Valeriane Leblond

All posts tagged Valeriane Leblond

Mwy o lyfrau i’r plant iau

Published Tachwedd 25, 2019 by gwanas

Dwi wedi cael pecyn hyfryd o lyfrau plant GWREIDDIOL gan Wasg Gomer, rhai gan hen lawiau a rhai gan enwau newydd. Dyma ddau sydd yr un maint (eitha mawr):

IMG_4453

Ac un fymryn llai gan Nia Parry:

EKOb8j8XYAcyfak-1

Yn union fel ‘Siôn Corn a’r Anrheg Gorau Un’, mae ‘Gwyn y Carw Claf’ yn gywaith prydferth rhwng (y Prifardd) Tudur Dylan Jones a Valériane Leblond.

FullSizeRender

Yn hon, mae merch fach o’r enw Greta yn darganfod carw bach cloff yn y goedwig. Mae’n helpu’r carw bach drwy glymu ei sgarff am ei goes. Fisoedd yn ddiweddarach mae Gwyn, y carw bach, yn rhoi cnoc ar ffenest Greta ar Noswyl Nadolig ac yn mynd â hi ar antur gyda Siôn Corn.

IMG_4455

Yn anffodus, fel uchod, mae’r ysgrifen weithiau’n anodd ei weld, ond efallai mai fi a fy llygaid sy’n mynd yn hen. Ond y rhan fwya o’r amser, mae’r stori’n berffaith glir – ffiw!

FullSizeRender-1

FullSizeRender-3

Mae hi’n stori Nadoligaidd wirioneddol hyfryd, efo tro yn y gynffon fydd yn codi gwên, ac mae’r cwpledi’n llifo’n hawdd (wel, mae o’n brifardd, be dach chi’n ddisgwyl?) a dwi’n edrych mlaen yn arw i’w darllen hi ym Mhlas yn Rhiw Tachwedd 30 a Rhagfyr 1af (dwi wedi cael gwahoddiad i ddarllen yno yn eu dathliadau Nadolig eto eleni).

Partneriaeth newydd sbon ydi’r awdur Llio Maddocks a’r arlunydd Aled Roberts. Mae’r lluniau yn ‘Y Môr-leidr a fi’ yn fwy cartwnaidd, fel y gwelwch chi:

FullSizeRender-2

Mae Llio hefyd wedi mynd am gerddi bach sy’n odli, a hynny mewn ffordd llawer mwy boncyrs nag arddull dawel, hamddenol Tudur Dylan. Dwi wrth fy modd efo’r syniad a’r stori: mae’n llawn dychymyg, ac mi fydd unrhyw Nain yn hapus iawn yn darllen hon efo’i hwyrion. Mae’r plentyn yn hoffi dydd Gwener oherwydd mai Nain “sy’n fy nghasglu o’r ysgol, nid Mam.” Ha!

IMG_4460

Dan ni’n cael gweld wedyn pam fod cwnmi Nain yn gymaint o hwyl. Mae hi’n un dda am fwydo ei ddychymyg a dan ni’n cael gweld be mae hi’n ei guddio yn y cwpwrdd dan staer a be’n union yw ei chyfrinach. Cawn gwrdd â’r giang ar fwrdd y llong, parot, dolffiniaid a theigr!

Fy hoff ddarn i ydi hwn am gyrtens/llenni’r llofft. Iawn, hwyliau’r llong ta:

IMG_4458IMG_4459

Mae’r Carw yn £6.99 a’r Mor-leidr yn £5.99.

Llyfr cwbl wahanol ydi ‘Cwmwl Cai.’ Llyfr pwysig, allai fod o help mawr i blant bach fel Cai: bachgen bach sy’n cael ambell i bwl tywyll di-obaith lle mae o dan straen. Weithiau, mae bob dim yn iawn:

IMG_4462

Ond weithiau, mae o’n drist ac yn poeni:

IMG_4463
IMG_4465

Mae llawer o blant bach fel Cai yn y byd. Mae’r llyfr hwn yn normaleiddio’r teimladau dwys yma ac yn cynnig syniadau ymarferol i blant a’u gofalwyr am ffyrdd i godi’r cwmwl a chodi ysbryd.

