Reit, os dach chi’n caru anifeiliaid, tua 7-11 oed, ac yn hoffi stori sy’n cydio yn eich dychymyg ac yn gwneud i chi ysu i droi’r tudalen i weld be sy’n digwydd nesaf, dyma’r nofel i chi!
Dwi wedi ei mwynhau hi’n arw, achos ro’n i wrth fy modd efo anifeiliaid yn yr oed yna (dal i fod) ond mae ‘na bethau eraill yn y nofel hon fydd yn cadw diddordeb plant hŷn ac oedolion hefyd.
9 oed ydi Sara Mai, y prif gymeriad, ac mae’n llawer haws iddi ddeall yr anifeiliaid yn sw ei mam na’i chyfoedion ym Mlwyddyn 5. Roedd bob dim yn iawn nes i ferch newydd gyrraedd yr ysgol a dechrau dweud pethau cas, hiliol wrthi. Grrrr…. A hynny dim ond oherwydd lliw croen Sara Mai. GRRRRR! Mae ei thad hi’n wyn, ond ei mam yn ddu, dach chi’n gweld.
Dyma eglurhad Casia Wiliam, yr awdur:
“Mae mor, mor bwysig bod ein llenyddiaeth yn adlewyrchu ein cymdeithas ni yng Nghymru heddiw, er mwyn i bob plentyn fedru adnabod eu hunain mewn llyfr. Rydw i wedi bod yn meddwl ers tro bod angen mwy o amrywiaeth o fewn llenyddiaeth plant, ac yn arbennig hefyd bod angen i’r prif gymeriad fod o gefndir cymysg, nid dim ond yn gymeriad ymylol. Roeddwn i’n awyddus i drafod hiliaeth mewn nofel, heb i hynny deimlo fel ‘gwers’ fel petai.”
Ac mae hi wedi llwyddo, dydi o ddim yn teimlo fel ‘gwers’ o gwbl. Mae ‘na sawl neges neu ‘thema’ yn y nofel mewn gwirionedd (bwlio, hiliaeth, cyfeillgarwch, pwysigrwydd peidio rhoi fyny a dal ati…) ond bydd pob darllenydd yn ei mwynhau oherwydd y stori a’r cymeriadau, heb i’r “negeseuon” neidio allan fel gordd, fel sy’n digwydd gyda rhai llyfrau.
Mae ‘na hiwmor hyfryd yma, a llwyth o ddigwyddiadau. Ac ro’n i wir wedi dotio at rai o’r cymeriadau – Oli yn un, a Zia sy’n datŵs i gyd, a’r ffaith fod rhieni Sara Mai efo cymeriadau mor wahanol.
Mi wnes i ddysgu gryn dipyn am wahanol anifeiliaid hefyd!
Dyma’r dudalen gynta i chi gael blas.
Mae ‘na chydig o luniau tu mewn hefyd (gan Gwen Millward) a dyma un hyfryd o Sara Mai:
Mae’r nofel yn llawn digwyddiadau ffraeth, fel dyfodiad y jiráff Newydd sydd ag ofn uchder a Llywelyn Fawr, arth o’r Andes sydd newydd gyrraedd y sw ac yn cael trafferth setlo.
Daeth yr ysbrydoliaeth i Casia pan oedd hi’n fardd plant Cymru ac yn ymweld ag ysgolion.
“Gwnes i gyfarfod â merch fach mewn ysgol oedd yn annwyl tu hwnt ac yn gwirioni ar anifeiliaid, ac mi ddywedodd wrtha i – “Mae Mam yn dweud bod gen i gysylltiad arbennig gydag anifeiliaid.” A dyma fi’n meddwl – rydw i am dy roi di mewn llyfr! Rydw i wir yn gobeithio y bydd plant yn hoffi’r llyfr – er mwyn i Sara Mai gael sawl antur arall!”
Sawl antur arall? Ieeee! Plîs! Dwi wir yn gobeithio y bydd plant yn ei hoffi hefyd achos mae ‘na ddeunydd cyfres wirioneddol ddifyr a phwysig fan hyn. Felly prynwch a rhannwch y newyddion da er mwyn i ni gael mwy o helyntion y sw a Sara Mai.
Llongyfarchiadau, Casia! Clincar…
Sw Sara Mai gan Casia Wiliam a(£5.99, Y Lolfa).
NOFEL OEDOLION
A sôn am glincars, sbiwch lluniau da dynnodd Heledd Wyn Roberts ohona i pan ro’n i’n llofnodi llyfrau mewn layby rhwng Bala a Dolgellau ddoe…
Nid nofel i blant mo ‘Merch y Gwyllt’ gyda llaw. Un i’ch rhieni/nain/taid/modryb/athrawon, iawn? A dim ond os nad ydyn nhw’n rhy sensitif/parchus/cael eu dychryn yn hawdd… (he he!)