llyfrau Cymraeg

All posts tagged llyfrau Cymraeg

Cystadleuaeth Llyfrau Ysgolion Cymru

Published Ebrill 29, 2017 by gwanas

Mae’n siwr bod y rhan fwyaf o ysgolion cynradd sydd wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth flynyddol hon wedi bod, neu ar fin mynd drwy’r rowndiau sirol bellach. Mae’n gystadleuaeth wych a hynod bwysig ar gyfer hyrwyddo llyfrau a darllen.

2744.14801.file.eng.Tlws-Anwen-Tydu-Bl-3-a-4-2011.542.400

Ysgol Dyffryn Banw (Powys) – Enillwyr Blynyddoedd 3 a 4. 2011

Nid yn unig mae’n annog plant i drafod a pherfformio darnau o’r llyfrau ond mae’r rhai sy’n cyrraedd y rownd derfynol yn cael llyfr am ddim!

2743.14799.file.cym.Tlws-Anwen-Tydu-Bl-5-a-6-2011.600.400

Ysgol Gymraeg Treganna a Than yr Eos (Caerdydd) – Enillwyr Blynyddoedd 5 a 6. 2011

A gwobrau ariannol i’r ysgolion. Gwych.

Ond mae gen i gwyn: mae’r ysgolion yn gorfod dewis o restr llyfrau sy’n cael eu dewis gan bwyllgor y Cyngor Llyfrau. Dyma i chi’r rhai sirol ar gyfer 2017:

darllen dros gymru 56

Llwyth o lyfrau da. Ond mae David Walliams a Roald Dahl yn eu canol nhw. Rwan ta, gan fod athrawon yn bobl brysur tu hwnt, efo hen ddigon ar eu platiau fel mae hi, faint ohonyn nhw sy’n mynd i drafferthu darllen pob un er mwyn dewis pa rai i’w perfformio a’u trafod? Onid yw’r demtasiwn i fynd am y rhai enwog, y rhai y bydd y plant yn gwybod amdanyn nhw yn barod, yn ormod? Felly oni fydd y rhai gwreiddiol Cymraeg, sef y rhai SYDD ANGEN y sylw a’r gwerthiant, yn cael eu hanwybyddu? Pam na fedr y rhestr gael ei chyfyngu i rai gwreiddiol yn unig?

Os oes ‘na brinder rhai gwreiddiol Cymraeg, wel mae angen buddsoddi, ‘does? Ar y linc isod mae rhestr o’r 10 llyfr i blant werthodd orau yn ystod Mawrth 2017. Pob un wan jac yn addasiad:

http://www.gwales.com/ecat/?sf_ecat_id=1133&interest=0&available=0&tsid=2

Sori i swnio fel tiwn gron, ond mae hynna, i mi, yn sefyllfa hynod drist.

Yn ôl at y gystadleuaeth. Dyma ddewis rownd sirol y criw Bl 3 a 4:

3 a4

Mwy o rai Cymraeg fan hyn, diolch byth (a Coeden Cadi – ieee!). Difyr fyddai cael gwybod faint o ysgolion ddewisodd drafod a pherfformio addasiadau yn y ddau gategori. Efallai bod fy ofnau’n gwbl anghywir, wrth gwrs. Ond dwi’n amau…

Wedyn dyma’r dewis ar gyfer y rowndiau cenedlaethol:

cen 56

Tri addasiad – a dau yn hynod adnabyddus eto… hm.

A’r dewis i Bl 3 a 4:

cen 34

Dau addasiad eto. Sgwn i pa rai gaiff eu dewis? Pa rai fyddech chi’n eu dewis i’w trafod a’u perfformio?

Pob lwc i bawb sy’n cystadlu beth bynnag. Mae’r trafod a’r perfformio wastad mor dda yn y rowndiau cenedlaethol, mae’n bechod nad oes modd i mwy o bobl eu gweld a’u clywed wrthi. Mae ‘na ambell berfformiad ar gael ar youtube, ond dydi safon y ffilmio ddim yn wych, gyda phob parch! Bechod na fyddai’r cyfryngau yn ymddiddori mwy yn y gystadleuaeth ynde?

