Chwedl Calaffate

Published Mai 1, 2021 by gwanas

Dwi wedi dotio eto! Mae’r llyfr yma’n berl. Ond bosib mod i’n biased – dwi’n hoff iawn o Batagonia (wedi bod ene, nôl yn 1991), dwi’n hoff iawn o’r math yma o stori a dwi’n hoff iawn o’r awdur:

Lleucu Gwenllian

sydd hefyd wedi gneud y lluniau, a dwi’n hoff iawn o’r rheiny hefyd… felly mi fyddai wedi bod yn anodd i hon beidio â mhlesio i.

Chlywais i rioed mo’r chwedl hon o’r blaen, ond roedd Lleucu wedi gorfod gneud tipyn o ymchwil i ddod o hyd iddi mae’n debyg, felly go dda hi.

Mae’r cwbl yn deillio o’r dywediad:

El que come calafate, siempre vuelve – Mae’r sawl sy’n bwyta’r calaffate, wastad yn dychwelyd.

Sôn am ffrwyth y coed calaffate maen nhw, sy’n gnweud jam neis iawn, mae’n debyg:

Ond dwi ddim yn cofio ei flasu o. Caws llaeth gawson ni pan o’n i ym Mhatagonia – neu ai jam llaeth oedd o? A phun bynnag, roedd hi’n ganol gaeaf.

Dyma sut a pham gafodd Lleucu hyd i’r stori, yn ei geiriau ei hun:

Dwi ddim isio difetha hud y stori cyn i chi gael gafael ar gopi, felly dyma chydig o luniau i chi (a chydig eiriau) i godi blas:

Tydyn nhw’n hyfryd?

Mae’r lliwiau’n hyfryd tydyn? Ac yn cyfleu Patagonia a’r paith i’r dim. Ac mae’r stori jest yn… mi wnewch chi ei licio hi. Addo. Oes, mae ‘na dinc o Blodeuwedd ynddi, a Romeo a Juliet hefyd.

A dyma lun arall o Calaffate (y ferch roddodd ei henw i’r goeden/gwrych/llwyn/ffrwythau/blodau). Sylwch ar liw ei llygaid hi:

Roedd gwir angen llyfr stori am Batagonia, ac am y bobl oedd yn byw yno cyn i’r Cymry a’r Sbaenwyr ac ati gyrraedd. Mae’n cael ei farchnata fel llyfr i blant 7-11 oed, ond mae’n addas i bawb dros 11 hefyd yn fy marn i.

Bu’r llyfr yn llafur cariad i Lleucu am ddwy flynedd, ac mae’r llafur hwnnw’n dangos, a’r cariad hefyd. Diolch am ei sgwennu a’i ddarllunio, Lleucu.

Do, yn bendant, Lleucu.

Nid dim ond darlunydd ydi’r hogan yma o Flaenau Ffestiniog; mae hi’n gallu sgwennu hefyd. Dwi’n cofio dotio at ei syniadau a’i harddull hi pan roedd hi’n hogan ysgol yn y Moelwyn.

Gwasg Carreg Gwalch £6.50.

2 comments on “Chwedl Calaffate

  • Diolch Bethan am dynnu sylw at waith rhagorol Lleucu gyda’r gyfrol hon. Mae’n haeddu pob canmoliaeth wrth gyhoeddi llyfr sydd yn sicr o ddiddordeb i ddarllenwyr o bob oed. Gobeithio y daw mor boblogaidd á Bethan Gwanas ymhen amser!

  • Gadael sylw