blog yma.

A dwi’n wirioneddol chyffd a diolchgar bod Edenia wedi cael ei chanmol:

20190725_094903

Ieee! Diolch byth. Ar ôl y slepjan gafodd Y Diffeithwch Du ar Radio Cymru, roedd darllen hynna’n ryddhad mawr. Ffiw. A diolch Gwenan Mared am fod mor glen. Plîs wnei di adael i mi brynu diod/cacen i ti yn y Steddfod?

Llyfr dwi wir yn edrych ymlaen at ei ddarllen ydi hwn gan Ifan Morgan Jones:

EAOeJAaXUAAFYY9

Dwi’n meddwl mai ar gyfer oedolion mae o, ond mae’r clawr yn gwneud i mi feddwl efallai fod Babel ar gyfer Oedolion Ifanc (OI) hefyd. Efallai mod i’n anghywir, cofiwch. Ond tydi o’n chwip o glawr?

A sôn am gloriau, mae Gomer wrthi’n ail-gyhoeddi llyfrau Blodwen Jones, fy llyfrau i ar gyfer dysgwyr, ac wedi comisiynu Brett Breckon i wneud cloriau newydd. Ssh, peidiwch a deud, ond dyma fraslun o glawr newydd Bywyd Blodwen Jones. Dwi wedi gwirioni!

BlodwenJ_finalA-W_300Flat

Straeon Nos Da Sali Mali

Published Mai 3, 2019 by gwanas

Dwi wedi bod yn rhy brysur yn darllen nofelau oedolion ar gyfer cwrs dysgwyr yn Nant Gwrtheyrn fis nesaf i ddarllen llawer o lyfrau Cymraeg i blant, mae arna i ofn.

Ond dyma newyddion da i chi:

Bydd cyfrol o’r enw Straeon Nos Da Sali Mali yn cael ei chyhoeddi gan Gomer fis nesaf i ddathlu pen-blwydd Sali Mali yn 50 mlwydd oed. Pen-blwydd hapus Sali Mali!

th

Bydd y gyfrol yn cynnwys deuddeg stori gan yr awduron canlynol:-

Heledd Cynwal, Tudur Dylan, Bethan Gwanas (ia, dyna sut dwi’n gwybod am y gyfrol…), Mererid Hopwood, Rhys Ifans, Elis James, Aneirin Karadog, Tudur Owen, Gruffudd Owen, Elen Pencwm, Eigra Lewis Roberts, Ifana Savill.

image001

Roedd rhwydd hynt i’r awduron sgwennu am unrhyw gymeriad o blith ffrindiau Sali Mali, a dewis sgwennu am y Pry Bach Tew wnes i.

th

Ond bydd yr arlunydd Simon Bradbury wedi gwneud lluniau newydd sbon i fynd efo pob stori, yn ogystal â’r clawr hyfryd ‘na a dwi’n eitha siŵr mai un arall o’i luniau o ydi hwn:

th

Del ynde? Edrych ymlaen!

O, ac mae’n rhaid i mi sôn am y blog sgwennais i fis Mawrth am ‘Sut i hybu darllen.’ Dwi wedi darllen 4 o’r llyfrau oedd ar y silff hon bellach, ac wedi mwynhau pob un yn arw!

D19kY0iW0AEoGqs

Mae Splash, Boy in the Tower, Survivors a The Wizards of Once yn arbennig. A faswn i ddim yn gwybod hynny onibai am y silff o lyfrau gafodd ei dewis gan ferch ysgol Blwyddyn 6. Oes gan rywun arall silff debyg i’w dangos i ni?

Un peth arall:
Bu Lleucu Roberts a minnau yn Ysgol Penweddig ddydd Mercher i ddathlu bod ein triolegau ar gyfer yr arddegau wedi eu cyhoeddi – yn swyddogol!

