Cyfres Halibalŵ

All posts tagged Cyfres Halibalŵ

Dau lyfr plant gyda lluniau hyfryd

Published Tachwedd 11, 2018 by gwanas

Fydda i ddim yn rhoi sylw i addasiadau o’r Saesneg fel arfer, ond mae’n wahanol pan mae’r stori’n Gymreig ac wedi ei gosod yng Nghymru ac wedi ei chreu gan rywun sy’n byw yng Nghymru, fel yr arlunydd/awdur Graham Howells o ardal Llanelli.

Graham_Howells-150x150

Mae o’n adnabyddus am wneud lluniau o’r byd llawn hud a lledrith, ac mae o ar ei orau yn Y Bwbach Bach Unig.

20181111_120229

Fo greodd y stori yn ogystal â’r lluniau ac mae na fersiwn Saesneg wedi ymddangos yr un pryd â’r fersiwn Gymraeg. Angharad Elen wnaeth yr addasiad.

angharad-elen

Dwi wedi gwirioni efo’r lluniau, maen nhw’n wirioneddol hyfryd a manwl a llawn dychymyg, ac mi faswn i wedi gwirioni yn hogan fach hefyd.
20181111_12042420181111_120315

Ond be am y stori? Mi faswn i wrth fy modd efo hon yn blentyn tua 7-9 oed i’w darllen ar fy mhen fy hun, yn iau efo help oedolyn wrth gwrs. Mae cymeriad y Bwbach yn cydio yn y dychymyg, a bydd pawb yn cydymdeimlo efo fo wrth iddo weld ei fwthyn bach yn cael ei chwalu o flaen ei lygaid. Rydan ni wedyn yn mynd ar daith drwy Gymru efo fo i chwilio am ei fwthyn, yn cyfarfod anifeiliaid a chreaduriaid cyfeillgar a rhyfedd – a phlant ysgol clen iawn. Ac yn y fersiwn Gymraeg o leia, yn cael amrywiaeth o acenion ar y ffordd.
20181111_120255
Mae’r stori’n cyrraedd (sori – SBOILAR!) Sain Ffagan yn y diwedd, ac os ydach chi wedi bod yno erioed neu am drefnu taith yno, byddai’r llyfr bach hwn yn berffaith i’w ddarllen cyn, yn ystod neu ar ôl y daith. Dwi isio mynd yn ôl yno ar ôl darllen y stori hon, beth bynnag!
Ro’n i hefyd wrth fy modd efo’r darn am sut mae rhai plant wedi eu rheoli gan sgriniau, ac oherwydd eu bod mor gaeth i’w ffonau a’u ipads, dydyn nhw methu gweld y Bwbach!
20181111_120720

Dwi’m wedi gweld y fersiwn Saesneg, ond mae’r blyrb ar Gwales yn sicr yn llifo’n well – a haws – na’r fersiwn Gymraeg. O ran y stori Gymraeg, mae’n darllen yn hyfryd a thelynegol, ac mi fydd yn hudo darllenwyr da sy’n mwynhau dysgu geiriau ac ymadroddion newydd, ond dwi’n teimlo y byddai’n anodd iawn i ddarllenwyr llai galluog, ac yn sicr, plant ail-iaith.
Mae iaith hen ffasiwn, hynafol y Bwbach a Gwyn ap Nudd yn gweddu wrth gwrs, ond dwi’n teimlo y gellid bod wedi symlhau y dweud rhyw fymryn bach yng gweddill y stori. Ond efallai y bydd plant, rhieni ac athrawon yn anghytuno efo fi. Gawn ni weld – rhowch wybod!
20181111_120552
Gyda llaw, do’n i methu dallt be oedd ‘gosog’ – ond goshawk wrth gwrs. A finna wedi cael fy nysgu mai Gwalch Marth ydi o. Mae’r ddau’n gywir am wn i!
Northern_Goshawk_w13-12-019_l

Anrheg Nadolig hyfryd – Gwasg Gomer. £5.99

Yr ail lyfr ydi: Tomos Llygoden y Theatr sydd hefyd ar gyfer plant 7-9 oed yn ôl Gwales, 6-8 yn ôl Gwasg Carreg Gwalch. Wel…rhywle o gwmpas fanna ta.

20181110_134237

Mae hwn wedi ei greu ar y cyd gan Caryl Parry Jones

p03qr02z
a Craig Russell. Actor ydi Craig fel arfer, ac yn byw yng Nghwmtwrch mae’n debyg. Ac mae ei yrfa o’n egluro syniad y stori!

MV5BMTYxZWQxNzAtNDliYy00NWE1LWIwZDMtN2E5ZjZjMDU2Mjc4XkEyXkFqcGdeQXVyMjA2NzMxMjU@._V1_UY317_CR20,0,214,317_AL_

Wel, maen nhw’n gweithio’n dda efo’i gilydd! Mae’n stori fach hyfryd am Tomos yn cael gwireddu ei freuddwyd i fod yn actor. Weithiau, mae ‘na gryn dipyn o sgwennu,

20181111_122209

ac weithiau mae ‘na dipyn llai
20181110_133944
sy’n ei gwneud hi’n stori fwy addas i blant o bob gallu.

