Tŷ Newydd

All posts tagged Tŷ Newydd

Dyfodol llyfrau OI

Published Chwefror 25, 2020 by gwanas

Ro’n i a Manon Steffan Ros (neu Manon Siop Fferins fel dwi am ei galw o hyn allan – mae hi’n symud i hen siop fferins)

D9mYH2lWsAUViWG

yn tiwtora yn Nhŷ Newydd, y Ganolfan Ysgrifennu yn Llanystumdwy wythnos dwytha.

Roedden nhw’n griw gwych: 12 o awduron (rhai’n weddol brofiadol, rhai ddim) fu’n ddigon lwcus i gael eu dewis i dreulio 5 diwrnod hyfryd yn cael eu hysbrydoli gynnon ni, y lleoliad, bisgedi cartref Tony, ac yn fwy na dim, gan ei gilydd.

ty-newydd-2

Dwi’n falch o ddeud bod ‘na ddawn dweud a syniadau gwych ganddyn nhw, a photensial am nofelau difyr tu hwnt ar gyfer plant ac oedolion ifanc. Rhai yn wahanol iawn, gwahanol i’r llyfrau arferol ar gyfer yr arddegau yn sicr!

Diolch yn fawr i’r Cyngor Llyfrau a Llên Cymru am noddi’r wythnos hon, a’r wythnos ar gyfer plant iau y llynedd. Defnydd da o’ch harian yn fy marn i.

Doedd pawb (wel, y rhai oedd wedi bod yn sgwennu ffantasi) ddim yn hapus o glywed gan y cyhoeddwyr bod ‘na ormod/llawer o nofelau ffantasi ar y ffordd eisoes, ond duwcs, os fydd pobl ifanc yn galw am lyfrau ffantasi, mae ‘na le i fwy does? Felly mae o i fyny i chi i brynu’r llyfrau fel fyddan nhw’n cyrraedd y siopau.

Dwi’n ysu am fedru ateb cwestiwn pobl sydd wedi mwynhau Cyfres y Melanai: ‘Be gai ddarllen nesa?’ efo rhestr o lyfrau Cymraeg cyffrous. Ia, llyfrau fel hyn (er, mae’r term ‘ffantasi’ yn llac iawn gen i):

A rhai Manon wrth gwrs

A fi!

Gyda llaw, mae Gwylliaid wedi bod allan o brint am sbel, ond na phoener, mae ‘na fwy yn cael eu hargraffu rŵan.

Wel? Ydach chi’n meddwl bod ‘na ormod o lyfrau ffantasi ar gael yn Gymraeg rŵan?

LLYFRAU AM CHWARAEON
Dwi am dorri fy rheol ‘dim llyfrau Saesneg’ eto fyth, gan mod i wir wedi mwynhau hon gan Jason Reynolds:

3FDBCEAD-24F3-4A7F-87A1-48948020DE2D

Nid ffantasi o gwbl, ond stori am ferch sy’n wych am redeg a’i helyntion efo’r thîm ras gyfnewid. Erbyn deall, mae’n un o gyfres – Track:

22902132412_3

pob un am athletwyr. A phob un yn ddu – chwa o awyr iach mewn byd sy’n brin o arwyr croenddu mewn llyfrau plant/OI. Ac mae’n debyg bod Ghost hyd yn oed yn well na Patina.

Fel un sydd wedi gwirioni efo athletau erioed, mi faswn i wrth fy modd yn sgwennu am sbrintwyr a neidwyr – athletau’n gyffredinol. Dwi eisoes wedi sgwennu stori fer am nofiwr yng nghyfrol ‘Darllena, Datblyga’ gyhoeddwyd gan gronfa Achub y Plant.

20200225_180244

Ond athletau a gymnasteg yw fy ffefrynnau. Rhyw ddydd… ond allwn i wneud rhai o’r cymeriadau’n ddu? Oes gen i hawl sgwennu o safbwynt rhywun du a minnau’n wyn? Do, mi fuon ni’n trafod y busnes ‘cultural appropriation’ ‘ma ar y cwrs yn Nhŷ Newydd, ac mae’n gymhleth. Oes gynnoch chi farn? Ac a oes angen nofelau am chwaraeon? Oes, siwr!