D5etayHW4AEtxDH

Gawson ni dipyn o hwyl efo’r criwiau – Blwyddyn 7 a 9. Croesi bysedd y byddan nhw’n mwynhau darllen y tair – neu’r chwech – nofel rŵan. A tydi clawr Afallon yn wych? Mi wnes i fachu un o’r posteri… peidiwch â deud.

D5Tph07WkAEOXHw

D2qFnVSX0AESyGE

Dau lyfr plant gyda lluniau hyfryd

Published Tachwedd 11, 2018 by gwanas

Fydda i ddim yn rhoi sylw i addasiadau o’r Saesneg fel arfer, ond mae’n wahanol pan mae’r stori’n Gymreig ac wedi ei gosod yng Nghymru ac wedi ei chreu gan rywun sy’n byw yng Nghymru, fel yr arlunydd/awdur Graham Howells o ardal Llanelli.

Graham_Howells-150x150

Mae o’n adnabyddus am wneud lluniau o’r byd llawn hud a lledrith, ac mae o ar ei orau yn Y Bwbach Bach Unig.

20181111_120229

Fo greodd y stori yn ogystal â’r lluniau ac mae na fersiwn Saesneg wedi ymddangos yr un pryd â’r fersiwn Gymraeg. Angharad Elen wnaeth yr addasiad.

angharad-elen

Dwi wedi gwirioni efo’r lluniau, maen nhw’n wirioneddol hyfryd a manwl a llawn dychymyg, ac mi faswn i wedi gwirioni yn hogan fach hefyd.
20181111_12042420181111_120315

Ond be am y stori? Mi faswn i wrth fy modd efo hon yn blentyn tua 7-9 oed i’w darllen ar fy mhen fy hun, yn iau efo help oedolyn wrth gwrs. Mae cymeriad y Bwbach yn cydio yn y dychymyg, a bydd pawb yn cydymdeimlo efo fo wrth iddo weld ei fwthyn bach yn cael ei chwalu o flaen ei lygaid. Rydan ni wedyn yn mynd ar daith drwy Gymru efo fo i chwilio am ei fwthyn, yn cyfarfod anifeiliaid a chreaduriaid cyfeillgar a rhyfedd – a phlant ysgol clen iawn. Ac yn y fersiwn Gymraeg o leia, yn cael amrywiaeth o acenion ar y ffordd.
20181111_120255
Mae’r stori’n cyrraedd (sori – SBOILAR!) Sain Ffagan yn y diwedd, ac os ydach chi wedi bod yno erioed neu am drefnu taith yno, byddai’r llyfr bach hwn yn berffaith i’w ddarllen cyn, yn ystod neu ar ôl y daith. Dwi isio mynd yn ôl yno ar ôl darllen y stori hon, beth bynnag!
Ro’n i hefyd wrth fy modd efo’r darn am sut mae rhai plant wedi eu rheoli gan sgriniau, ac oherwydd eu bod mor gaeth i’w ffonau a’u ipads, dydyn nhw methu gweld y Bwbach!
20181111_120720

Dwi’m wedi gweld y fersiwn Saesneg, ond mae’r blyrb ar Gwales yn sicr yn llifo’n well – a haws – na’r fersiwn Gymraeg. O ran y stori Gymraeg, mae’n darllen yn hyfryd a thelynegol, ac mi fydd yn hudo darllenwyr da sy’n mwynhau dysgu geiriau ac ymadroddion newydd, ond dwi’n teimlo y byddai’n anodd iawn i ddarllenwyr llai galluog, ac yn sicr, plant ail-iaith.
Mae iaith hen ffasiwn, hynafol y Bwbach a Gwyn ap Nudd yn gweddu wrth gwrs, ond dwi’n teimlo y gellid bod wedi symlhau y dweud rhyw fymryn bach yng gweddill y stori. Ond efallai y bydd plant, rhieni ac athrawon yn anghytuno efo fi. Gawn ni weld – rhowch wybod!
20181111_120552
Gyda llaw, do’n i methu dallt be oedd ‘gosog’ – ond goshawk wrth gwrs. A finna wedi cael fy nysgu mai Gwalch Marth ydi o. Mae’r ddau’n gywir am wn i!
Northern_Goshawk_w13-12-019_l

Anrheg Nadolig hyfryd – Gwasg Gomer. £5.99

Yr ail lyfr ydi: Tomos Llygoden y Theatr sydd hefyd ar gyfer plant 7-9 oed yn ôl Gwales, 6-8 yn ôl Gwasg Carreg Gwalch. Wel…rhywle o gwmpas fanna ta.