Ond dyna fo, nid pawb sy’n credu bod llyfrau yn bwysig. Ond sbiwch ar y llun yma o Irac:C-Y4Dv_XUAUeN9L

Ydyn, mae gwerthwyr llyfrau yn eu cadw allan ar y stryd. Does dim angen poeni am law yn eu difetha, ond yn bwysicach, does dim angen poeni am bobl yn eu dwyn chwaith! Pam? Oherwydd, yn ôl y llyfrwerthwyr:

“The reader does not steal and the thief does not read.”

Da ‘de!

 

 

 

 

 

Advertisements

Clwb Darllen Tudur Owen

Published Ebrill 5, 2014 by gwanas

Wel dyna ni, cafwyd y sgwrs gynta am lyfrau ar rhaglen radio Tudur.
Dyma’r linc: http://www.bbc.co.uk/programmes/b03zj8n2
Roedden ni mlaen toc ar ôl 4.00 er mwyn i chi gael symud y cursor yn ei flaen at fanno.

Inc oedd dan sylw:
photo inc

Ond y fath siom! Doedd Manon ddim yno – ar ei gwyliau myn coblyn! A neb yn siwr os ydi hi wedi ei ddarllen o chwaith. A doedd Dyl Mei ddim wedi ei ddarllen o, y crinc bach – ac yntau wedi cael mis i wneud hynny, a dim ond llyfr bach tenau ydi o! O’n, ro’n i’n teimlo fel athrawes oedd wedi disgwyl gwaith gwych gan ei disgyblion, dim ond i ddeall nad oedd y diawlied wedi gneud y gwaith cartre roedd hi wir wedi meddwl fydden nhw’n ei fwynhau.
image

Dwi’n sylweddoli rwan bod na dalcen caled fan hyn. Wel, yn Manon a Dyl Mei. Roedd Tudur a Gareth wedi bod yn gydwybodol tu hwnt ac yn siarad yn wych a gonest am nofel Manon Steffan. Y ddau wedi mwynhau (sgôr o 8/10 gan y ddau), ond yn gweld gwendidau. Un oedd yr arddull eitha ffurfiol, safonol, o ddefnyddio pethau fel ‘beth’ yn lle ‘be’ a ‘dweud’ yn lle ‘deud’, ‘eisiau’ nid ‘isio’, sef y ffordd y byddai pobol go iawn o ardal Bethesda yn siarad.

Ond dwi’n digwydd gwybod mai dyna’r polisi efo cyfres Stori Sydyn, sef i osgoi tafodiaith fel bod pawb dros Gymru gyfan yn deall. Ydi hyn yn gweithio? Neu ydach chi’n colli gormod o’r naturioldeb drwy lynu at y “rheolau”? Trafodwch…

Gobeithio i bawb fwynhau’r sgwrsio beth bynnag. Ymhen y mis, mi fyddwn ni’n trafod hwn:
image

Craciau. Wedi ei leoli yn Sir Fôn, a dyna un rheswm dros ei ddewis, i drio bachu diddordeb Manon Rogers! Fymryn bach hirach na Inc, plot cry, a tase fo’n ffilm, mi fyddai’n rhaid gwario ffortiwn ar special effects… Fydd Manon yn ei fwynhau o? Fydd Dyl Mei yn fy siomi eto? Er, roedd yr awdures ei hun ar fai am ddeud wrtho i beidio a thrafferthu darllen Inc a dal ati i lysho… Mae isio gras!
image

Ond dwi hefyd wedi dewis un ar gyfer y mis wedyn, ac am ei fod o’n lyfr go dew, mi ddylai 2 fis o rybudd fod yn ddigon, siawns.
image

Nid i’r gwan-galon na phobl sydd isio llyfr bach neis neis…

Be dach chi’n ei feddwl o fy newis i? Ydw i’n disgwyl gormod o bobol sydd ddim yn darllen llawer o lyfrau Cymraeg fel arfer? Dwi’n eitha siwr be fydd ymateb Tudur a Gareth, ond am y ddau arall… Pwy a wyr?