2016-09-23-bolt-thumbnail

Llyfr am heneiddio i blant dan 7, llyfr Saesneg OI ac Ysgol Rhiw-bechan.

Published Ionawr 28, 2020 by gwanas

Mae ‘na ddau lyfr o’r enw Nain Nain Nain yn Gymraeg rŵan, ond mae’r ddau yn wahanol iawn.

Yn 2012, cyhoeddodd Sian Eirian Rees Davies ‘Nain! Nain! Nain!’

getimg

Mi wnes i flogio amdano eisoes: rhowch ‘2 lyfr ar gyfer plant 6-9 oed’ yn y blwch chwilio (top dde, uwch ben ‘Cofnodion Diweddar’)

Yr argraff mae’r Nain hon yn ei roi i bawb yw ei bod wedi drysu a cholli’i chof. Ond mae hi’n un o dîm Ditectifs Cudd Cymru – criw o neiniau sy’n datrys troseddau gwaethaf Cymru! Llyfr hwyliog, llawn dychymyg a hiwmor. Darllenwch o os nad ydach chi wedi gwneud yn barod. O, ac roedd hi wedi sgwennu hwn cyn i Gangsta Granny ymddangos!

Ond does ‘na ddim ebychnodau (!) yn nheitl llyfr Rhian Cadwaladr:

20200126_172528

Ac mae hon yn stori gwbl wahanol. Mae’r nain hon, Hen Nain Elsi, yn hwyliog, ond MAE hi’n colli’i chof – go iawn.

20200126_172652

Sylwch ar y ffordd glyfar mae Rhian yn dechrau awgrymu bod Nain Elsi yn drysu weithiau. Mae’r arddull yn syml, yn addas i blant o dan 7, ac yn rhoi mwy o le i luniau hyfryd Jac Jones na’r geiriau.

20200126_172807

Wrth fy modd efo “croen patrymog”!

Mae’n stori hyfryd, annwyl sy’n trin be sy’n gallu digwydd wrth i bobl heneiddio yn hynod sensitif a chall. O, ac mae na fwy nag un nain ynddi – mae gan Nedw dair nain i gyd, pob un yn gwbl wahanol ac felly mae’r llyfr yn osgoi’r stereoteip o neiniau:

20200126_172607

Da iawn Rhian! A Jac, wrth reswm. Daeth y llyfr i fodolaeth yn sgil cwrs ar gyfer awduron plant yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd, lle roedd Jac a Manon Steffan Ros yn tiwtora criw oedd yn cynnwys Rhian. Dyma hi efo’r llyfr:

EK4vgpeWwAAFs2E

Gyda llaw, mae hi wedi sgwennu dwy nofel ddifyr ar gyfer oedolion hefyd, y ddwy yn hwyliog, yn annwyl ac yn boblogaidd tu hwnt:

Nofel Saesneg ar gyfer oedolion ifanc dwi newydd ei darllen ydi Long Way Down gan Jason Reynolds o’r Unol Daleithiau. Waw. Pwerus.

513YusSx5TL._SX309_BO1,204,203,200_

Dwi rioed wedi darllen nofel ar gyfer yr oedran yna mewn barddoniaeth o’r blaen. Mi wnes i wirioni efo The Weight of Water, Sarah Crossan, ond mae Long Way Down ar gyfer bechgyn tua 13+ sydd ddim yn hoffi darllen. Tipyn o gamp. A dwi wrth fy modd efo’r hyn mae o wedi’i ddeud tu mewn y clawr cefn:

“Here’s what I know: I know there are a lot – A LOT – of young people who hate reading. I know that many of these book haters are boys. I know that many of these book-hating boys, don’t actually hate books, they hate boredom. So here’s what I plan to do: NOT WRITE BORING BOOKS. “

Amen!