20181110_134237

Mae hwn wedi ei greu ar y cyd gan Caryl Parry Jones

p03qr02z
a Craig Russell. Actor ydi Craig fel arfer, ac yn byw yng Nghwmtwrch mae’n debyg. Ac mae ei yrfa o’n egluro syniad y stori!

MV5BMTYxZWQxNzAtNDliYy00NWE1LWIwZDMtN2E5ZjZjMDU2Mjc4XkEyXkFqcGdeQXVyMjA2NzMxMjU@._V1_UY317_CR20,0,214,317_AL_

Wel, maen nhw’n gweithio’n dda efo’i gilydd! Mae’n stori fach hyfryd am Tomos yn cael gwireddu ei freuddwyd i fod yn actor. Weithiau, mae ‘na gryn dipyn o sgwennu,

20181111_122209

ac weithiau mae ‘na dipyn llai
20181110_133944
sy’n ei gwneud hi’n stori fwy addas i blant o bob gallu.

A dwi wrth fy modd efo’r ffordd mae’r testun a’r lluniau yn priodi i fewn i’w gilydd.
20181111_135432

20181110_134058

Arlunydd newydd i fyd llyfrau Cymraeg ydi Leri Tecwyn o Rosgadfan, a dwi’n digwydd ei nabod hi; roedd ei mam hi, Rhian Cadwaladr yn y coleg efo fi.
Dyma lun o Leri:

4865668627_ff0027a6ee_b

A dyma lun o un o gymeriadau’r llyfr, ac er fod y gwallt yn gwbl wahanol, dwi’n gweld y wyneb yn debyg iawn iddi!
20181110_134141

Mae ei harddull hi’n hollol wahanol i un Graham Howells, ond yn gweddu’n berffaith i’r stori fach hyfryd hon. Y gyntaf mewn cyfres mae’n debyg.

20181110_134212

O a dwi’n hoffi maint y llyfr hefyd – bychan iawn, ond hawdd i’w gadw mewn llaw neu fag ysgol/penwythnos.

Anrheg Nadolig hyfryd arall – Gwasg Carreg Gwalch. £4.95

O, a diolch i Shoned M Davies, Swyddog Ysgolion Gogledd Cymru
Cyngor Llyfrau Cymru am yr ymateb yma ar Twitter i Gyfres Halibalŵ yn y 2 flog dwytha:

Mae’r gyfres yma yn cael ymateb gwych yn yr ysgolion…nodiadau ar gael am ddim i’r athrawon hefyd (link: https://www.aber.ac.uk/cy/caa/web-projects/)

Dwi wedi gweld y nodiadau ac maen nhw’n wych!

Seren y Dyffryn

Published Hydref 22, 2016 by gwanas

getimg-phpfullsizerender-1

Hwre! Nofel Gymraeg wreiddiol ar gyfer merched ifanc sy’n hoffi ceffylau! Wel, a bechgyn hefyd wrth gwrs, rhag fy nghywilydd yn bod yn rhywiaethol. Ac mae hon yn un wirioneddol dda!

Gwell cyfadde mod i’n nabod yr awdures, Branwen Davies yn eitha da, ond roedd hynny’n gwneud darllen y nofel yn fwy anodd rhywsut – be os na fyddwn i’n meddwl llawer ohoni? O na…ro’n i’n croesi mysedd y byddwn i’n ei mwynhau hi. A ffiw – mi ges fy mhlesio yn ARW!

