Ia, map o ardal Eisteddfod Dyffryn Conwy, ond yn dangos lle mae rhai o’r chwedlau. Hyfryd! Felly os dach chi awydd mynd am dro yn ystod yr wythnos, pam ddim i rai o’r mannau hyn?
Bydd raid i chi brynu/benthyca’r llyfr wrth gwrs:
Deg o Chwedlau Dyffryn Conwy gan Myrddin ap Dafydd – sy’n cyhoeddi cymaint o lyfrau y dyddiau yma, dwi’n cael trafferth cadw i fyny efo fo – mae gen i bentwr o’i lyfrau i’w darllen pan gai gyfle. Ond mi wnes i bori drwy hon dros frecwast bore ma – difyr!
Mae’r arwydd ar gyfer Cadair Ifan Goch wastad wedi tynnu fy sylw a gwneud i mi feddwl pwy oedd Ifan Goch, tybed? Wel, mae’r ateb yn y stori hon:
Ia, cawr oedd o, ac os dach chi isio gwybod mwy, mae’r llyfr ar gael am £6.95. Ond er cystal lluniau Lleucu Gwenllian a’r llun o gi dieflig yr olwg, dwi’n siŵr mai ci coch fel fy ngast i oedd ci Ifan go iawn!
Ro’n i wedi clywed am chwedl Llyn yr Afanc yn Metws y Coed, ac mae na fersiwn fywiog iawn ohoni yma. Dyma’r dudalen olaf efo llun yr afanc wedi ei ddal, a hanes ych-a-fi Pwll Llygad yr Ych:
Os fyddwch chi’n crwydro i Ysbyty Ifan a gyrru neu gerdded dros fawnogydd a rhosydd y Migneint, byddwch yn ofalus a darllenwch stori Y Telynor yn y Gors yn gyntaf. Dim syniad pam fod y llun ar ei hanner, sori, ond mi gewch ei weld yn llawn yn y llyfr…
Mae’n gyfrol fydd yn boblogaidd iawn efo pobl yr ardal wrth reswm, ond dydi Myrddin ddim yn dwp, dwi’n siŵr y bydd Steddfodwyr sydd am wybod mwy am yr ardal a hanes enwau ac ati yn hapus iawn efo hi hefyd.
Os ydach chi’n gyfarwydd â stori Culhwch ac Olwen, be am ddilyn ôl troed Culhwch a phedwar o farchogion eraill y Brenin Arthur i chwilio am Dylluan Cwm Cowlyd? Iawn, bydd angen defnyddio eich dychymyg i weld y coedwigoedd a fu yno ers talwm, gan mai tir mawnog, corsiog sydd yng Nghwm Cowlyd bellach, ond mae’n werth mynd yno yr un fath, ac os welwch chi dylluan… wel!
Dyma llyfr ar gyfer plant ac oedolion – a jest y peth i’w ddarllen yn uchel yn y garafan cyn mynd i gysgu…
O, a dwi’n nabod nifer o bobl sy’n gwirioni pan fydd map mewn llyfr – mi wnaiff chwip o anrheg iddyn nhw hefyd!