Dyma i chi fidio o’r awdur yn darllen y llyfr, efo’r lluniau gan Chris Priestly:

Llun bach arall cyn cloi: ges i wahoddiad i Ysgol Rhiw-bechan, Tregynon, nid nepell o’r Drenewydd ddydd Llun, i sgwrsio efo’r plant yn y pnawn ac efo nhw a’u rhieni gyda’r nos. Nefi, ges i hwyl! Tydi’r llun ddim yn dangos y chwerthin, ond roedd ‘na lot fawr o chwerthin, wir yr! Ac o feddwl bod y plant i gyd yn dod o gartrefi di-Gymraeg, roedd eu parodrwydd i siarad a holi yn Gymraeg – a darllen Cymraeg, yn hyfryd.

20200127_222115

Oherwydd Cadi a’r Celtiaid ges i’r gwahoddiad, gan eu bod nhw wedi gwneud prosiect ar y Celtiaid

3351_Untitled-1

Ond roedd llyfrau eraill Cadi yn gwerthu’n dda yn y siop hefyd! A lwcus mod i wedi dod â chydig o Ramboys efo fi, achos roedd hwnnw’n apelio’n arw at yr hogia gwledig oedd yn y ffrwd Saesneg. Ieee!

516rRBiDmaL._SX324_BO1,204,203,200_

Mwy o lyfrau i’r plant iau

Published Tachwedd 25, 2019 by gwanas

Dwi wedi cael pecyn hyfryd o lyfrau plant GWREIDDIOL gan Wasg Gomer, rhai gan hen lawiau a rhai gan enwau newydd. Dyma ddau sydd yr un maint (eitha mawr):

IMG_4453

Ac un fymryn llai gan Nia Parry:

EKOb8j8XYAcyfak-1

Yn union fel ‘Siôn Corn a’r Anrheg Gorau Un’, mae ‘Gwyn y Carw Claf’ yn gywaith prydferth rhwng (y Prifardd) Tudur Dylan Jones a Valériane Leblond.

FullSizeRender

Yn hon, mae merch fach o’r enw Greta yn darganfod carw bach cloff yn y goedwig. Mae’n helpu’r carw bach drwy glymu ei sgarff am ei goes. Fisoedd yn ddiweddarach mae Gwyn, y carw bach, yn rhoi cnoc ar ffenest Greta ar Noswyl Nadolig ac yn mynd â hi ar antur gyda Siôn Corn.

IMG_4455

Yn anffodus, fel uchod, mae’r ysgrifen weithiau’n anodd ei weld, ond efallai mai fi a fy llygaid sy’n mynd yn hen. Ond y rhan fwya o’r amser, mae’r stori’n berffaith glir – ffiw!

FullSizeRender-1

FullSizeRender-3

Mae hi’n stori Nadoligaidd wirioneddol hyfryd, efo tro yn y gynffon fydd yn codi gwên, ac mae’r cwpledi’n llifo’n hawdd (wel, mae o’n brifardd, be dach chi’n ddisgwyl?) a dwi’n edrych mlaen yn arw i’w darllen hi ym Mhlas yn Rhiw Tachwedd 30 a Rhagfyr 1af (dwi wedi cael gwahoddiad i ddarllen yno yn eu dathliadau Nadolig eto eleni).

Partneriaeth newydd sbon ydi’r awdur Llio Maddocks a’r arlunydd Aled Roberts. Mae’r lluniau yn ‘Y Môr-leidr a fi’ yn fwy cartwnaidd, fel y gwelwch chi:

FullSizeRender-2

Mae Llio hefyd wedi mynd am gerddi bach sy’n odli, a hynny mewn ffordd llawer mwy boncyrs nag arddull dawel, hamddenol Tudur Dylan. Dwi wrth fy modd efo’r syniad a’r stori: mae’n llawn dychymyg, ac mi fydd unrhyw Nain yn hapus iawn yn darllen hon efo’i hwyrion. Mae’r plentyn yn hoffi dydd Gwener oherwydd mai Nain “sy’n fy nghasglu o’r ysgol, nid Mam.” Ha!