IMG_4466FullSizeRender

Mae Nia, efo help arbenigwyr yn y maes, a lluniau Gwen Millward, wedi creu llyfr hyfryd am y technegau o lonyddu ac ymdawelu sy’n seiliedig ar ‘ymwybyddiaeth ofalgar’ neu ‘mindfulness’. Dwi’n siŵr y bydd o o gymorth mawr i blant fel Cai a’u teuluoedd. Mae ‘na lawer mwy o syniadau a thechnegau yn y llyfr, yn cynnwys rhoi dy hoff degan ar dy fol a’i wylio’n mynd i fyny ac i lawr wrth i ti anadlu. A dychmygu Mam yn diffodd y cyfrifiadur am dipyn.

Dwi’n siŵr y byddai’n talu i oedolion sy’n byw dan gymylau gael copi o hwn hefyd.

Ond dull arall o godi’r galon ydi mynd ar gwrs sgwennu creadigol i Ganolfan Tŷ Newydd, fel y gwnes i a chriw (arbennig) o ddysgwyr dros y penwythnos. Dyma fi a Sarah Reynolds, fy nghyd-diwtor – ar y dydd Sul, cofiwch!

EKKkmTVXYAEn3Oc

Mae hi wedi cyhoeddi 2 gyfrol yn Gymraeg ers dysgu Cymraeg yn rhugl:

Llyfrau hwyliog, ysgafn, sy’n donic – ond yn llawn gwirioneddau… ac mae hi’n gweithio ar nofel Saesneg ar hyn o bryd. Dwi’n edrych mlaen yn barod!

Y Cwilt

Published Tachwedd 13, 2019 by gwanas

9781784617974_300x400

Mi fyddwch chi wedi gweld darluniau Valériane Leblond o’r blaen, mewn llyfrau (rhai Caryl Lewis, Elin Meek a Haf Llewelyn er enghraifft), ar gardiau a chalendrau ac ati. Mae hi wedi ennill gwobrau am ei gwaith. Ond y tro yma, a hynny am y tro cyntaf erioed, hi sy’n gyfrifol am y geiriau hefyd.

Stori hyfryd, dawel a chynnil am ymfudo a hiraeth ydi hi. Mae teulu bychan yn gadael Cymru a mynd i chwilio am fywyd gwell yn America. Mae’r fam yn creu cwilt cyn gadael, ac mae’r cwilt hwnnw’n dod â chysur mawr pan mae hiraeth yn codi ar y daith ac wedi cyrraedd byd a bywyd newydd, diarth. Dyma i chi flas o’r dechrau:

20191113_165121.jpg

A dyma’r fam yn gweithio ar y cwilt. Mae’r defnydd o liwiau a phatrymau yn glyfar iawn drwy’r llyfr:

20191113_165204

Sbiwch ar y ffordd mae patrymau’r cwilt yn troi’n wenoliaid. Ac mi welwn ni wenoliaid fwy nag unwaith. A’r lliwiau hyn hefyd. Mae ‘na elfen o farddoniaeth yn y darluniau, yn bendant!

20191113_165231

Be am y geiriau? Dyma fwy i chi:

20191113_165416

20191113_165308

20191113_165358

Ia, cynnil, syml a phwyllog. Bydd rhieni a modrybedd/teidiau/neiniau ac ati wrth eu bodd yn darllen hon yn uchel i blant ifanc 3+ a bydd plant sy’n gallu darllen drostyn nhw eu hunain yn ei mwynhau hefyd. Dwi’n eitha siŵr y byddan nhw’n mwynhau sylwi ar yr ail-adrodd o liwiau a delweddau hefyd.

“Mae gen i ddiddordeb mewn cwiltiau a gwaith clytwaith ers fy arddegau, pan wnaeth fy mam gwilt i mi,” meddai Valériane, ac ers symud o Ffrainc i Gymru, mae hi wedi peintio a darllen llawer am y grefft gwiltio Gymreig, “sy’n hollol unigryw.” Mae’n mynnu ei fod yn llawer mwy na chrefft, “mae’n gelf haniaethol gain!” Mae’r gyfrol hyfryd hon yn hynod gain hefyd – llongyfarchiadau, Valériane! Mi wnaiff anrheg Nadolig gwych. Mae’n glawr caled ac yn fargen am £5.99 (Y Lolfa).

