Dewis

All posts tagged Dewis

Darlith Gŵyl Golwg

Published Medi 17, 2014 by gwanas

Mi wnes i draddodi darlith Goffa Islwyn Ffowc Elis yng Ngŵyl Golwg dros y Sul. Wnes i rioed feddwl y byddai un o’r sylwadau wnes i yn y ddarlith yn bachu sylw’r cyfryngau i’r fath raddau!
Yn sgîl yr erthygl hon ar wefan Golwg 360

image

Mi ges alwadau ffôn gan Post Prynhawn, Taro’r Post a Newyddion S4C. Iawn, gwych, roedd hi’n braf gweld sylw i lyfrau ar y newyddion a chlywed cymaint o drafod, yn enwedig ar Taro’r Post. A dwi’n falch o ddeud BOD na rai wedi cytuno efo fi! Ond eironi’r sefyllfa ydi’r ffaith na fyddai llawer o’r bobl ro’n i’n cyfeirio atyn nhw, pobl a phlant sy’n cael eu taflu a’u drysu a’u gwylltio oherwydd fod iaith rhai llyfrau plant (bach) yn ddiarth iddyn nhw, yn gwrando ar Radio Cymru nac yn gwylio Newyddion S4C.

Be amdanoch chi? Be dach chi’n ei feddwl? Sôn am lyfrau plant bach ro’n i, pan fydd geiriau fel ‘nawr’, ‘moyn’, ‘bola tost’ ac ati yn drysu gogleddwyr bychain, a ‘nain’, ‘rwan’ a ‘berfa’ yn drysu rhai y de. Rhowch wybod. Ffys fawr am ddim byd neu beidio?

Ta waeth, mi ddywedais i lawer mwy na’r sylw bach yna yn fy narlith! Mae blas o hynny yn fy ngholofn yn yr Herald Cymraeg heddiw.

Roedd yr ŵyl yn Llanbed yn un wirioneddol hyfryd, yn gerddoriaeth, pethau digidol a bwydydd hyfryd yn ogystal â llyfrau.

image

A dyma i chi stondin Mair, sydd, yn ogystal â sgwennu llyfr mawr swmpus (nid llyfr plant)

image

wedi creu pob math o nwyddau ar gyfer pobl sy’n caru darllen. Mygiau, llyfrnodau, pethau i roi eich paned arnyn nhw ac ati. Mi fydda i’n prynu rhywbeth ganddi bob tro y bydda i’n gweld ei stondin. Dyma be ges i tro ‘ma:

image

Da ‘de! O, ac i egluro’r llun ohona i efo wyneb glas,

image

roedd Mair wedi gneud ‘cardboard cut outs’ mawr ar gyfer ei stondin, ac mae arna i ofn bod yr un o’r awdur Ioan Kidd wedi ei golli yn y llun yna, bechod. Sori, Ioan. Dach chi’n nabod y boi wrth fy ochr i ta? Sgwn i os fydd o’n gwenu fory?! Llun o Byw yn yr Ardd ydi hwnna ohona i, pan ges i fy mheintio fel un o’r Cymry cynnar mewn pentre i lawr yn ochrau Sir Benfro. Paent glas digon tebyg i Mel Gibson yn Braveheart, pan oedd o’n actio rhan William Wallace, Albanwr arall oedd isio i Loegr adael llonydd i’r Alban…

image

Iawn, nôl at waith. Dwi ar ganol addasu Llwyth ar gyfer Radio Cymru

Unknown-9

Sef ei gwtogi i ffitio 5 slot 10 munud o Llyfr yr Wythnos ar gyfer wythnos hanner tymor. Gwaith anodd ond difyr! Nofel Ioan Kidd, Dewis sy’n cael ei darlledu ar hyn o bryd fel mae’n digwydd. Gawn ni weld os fydd plant yn gwrando dros yr hanner tymor, ond dwi’n eich rhybuddio, dydi o ddim yn addas ar gyfer plant bach! Braidd yn waedlyd…