IMG_4460

Dan ni’n cael gweld wedyn pam fod cwnmi Nain yn gymaint o hwyl. Mae hi’n un dda am fwydo ei ddychymyg a dan ni’n cael gweld be mae hi’n ei guddio yn y cwpwrdd dan staer a be’n union yw ei chyfrinach. Cawn gwrdd â’r giang ar fwrdd y llong, parot, dolffiniaid a theigr!

Fy hoff ddarn i ydi hwn am gyrtens/llenni’r llofft. Iawn, hwyliau’r llong ta:

IMG_4458IMG_4459

Mae’r Carw yn £6.99 a’r Mor-leidr yn £5.99.

Llyfr cwbl wahanol ydi ‘Cwmwl Cai.’ Llyfr pwysig, allai fod o help mawr i blant bach fel Cai: bachgen bach sy’n cael ambell i bwl tywyll di-obaith lle mae o dan straen. Weithiau, mae bob dim yn iawn:

IMG_4462

Ond weithiau, mae o’n drist ac yn poeni:

IMG_4463
IMG_4465

Mae llawer o blant bach fel Cai yn y byd. Mae’r llyfr hwn yn normaleiddio’r teimladau dwys yma ac yn cynnig syniadau ymarferol i blant a’u gofalwyr am ffyrdd i godi’r cwmwl a chodi ysbryd.

IMG_4466FullSizeRender

Mae Nia, efo help arbenigwyr yn y maes, a lluniau Gwen Millward, wedi creu llyfr hyfryd am y technegau o lonyddu ac ymdawelu sy’n seiliedig ar ‘ymwybyddiaeth ofalgar’ neu ‘mindfulness’. Dwi’n siŵr y bydd o o gymorth mawr i blant fel Cai a’u teuluoedd. Mae ‘na lawer mwy o syniadau a thechnegau yn y llyfr, yn cynnwys rhoi dy hoff degan ar dy fol a’i wylio’n mynd i fyny ac i lawr wrth i ti anadlu. A dychmygu Mam yn diffodd y cyfrifiadur am dipyn.

Dwi’n siŵr y byddai’n talu i oedolion sy’n byw dan gymylau gael copi o hwn hefyd.

Ond dull arall o godi’r galon ydi mynd ar gwrs sgwennu creadigol i Ganolfan Tŷ Newydd, fel y gwnes i a chriw (arbennig) o ddysgwyr dros y penwythnos. Dyma fi a Sarah Reynolds, fy nghyd-diwtor – ar y dydd Sul, cofiwch!

EKKkmTVXYAEn3Oc

Mae hi wedi cyhoeddi 2 gyfrol yn Gymraeg ers dysgu Cymraeg yn rhugl:

Llyfrau hwyliog, ysgafn, sy’n donic – ond yn llawn gwirioneddau… ac mae hi’n gweithio ar nofel Saesneg ar hyn o bryd. Dwi’n edrych mlaen yn barod!

Isio sgwennu ar gyfer bobl ifanc?

Published Tachwedd 6, 2019 by gwanas

_83370468_img_3369

Fory (dydd Gwener) ydi’r diwrnod cau ar gyfer gwneud cais am gwrs wythnos am ddim yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd.

tn-300x200

Mae hwn wir yn gyfle arbennig gan Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.
Chwilio am bobl sydd eisiau ysgrifennu ar gyfer bobl ifanc ydan ni, a nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael.

Dowch ‘laen – crafwch am amser i ffwrdd o’r gwaith; perswadiwch rywun i gymryd y plant am chydig ddyddiau. Manon Steffan Ros

D9mYH2lWsAUViWG

a fi yw’r tiwtoriaid a dan ni’n ysu am gael trafod eich syniadau, eich helpu i feddwl am syniadau, eich rhoi ar ben ffordd ym mhob ffordd, er mwyn cael mwy o lyfrau gwych, difyr, cynhyrfus, hardd, hapus, trist, emosiynol, amhosib eu rhoi i lawr i fachu dychymyg pobl ifanc Cymru (a thu hwnt).