Gwobrau Tir na n-Og 2019

Published Mai 30, 2019 by gwanas

61828734_2180286615426017_4690271425884323840_o

Llongyfarchiadau i bawb! A ddeudis i bod Fi a Joe Allen yn lyfr arbennig, arbennig o dda nôl ym mis Mai 2018 yndo?

Mae Manon Steffan Ros wedi ei gwneud hi eto! Dyma i chi nofel ar gyfer darllenwyr 11-14 oed (yn ôl y cyhoeddwyr) (10-94 oed yn fy marn i) ddylai fod yn hynod o boblogaidd, yn bendant gyda phlant a phobl sy’n hoffi pêl-droed, ond hefyd gydag unrhyw un sy’n hoffi stori dda wedi ei dweud yn grefftus.

Penderfyniad gwych gan y beirniaid, a dwi’n gwybod bod Manon yn falch iawn bod yr hen Joe wedi curo Llyfr Glas Nebo. Difyr fydd gweld pa lyfr fydd yn ennill LLyfr y Flwyddyn rŵan ynde… pob lwc, feirniaid!

Llongyfarchiadau hefyd i’r 18 criw (ia, 18!) lwyddodd i gyrraedd Eisteddfod Caerdydd efo’u hymgomau BL 7,8,9, sef detholiad o fy llyfr i, Gwylliaid:

51xLV3OPoLL._SX322_BO1,204,203,200_

Ond llongyfarchiadau mwy i’r 3 gyrhaeddodd llwyfan y Brifwyl, o Ynys Môn, Plas Mawr (Caerdydd) a Chaernarfon.

Criw dawnus a hollol boncyrs o Gaernarfon enillodd y wobr gyntaf:

D70XPiGXsAEA_pw

Ac ro’n i’n cytuno’n llwyr efo’r beirniaid – roedden nhw i gyd yn ardderchog, ond roedd y Cofis wedi creu detholiad clyfar iawn, ac wedi actio’n gwbl wych. Ro’n i’n eitha nerfus cyn gwylio’r gystadleuaeth – be os na fyddai fy llyfr i’n ‘gweithio’ fel ymgom ar lwyfan? Ond diolch i’r nefoedd, ro’n i’n hynod falch o’r canlyniad.

O, a dwi wedi deall mai meibion y gwleidydd Guto Bebb ydi’r ddau hogyn oedd yn actio’r ‘gwylliaid’. Nefi!

Siôn Corn a’r anrheg gorau un

Published Rhagfyr 26, 2017 by gwanas

sion_corn_ar_anrheg_gorau_un

Braidd yn hwyr, mi wn, ond mae’r gyfrol hyfryd hon wedi gwerthu’n dda iawn, iawn, mae’n debyg, (llyfr y mis i blant, fis Tachwedd) felly doedd hi ddim angen fy help i – ac mi fydd yn siŵr o werthu’n dda eto Nadolig nesa ac am sawl Nadolig i ddod. Mae’r ffaith bod 2 fersiwn ar gael – Cymraeg a Saesneg (Santa’s Greatest Gift), yn help, hefyd. Llyfr sy’n sôn am Gymru yn Saesneg – ieee!

Tudur Dylan pia’r geiriau

dylan_01

a dyma enhraifft ohonyn nhw:

image

Ydi, mae’r cyfan yn odli. Bardd ydi o, be dach chi’n ddisgwyl? Ac mae o’n gallu odli yn Saesneg hefyd:

image

Ac mae darllen y fersiynau Cymraeg a Saesneg efo’i gilydd yn hwyl! Ymarfer da i Gymry bach wella eu Saesneg ac i ddysgwyr bach (a mawr) wella eu Cymraeg.