Mae hon yn hyfryd, ac am lawer mwy na dim ond perthynas merch 11 oed a’i cheffyl. Mae’r portread o’i pherthynas gyda’i rhieni – a’i brawd mawr sy’n gwneud dim byd ond chwarae efo’i Xbox, yn taro 12 hefyd. Mae’r cymeriadu’n dda iawn, iawn – yn enwedig o fewn nofel mor fer ( 80 tudalen) ac mi ddylai apelio at unrhyw ddarllenydd 8-12 oed, nid dim ond y rhai sydd wedi gwirioni gyda cheffylau. Ond cofiwch, mae’r manylion ‘ceffylaidd’ yn mynd i blesio unrhyw ferch sy’n nabod ei hawenau ac yn gwybod be i’w wneud efo cyfrwy.

Fel hyn mae’n dechrau:

fullsizerender-2

Ydi, mae’n ddeheuol, ond yn ddigon hawdd i ‘Gog’ ddod i arfer. O, a pheidiwch a gadael i hanes Seren rhwng tud. 7 a 9 eich drysu chi – fe ddaw’r cyfan yn glir ar tud. 10.

Dyma dudalen arall i chi:

fullsizerender

Mi fydd pob hogan/merch/lodes sydd wedi gwirioni ar geffylau yn deall teimladau Cadi yn fan’na. Ond does dim syndod bod yr awdures wedi llwyddo i greu nofel cystal am geffylau, merlota a sioeau – dyma lun ohoni nôl yn 2009:

10399004_123790942065_6780118_n

Mae Facebook yn gallu bod yn handi iawn weithiau…

Dyma nofel gyntaf Branwen Davies, a dwi’n 100% siwr nad hon fydd yr olaf. Mi fydd galw am fwy o helyntion Cadi a Seren, neu mi fwyta i lond bwced o seilej.

Gwasg Gomer sy’n cyhoeddi. £4.99 – yr anrheg perffaith ar gyfer unrhyw ferch fach sydd, fel Branwen “yn dwlu ar geffylau.”

Sali Mali a Jac y Jwc

Published Hydref 14, 2016 by gwanas

Hwre! Mwy o lyfrau hyfryd, gwreiddiol Cymraeg i blant bach!

978178562106251f5voow6al

Dwy stori newydd sbon ar gyfer plant dan 5 gan Ifana Savill, y ddynes sydd pia Pentre Bach, cartref Sali Mali a’i ffrindiau yng Ngheredigion. Dyma Ifana fan hyn efo’i chath:

ifana_savill_2013a

 

A dyma un o dai Pentre Bach, ty pwy sgwn i?

471284

Mi ges i aros noson yn y pentre rai blynyddoedd yn ôl, a chael amser hyfryd yng nghwmni Ifana a’i gwr! Ydach chi wedi bod yno? Piciwch draw ryw dro. Mae Ifana yn ddynes hyfryd, llawn croeso ac mae hi’n caru llyfrau!

 

A sôn am lyfrau:

Mae Noson Tân Gwyllt Sali Mali yn sôn am helyntion Sali Mali a Bili Bom Bom wrth iddyn nhw fynd o le i le yn y pentre yn hel y pethau sydd eu hangen ar gyfer Noson Tân Gwyllt i’w chofio. Dyma i chi un dudalen – wel, 3:

fullsizerender

Ydi, mae’n agor allan fel yna, a gan fod deunydd y tudalennau yn solat iawn ( llyfrau bwrdd ydyn nhw), mi fydd yn dipyn o job i rywun falu’r tudalennau.

Mae Nadolig Llawen Jac y Jwc yr un fath:

jac-y-jwc

Digon o bethau gwirion yn digwydd i Jac y Jwc a Jac Do wrth geisio paratoi ar gyfer diwrnod Dolig.

Fe ddylai’r ddau lyfr apelio at blant a’u rhieni, ac maen nhw’n barod mewn da bryd ar gyfer Tachwedd 5ed a ‘r Nadolig. £4.99 yr un gan Wasg Gomer.

