Gwennan Evans

All posts tagged Gwennan Evans

Mwy o Wyliau, Cyfres Fferm Cwm Cawdel

Published Medi 29, 2021 by gwanas

Dwi ddim yn siŵr sut lwyddais i i fethu’r llyfr cyntaf yn y gyfres hon, sef Gwyliau Gwirion, am ffermwraig ifanc o’r enw Ffion yn mynd â’i gwartheg am wyliau:

ond roedd ‘na ganmol iddi ar wefan sonamlyfra.com erbyn gweld, ac mae’n swnio’n andros o hwyl.

O wel! Dwi newydd ddarllen yr ail yn y gyfres, sef Mwy o Wyliau (Mŵŵŵy o wyliau?) lle maen nhw i gyd yn mynd i Gaerdydd.

Trafod lle i fynd am wyliau (sori, mae wordpress yn mynnu gwasgu’r llun fel hyn! Grrrr…)

Fel hogan ffarm fy hun, dwi wrth fy modd efo syniad a sgwennu Gwennan Evans, yr awdur. Er gwaetha’r hyn mae nifer o bobl y trefi a’r dinasoedd yn ei gredu, does ‘na DDIM digon o lyfrau efo cefndir amaethyddol i blant yn Gymraeg! Ac mae plant cefn gwlad angen gweld eu hunain mewn llyfrau cyfoes hefyd, chwarae teg. Dwi’n siŵr bod plant trefol isio gweld mwy o fywyd cyfoes ar fferm hefyd, er nad yw gwartheg yn sefyll ar ddwy goes fel hyn fel arfer, wrth gwrs.

Mae darluniau Lleucu Gwenllian yn hyfryd; syml, ond effeithiol!

Disgwyl am drên

Dwi wrth fy modd efo’r llun uchod ohonyn nhw’n disgwyl yn daclus am y trên i’r brifddinas.

A hwn wedi cyrraedd:

Ond efallai mai hwn ydi fy ffefryn:

Wrth gwrs y bydden nhw isio cael hunlun/selffi!

Mae’r llyfrau wedi eu hanelu at ddarllenwyr tua 4-8 oed, gyda chydig iawn o waith darllen a mwy o waith astudio’r lluniau. Byddai’n hawdd gorffen darllen hon mewn un noson amser gwely.

Gan mai un o Ddyffryn Cothi ydi Gwennan yn wreiddiol,

mae’r stori’n ddeheuol gyda geiriau fel ‘yn grac’ a ‘dere’, ond mae pawb o Fôn i Fynwy yn deall geiriau felly bellach, siawns? Dwi wir ddim yn meddwl y bydd plant bach Ynys Môn yn cael trafferth efo’r stori, yn enwedig os ydyn nhw wedi arfer mynd i Sioe Llanelwedd. Ond erbyn meddwl, dydyn nhw ddim wedi cael cyfle i fynd yno ers dwy flynedd rŵan, naddo? Hanner eich bywyd os dach chi’n 4 oed.

Mae’r stori’n llawn hiwmor ysgafn, fel un o’r gwartheg yn syllu ar y cae yn Stadiwm Genedlaethol Cymru (syniad da peidio ei alw’n Stadiwm Principality, achos does wybod pryd fydd y noddwr yn newid a’r enw’n gorfod newid eto!) ac yn meddwl: “Sgwn i faint o fêls maen nhw’n gallu eu cael mas o hwn?”

Ffordd dda o ddysgu plant be sydd i’w weld a’i wneud mewn gwahanol ardaloedd o Gymru. Ond hwyl y stori a’r gwahanol wartheg sy’n bwysig.

Sgwn i lle fyddan nhw’n mynd mynd ar wyliau yn y llyfr nesa? Bet bydd ‘na gastell yno…

Gwasg Carreg Gwalch £6.