A dwi wrth fy modd efo’r ffordd mae’r testun a’r lluniau yn priodi i fewn i’w gilydd.
20181111_135432

20181110_134058

Arlunydd newydd i fyd llyfrau Cymraeg ydi Leri Tecwyn o Rosgadfan, a dwi’n digwydd ei nabod hi; roedd ei mam hi, Rhian Cadwaladr yn y coleg efo fi.
Dyma lun o Leri:

4865668627_ff0027a6ee_b

A dyma lun o un o gymeriadau’r llyfr, ac er fod y gwallt yn gwbl wahanol, dwi’n gweld y wyneb yn debyg iawn iddi!
20181110_134141

Mae ei harddull hi’n hollol wahanol i un Graham Howells, ond yn gweddu’n berffaith i’r stori fach hyfryd hon. Y gyntaf mewn cyfres mae’n debyg.

20181110_134212

O a dwi’n hoffi maint y llyfr hefyd – bychan iawn, ond hawdd i’w gadw mewn llaw neu fag ysgol/penwythnos.

Anrheg Nadolig hyfryd arall – Gwasg Carreg Gwalch. £4.95

O, a diolch i Shoned M Davies, Swyddog Ysgolion Gogledd Cymru
Cyngor Llyfrau Cymru am yr ymateb yma ar Twitter i Gyfres Halibalŵ yn y 2 flog dwytha:

Mae’r gyfres yma yn cael ymateb gwych yn yr ysgolion…nodiadau ar gael am ddim i’r athrawon hefyd (link: https://www.aber.ac.uk/cy/caa/web-projects/)

Dwi wedi gweld y nodiadau ac maen nhw’n wych!

Tŷ Tomi Treorci. Cyfres Halibalŵ

Published Tachwedd 9, 2018 by gwanas

20181109_100216

Dyma un arall o’r 6 llyfr newydd sbon danlli ar gyfer plant 7-11 oed yng nghyfres Halibalw.

Dafydd Llewelyn sydd wedi sgwennu hon, a dyma ddisgrifiad ohono ar y clawr cefn:

20181109_100913

Ia, Dafydd ei hun sgwennodd y disgrifiad, a dwi’n amau’n fawr os ydi o’n byw mewn hofel go iawn! Ond mae’r hunan-bortread yna’n rhoi syniad i chi o’i hiwmor o. O, a gweithio ar gyfresi fel Casualty mae o, dyna egluro’r “llunio straeon a geiriau i bobl ddychymygol.”

Mae o wedi sgwennu llyfr arall i blant, sef hwn:
getimg

ac os wnaethoch chi fwynhau hwnna, mi wnewch chi fwynhau hon! Ac os ydach chi’n hoffi tyrchod, mi fyddwch chi wrth eich bodd.

Mae Tomi, y twrch daear, a’i deulu yn paratoi i symud. Dydi eu cartref ddim yn ddiogel i fyw ynddo bellach wrth i beiriannau mawr adeiladu stad o dai crand ar eu pennau nhw. Ond mae Tomi’n benderfynol o frwydro…

Mae’n f’atgoffa chydig bach o lyfr am gwningod roedd pawb yn ei ddarllen pan ro’n i tua 11 oed yn y 1970au, sef Watership Down:

richard-adams-watership-down-paperback-book-cover-FYHJFY

Ond mae honno’n llawer iawn mwy gwaedlyd a brawychus – peidiwch â phoeni, dydi hanes Tomi ddim yn mynd i roi hunllefau i chi! Mae’n stori ysgafn, llawn hiwmor efo diweddglo hapus. Dyma’r dudalen gyntaf:

20181109_100231

a llun Tomi a’i fam:
20181109_100252

Fel y gwelwch chi, mae’n arddull hawdd iawn ei ddarllen, er fod ambell air go hir yn nes ymlaen, ac os yw plant y de yn teimlo “O na, llyfr arall yn iaith gog i gyd”, na – mae’r ferch fach mae Tomi’n ei chyfarfod yn dod o’r de – Treorci! Cliw yn y teitl… ac mae Dafydd wedi cynnwys pethau fel hyn:

20181109_100830

Mae’r cymeriadau yn annwyl iawn a phethau bach od fel y ffaith fod Tomi yn hoffi bwyta nid pryfed genwair/mwydod
Worm_Hi_Res_300x300
fel y byddech chi’n ei ddisgwyl, ond brechdanau caws Caerffili a thomato, yn codi gwên. Mae dychymyg Dafydd yr awdur wastad wedi bod fymryn yn wahanol. A dim ond y ffaith mai oedolyn ydw i wnaeth i mi godi ael wrth ddarllen “Bu bron i ddannedd gosod Meirion syrthio i’r llawr”. Tad Elisabeth y ferch fach ydi Meirion. Os ydi hi tua deg oed, mae’n rhaid ei fod o’n dad go hen i fod â dannedd gosod! Ond efallai ei fod o wedi cael damwain rygbi… be wn i?