O, ac mae’n rhaid rhoi sylw i Catrin Meirion yr arlunydd:

p0309qsl

Ydi, mae hi’n gerddor hefyd – dynes dalentog iawn! Mae’n arlunydd profiadol iawn a dyma rai o’i lluniau eraill:

A hi wnaeth glawr fy llyfr i ar gyfer yr arddegau, Llinyn Trôns hefyd:

image

Dwy ddynes dalentog, a dau lyfr bach hyfryd, newydd sbon danlli. Prynwch rhain fel anrhegion yn lle’r addasiadau o bethau Saesneg! Pam? Am eu bod nhw’n dda, yn lliwgar, o safon uchel ac yn Gymraeg. Ac mi fyddwch chi’n cefnogi awdures ac arlunydd o Gymru.

 

 

 

Nofel am gi defaid a Mellten 2

Published Medi 1, 2016 by gwanas

getimg

Ieee! Fel merch fferm oedd wrth ei bodd efo Shadow The Sheepdog, Enid Blyton

Unknown-1

dwi’n falch iawn bod nofel WREIDDIOL Gymraeg a Chymreig wedi cyrraedd y siopau. A gan fod yr awdur, Ifan Jones Evans

Unknown

yn ffarmwr yn ogystal â chyflwynydd teledu a radio, mae o’n ‘gwbod ei stwff.’ Ac fel mae’n digwydd, Nan, y ci yn y stori yw ci go iawn Ifan. O, ac mae’r llyfr yn rif 1 Gwerthwyr Gorau yn barod! Dyna ddangos pa mor ddefnyddiol ydi cael awdur sy’n berson adnabyddus a hoffus cyn dechrau (gweler llwyddiant David Walliams ac ati). Dyw’r cyhoeddwyr ddim yn dwp…

Nofel ar gyfer plant 7-9 oed ydi hi yn ôl Gwasg Gomer, a dwi’n cytuno. Byddai darllenwyr da 6 oed yn gallu ymdopi’n iawn efo hi hefyd.

Mae’r stori’n un syml iawn, iawn. Efallai yn rhy syml? Neu ai fi sy’n rhy hoff o ddrama a storis fel bar o Toblerone? Ond mae’r cymeriadu yn gweithio’n dda – mae Nan yn gi hyfryd, hoffus, clyfar ( wrth gwrs, ci defaid ydi hi!) ac mi fydd plant y wlad yn hapus iawn efo’r ‘Cym Bei’ ac ‘Aweeee’ a’r land rofyrs a’r cyffyrddiadau bychain sy’n gwneud iddi deimlo’n ‘real.’ Dwi’n gwybod yn iawn bod llawer gormod o blant ffarm (bechgyn yn enwedig) yn gyndyn iawn i ddarllen nofelau, felly fe ddylai ‘Nan a’r Sioe Fawr’ eu denu nhw at lyfrau. Dyna’r gobaith o leia, ac mae yma sgôp am gyfres o anturiaethau Nan a ddylai brofi’n boblogaidd. Ond…chydig bach mwy o blot tro nesa efallai, Ifan? Cofiwch chi, siarad fel oedolyn ydw i ynde, ac os oes ‘na blant 7-9 oed allan fanna yn teimlo bod y plot yn eu siwtio i’r dim a ‘mod i’n siarad drwy fy het, wel dyna fo – rhowch wybod!

O, ac mae lluniau Petra Brown ( sy’n byw rhywle yng Ngogledd Cymru) yn gwbl hyfryd.

FullSizeRender

Mae hi’n amlwg yn dallt ei hanifeiliaid.

FullSizeRender-1

Dyma luniau eraill ganddi:images-1images

 

A rhywbeth arall llawn lluniau sydd ar werth rwan ydi Mellten 2!

