Mae Mali eisiau Mwy!

All posts tagged Mae Mali eisiau Mwy!

Mwy o lyfrau am Anifeiliaid

Published Hydref 16, 2014 by gwanas

Es i i’r Llyfrgell i chwilio am fwy o lyfrau plant sy’n sôn am anifeiliaid, a dyma bedwar i chi. Llyfrau ar gyfer plant bach ydyn nhw, tua 5-7 oed, ac iau.
Dau yn wreiddiol, a dau yn addasiadau… ydw, dwi’n gwybod mod i’n torri un o fy rheolau fan hyn, ond maen nhw’n digwydd bod yn lyfrau bach da.

Y rhai gwreiddiol i gychwyn:

getimg.php

Iona’r Iâr, lluniau a stori gan Dylan Thomas ( naci – un gwahanol – o Ros-y-bol, Ynys Môn mae hwn).
Addas i blant hyd at 7 oed. Stori fach ddigri am Iona’r iâr sydd am fynd ar ei gwyliau i lan y môr ac yn penderfynu dysgu nofio yn gynta, ond mae’n cael pob math o drafferthion! Iâr ydi hi wedi’r cwbl, nid hwyaden…

Hoffi’r lluniau yn arw – digon o hiwmor ynddyn nhw, ac mae corff iâr mewn bicini yn codi gwên yn sicr. Mae ‘na dipyn o sgrifen yma, felly llyfr ar gyfer darllenwyr da ddeudwn i, ond mae yma ddigonedd o gyfle i rieni ac athrawon wneud lleisiau gwirion a dramatig i’r plant iau. Digon o hwyl.

Yn ail, dyma Sglod a Blod gan Ruth Morgan, lluniau gan Suzanne Carpenter:

getimg-3.php

Hanes ci o’r enw Sglod sy’n sglaffio sglodion sydd wedi eu taflu a’u gollwng ar hyd llawr y pier. Mae hynny’n betha da ar gyfer cadw’r lle’n lân a thaclus wrth gwrs, ond nid yn beth da ar gyfer corff Sglod, sy’n mynd yn dewach ac yn dewach – nes i Blod yr wylan roi gwersi ymarfer corff iddo fo. Stori ddigri, hwyliog efo digon o negeseuon a deunydd trafod am fwyta, gor fwyta, cadw’n heini, a chadw llefydd yn lân a thaclus. Lluniau digon digri, ond doedd pob un ddim yn llwyddo yn fy marn i. Ond fi ydi honno.

A rwan yr addasiadau:
getimg-2.php

Llyfr dwyieithog Mae Mali eisiau Mwy! / Mali wants More! – y sgrifen yn fawr yn Gymraeg ac yn llawer llai yn Saesneg. Un da iawn ar gyfer rhieni sy’n dysgu Cymraeg, neu’n ansicr eu Cymraeg. Neu blant sydd am wella eu Saesneg – neu eu Cymraeg.
Ac mae’n chwip o stori ddigri am ddafad fach sydd isio bod yn fwy, ac yn gyflymach ac yn gryfach, ond yn mynd dros ben llestri a deud y lleia. Eto, mae ‘na negeseuon amlwg iawn yma: peryglon bod yn farus; hunanddelwedd; cymharu efo pobl eraill; balchder; be ydi bod yn ffrind da – rhip ohonyn nhw. Ac fe ddylai plant fod wrth eu boddau efo’r diwedd. Dwi’n gwybod y byddai fy ngor-nai tair oed i, Caio, yn rhowlio chwerthin!

Ac yn olaf:

getimg-1.php

Stori hyfryd a lluniau hyfryd am Cara sydd eisiau ci bach. Ro’n i’n cydymdeimlo’n llwyr efo Cara a’i theulu a’r cwn – OND, ro’n i ( ac adolygydd ar gwales.com) yn teimlo bod Cara wedi cael ci yn llawer rhy hawdd – jest felna! Nid fel’na mae’n digwydd yn y byd go iawn naci, felly efallai nad dyma’r llyfr i’w roi i blentyn sydd isio ci bach ond sydd â rhieni sydd ddim isio ci yn y ty! Iawn ar gyfer rhywun sydd â chi eisoes falle.
Fel fi.
Dyma fy ngast goch i, Del, efo fy nor-nith i Cadi, pan oedd hi’n fach iawn:
DSC_0065

Un peth arall. Do’n i ddim yn siwr be fyddai rhai rhieni yn ei feddwl o adael i gwn gysgu ar y soffa ac ar y gwely… mae’n golygu llawer iawn mwy o hwfro a golchi dillad gwely!