Da ydi Diwrnod y Llyfr – sydd bellach fwy neu lai yn Wythnos y Llyfr gan fod ysgolion weithiau’n cael trafferth cyfyngu’r gweithgareddau llyfryddol i un diwrnod, diolch i ymarferion Steddfod yr Urdd, gwersi nofio/beicio ac ati.
Mi fues i yn Ysgol y Traeth, Bermo (uchod) ar ddydd Mawrth, fel rhan o Wythnos Cŵl Cymru Ysgol y Traeth. Gweithdy sgwennu efo Blwyddyn 6 yna darllen straeon efo’r plant iau: Coeden Cadi a Stori’r Botel sôs coch allan o Straeon Tic Toc, a rhagflas o Cadi dan y Dŵr:
A dyma un o luniau bras Cadi dan y Dŵr ( fydd allan cyn Setddfod yr Urdd!):
Nefi, mi ges i hwyl efo plant hyfryd y Bermo! Dwi’n gobeithio cael lluniau cyn bo hir. Mi wnes i anghofio tynnu rhai – ro’n i’n rhy brysur yn darllen a chofnodi eu syniadau nhw.
Wedyn ddydd Mercher, ro’n i ar lan Llyn Tegid, y Bala fel rhan o gynllun Mission Explore Parc Cenedlaethol Eryri efo plant yr ardal:
yn gwneud pethau difyr yn yr awyr agored, fel sbio ar drychfilod a baw anfeiliaid a chreu lluniau a cherfluniau efo dail a brigau ac ati, a gwneud dafad allan o ddafad! Wedyn creu chwedlau newydd sbon ar ôl cinio. Mae gan blant ardal Penllyn ddychymyg byw a syniadau gwych!
Yna, ddydd Iau, mi fues i yn Ysgol Glan y Môr, Pwllheli efo disgyblion Blwyddyn 8 a 10 yn trafod darllen, llyfrau yn gyffredinol a chreu cymeriadau gwych a chwbl unigryw ac annisgwyl y mae’n RHAID i rywun sgwennu amdanyn nhw ryw ben.
Yn y cyfamser, roedd ysgolion dros Gymru yn dathlu llyfrau ac yn rhoi lluniau ar Twitter. Ac ro’n i wedi gwirioni bod plant Ysgol Gynradd Cwmbrân wedi rhoi sylw i Coeden Cadi!
Dwi’m yn siŵr be oedden nhw’n ei wneud yn union, ond mae’n edrych yn hwyl! Braf gweld ysgolion yn rhoi sylw i lyfrau plant sydd wedi eu sgwennu gan awduron o Gymru – diolch yn fawr i blant ac athrawon Ysgol Gynradd Cwmbrân. Caru chi i gyd!