Dyma i chi rai o’r cymeriadau fydd yn yr ail rifyn o’r comic Cymraeg yma:

CrRFVPMWAAA57n5CrRGmAfWcAAT-SiCrRJMc6WcAE0_8L

Prynwch, darllenwch a rhowch wybod be dach chi’n ei feddwl o’r cynnwys.

O, a dyma lun o fy nghi defaid coch i, Del yn cael bath bore ma ar ôl rhedeg efo fi a fy meic:

Del

 

 

 

Llyfr am bêl-droed i blant bach dan 7

Published Mai 14, 2016 by gwanas

Unknown

Dyma’r adeg perffaith i gyhoeddi’r 24ain llyfr yng nghyfres Alun yr Arth. Bydd Cymru gyfan ( wel, y rhan fwya) unai yn gwylio bob cic gan dîm pêl-droed Cymru yn yr Ewros ar y teledu, neu wedi teithio i Ffrainc i fod yno yn y cnawd.

Dwi ddim yn siwr faint o blant dan 7 o Gymru fydd wedi mynd i Ffrainc – dwi’n cymryd y bydd Mam/Nain/Modryb wedi gorfod aros adre i warchod… ond os oes gynnoch chi blentyn sydd wedi gwirioni efo Gareth Bale a’r criw, bydd rhoi’r llyfr hwn yn anrheg iddyn nhw yn syniad da.

Dyma’r dudalen gynta:

 

photo 1

Alun druan… mae’r ‘ond…’ yn ‘ond’ mawr!

photo 2

Nacydi, dydi o ddim yn debyg i Gareth Bale o bell ffordd, bechod. Mae’n debyg bod yr awdur, Morgan Tomos yr un peth: “Fedra i ddim cicio pêl i achub fy mywyd!” meddai Morgan.

Ond mae Alun yn dod o hyd i ffordd i fod yn ran o’r chwarae wedi’r cwbl. Sut? Bydd raid i chi ddarllen y llyfr! Ond mae’n stori hyfryd, ddigri, sy’n siwr o blesio plant Cymru. Mae’n debyg mai dyma un o’r cyfresi mwya poblogaidd erioed i blant dan 7 oed – mae dros 50,000 o lyfrau Alun yr Arth wedi eu gwerthu erbyn hyn – waw! Dwi ddim yn gwybod faint o gefnogwyr Cymru fydd yn Bordeaux ar gyfer gêm gyntaf Cymru ar y 11eg o Fehefin, ond synnwn i daten na fydd 50,000 yn bell ohoni!

 

Unknown-1

A dim ond £2.99 ydi copi o’r llyfr, tipyn rhatach na thocyn i’r gêm…

Dwi newydd gael parsel drwy’r post gan rai o blant Cymru – o Ysgol Carreg Emlyn, ysgol Gymraeg wledig i blant ardal Cyffylliog, Bontuchel, Clocaenog, Clawddnewydd a Derwen, sydd yn ymyl Rhuthun.

Mi fues i yno’n ddiweddar yn darllen rhai o fy straeon i, yn cynnwys un sgwennais i ar gyfer Straeon Tic Toc Radio CymruUnknown

A wyddoch chi be? Mae Gwasg Gomer newydd gyhoeddi casgliad o rai o’r straeon gafodd eu darlledu:

Unknown-2

Straeon Tic Toc, ‘casgliad lliwgar o straeon pum munud i’w darllen gyda’r plant lleiaf’ – sef plant dan 7 oed eto. Bargen am £8.99.

Ac mae’r stori roedd plant Carreg Emlyn wedi ei mwynhau ynddi – Stori’r Botel Sôs Coch.

Sbiwch be fuon nhw’n ei wneud wedyn!

photo 4

photo 3

Gwych! Diolch yn fawr i blant hyfryd Ysgol Carreg Emlyn. Rydan ni awduron wrth ein bodd yn cael ymateb fel hyn – a dwi’n siwr y byddai Morgan Tomos wrth ei fodd yn derbyn eich lluniau chi o Alun yr Arth.

A phob lwc Tîm Cymru!

Unknown