Llyfr bach hwyliog arall, yn chwarae efo acenion gwahanol Cymru a gwneud i chi feddwl am fywydau tyrchod. A lluniau hyfryd gan Anne Lloyd Cooper.

Iârgyfwng! Cyfres Halibalŵ

Published Tachwedd 4, 2018 by gwanas

Ieee! Mae CAA Cymru wedi cyhoeddi cyfres newydd o nofelau gwreiddiol i blant 7-11 oed:

43592891_2067627193260109_3714788798530322432_n

Dwi newydd ddarllen un ohonyn nhw, Iârgyfwng!  gan Gwennan Evans. Hi sy pia’r llais radio perffaith ‘na ar fwletinau Radio Cymru, ac roedd hi’n fardd y mis yn ystod Ebrill 2018 – ac mae ei gŵr, Gruff yn fardd reit lwyddiannus hefyd (cliw – mae gynnyn nhw gadair newydd, neis iawn yn y tŷ). Mae hi hefyd wedi sgwennu nofel ysgafn ar gyfer yr arddegau hŷn ac oedolion – Bore Da, ac mae hi’n stompwraig brysur.

maxresdefault

A rŵan, dyma hi wedi sgwennu nofel ar gyfer plant 7-11 oed.

20181104_173700

Mi wnes i ei mwynhau hi’n arw a dwi wir yn meddwl y bydd plant 7-11 oed yn ei mwynhau hi.

Bechgyn yw’r ddau brif gymeriad: Osian a Ned, ei gefnder. Mae Osian yn fachgen taclus yn byw mewn tŷ taclus efo rhieni taclus yn y ddinas. Ond mae ei rieni yn poeni ei fod o’n wahanol i blant eraill. Er enghraifft, dydi o ddim isio neidio ar y trampolin brynon nhw iddo fo. Mae’n well ganddo fo esgus bod yn grwban o dan y trampolîn… dyma’r ddwy dudalen gynta i chi gael gwell syniad:

Mae’r stori’n llifo’n hawdd iawn a hiwmor Gwennan yn pingian oddi ar y tudalennau. Ond mae hi’n glyfar – mae ‘na gynildeb yma, a mwy i’r cymeriadau na fydd plant yn ei weld ar yr olwg gyntaf.

Dydi Osian ddim yn hapus o gwbl pan mae Ned, ei gefnder mawr, bler, swnllyd a drewllyd (mae’n rhechan gryn dipyn ac yn stwffio bisgedi siocled i fyny ei drwyn ac i mewn i’w glustiau – a’u bwyta wedyn) yn cyrraedd – ac yn malu ei drampolîn!

20181104_173810

Byw ar fferm mae Ned fel arfer, ac mae’n hawdd deud mai merch ffarm ydi’r awdur hefyd. Mae hi’n gwybod sut i sgwennu am iâr – achos oes, mae ‘na iâr yn y stori hefyd (cliw yn y teitl ac ar y clawr). Merch ffarm oedd mam Osian gyda llaw…sydd wedi symud i’r ddinas – fel yr awdur.

Ta waeth, dwi ddim am ddifetha’r stori i chi ond mae’r llanast a’r anrhefn mae Ned a’i iâr yn ei greu yn ddigri ac yn gwneud i chi fod eisiau troi’r tudalennau i weld be fydd yn digwydd nesa.

Dylai plant fferm sydd ddim fel arfer yn hoffi darllen fwynhau hon, ond dylai unrhyw blentyn 7-11 oed sy’n mwynhau stori dda, llawn hiwmor ei mwynhau hi hefyd.

O, ac i’r gogs, dydi hi ddim yn anodd o gwbl i chi ddeall y darnau ‘hwntw’ – mae mynd am ‘ŵâc fach’ a ‘peidiwch â bod ofan’ yn berffaith ddealladwy tydyn? Mae ‘na sôn am ‘glos’ a dwi’n eitha siŵr mai buarth ydi hwnnw, a dwi’n gwbod mai ieir a hwyaid ac ati yw ‘dofednod.’ Mae’r gweddill yn berffaith hawdd i bawb o unrhyw ran o Gymru ei ddeall, ac yn fy marn i, mae’r darnau bach tafodieithol yn rhoi lliw hyfryd i’r cymeriadau. A dwi’n caru Ned.

Da iawn, Gwennan, a da iawn CAA Cymru am gomisiynu cyfres o lyfrau gwreiddiol i’r oedran yma. Rŵan/nawr, prynwch, darllenwch a dwedwch wrth bawb arall am y llyfrau hyn. Mi wnai adolygu’r gweddill wrth iddyn nhw gyrraedd.

 

Cyn mynd, dyma ddyfyniad gwych am ddarllen a sgwennu gan Pam Allyn:

44548599_1869746536394199_8501613086388518912_n