Leri Tecwyn

All posts tagged Leri Tecwyn

Ynyr yr Ysbryd a’r Dylwythen Deg

Published Ebrill 11, 2022 by gwanas

Mae’n anodd adolygu llyfr gan rywun sy’n ffrind i chi, a dwi’n nabod Rhian Cadwaladr ers y coleg, ac wedi gweld ei merch Leri, yr arlunydd, yn datblygu ei sgiliau dros y blynyddoedd, felly os dach chi isio credu mai dim ond bod yn glên efo ffrind ydw i, iawn. Gewch chi feddwl hynny. Ond mi wnes i wir fwynhau darllen hon a dwi’n meddwl y bydd plant 3-7 oed yn ei mwynhau hefyd.

Efallai na fydd plant bach wedi sylwi eto bod sanau yn mynnu mynd ar goll, ond mi fydd yr oedolion sy’n darllen efo/iddyn nhw yn bendant wedi gwneud! Felly mi fydd y stori’n plesio ar draws y cenedlaethau.

Stori arall am Ynyr yr ysbryd bach hynod annwyl ydi hi:

Ia, mam arall sy’n rhy brysur i chwarae efo’i phlentyn DRWY’R amser, ac mae’n anodd i ysbryd bach wneud ffrindiau:

Difyr ydi’r dewis o froga yn hytrach na llyffant a’r gair ‘bolaheulo’ – gair deheuol ydi bola, ond mae bolaheulo yn air mor dda, dipyn gwell na ‘torheulo’ yn fy marn i, mi ddylai gael ei fabwysiadu a’i ddefnyddio dros Gymru gyfan, ac efo plant bach mae dechrau ynde.

Beth bynnag, mae Ynyr yn trio gwneud ffrindiau efo nifer o greaduriaid eraill, ond unai dydyn nhw ddim yn gallu ei weld o neu ei ofn o. Mae o’n dechrau teimlo’n drist, nes iddo fo gyfarfod Pip y dylwythen deg sy’n gallu ei weld o!

Ond dydi hi ddim angen ffrindiau, diolch yn fawr… mae hi’n trio ei anwybyddu, achos mae hi’n dylwythen deg fach hynod o brysur – sy’n casglu sanau:

Bydd raid i chi brynu eich copi eich hun (Gwasg Carreg Gwalch £6.50) neu fenthyg o’r llyfrgell (yr awdur yn cael 9.5c) er mwyn cael gwybod be sy’n digwydd, ond mi wnai ddeud ei bod hi’n stori fach hyfryd am ddal ati, dyfalbarhau, a phwysigrwydd cyfeillgarwch a chydweithio. A sanau.

Mae’r fam a’r ferch wedi cydweithio’n dda iawn unwaith eto, ac mae’r holl sanau gwahanol yn siwtio arddull Leri Tecwyn i’r dim!

Mwynhewch.

Hoff Lyfrau Rhian Cadwaladr

Published Rhagfyr 9, 2020 by gwanas

Dyma fi’n ail-ddechrau holi awduron llyfrau plant am yr hyn fydden nhw’n ei ddarllen ers talwm. Dwi wedi cael ymateb da i’r rhain – gan oedolion sy’n mwynhau hel atgofion, gan amlaf, ond dwi ddim yn siŵr pa mor ddifyr ydy nhw i blant, rhaid cyfadde! Ond dwi’n gwybod y byddwn i wedi bod wrth fy modd yn cael gwybod be oedd hoff lyfrau Enid Blyton neu Jane Edwards. Felly dwi’n dal ati…

Felly yr awdur nesa i anfon ei hatebion ydi Rhian Cadwaladr, a dyma chydig o wybodaeth amdani:

Mae hi wedi sgwennu tair nofel ar gyfer oedolion, a newydd gyhoeddi ei hail ar gyfer plant. Nain Nain Nain oedd y gyntaf:

ac Ynyr yr Ysbryd ydi’r diweddaraf. Sgroliwch yn ôl drwy’r blog os am weld fy adolygiadau i o’r ddau.

