Cystadleuaeth lliwio Cadi:
Mae Janet Samuel, Meinir Y Lolfa a finnau wrthi’n gweithio ar lyfr lliwio Cadi, sy’n cynnwys lluniau o’r pedwar llyfr sydd yn y gyfres hyd yma. Dyma’r llun fydd ar y clawr:

A deud y gwir, mae’r lluniau a’r posau i gyd yn barod (diolch, Janet!) a dwi wedi sgwennu brawddegau ar gyfer pob llun. Meinir sy’n goruwchwylio a golygu’r cwbl o’i chartref. Ond does ‘na neb yn y Lolfa i argraffu ac ati am sbel, nag oes! Felly yn y cyfamser, mi gafodd Gwenllian, y ferch greadigol sy’n gwneud gwaith marchnata Y Lolfa, y syniad gwych o gynnal cystadleuaeth lliwio.

Mi allwch chi weld a lawrlwytho’r daflen i’w lliwio fan hyn: https://rebrand.ly/Cadi
Mae gynnoch chi fis i liwio! Dyddiad cau: 30 Ebrill 2020
Ond cofiwch, os nad oes gynnoch chi argraffwr, mi allwch chi gopïo’r llun neu greu eich dehongliad eich hun, dim problem. Pob lwc! Dwi’n edrych ymlaen yn arw at gael gweld eich lliwiau llachar chi.
PROLOG MERCH Y GWYLLT
Dwi’n sgwennu ar gyfer oedolion hefyd wrth gwrs, ac ar gyfer oedolion YN UNIG mae Merch y Gwyllt sydd i fod i gael ei gyhoeddi yn yr haf… ryw dro… rhyw sut.

Gwasg Gomer sydd yng ngofal y nofel honno, ac mae eu Mr Marchnata nhw, Sam, yn llawn syniadau creadigol hefyd. Roedd o am i mi ddarllen fersiwn sain o’r Prolog, sydd ddim yn hir o gwbl, ond diolch byth, mi wnaeth actores go iawn sy’n ffan o Gwrach y Gwyllt gynnig ei chymorth: Fflur Medi Owen:


Ia, hi! Un o’n hactoresau gorau ni. Ers dechrau’n ifanc iawn efo Rownd a Rownd (dyna sut ddois i i’w nabod hi gynta) mae hi wedi gwneud llwyth o bethau: Pili Pala yn ddiweddar, Blodau, Y Tad, a wna i byth anghofio ei pherfformiad fel Iesu Grist yn Iesu! drama Aled Jones Williams.
Wel, mae ganddi’r llais perffaith ar gyfer llyfrau hefyd. Dwi wedi gwirioni efo’i pherfformiad. Ro’n i’n bownsio rownd y tŷ ar ôl gwrando arno!
A dyma sut mae Nici Beech wedi ei ddisgrifio:
Trît amser te!
Dyma prolog Merch y Gwyllt – dilyniant i Gwrach y Gwyllt gan Bethan Gwanas sydd i fod i ddod allan mis Mehefin.
Perffaith efo panad…6 munud a hanner o hyd ac yn cael ei ddarllen gan yr hyfryd Fflur Medi Ferch Rhiannon
Felly, os oes gynnoch chi 6.5 munud i’w sbario/llenwi, ac yn enwedig os oes gynnoch chi nam ar eich golwg, cliciwch ar hwn:
https://amam.cymru/GwasgGomerPress
Mwynhewch!

A sôn am lyfrau sain, mae @BorrowBox ar gael o’ch llyfrgell am ddim, er eu bod wedi cau. Mae ‘na e-lyfrau llafar ac e-lyfrau Cymraeg arno, ar gyfer plant ac oedolion. Yn ôl Bethan M Hughes (sy’n gweithio yn y maes):
Y cwbl sydd angen ei wneud ydi lawrlwytho’r ap, creu cyfrif hefo’ch cerdyn llyfrgell, ac awê! Mae modd ymaelodi arlein trwy wefan eich llyfrgell/cyngor. Yn yr ap chwiliwch dan ‘categori’ am y rhai Cymraeg.
Pob hwyl ar y gwrando – a’r lliwio!