Valériane Leblond pia’r lluniau hyfryd:

DQSXNyIWAAAi3iB

image

image

a da ydi’r map o Gymru:

image

Mae’n gyfrol wirioneddol hardd ddylai apelio at blant hyd at rhyw 8-10 oed, unai fel llyfr i’w ddarllen yn uchel i’r rhai bach amser gwely neu i’r rhai hŷn ei ddarllen drostyn nhw eu hunain. Ac fel ddeudes i eisoes, mi fydd yn apelio bob Nadolig am oes! Fydd Gwydion bach yn cael anrheg Nadolig fel pawb arall? Mi fydd raid i chi gael copi o’r llyfr i weld yn bydd?

Merch y Mêl

Published Tachwedd 18, 2017 by gwanas

image

Mae’r cyfuniad o Caryl Lewis a Valériane Leblond wedi profi’n un llwyddiannus eto. Mae Merch y Mêl yn wirioneddol hudolus o ran stori a lluniau.

Dyma ddechrau’r stori:

image

Dydi Valériane ddim wedi darlunio’r geiriau yn llythrennol, ond wedi ychwanegu cefndir a lleoliad a ‘chymeriadau’ gwahanol efo’r deryn du a’r sgwarnogod a’r eira ( bydd raid i chi brynu eich copi eich hun i weld y llun yn iawn!). Rydan ni’n gwybod yn syth bod natur yn ran bwysig o’r stori.

Ac mae’n stori hyfryd, hamddenol am Elsi dawel, drist (chawn ni ddim gwybod pam fod “ei chalon hi’n drwm, a’i thafod yn drymach”, mae o i fyny i ni greu ein stori ein hunain) a’i Mam-gu, sy’n rhoi gobaith a hapusrwydd ym mywyd y ferch fach drwy ei dysgu am y gwenyn mêl.

image

Mae Elsi’n dysgu am y frenhines ac am y planhigion mae’r gwenyn yn eu hoffi.

image

Rydan ni’n mynd o un tymor o’r flwyddyn i’r llall yn araf bach, ac yn cael ein dysgu, fel Elsi, “Cofia, yn nyfnder gaeaf, y daw’r haf eto yn ei dro…’

Mi fydd pob Mam-gu wrth ei bodd efo’r stori hon. A deud y gwir, mi ddylai pawb fwynhau’r stori hon. Mae’n dysgu bod pethau wastad yn gallu newid a gwella, ac y daw eto haul ar fryn.

Mae hi hefyd yn dysgu plant (ac ambell riant o ran hynny) am enwau blodau a phlanhigion. Roedd hynny’n bendant yn fwriad gan Caryl, gan ei bod yn teimlo fod plant y dyddiau yma mewn perygl o golli geiriau a thermau o fyd natur, fel ‘bysedd y cŵn’, ‘cynffonau ŵyn bach’ a ‘meillion.’ Cytuno gant y cant. Fy hoff atgofion i o’r ysgol gynradd oedd cael mynd am ‘nature walk’ efo Mr Morgan. Ie, dyna roedd o’n eu galw nhw, ond roedd enwau’r adar a’r planhigion yn ddwyieithog. Dyw plant bach ddim yn cael cyfleon felna yn yr ysgol bellach, ac onibai fod ganddyn nhw rieni (efo’r amser a’r egni) neu nain neu daid neu fodryb i fynd â nhw am dro yn y caeau a’r coedwigoedd, bydd y termau Cymraeg yn cael eu colli.

Cafodd Caryl ei hysbrydoli hefyd gan y gwenyn mêl mae’n eu cadw ar ei fferm yng Ngoginan. Deall yn iawn eto – mae cadw gwenyn yn rywbeth hudolus ac mor, mor ddifyr.

image

Dwi newydd sgwennu nofel i’r arddegau gafodd ei hysbrydoli gan fy ngwenyn mêl i, ond mewn ffordd cwbl wahanol!

Mae merch Caryl, Gwenno wedi dechrau gofalu am y gwenyn hefyd, yn union fel Elsi yn y stori. A dwi’n siŵr bod Caryl wedi creu’r llythyren ‘G’ yn uwd Gwenno! Dyma hi, gyda llaw, yn tynnu lluniau môr-forynion yn y Steddfod yn Sir Fôn eleni:

FullSizeRender 2

Yr un lliw gwallt â Elsi – a Caryl – a’r mêl…

Llyfr i’w drysori yn bendant, ac yn anrheg Nadolig perffaith. ( £5.99 Y Lolfa)

Calendr 2018 ar gyfer plant

Published Medi 13, 2017 by gwanas

DJiIWEaXoAEWjTR

Syniad gwych gan Y Lolfa! Calendr lliwgar gyda 12 llun o 12 llyfr plant gwreiddiol y Lolfa a gyhoeddwyd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’n cynnwys lluniau gan artistiaid fel Jac Jones, Janet Samuel, Valériane Leblond ac Angharad Tomos.