Iârgyfwng! Cyfres Halibalŵ

Published Tachwedd 4, 2018 by gwanas

Ieee! Mae CAA Cymru wedi cyhoeddi cyfres newydd o nofelau gwreiddiol i blant 7-11 oed:

43592891_2067627193260109_3714788798530322432_n

Dwi newydd ddarllen un ohonyn nhw, Iârgyfwng!  gan Gwennan Evans. Hi sy pia’r llais radio perffaith ‘na ar fwletinau Radio Cymru, ac roedd hi’n fardd y mis yn ystod Ebrill 2018 – ac mae ei gŵr, Gruff yn fardd reit lwyddiannus hefyd (cliw – mae gynnyn nhw gadair newydd, neis iawn yn y tŷ). Mae hi hefyd wedi sgwennu nofel ysgafn ar gyfer yr arddegau hŷn ac oedolion – Bore Da, ac mae hi’n stompwraig brysur.

maxresdefault

A rŵan, dyma hi wedi sgwennu nofel ar gyfer plant 7-11 oed.

20181104_173700

Mi wnes i ei mwynhau hi’n arw a dwi wir yn meddwl y bydd plant 7-11 oed yn ei mwynhau hi.

Bechgyn yw’r ddau brif gymeriad: Osian a Ned, ei gefnder. Mae Osian yn fachgen taclus yn byw mewn tŷ taclus efo rhieni taclus yn y ddinas. Ond mae ei rieni yn poeni ei fod o’n wahanol i blant eraill. Er enghraifft, dydi o ddim isio neidio ar y trampolin brynon nhw iddo fo. Mae’n well ganddo fo esgus bod yn grwban o dan y trampolîn… dyma’r ddwy dudalen gynta i chi gael gwell syniad:

Mae’r stori’n llifo’n hawdd iawn a hiwmor Gwennan yn pingian oddi ar y tudalennau. Ond mae hi’n glyfar – mae ‘na gynildeb yma, a mwy i’r cymeriadau na fydd plant yn ei weld ar yr olwg gyntaf.

Dydi Osian ddim yn hapus o gwbl pan mae Ned, ei gefnder mawr, bler, swnllyd a drewllyd (mae’n rhechan gryn dipyn ac yn stwffio bisgedi siocled i fyny ei drwyn ac i mewn i’w glustiau – a’u bwyta wedyn) yn cyrraedd – ac yn malu ei drampolîn!

20181104_173810

Byw ar fferm mae Ned fel arfer, ac mae’n hawdd deud mai merch ffarm ydi’r awdur hefyd. Mae hi’n gwybod sut i sgwennu am iâr – achos oes, mae ‘na iâr yn y stori hefyd (cliw yn y teitl ac ar y clawr). Merch ffarm oedd mam Osian gyda llaw…sydd wedi symud i’r ddinas – fel yr awdur.

Ta waeth, dwi ddim am ddifetha’r stori i chi ond mae’r llanast a’r anrhefn mae Ned a’i iâr yn ei greu yn ddigri ac yn gwneud i chi fod eisiau troi’r tudalennau i weld be fydd yn digwydd nesa.

Dylai plant fferm sydd ddim fel arfer yn hoffi darllen fwynhau hon, ond dylai unrhyw blentyn 7-11 oed sy’n mwynhau stori dda, llawn hiwmor ei mwynhau hi hefyd.

O, ac i’r gogs, dydi hi ddim yn anodd o gwbl i chi ddeall y darnau ‘hwntw’ – mae mynd am ‘ŵâc fach’ a ‘peidiwch â bod ofan’ yn berffaith ddealladwy tydyn? Mae ‘na sôn am ‘glos’ a dwi’n eitha siŵr mai buarth ydi hwnnw, a dwi’n gwbod mai ieir a hwyaid ac ati yw ‘dofednod.’ Mae’r gweddill yn berffaith hawdd i bawb o unrhyw ran o Gymru ei ddeall, ac yn fy marn i, mae’r darnau bach tafodieithol yn rhoi lliw hyfryd i’r cymeriadau. A dwi’n caru Ned.

Da iawn, Gwennan, a da iawn CAA Cymru am gomisiynu cyfres o lyfrau gwreiddiol i’r oedran yma. Rŵan/nawr, prynwch, darllenwch a dwedwch wrth bawb arall am y llyfrau hyn. Mi wnai adolygu’r gweddill wrth iddyn nhw gyrraedd.

 

Cyn mynd, dyma ddyfyniad gwych am ddarllen a sgwennu gan Pam Allyn:

44548599_1869746536394199_8501613086388518912_n