Gyrrwch eich cais heddiw https://bit.ly/2kSTgZb

Os nad ydach chi wedi bod yn Nhŷ Newydd eto, mae’n le hudolus, ac mae’r bwyd yn wych! Ac yno, fel mae’n digwydd, ar gwrs tebyg i hwn, flynyddoedd yn ôl, y ces i’r syniad am fy ‘best-seller’, sef trioleg ‘Bywyd Blodwen Jones’ ar gyfer dysgwyr (fydd yn cael ei ail-gyhoeddi’n fuan efo cloriau newydd)

BlodwenJ_finalA-W_600Flat

Diwrnod y llyfr

Published Mawrth 11, 2019 by gwanas

Mi ges i ddau gyfle i ddathlu diwrnod y llyfr! Yn gyntaf, ar ddydd Gŵyl Dewi, ges i wahoddiad i Lyfrgell Dolgellau i ddarllen darnau o stori Cadi a’r Deinosoriaid a rhannu ambell boster. Mi wnes i wrthod taith i Sierra Leone er mwyn bod yn y llyfrgell (wir yr), ond peidiwch â deud hynny wrthyn nhw. Nhw oedd wedi gofyn gynta, wedi’r cwbl.

IMG_0019

Andros o hwyl! Fyddai Sierra Leone ddim wedi gallu cymharu. A gwneud lluniau a chrefftau deinosoraidd a Dydd Gŵyl Dewi-aidd wedyn:

IMG_0030

Yr unig ddarn anodd o’r diwrnod oedd trio penderfynu pwy oedd yn haeddu gwobr am y wisg orau. Pawb mor dda a’r holl lygaid mawr yn syllu i fyw fy llygaid a minnau’n chwysu, ddim isio pechu neb…

IMG_0028

Bu’n rhaid i mi ddewis goreuon y gwisgoedd eto ar Fawrth y 7fed yn Ysgol Llanfechell, Ynys Môn. A sbiwch anodd oedd hynny!

_105929376_llun-o-bawb
_105929378_efaacelsa-loli

A dim ond y plant bach oedd hynna!

Un o fy ffefrynnau ymysg y rhai hŷn, wrth reswm, oedd hon:

D1EZFsBW0AEQUQA

Dyna sut i blesio awdur! Wedi astudio’r clawr yn fanwl, ylwch:

51xLV3OPoLL._SX322_BO1,204,203,200_

O, ac mae Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yng Nghasnewydd wedi plesio’n arw hefyd – sbiwch!

D1D9n82XQAA16ih

Dim ond gobeithio eu bod nhw wedi mwynhau’r darllen ynde. Gyda llaw, dwi’n clywed bod ‘na ambell ymgom Bl 7-9 arbennig wedi bod yn eiteddfodau lleol yr Urdd (Y Gwylliaid ydi’r testun) a dwi’n edrych mlaen yn arw i’w gweld a’u clywed yn y Genedlaethol fis Mai!

Ond yn ôl i ben arall y wlad, i Fôn: mi ges i fodd i fyw yn Llanfechell, unwaith i mi ddod o hyd i’r lle. Eitha anodd – yn enwedig yn y gwynt a’r glaw.

20190307_144134

Ond roedd o werth o.

Doedd fy wythnos greadigol ddim ar ben: ro’n i’n tiwtora yn Nhŷ Newydd ar y dydd Sadwrn – a’r cwrs yn llawn o bobl oedd â diddordeb mewn sgwennu ar gyfer plant a/neu bobl ifanc.

20190309_123927

Ac un peth gafodd ei drafod bod gormod o lyfrau Cymraeg gwreiddiol yn rhy ‘neis’ a dim digon o rechen/cnecian/pwmpio a phethau felly.

20190301_124146

Roedd ‘na syniadau gwych gan y criw yma!

A sôn am sgwennu a syniadau gwych, dyma lyfr i’ch rhieni/nain/taid/modryb/ athrawon. Nofel ddiweddara Sian Northey. Wrth fy modd efo hi!

20190302_190611

Awydd sgwennu ar gyfer pobl ifanc?

Published Ionawr 29, 2019 by gwanas

71a83a70-33b2-4e9c-89be-b9a98cf8220e

Wps, bosib mod i’n rhy hwyr yn deud hyn ond roedd Tŷ Newydd yn cynnig Sêl Santes Dwynwen am dridiau. Dwi’n siŵr y bydden nhw’n ystyried chydig o lastig o ddiwrnod os wnewch chi gysylltu rŵan neu bore fory, ond mae/roedden nhw’n cynnig gostyngiad o 15% o bris holl gyrsiau Tŷ Newydd yn 2019, yn cynnwys cwrs efo fi, Mawrth 9fed – bargen! Manylion ar y linc isod:

https://www.tynewydd.cymru/cwrs/ysgrifennu-ar-gyfer-plant-phobl-ifanc/
https://www.tynewydd.cymru/blog/cynnig-arbennig-15-i-ffwrdd/

quote-when-i-turned-to-writing-fantasy-and-writing-for-young-people-it-was-joyous-it-was-like-laini-taylor-101-25-68

A sbiwch da ydi’r Tweet yma hefyd. Deud y cwbwl yn fy marn i!

screenshot_20190129-195616_facebook

Gyda llaw, mae ‘Edenia’, y gyfrol olaf yng Nghyfres Y Melanai (i bobl fanc 12+ yn fras) wedi cael ei golygu (diolch, Meinir a Nia Peris) ac mi fydda i’n cael y proflenni cyn bo hir!
Mae hynny’n golygu y dylai hi fod yn y siopau ymhen rhyw ddeufis, dri. Does dim clawr eto, cofiwch, ond mae’n bosib y bydd rhywbeth tebyg i hwn ynddo fo:

d5d8cbbd1a86f021d7bdd6b5d28861f3

Edrych mlaen yn arw i weld y drioleg yn orffenedig!

Isio sgwennu/darlunio llyfrau plant?

Published Hydref 10, 2018 by gwanas

Dyma newyddion difyr:

“Mewn ymdrech i lenwi silffoedd siopau llyfrau â chyhoeddiadau lliwgar Cymraeg i blant, mae Llenyddiaeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru wedi dod ynghyd i drefnu cwrs arloesol i awduron a darlunwyr plant 3-7 oed”

Felly, os ydi sgwennu ar gyfer plant yn freuddwyd gynnoch chi, tybed ydach chi’n rhydd yn ystod hanner tymor mis Chwefror 2019 (dydd Llun 25 Chwefor – dydd Gwener 1 Mawrth)?

Manon Steffan Ros a Jac Jones fydd yn tiwtora yn Nhŷ Newydd, Llanystumdwy –

dau sy’n feistri ar eu crefft, ac os fyddwch chi’n gneud cais llwyddiannus, mi gewch chi’r tiwtora (a’r bwyd hyfryd – a llety!) am ddim. Cyfle gwych i rywun!

56e822097a1df_56e822097a21e

Y dyddiad cau i ymgeisio yw 5.00 pm brynhawn Mercher 31 Hydref. Bydd angen:

Llenwi ffurflen gais fer, a’i gyrru ynghyd ag
Unai amlinelliad o syniad ar gyfer stori blant 3-7 oed; neu ddarlun addas i dudalen o lyfr plant 3-7 oed; neu rhwng 100-200 gair o stori.

Am ffurflen gais neu am ragor o wybodaeth ebostiwch: tynewydd@llenyddiaethcymru.org

Mwy o wybodaeth fan hyn:

http://www.llenyddiaethcymru.org/lw-news/cyhoeddi-cynllun-feithrin-cenhedlaeth-newydd-o-awduron-darlunwyr-plant/

Pob lwc!