Dwi ddim wedi gweld tu mewn y calendr eto ond os oes rhywun isio prynu anrheg Nadolig i mi – mi wnaiff hwn yn champion. Dim ond £4.99 gyda llaw.

Ia, do, dwi wedi gwirioni am fod lluniau Coeden Cadi ar y clawr, ond mi faswn i isio copi beth bynnag. Mae angen mwy o bethau fel hyn yn does?  Nwyddau sy’n tynnu sylw at lyfrau a chymeriadau a darluniau gwreiddiol o Gymru.

Mae ‘na gardiau ‘Snap’ Rwdlan ar gael eisoes:

9781847719560_1024x1024

A llwythi o grysau T ac ati

1000000000027

Ac mae brand Sali Mali yn cael ei ddefnyddio’n dda hefyd:

51+ygcTuRgL._SX258_BO1,204,203,200_poster_wyddor_sali_malimawrdoli_sali_mali_1

Ond mae ‘na lawer mwy o lyfrau plant gwreiddiol da ar gael rwan, efo darluniau gwirioneddol wych. Tipyn o gambl fyddai i wasg archebu llwyth o nwyddau wedi eu seilio ar un llyfr neu gymeriad y dyddiau yma, ond drwy ddod â sawl llyfr at ei gilydd fel hyn – bingo. Da iawn Y Lolfa.

Be am bapur lapio? Papur wal? Bagiau? Sanau? Printiau o’r lluniau mewn ffrâm? Ond hyd yn oed tase pob teulu efo plant Cymraeg yn cefnogi nwyddau Cymraeg, a fyddai hynny’n ddigon i’w wneud yn fenter busnes call? Dwn i’m. Ond mi fyddai’n rhaid sicrhau bod y llyfrau a’r cymeriadau yn ddigon adnabyddus yn gyntaf, a dydi hynny ddim yn hawdd pan yn cystadlu efo’ch Peppa Pincs a’ch cymeriadau Disney.

Mae rhai o’r arlunwyr yn cynnig gwerthu eu paentiadau gwreiddiol, fel hwn o Trysorfa Chwedlau Cymru ( Gomer) gan Brett Breckon :

a11d99_794a5bebec1afea1095931edb384aa5e

Ond y llun gwreiddiol ydi o – ac mae’n £500. Ond yn werth bob ceiniog wrth gwrs! Ond efallai yn fwy addas i blant hŷn…

Be am hwn, o Hosan Nadolig ( Gomer) i blant iau? £600.

a11d99_9e591e07d1a542e6abcf5da2243372ec

Mae gan Valeriane Leblond wefan, ond dim lluniau yn ymwneud â’r llyfrau mae hi wedi eu darlunio hyd y gwela i. A dwi methu dod o hyd i wefannau Jac Jones na Janet Samuel! Dim angen gwefannau yn amlwg. A phwy ydw i i feirniadu? Mi wnes i wefan oes yn ôl ond mae o wedi diflannu!

 

Hoff Lyfrau Anni Llŷn

Published Rhagfyr 16, 2016 by gwanas

Yr awdur diweddaraf i ateb fy nghwestiynau am ei hoff lyfrau plant ydi Anni Llŷn, sef Bardd Plant Cymru 2015-17, cyflwynydd pob math o raglenni plant a rhywun hynod dalentog sy’n gallu troi ei llaw at bob math o bethau!

annillyn01

p03c4ngn

Fel mae ei henw yn awgrymu, mae’n dod o Ben Llŷn ( Sarn Mellteyrn) ond yn byw yng Nghaerdydd ers tro. Mae newydd briodi Tudur Phillips ( rhywun arall hynod dalentog)

co2gdktwcaa8sgs

Ro’n i yn y parti priodas fel mae’n digwydd – noson dda!