Actores oedd hi am flynyddoedd, a dyma un o’i phinaclau: ia, hi oedd Siani Flewog yng Nghaffi Sali Mali! Glam iawn, doedd?

Bu hefyd yn actio yn Amdani a Rownd a Rownd ac fel brân mewn coedwig…

a bydd pobl Caernarfon yn ei chofio’n ran mawr o’r cynllun Sbarc; bydd miloedd o bobl ifanc y gogledd yn ei nabod hi achos mae hi wedi bod yn gwneud llawer iawn o waith mewn ysgolion drwy gynlluniau fel Ysgolion Creadigol, a dwi’n siwr y bydd hyn yn oed mwy yn ei chofio fel cymeriad Hannah yn yr Amgueddfa Lechi yn Llanberis.

Mae hi hefyd yn fam i bedwar, ac mae’r rheiny wedi dechrau cael babis, felly digon o ysbrydoliaeth ar gyfer llyfrau plant yn fanna, ddwedwn i.

Felly dyma ni, yr atebion:

1. Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?

a) Ysgol Gynradd  – Cymraeg a Saesneg

Roedd Mam yn arfer dweud mod i’n medru darllen pan oeddwn i ddigon bach i fod yn defnyddio poti achos mi fyddwn i’n eistedd arno efo llyfr ac yn ‘darllen’ yn uchel. Doeddwn i ddim yn  medru darllen wrth gwrs – jesd wedi dysgu y geiriau o’n i. Fy hoff lyfr pan yn fach iawn, ac mae o dal gen i, oedd Hwiangerddi gan Wasg y Brython wedi eu trefnu gan Jennie Thomas.

Roeddwn i’n ddarllenwr brwd drwy gydol fy mhlentyndod ac yn darllen pob math o bethau – o Lyfr Mawr y Plant a llyfrau T Llew Jones

i lyfrau Enid Blyton a chlasuron Saesneg fel Swiss Family Robinson a Treasure Island ond yn arbennig llyfrau efo merch yn brif gymeriad. Roedd bywydau’r merched yma mor wahanol i fy mywyd i. Heidi oedd y ffefryn mawr yn ogystal ag Anne of Green Gables, Pippi Longstocking a What Katie did a What Katie did Next. Rhain sydd wedi aros yn fy meddwl, fwy nag unrhyw rai Cymraeg.

b) Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg

Yn gynnar yn yr ysgol uwchradd roeddwn i wedi symud ymlaen i glasuron oedolion Saesneg – Little Women gan Louisa May Alcott, llyfrau y Brontes – yn enwedig Jayne Eyre a Wuthering Hights;

a llyfrau Thomas Hardy, George Elliot a Jane Austen. Roeddwn i wrth fy modd efo llyfrau wedi eu sgwennu neu eu gosod yn ‘yr oes o’r blaen’.

Roeddwn i’n lwcus fod yna lyfrgell i fyny’r ffordd o tŷ ni ac roedd Mrs Williams y llyfrgellydd yn gadael i mi fynd i’r adran oedolion tra roedd y plant eraill yn cael eu gyrru i’r adran plant. Yno nesh i ddarganfod clasuron Cymreig – nofelau Daniel Owen a Kate Roberts ac yn arbennig T Rowland Hughes – brodor o Lanberis fel finna.

Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Rhaid cyfadda dwi ddim wedi darllen llawer o lyfrau plant ers i fy mhlant fy hun dyfu fyny, ac eithrio llyfrau dwi wedi eu darllen er mwyn creu prosiectau creadigol efo plant mewn ysgolion. Llynedd gesh i’r fraint o feirniadu cystadleuaeth Darllen Dros Gymru y Cyngor Llyfrau ac mi nes i fwynhau darllen y bwndel mawr o lyfrau a lanioddd acw yn sgîl hynny. Yr un nes i fwynhau fwyaf oedd nofel Myrddin ap Dafydd ‘Pren a Chansen’ sy’n adrodd hanes y Welsh Not. Dyna’r union math o nofel y byddwn i wedi bod wrth fy modd efo hi pan yn blentyn.

Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Wel mae rhaid i mi ddweud Leri Tecwyn sydd wedi darlunio y gyfres plant bach Tomos Llygoden y Theatr, ac a ddarluniodd fy llyfr i Ynyr yr Ysbryd.

Mae Leri yn digwydd bod yn ferch i mi felly gwirioni fel mam ydw i!

Fel arall Jac Jones ydi’r meistr yn fy llygaid i. Mae Jac yn medru amrywio ei steil i siwtio’r llyfr ac yn ychwanegu haen arall i’r stori. Mae ei luniau yn gallu bod yn gryf a thrawiadol, bron yn fygythiol, neu’n hynod ddoniol – yn ôl angen y stori.

Un o luniau Nain Nain Nain, Jac Jones

Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Dwi wedi bod isho sgwennu ers erioed. Yn syth ar ôl gadael y coleg fe fuesh i ar gynllun YTS (youth training scheme) am chydig ond nes i’m llwyddo i sgwennu dim a buan yr a’th bywyd â fi i gyfeiriad arall ac mi gymerodd fy ngwaith fel actor a mam fy holl amser. Ond pan es i i weithio fel tiwtor drama nes i ddechra sgwennu sgriptia i’r bobl ifanc eu perfformio ac ers hynny dwi wastad wedi bod yn sgwennu rhywbeth – er nes i ddim dechra sgwennu nofela tan o’n i’n 50 a llyfra plant saith mlynedd wedi hynny.

Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Creu cymeriadau a wedyn gweld be sy’n digwydd iddyn nhw pan dwi’n rhoi nhw mewn sefyllfaoedd gwahanol.

Dwed chydig am dy lyfr ddiweddara i blant.

Llyfr i blant bach ydi’r llyfr diweddara – Ynyr yr Ysbryd – stori am ysbryd bach ofnus fasa ofn ei gysgod tasa ganddo fo un!

Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Y bwriad ydi sgwennu cyfres am Ynyr. Thema’r gyfres ydi meddylfryd o dwf, neu meddylfryd creadigol a thema’r stori nesa fydd cydweithio a dychymyg.

Ynyr yr Ysbryd

Published Rhagfyr 4, 2020 by gwanas

Do, mae’r llyfrau Nadolig ar gyfer plant wedi dechrau fy nghyrraedd i! Ond ges i sioc pan welais i ‘Ynyr yr Ysbryd’. Ro’n i wedi disgwyl iddo fo fod yn llyfr bychan fel llyfrau ‘Y Dyn Dweud Drefn’ neu ‘Tomos Llygoden y Theatr’ ond na, mae Ynyr yn FAWR! Maint A4, os dach chi’n un o’r bobl hynod daclus ‘ma sy’n licio silffoedd taclus. Neu’n brin o bapur lapio.

Ond mae’n werth gwneud lle iddo fo! Mae tîm y fam a’r ferch greodd o, sef Rhian Cadwaladr (y stori)

a Leri Tecwyn (y lluniau)

wedi creu cymeriad bach hoffus tu hwnt. Mae Ynyr yn gariad, o ran ei gymeriad a’i olwg. Mae ei lygaid fel dwy bêl bowlio, a Leri wedi cael hwyl garw ar gyfleu ei emosiynau drwy’r stori.

Dwi’n arbennig o hoff o’r lluniau lle mae ei fam o’n ei gysuro:

Does ‘na ddim llawer o waith darllen ar y stori felly mi gewch chi orffen hon mewn un eisteddiad – a mynd yn nôl ati faint fynnwch chi, wrth gwrs. Llyfr i blant dan 7 oed ydi o, ac un y bydd oedolion wrth eu boddau’n ei ddarllen yn uchel i blant iau.

Dyma sut mae’r stori’n dechrau:

Dwi’n falch o weld ‘Lleian Ddu’ yn lle’r bali ‘Black Nun’ oedd yn boen ar f’enaid i pan oeddwn i’n gweithio yng Ngwersyll Glan-llyn! Ges i lond bol o drio egluro i blant ofnus nad oedd ‘na ysbryd i ddechrau cychwyn, a pham yn y byd fyddai pobl Llanuwchllyn wedi rhoi enw Saesneg arni mewn lle mor hynod o Gymreig? Grrr. Ta waeth, yn nôl at y llyfr.

Problem Ynyr druan ydi bod ganddo ofn bob dim. Ofn trio pethau newydd, ofn mentro… swnio’n gyfarwydd? Felly yn ogystal â bod yn adloniant – achos bydd plant wrth eu boddau efo’r ‘Bw!’s i gyd – a’r dudalen yma! –

mae o hefyd â neges am bwysigrwydd mentro a dal ati. Mae’r ysgolion cynradd yn chwilio am fwy o lyfrau Cymraeg sy’n cynnwys themáu ‘Meddylfryd o Dwf’ (dyna un rheswm pam sgwennais i Cadi a’r Celtiaid…) ac mae Ynyr yn ffitio’r thema ‘dyfalbarhad’ i’r dim.

Dwi’n dallt bod Rhian am sgwennu mwy o helyntion Ynyr ac am ddelio efo ‘dychymyg’, ‘cydweithio’, ‘chwilfrydedd’ a ‘disgyblaeth’ yn y llyfrau sydd i ddod. Iawn, athrawon cynradd Cymru? Maen nhw ar y ffordd!

Wna i ddim difetha’r stori drwy ddeud sut mae hi’n gorffen, ond mae ‘na glyfrwch yma. Mi ges i fy mhlesio, a dwi’n eitha siŵr y cewch chithau hefyd. Mae’n stori annwyl, gynnes fydd yn rhoi gwên ar wyneb y plant iau cyn setlo i gysgu. Ac mi fyddan nhw isio edrych ar y llun o Ynyr yn gwenu fel giât am hir. Na, dwi ddim am ddangos hwnnw fan hyn – bydd raid i chi brynu’r llyfr! (Gwasg Carreg Gwalch, £6.50)

Gyda llaw, fydd unrhyw blant sy’n darllen hwn ddim yn debygol o wybod am ffilmiau Alfred Hitchcock, ond roedd o’n gyfarwyddwr fyddai weithiau’n cynnwys ei hun yn y ffilm. A sbiwch ar y llun yma:

Atgoffa chi o rywun?

Oes, mae isio mwy o bobl efo gwallt coch mewn llyfrau! Da iawn, Leri.

2 lyfr bach Nadolig

Published Tachwedd 17, 2019 by gwanas

Mae Gwasg Carreg Gwalch wedi cyhoeddi dau lyfr bach i blant sy’n addas ar gyfer y Nadolig:

Mae ‘Nadolig yn y Cartref’ gan Luned Aaron ar gyfer plant iau, ond yn iawn ar gyfer rhai tua 7 oed hefyd. Math o lyfr adfent ydi o, gyda 24 llun o bethau Nadoligaidd a chwpled i fynd efo pob llun, fel hyn:

20191117_152111
20191117_152133

Roedd fy nosbarth dysgwyr (oedolion!) i yn hoffi’r llyfr hefyd am ei fod yn hawdd iddyn nhw ei ddeall ac yn dysgu ambell air newydd iddyn nhw. Ond roedd yr ysgrifen ar y dudalen hon (gwyn ar gefndir melyn) fymryn bach yn anodd ei weld. Mwy am bethau felly yn y blog nesaf…

20191117_152123

Llyfr bach tlws, clawr caled sy’n gyflwyniad hyfryd i rai o agweddau traddodiadol y Nadolig. Pam ddim gyrru hwn at rywun arbennig yn lle cerdyn eleni? Iawn, mae o fymryn drytach na cherdyn (£5.95) ac yn ddrytach i’w bostio – ond mae ‘na rai cardiau yn hurt o ddrud y dyddiau yma!

Stori arall gan Caryl Parry Jones a Craig Russell am Tomos y llygoden sy’n byw mewn theatr (lluniau gan Leri Tecwyn) ydi ‘Tomos Llygoden y Theatr a’r Nadolig Gorau Erioed’. Hon ydi’r 3edd cyfrol yn y gyfres, addas ar gyfer plant tua 5-8 oed, ac mae’n llawn hiwmor a dychymyg fel y ddwy arall.

20191117_152154

20191117_152212

Mae’n stori hyfryd am fod yn garedig (mae angen mwy o hyn yn ein byd a’n bywydau!) ond mae’n gweithio’n well pan fydd llai o ysgrifen. Fel golygydd, roedd fy siswrn yn ysu am dorri’r paragraff olaf fan hyn – o ‘Aha’ i ‘olaf’ oherwydd nad oedd ei angen.

20191117_154821

Ia, dwi’n gwybod, mae’n brifo awdur i weld peth o’i hiwmor a’i arddull yn cael ei dorri (bu’n rhaid i mi ffarwelio efo talpiau o Cadi a’r Celtiaid hefyd) ond mae’r golygyddion fel arfer yn llygad eu lle. Weithiau, mae jest angen mwy o ofod. Croeso i chi anghytuno, cofiwch!

Oherwydd ei fod yn glawr meddal, mae hwn chydig rhatach (£4.95). Bydd plant sy’n pendroni am rai o gyfrinachau Siôn Corn yn cael hwyl efo’r stori, ac ro’n i wrth fy modd efo pethau fel: “Wanwl, ma hi’n oer mwya sydyn” a “Jiw jiw, nagw i” sy’n dangos cyfoeth yr iaith o’r de i’r gogledd. Cyfle gwych i rieni actio’r stori a gwneud acenion gwahanol. Ac mae ‘na ddarluniau hyfryd yma.

Dau lyfr plant gyda lluniau hyfryd

Published Tachwedd 11, 2018 by gwanas

Fydda i ddim yn rhoi sylw i addasiadau o’r Saesneg fel arfer, ond mae’n wahanol pan mae’r stori’n Gymreig ac wedi ei gosod yng Nghymru ac wedi ei chreu gan rywun sy’n byw yng Nghymru, fel yr arlunydd/awdur Graham Howells o ardal Llanelli.

Graham_Howells-150x150

Mae o’n adnabyddus am wneud lluniau o’r byd llawn hud a lledrith, ac mae o ar ei orau yn Y Bwbach Bach Unig.

20181111_120229

Fo greodd y stori yn ogystal â’r lluniau ac mae na fersiwn Saesneg wedi ymddangos yr un pryd â’r fersiwn Gymraeg. Angharad Elen wnaeth yr addasiad.

angharad-elen

Dwi wedi gwirioni efo’r lluniau, maen nhw’n wirioneddol hyfryd a manwl a llawn dychymyg, ac mi faswn i wedi gwirioni yn hogan fach hefyd.
20181111_12042420181111_120315

Ond be am y stori? Mi faswn i wrth fy modd efo hon yn blentyn tua 7-9 oed i’w darllen ar fy mhen fy hun, yn iau efo help oedolyn wrth gwrs. Mae cymeriad y Bwbach yn cydio yn y dychymyg, a bydd pawb yn cydymdeimlo efo fo wrth iddo weld ei fwthyn bach yn cael ei chwalu o flaen ei lygaid. Rydan ni wedyn yn mynd ar daith drwy Gymru efo fo i chwilio am ei fwthyn, yn cyfarfod anifeiliaid a chreaduriaid cyfeillgar a rhyfedd – a phlant ysgol clen iawn. Ac yn y fersiwn Gymraeg o leia, yn cael amrywiaeth o acenion ar y ffordd.
20181111_120255
Mae’r stori’n cyrraedd (sori – SBOILAR!) Sain Ffagan yn y diwedd, ac os ydach chi wedi bod yno erioed neu am drefnu taith yno, byddai’r llyfr bach hwn yn berffaith i’w ddarllen cyn, yn ystod neu ar ôl y daith. Dwi isio mynd yn ôl yno ar ôl darllen y stori hon, beth bynnag!
Ro’n i hefyd wrth fy modd efo’r darn am sut mae rhai plant wedi eu rheoli gan sgriniau, ac oherwydd eu bod mor gaeth i’w ffonau a’u ipads, dydyn nhw methu gweld y Bwbach!
20181111_120720

