Ymgyrch ydi Darllena. Datblyga i gael pob plentyn 11 oed yn darllen yn dda erbyn 2025.
Os ydach chi’n darllen y blog yma, mae’n siwr eich bod chi’n hoffi darllen yn barod, ond nid pawb sydd mor lwcus!
Yn ôl Estyn, mae pedwar o bob deg (40%) o blant 11 oed yng Nghymru yn darllen yn sal iawn, yn iau na’u hoed, ac mae’r plant hyn yn tueddu i fyw mewn ardaloedd tlawd, lle lle dyw eu rhieni ddim yn darllen efo nhw.
Does dim digon o blant yn darllen y tu allan i’r ysgol, a does dim digon o dadau yn darllen efo’u plant. Wel? Ydi eich tad chi’n darllen efo chi? Neu Taid/Tad-cu? Neu ewyrth?
Ffaith i chi: roedd plant 5 oed oedd yn cael darllen stori efo’u tadau bob dydd, 6 mis o flaen ( hynny yw, o ran darllen a sgwennu) plant eraill 5 oed oedd ddim ond yn darllen unwaith yr wythnos.
Mae Darllena.Datblyga am i Gymru fod yn genedl o ddarllenwyr cryf, ac maen nhw am drio cyflawni hynny drwy wneud pethau fel:
* cefnogi rhieni i ddarllen gyda phlant ifanc am ddeng munud y dydd
* annog y cyhoedd i wirfoddoli ( h.y. gweithio heb gael eu talu) i helpu plant dan anfantais i wella eu darllen
Weithiau, mae llyfrau yn rhy hir, felly mae straeon byrion yn help i fachu diddordeb plant. Mae ‘na straeon byrion newydd sbon, tua 10 munud o hyd ( neu lai) ar y wefan yma: http://www.y-cymro.com/darllenadatblyga/
Mae rhai ar gyfer plant bach a rhai ar gyfer plant 7-11, a dewis sgwennu ar gyfer y plant 7+ wnes i. Gweld y ferch hon,
Jazz Carlin yn ennill medal aur i Gymru roddodd y syniad i mi, ac mae’r stori honno fan hyn:
http://www.y-cymro.com/darllenadatblyga/i/2236/desc/stori-4–mynd-amdani/
A sôn am straeon byrion, mae’r Lolfa newydd gyhoeddi dwy gyfrol o straeon ar gyfer plant cynradd. Am Stori ar gyfer plant 7-9 oed a Beth am Stori ar gyfer plant 9-11.
Dwi wedi cael copiau ond heb gael cyfle i ddarllen yr un stori eto. Be amdanoch chi? Rhowch wybod be roeddech chi’n ei feddwl ohonyn nhw. Mae’r amrywiaeth o awduron yn ddifyr, o rai profiadol fel Sian Northey, Mared Lewis, Haf Llewelyn a Gwenno Hughes i ferch 11 oed o Sir Fôn!