A dyma rai o’i llyfrau hi:

9781847718402

A dyma atebion Anni:

Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?

Ysgol Gynradd:

Cymraeg – wrth fy modd pan o’dd Mam yn darllan cyfrola’r Mabinogion gan Gwyn Thomas efo lluniau hudolus Margaret Jones.

51ynd89s4l-_sx356_bo1204203200_

Saesneg – dwi’n cofio cael cyfnod o ddarllen Jaqueline Wilson ond does ’na ddim un llyfr penodol yn aros yn y cof.

Ysgol Uwchradd:

Llinyn Trôns, Bethan Gwanas!!  ( Diolch Anni – Bethan)

51m-rbd55hl

Luned Bengoch, Elisabeth Watkin-Jones.

c09999636887293596f79706741434f414f4141

Dwi ddim yn cofio llawer o lyfra Saesneg ond dwi yn cofio darllen llyfra Roald Dahl – dim clem pa oed!

  1. Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Nes i ddarllen ‘Gwalia’, Llyr Titus (gwych!)

getimg

a ‘Pedair Cainc y Mabinogi’, Sian Lewis ddechra’r flwyddyn

9781849672276_1024x1024

ynghyd ac addasiadau Cymraeg o lyfra Roald Dahl.

Dwi newydd brynu ‘Pluen’ Manon Steffan Ross,

getimg

edrych ymlaen i’w darllen a dwi wrthi’n darllen llyfrau Cyfres Clec, Gwasg Carreg Gwalch. Dwi’n darllen cyfrolau barddonol i blant yn weddol aml, ‘Agor Llenni’r Llygaid’, Aneirin Karadog yn dda!

agor_llennir_llygaidmawr

  1. Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Wnaeth Valériane Leblond ddarluniau cwbl arbennig i fy nghyfrol farddoniaeth i ‘Dim Ond traed Brain’, wrth fy modd efo’i gwaith hi.

dim_ond_traed_brain

Dwi newydd fod yn gweithio ar gyfrol ddwyieithog fydd allan cyn bo hir gyda elusen BookTrust Cymru o’r enw ‘Pob un bwni’n dawnsio!’ – llyfr ‘Everybunny Dance!’ gan Ellie Sandall ac mae ei darlunia hi’n hyfryd hefyd.

everybunny-dance-9781481498227_hr

  1. Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Dwi ddim yn gwybod be nath i mi ddechra sgwennu ond mwya’n byd dwi’n meddwl pam mod i’n gwneud dwi’n teimlo mai rhyw chwilfrydedd ydi o. Dwi’n rhyfeddu at allu awduron i fod yn bwerus gyda geiriau, i fedru creu bydoedd, i athronyddu, i gwmpasu teimladau a syniadau. Dwi’n hoffi’r syniad o fynd mewn i dy ben dy hun a herio dy hun i ddarganfod y plethiad mwyaf effeithiol o eiriau i gyfleu beth bynnag sy ’na. Ond dim ond pan dwi’n ystyried y peth go iawn dwi’n meddwl am hynny i gyd. Dwi’n meddwl mai’r ateb syml ydi mod i’n mwynhau gwneud a thrwy wneud, dwi’n gobeithio fy mod i’n annog plant i ddarllen ac ymddiddori mewn sgwennu eu hunain.

  1. Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Y rhyddid, does dim rhaid cael ffiniau o gwbwl!

  1. Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.

Dwi heb gyhoeddi nofel ers ‘Asiant A’ –

9781847718402

nofel ysgafn am ferch ysgol sy’n ysbïwraig gudd. Ond yn y misoedd dwytha wedi cyhoeddi straeon i blant bach – ‘Cyw yn yr Ysbyty’ a ‘Fy llyfr Nadolig cyntaf’

sy’n lyfrau bach syml i blant meithrin, neu wrth gwrs, yn lyfrau da i blantos sy’n dechrau darllen!

  1. Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Ar y ffordd, mae ’na gyfrol farddonol ar y cyd â beirdd eraill a nofel ddoniol i blantos cyfnod allweddol 2!

Diolch yn fawr Anni – edrych mlaen at weld y nofel ddoniol newydd!