Nofel Oi (YA) arbennig

Published Chwefror 20, 2017 by gwanas

Dwi newydd orffen Under a Painted Sky, nofel gan Stacey Lee, Americanes o dras Tseinieg.

image

Dwi isio sôn amdani oherwydd fy mod i wedi mwynhau bob eiliad o’i darllen. Bywyd ar yr Oregon Trail yn 1849, cowbois, miwsig, ceffylau, nadroedd, hiliaeth a chymeriadau gwych fel Andy/Annamae, y ferch ddu sy’n chwilio am ei brawd ac sy’n llawn gwirioneddau am fywyd, Cay y cowboi gwyllt sy’n ffansïo bob dim mewn sgert, Peety o Mecsico sy’n deall ceffylau i’r dim, West y cowboi â chyfrinachau, a Samantha ei hun, gafodd ei geni ym mlwyddyn y neidr. Anlwcus i rai…

Nofel wych ar gyfer oedolion ifanc a phobl o unrhyw oed sy’n mwynhau stori dda. O am gael nofelau 372 tudalen fel hyn yn Gymraeg –  wedi eu hanelu ar gyfer OI. O na fyddai’r cyllid ar gael. O na fyddai llyfrau plant ac OI yn cael y sylw a’r parch maen nhw’n ei haeddu.

Ac os dach chi’n meddwl na wnewch chi fwynhau nofel hanesyddol heb sôn am un am y gorllewin gwyllt, dwi’n eitha siwr y gwnaiff hon newid eich meddwl chi.

A hon oedd nofel gynta’r awdur!

image

A dyma linc i un o’r ‘trailers’ mae pobl ifanc America’n cael eu hannog i’w gwneud i dynnu sylw at nofelau OI…

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: