Brett Breckon

All posts tagged Brett Breckon

Cadi a’r Celtiaid

Published Tachwedd 26, 2019 by gwanas

Wps! Dwi wedi bod mor brysur yn blogio am lyfrau pobl eraill, dwi wedi anghofio deud bod Cadi a’r Celtiaid bellach yn y siopau!

Dyma’r clawr:

3351_Untitled-1

A dyma rai o fy hoff luniau gan Janet Samuel:

A dyma luniau efo’r ysgrifen yn y darnau adawodd Janet ar gyfer yr ysgrifen:

20191126_154626

20191126_154742

A dyma ddarn efo tipyn golew o sgwennu. Oes, mae ‘na waith darllen ar lyfrau Cadi, ond ro’n i isio creu llyfrau oedd yn rhy hir i’w darllen mewn un eisteddiad, achos – yn fy marn i – mae’n gwneud i blant arfer efo’r syniad o stori hirach/hwy, a gobeithio eu bod yn edrych ymlaen at gael mwy o’r stori y noson wedyn – a’r un wedyn! O, ac os sylwch chi, mae’r gair ‘pwmpian’ yna eto. Achos dyna, yn bendant, fyddai’n digwydd pan fyddai pawb yn cysgu yn yr un lle, a dwi’n nabod llawer o blant sy’n mwynhau hiwmor ‘blas y pridd’… a rhieni hefyd!

20191126_154652

Mi fydd plant Ynys Môn yn nabod lle mae Cadi’n beicio ato fan hyn:

20191126_154555

Ia, stafell gladdu Bryn Celli Ddu. Yno, ar fore diwrnod hira’r flwyddyn, mae Cadi’n cael ei gyrru’n ôl mewn amser i Oes y Celtiaid, ac yn dysgu ambell wers – ac yn cael ambell antur! Mae hi’n dysgu pa mor bwysig ydi dal ati a pheidio â rhoi’r ffidil yn y to, ac nad oes angen poeni os fydd hi’n gwneud camgymeriadau, achos fel’na mae rhywun yn dysgu.

Mae hi hefyd yn dysgu agor ei llygaid a’i chlustiau a chanolbwyntio go iawn.

Mi fydda i’n darllen peth o’r stori ym Mhlas yn Rhiw ddydd Sadwrn a Sul Tachwedd 30/Rhagfyr 1af, ac hefyd yng Nghanolfan Henblas, Y Bala ar nos Iau Rhagfyr 5ed rhwng 6 a 7 (noson siopa hwyr y Bala), ac wedyn yn Nhŷ Siamas yn ystod noson siopa hwyr Dolgellau tua 5-6 o’r gloch. Gobeithio eich gweld yno a chofiwch atgoffa eich rhieni/nain/taid/modryb/ewyrth i ddod â £5.99 efo nhw i brynu copi!

Ty Siamas and Eldon Square 
Dolgellau
Gwynedd
Mid
Towns and Villages

Mi ges i wahoddiad i’r Sioe Aeaf yn Llanelwedd ond dwi’n dysgu Cymraeg i oedolion bob bore Llun a Mawrth, sori. A sôn am rheiny: mae fersiwn newydd o Bywyd Blodwen Jones hefyd yn y siopau, efo clawr newydd gan Brett Breckon!

9781785623059

Beth i’w brynu yn y Steddfod?

Published Gorffennaf 26, 2019 by gwanas

Mi fydd ‘na lwyth o lyfrau hen a newydd o bob math ar faes yr Eisteddfod yn Llanrwst, a llwyth o ddigwyddiadau a chyfleon i gyfarfod awduron hefyd. Fel hwn, er enghraifft:

EAJzBwLXsAIbevT

A dwi wedi addo darllen stori yn y Pentre Plant am 3.00 ar y pnawn Llun, sef fy stori yn Straeon Nos Da Sali Mali.

image001

Roedd un arall o’r awduron yn darllen a llofnodi yn y Sioe yn Llanelwedd, sbiwch:

EAKEM6VXUAAGLS5

Ia, Elen Pencwm, efo plentyn mawr iawn ar ei glin – brawd un arall o’r awduron, fel mae’n digwydd! Llyr Ifans yr actor ydi hwnna, a Rhys (actor arall…) sydd wedi bod yn sgwennu.
A dyma’r llun bach sydd ar ddiwedd stori Elen:

20190726_162534

Mae’r llyfr yn un hyfryd, clawr caled, efo tudalennau a lluniau sgleiniog, a dyna pam ei fod yn £12.99. Ond mae’n drysor bach o lyfr, efo 12 o straeon gwahanol. Mi wnes i fwynhau pob un ond mae’n siŵr y bydd rhai gwahanol yn apelio at wahanol ddarllenwyr ifanc.

Mae’n deud ar y cefn y bydd yn apelio at blant o bob oed. Hm, dwi’m yn siwr am hynna, chwaith! Ar gyfer plant iau mae Sali Mali a’i ffrindiau wedi’r cwbl.

Dyma flas i chi o stori Tudur Owen, i chi gael syniad (mae’n un dda!), ac mae ‘na lun mawr fel’na efo pob stori:

20190726_162458

A dyma ddechrau un Rhys Ifans, sydd, fel y byddech chi’n ei ddisgwyl, yn ddigri:
20190726_162445

Mae hyd yn oed Eigra – ia, yr anhygoel Eigra Lewis Roberts (bydd sesiwn amdani hi yn y Babell Lên gyda llaw) wedi cyfrannu stori, ac un dda ydi hi hefyd:

20190726_162523

Mae ‘na fwy nag un Prifardd wedi cyfrannu. Mae Mererid Hopwood yn un arall, ac mae diweddglo ei stori hi’n dangos i chi sut gymeriad sydd gan Mererid. Ydi, mae hi’n un glên ac annwyl, ac yn fardd:

20190726_162604

Mae’n siŵr bod fy stori innau’n deud llawer am fy nghymeriad innau, a dewis sgwennu am Y Pry Bach Tew drwg wnes i…

20190726_163420

Bydd raid i chi brynu/benthyca copi o’r llyfr i weld sut lun mawr ges i! Ac i ddarllen gweddill y straeon.
Llongyfarchiadau i Simon Bradbury am wneud lluniau mor hyfryd.

Gyda llaw, os wnewch chi brynu copi o Barn y mis yma, mae ‘na lawer o sylw i lyfrau plant ynddo, yn cynnwys Straeon Nos Da Sali Mali a nifer o’r llyfrau dwi eisoes wedi eu hadolygu ar y blog yma.

A dwi’n wirioneddol chyffd a diolchgar bod Edenia wedi cael ei chanmol:

20190725_094903

Ieee! Diolch byth. Ar ôl y slepjan gafodd Y Diffeithwch Du ar Radio Cymru, roedd darllen hynna’n ryddhad mawr. Ffiw. A diolch Gwenan Mared am fod mor glen. Plîs wnei di adael i mi brynu diod/cacen i ti yn y Steddfod?

Llyfr dwi wir yn edrych ymlaen at ei ddarllen ydi hwn gan Ifan Morgan Jones:

EAOeJAaXUAAFYY9

Dwi’n meddwl mai ar gyfer oedolion mae o, ond mae’r clawr yn gwneud i mi feddwl efallai fod Babel ar gyfer Oedolion Ifanc (OI) hefyd. Efallai mod i’n anghywir, cofiwch. Ond tydi o’n chwip o glawr?

A sôn am gloriau, mae Gomer wrthi’n ail-gyhoeddi llyfrau Blodwen Jones, fy llyfrau i ar gyfer dysgwyr, ac wedi comisiynu Brett Breckon i wneud cloriau newydd. Ssh, peidiwch a deud, ond dyma fraslun o glawr newydd Bywyd Blodwen Jones. Dwi wedi gwirioni!

BlodwenJ_finalA-W_300Flat

Calendr 2018 ar gyfer plant

Published Medi 13, 2017 by gwanas

DJiIWEaXoAEWjTR

Syniad gwych gan Y Lolfa! Calendr lliwgar gyda 12 llun o 12 llyfr plant gwreiddiol y Lolfa a gyhoeddwyd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n cynnwys lluniau gan artistiaid fel Jac Jones, Janet Samuel, Valériane Leblond ac Angharad Tomos.

Dwi ddim wedi gweld tu mewn y calendr eto ond os oes rhywun isio prynu anrheg Nadolig i mi – mi wnaiff hwn yn champion. Dim ond £4.99 gyda llaw.

Ia, do, dwi wedi gwirioni am fod lluniau Coeden Cadi ar y clawr, ond mi faswn i isio copi beth bynnag. Mae angen mwy o bethau fel hyn yn does?  Nwyddau sy’n tynnu sylw at lyfrau a chymeriadau a darluniau gwreiddiol o Gymru.

Mae ‘na gardiau ‘Snap’ Rwdlan ar gael eisoes:

9781847719560_1024x1024

A llwythi o grysau T ac ati

1000000000027

Ac mae brand Sali Mali yn cael ei ddefnyddio’n dda hefyd:

51+ygcTuRgL._SX258_BO1,204,203,200_poster_wyddor_sali_malimawrdoli_sali_mali_1

Ond mae ‘na lawer mwy o lyfrau plant gwreiddiol da ar gael rwan, efo darluniau gwirioneddol wych. Tipyn o gambl fyddai i wasg archebu llwyth o nwyddau wedi eu seilio ar un llyfr neu gymeriad y dyddiau yma, ond drwy ddod â sawl llyfr at ei gilydd fel hyn – bingo. Da iawn Y Lolfa.

Be am bapur lapio? Papur wal? Bagiau? Sanau? Printiau o’r lluniau mewn ffrâm? Ond hyd yn oed tase pob teulu efo plant Cymraeg yn cefnogi nwyddau Cymraeg, a fyddai hynny’n ddigon i’w wneud yn fenter busnes call? Dwn i’m. Ond mi fyddai’n rhaid sicrhau bod y llyfrau a’r cymeriadau yn ddigon adnabyddus yn gyntaf, a dydi hynny ddim yn hawdd pan yn cystadlu efo’ch Peppa Pincs a’ch cymeriadau Disney.

Mae rhai o’r arlunwyr yn cynnig gwerthu eu paentiadau gwreiddiol, fel hwn o Trysorfa Chwedlau Cymru ( Gomer) gan Brett Breckon :

a11d99_794a5bebec1afea1095931edb384aa5e

Ond y llun gwreiddiol ydi o – ac mae’n £500. Ond yn werth bob ceiniog wrth gwrs! Ond efallai yn fwy addas i blant hŷn…

Be am hwn, o Hosan Nadolig ( Gomer) i blant iau? £600.

a11d99_9e591e07d1a542e6abcf5da2243372ec

Mae gan Valeriane Leblond wefan, ond dim lluniau yn ymwneud â’r llyfrau mae hi wedi eu darlunio hyd y gwela i. A dwi methu dod o hyd i wefannau Jac Jones na Janet Samuel! Dim angen gwefannau yn amlwg. A phwy ydw i i feirniadu? Mi wnes i wefan oes yn ôl ond mae o wedi diflannu!

 

Hoff Lyfrau Sonia Edwards

Published Mawrth 24, 2017 by gwanas

Sonia_Edwards100_2sonia edwards

 

Mae Sonia Edwards wedi cyhoeddi rhyw 30 llyfr i gyd, ar gyfer plant ac oedolion ac mi enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn ym 1996 am Glöynnod a’r Fedal Ryddiaith yn 1999 am Rhwng Noson Wen a Phlygain. Llwyddodd i sgwennu’r holl lyfrau tra roedd hi’n athrawes (Gymraeg) yn Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Môn.  A dyma rai o’i llyfrau hi:

image3

Llyfrau_Lloerig_Help!_Mae_'Na_Hipo_yn_y_Cwstard!_(llyfr)Cyfres_Whap!_Angel_Pen_Ffordd_(llyfr)

Adolygiad Gwales o Angel Pen Ffordd

Llongyfarchiadau mawr i’r awdur, Sonia Edwards, am lunio nofel sydd mor atyniadol i bobl ifanc. Braf iawn yw cael nofel wreiddiol mor ddarllenadwy yn Gymraeg.

Mae popeth sydd ei angen mewn nofel dda i’w gael yn hon. Yn gefndir iddi mae byd y sioeau cerdd – pwy gaiff actio’r brif ran? Dyma stori ddirgelwch gyda thipyn o antur a chyffro – a fyddech chi’n fodlon mentro allan i dŷ gwag yn y tywyllwch er bod ysbryd yno? Pwy sydd eisiau rhoi’r tŷ ar dân? Dyma stori ddigon doniol ar adegau, yn enwedig anturiaethau Wilff y ci yn bwyta’r hosan! A dyna i chi’r stori garu, pwy mae Arwyn yn ei ffansïo? Beth sy’n digwydd rhwng Moelwyn ac Enfys?

Mae holl ing a theimladau bod yn eich arddegau yma y gall bob person ifanc uniaethu â nhw, o’r cochi a’r ffrindiau, i fechgyn a rhieni yn codi cywilydd arnoch. Mae hi’n sicr yn nofel sy’n darllen ac yn llifo’n hawdd (diolch yn bennaf i benodau byr a stori afaelgar). Mae’r iaith ynddi yn gref a chyhyrog ond yn gyfoes iawn, ac yn siŵr o ehangu geirfa – roeddwn i’n hoff iawn o’r holl gnawes, jadan, a jolpan. Efallai fod y diweddglo yn rhy ffuglennol o hapus, a bod cymeriad y prifathro braidd yn ystrydebol, ond dyma yn sicr nofel berffaith i’r rhai dros 11 oed.

Gwenllïan Dafydd

Cyfres_Strach_Brecwast_i_Gath,_Swper_i_Gi_(llyfr)

Erbyn hyn mae hi wedi ymddeol o’i swydd dysgu ers haf 2016.

“Roedd hi’n hen bryd ar ôl deng mlynadd ar hugain! Mwy o amser i (gymryd arnaf fy mod i’n) sgwennu!”

Mae’n dal i fyw yn Llangefni, ac wedi cael ci newydd: ast Dogue de Bordeaux o’r enw Popi (enw swyddogol y Kennel Club: Ynys Mon Pabi Coch)

A dyma lun o’r math o gi ydi Popi!

9608013d59b26f2ee9494d8183569aa0-e1459262525714

Sori Sonia, dwi’n siwr bod Popi yn ddelach na hynna…

“Na, dan ni ddim yn mynd i Cruft’s! Bellach dan ni fel fersiwn mwy benywaidd o Turner and Hooch. O, mae hi’n ciwt! A mwy o rincls na fi felly dwi’n edrach yn fengach wrth ei hochr hi!”

Y newyddion da ydi ei bod hi’n defnyddio ei rhyddid newydd i sgwennu gryn dipyn. Bydd nofel ar gyfer oedolion allan erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae nofel i’r arddegau ar y gweill. Y gobaith yw gweld honno yn 2018 – tân dani, Sonia!

Mae hi hefyd wedi dechrau ymddiddori mewn siabi-shicio dodrefn. “Ac mi leciwn i ddweud fy mod i’n canu mewn band ond Rhys y mab sy’n gneud hynny! Fo ydi prif leisydd Fleur de Lys felly mae yna dipyn o ‘street cred’ mewn bod yn fam i roc star!”

Clip o’r band yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd fan hyn:

https://www.bbc.co.uk/music/artists/f3e89ced-db84-41c5-9427-acb4618f3fa4

A dyma atebion Sonia i fy nghwestiynau i:

  1. Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?  a) Ysgol Gynradd  – Cymraeg a Saesneg

Popeth Enid Blyton a ‘Lois’ ac ‘Esyllt’ gan Elisabeth Watkin Jones.

 

9780850885064-uk-300

  1. b) Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg

Nofelau Islwyn Ffowc Elis fel ‘Ffenestri Tua’r Gwyll’ ac ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’ a stwff y chwiorydd Brontë – ‘Jane Eyre’, ‘Wuthering Heights’ a ‘Villette’.

51TEBMC3B3L._SX338_BO1,204,203,200_

50995549472012084833

 

  1. Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

‘Pen Dafad’ gan Bethan Gwanas hefo Bl. 7 cyn i mi ymddeol! Wastad yn ffefryn! (Diolch, Sonia… 🙂 Bethan)

0862438063

  1. Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Brett Breckon – lliwgar ac yn tynnu sylw.

jeepster-S-P_02_4-3-10_small

brett-breckon-guardian-angelPapa_Panov_detail+1000gwlad_y_dreigiau_bach

9781848511941

 

  1. Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Steddfod Môn 1992 ac Eigra’n beirniadu.

250px-Eigra_Lewis_Roberts

 

  1. Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Dihangfa. Mae o’n therapiwtig pan dwi angen symud fy meddwl. Rhywbeth i droi ato mewn argyfwng hyd yn oed!

 

  1. Dwed chydig am dy lyfr diweddara i blant.

‘Bryn Arth’. Cwmni lorïau yn cael ei redeg gan dedi bêrs. Dipyn ers hynny erbyn hyn.

Cyfres_Swigod_Bryn_Arth_(llyfr)

Disgrifiad Gwales
Nofel am deulu bach o eirth sy’n rhedeg cwmni loris Edwyn Bêr a’i Fab, Bryn Arth. Mae’r cwmni’n cael llawer o anturiaethau wrth fynd o gwmpas y lle yn cyflawni eu gwaith bob dydd, yn cynnwys helpu i ddal jiraff sydd wedi dianc o sŵ Caer, mynd â’r fuwch ddu Seren Nadolig i Sioe’r Sir, achub llond lori o hufen iâ rhag mynd yn wastraff a llwyddo i ddatrys problem carnifal y pentref.
Adolygiad Gwales

Nofel fer, lawn hiwmor am deulu o eirth sy’n rhedeg busnes lleol llwyddiannus ym mhentref Bryn Arth. Edwin Bêr biau’r cwmni ac mae’n berchen ar fflyd o lorïau coch a melyn yr un lliwiau â baner Owain Glyndŵr. Mae ganddo lorïau ar gyfer gwahanol anghenion – lorri ludw i gario sbwriel, lorri i gario dodrefn i bob rhan o Gymru, lorri sgip, lorri wartheg a lorri-cario-pob-dim. Gyrwyr y lorïau ac arwyr y stori yw Tecwyn Bêr (Tecs), mab Edwin, a Stwnsh, ffrind gorau Tecs. Tipyn o gês a thynnwr coes yw Stwnsh. Ac ni ddylid ychwaith anghofio am Moli sy’n gofalu am y swyddfa brysur.

Cymeriadau annwyl iawn yw’r rhain. Maent yn weithwyr caled, a chydag amser gwelwyd y cwmni yn ehangu ac yn cyflogi mwy o weithwyr. Ar eu teithiau bu’n rhaid iddynt wynebu pob math o argyfyngau ond llwyddant i’w datrys.

Ychwanegiad at yr hiwmor a geir yn y nofel yw darluniau du-a-gwyn Helen Flook.

Nofel anthropomorffaidd yw hon, lle y priodolir nodweddion dynol i anifeiliaid. Mae hyn yn ddyfais gyffredin mewn llenyddiaeth plant, er enghraifft Siôn Blewyn Coch, Wil Cwac Cwac a Winnie the Pooh. Pam, tybed, mae anifeiliad wedi’u personoleiddio mor boblogaidd mewn storïau i blant ac i ba bwrpas y gwneir hynny? Maes trafod diddorol.

  1. Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Nofel i’r arddegau wedi’i chomisiynu gan y CAA. Stori am efeilliaid 13 oed gafodd eu gwahanu ar eu genedigaeth a’u mabwysiadu.

Diolch, Sonia! Pob lwc efo’r sgwennu – a Popi.

Dogue de Bordeaux puppy, Freya, 10 weeks old, with young fluffy rabbit

 

Llyfrau Nadolig Hyfryd

Published Rhagfyr 4, 2014 by gwanas

getimg

getimg-1

Dau lyfr gwbl hyfryd gan Wasg Gomer ar gyfer y Nadolig yma – a phob Nadolig am flynyddoedd! Dau glasur, wedi eu darlunio gan ddau o fy hoff arlunwyr, Jac Jones a Brett Breckon.

1. Hosan Nadolig (£12.99): Llyfr clawr caled fydd yn anrheg i’w drysori. Pymtheg stori cwbl wahanol yn ymwneud â’r Nadolig, ddylai danio dychymyg plant a’u diddanu. Detholiad o’r gyfrol a gyhoeddwyd gyntaf ym 1994, gyda lluniau lliw bendigedig gan Brett Breckon. Y straeon wedi eu golygu gan Glenys Howells.

photo1

photo2

Mae yma straeon hyfryd gan awduron o Gymru ac o dros y ffin, rhai’n dal efo ni, a rhai wedi’n gadael. Roedd yr hen Leo Tolstoy yn gallu sgwennu stori dda, a T Llew Jones wrth gwrs. Mae’r rheiny yma, ac un o’r goreuon am sgwennu stori fer (yn fy marn i): Eleri Llewelyn Morris. Mae ei stori hi yn un wahanol iawn, a dwi’m yn siwr os fydd pawb yn hoffi’r diweddglo… Nid plentyn mohona i, ond ro’n i reit ypset ynglyn â be ddigwyddodd i’r anrheg druan!

Mi wnes i fwynhau’r addasiad o stori gan H.E. Todd hefyd, am dylwythen deg oedd yn hoffi mins peis. Da!

Ac roedd hon yn ddigri iawn:

photostori

Monolog gan athrawes yn ystod ymarfer olaf y cyngerdd Nadolig, tebyg iawn i fonolog Joyce Grenfell ers talwm. Bydd raid i chi brynu’r llyfr i weld y llun gwych sy’n mynd efo’r stori honno – a’r gweddill. Doedd pob stori ddim yn taro deuddeg i mi, ond mi fyddwch chi’n siwr o fod â’ch ffefrynnau, ac mi fydd PAWB wedi gwirioni efo’r lluniau.

2. Fersiwn newydd o’r hen ffefryn gan T. Llew Jones: Lleuad yn Olau.

Clawr caled eto a phapur sy’n hyfryd i’w gyffwrdd. Rhip o hen chwedlau traddodiadol o Gymru, ac mae lluniau Jac Jones yr un mor drawiadol, rhyfeddol a hudol ag oedden nhw yn 1989:

photojjphotojphotoj3

Ia, llun o hanes Gwylliaid Cochion Mawddwy ydi’r un uchod, mewn stori gwahanol iawn, iawn i fy fersiwn i yn Gwylliaid!
image

Mae fersiwn T. Llew yn agosach at y straeon glywais i yn blentyn, ond allwn i ddim peidio a meddwl bod ochr arall i’r stori. Dyna fy esgus i, o leia!

Mae’r gyfrol yma yn glasur go iawn, ac yn un drom – drud i’w gyrru drwy’r post dybiwn i. Ac mae fymryn yn ddrytach na’r llall: £14.99 ond yn werth pob ceiniog. Synnwn i daten na fyddai’n gwneud anrheg neis i Mam neu Dad os oedden nhw’n cofio a mwynhau’r llyfr pan roedden nhw’n blant.
Cofiwch chi, mae’r straeon yma’n mynd i godi llawer mwy o ofn arnoch chi na rhai Hosan Nadolig! Felly Hosan Nadolig i blant iau, a Lleuad yn Olau i blant sydd ddim yn poeni am gael eu dychryn. Iawn?

Dwy gyfrol i’w trysori, yn bendant.

Gwylliaid ar y ffordd!

Published Ebrill 12, 2014 by gwanas

Cofio fi’n ennill Gwobr Goffa T Llew Jones am sgwennu pennod o nofel? Y wobr oedd – ei gorffen hi!
Wel, mi orffenais i’r drafft cynta ddechrau Rhagfyr a dwi’n disgwyl y proflenni cyn bo hir. Dwi’m wedi sbio arni ers Rhagfyr ac mi fydd ei darllen hi eto yn brofiad rhyfedd, fel mae o bob tro dwi’n sgwennu llyfr. Gobeithio y bydda i’n hapus efo hi. Yn bwysicach, gobeithio y bydd y darllenwyr yn ei hoffi hi.
AAAA! Dechrau mynd yn nerfus rwan.

Ro’n i’n meddwl y byddai’n ddiddorol i chi weld y broses efo’r clawr. Ro’n i wedi deud o’r dechrau mai Brett Breckon oedd yr arlunydd delfrydol ar gyfer y llyfr yma, yn enwedig wedi iddo wneud cystal job ar Llwyth:

Unknown-9

Felly doedd ei syniad ( bras) cynta o ddim cweit be ro’n i wedi’i ddisgwyl:

image

Oes, mae ‘na gleddyf yn eitha pwysig i’r stori, ond Gwylliaid Cochion Mawddwy sydd bwysica, felly mi nath y golygydd roi disgrifiadau manwl iddo fo o rai o’r cymeriadau sy’n y llyfr ac mi nath o hwn bron yn syth bin:

Gwylliaid ar y ffordd

O, waw, ie! Cefndir du a’r eira gwyn – gwych, a’r Gwylliaid mewn dillad brown, plaen fel bod y gwalltiau coch yn saethu allan – dyna dwi isio. ‘Dalia ati, Brett,’ medda fi! Dwi wedi gofyn os gaiff un o’r cwn fod yn goch hefyd, sgwn i pam?!

DSC_0090

Mae Brett yn gweithio ar y fersiwn dyfrlliw, manwl rwan, a dyma lun roddodd o ar Facebook.

photo

Tydi o’n ddiddorol gweld sut mae o’n gweithio? Fedra i’m disgwyl i weld y canlyniad rwan!

Photo on 12-04-2014 at 20.22 #2