Dwi’m wedi gweld y fersiwn Saesneg, ond mae’r blyrb ar Gwales yn sicr yn llifo’n well – a haws – na’r fersiwn Gymraeg. O ran y stori Gymraeg, mae’n darllen yn hyfryd a thelynegol, ac mi fydd yn hudo darllenwyr da sy’n mwynhau dysgu geiriau ac ymadroddion newydd, ond dwi’n teimlo y byddai’n anodd iawn i ddarllenwyr llai galluog, ac yn sicr, plant ail-iaith.
Mae iaith hen ffasiwn, hynafol y Bwbach a Gwyn ap Nudd yn gweddu wrth gwrs, ond dwi’n teimlo y gellid bod wedi symlhau y dweud rhyw fymryn bach yng gweddill y stori. Ond efallai y bydd plant, rhieni ac athrawon yn anghytuno efo fi. Gawn ni weld – rhowch wybod!
20181111_120552
Gyda llaw, do’n i methu dallt be oedd ‘gosog’ – ond goshawk wrth gwrs. A finna wedi cael fy nysgu mai Gwalch Marth ydi o. Mae’r ddau’n gywir am wn i!
Northern_Goshawk_w13-12-019_l

Anrheg Nadolig hyfryd – Gwasg Gomer. £5.99

Yr ail lyfr ydi: Tomos Llygoden y Theatr sydd hefyd ar gyfer plant 7-9 oed yn ôl Gwales, 6-8 yn ôl Gwasg Carreg Gwalch. Wel…rhywle o gwmpas fanna ta.

20181110_134237

Mae hwn wedi ei greu ar y cyd gan Caryl Parry Jones

p03qr02z
a Craig Russell. Actor ydi Craig fel arfer, ac yn byw yng Nghwmtwrch mae’n debyg. Ac mae ei yrfa o’n egluro syniad y stori!

MV5BMTYxZWQxNzAtNDliYy00NWE1LWIwZDMtN2E5ZjZjMDU2Mjc4XkEyXkFqcGdeQXVyMjA2NzMxMjU@._V1_UY317_CR20,0,214,317_AL_

Wel, maen nhw’n gweithio’n dda efo’i gilydd! Mae’n stori fach hyfryd am Tomos yn cael gwireddu ei freuddwyd i fod yn actor. Weithiau, mae ‘na gryn dipyn o sgwennu,

20181111_122209

ac weithiau mae ‘na dipyn llai
20181110_133944
sy’n ei gwneud hi’n stori fwy addas i blant o bob gallu.

A dwi wrth fy modd efo’r ffordd mae’r testun a’r lluniau yn priodi i fewn i’w gilydd.
20181111_135432

20181110_134058

Arlunydd newydd i fyd llyfrau Cymraeg ydi Leri Tecwyn o Rosgadfan, a dwi’n digwydd ei nabod hi; roedd ei mam hi, Rhian Cadwaladr yn y coleg efo fi.
Dyma lun o Leri:

4865668627_ff0027a6ee_b

A dyma lun o un o gymeriadau’r llyfr, ac er fod y gwallt yn gwbl wahanol, dwi’n gweld y wyneb yn debyg iawn iddi!
20181110_134141

Mae ei harddull hi’n hollol wahanol i un Graham Howells, ond yn gweddu’n berffaith i’r stori fach hyfryd hon. Y gyntaf mewn cyfres mae’n debyg.

20181110_134212

O a dwi’n hoffi maint y llyfr hefyd – bychan iawn, ond hawdd i’w gadw mewn llaw neu fag ysgol/penwythnos.

Anrheg Nadolig hyfryd arall – Gwasg Carreg Gwalch. £4.95

O, a diolch i Shoned M Davies, Swyddog Ysgolion Gogledd Cymru
Cyngor Llyfrau Cymru am yr ymateb yma ar Twitter i Gyfres Halibalŵ yn y 2 flog dwytha:

Mae’r gyfres yma yn cael ymateb gwych yn yr ysgolion…nodiadau ar gael am ddim i’r athrawon hefyd (link: https://www.aber.ac.uk/cy/caa/web-projects/)

Dwi wedi gweld y nodiadau ac maen nhw’n wych!