Holi Emily Huws

Published Ionawr 20, 2017 by gwanas

Emily Huws, un o hoelion wyth y byd llyfrau plant yng Nghymru ydi’r diweddaraf i ateb fy nghwestiynau am ei hoff lyfrau yn blentyn.

_41276353_huws203300_45519775_emily-huws203

Mae Emily, sy’n 75 eleni, yn byw ar dyddyn yng Nghaeathro ger Caernarfon, efo llwyth o anifeiliaid!

Er iddi ddysgu am dros ugain mlynedd yn Ysgol Gynradd y Bontnewydd, daeth yn adnabyddus fel un o awduron llyfrau plant mwyaf poblogaidd Cymru. Mae hi wedi ennill gwobrau Tir na n-Og a Gwobr Goffa Mary Vaughan Jones am ei chyfraniad i faes llenyddiaeth plant – ac yn haeddu pob un!

Cyhoeddodd ei llyfr cyntaf, Gwyliau Rhian yn y Syrcas, yn 1975, a nifer fawr o nofelau difyr, hyfryd wedyn.

getimg-2

Adolygiad Gwales

Mae’r llyfr hwn yn rhan o gyfres o lyfrau deniadol a rhwydd i’w darllen ac yn denu darllenwyr ifainc Cymraeg. Dyna fy marn i – darllenydd deg oed. Heb os, dyma lyfr sy’n addas ar gyfer plant rhwng wyth a deg oed ac mae’n addas i fechgyn a merched: ‘Tolc! Bang! CRASH! . . . Edrychai Mam yn syn – doedd hi ddim yn deall beth oedd wedi digwydd. Ond deallai Llŷr yn iawn. “Fy meic i!” sibrydodd . . .’

Ar ôl i Dad facio’r car dros ei feic, mae Llŷr mewn penbleth. Sut yn y byd caiff yr arian i brynu un arall? Wel, yn Dim Problem cewch hanes bachgen annwyl iawn ond anniben sy’n dysgu’r ffordd anodd bod yn rhaid rhoi eich pethau gadw. Mae’n stori sy’n trafod pethau difrifol megis cyfrifoldeb a gofalu am eich eiddo, ond mewn ffordd deniadol a doniol.

Mae’r lluniau yn y llyfr hwn yn eithriadol o dda.

Thomas Huw Constantine

getimg-11

51e33newr9l-_uy250_getimg-10

Adolygiad Gwales

Nofel fer ar gyfer darllenwyr hyderus yw hon, yn ddigon syml ar gyfer darllenwyr sydd ym mlynyddoedd olaf yr ysgol gynradd, ond eto sy’n ymdrin â phwnc heriol – sydd yn ei gwneud yn addas hefyd ar gyfer darllenwyr mwy aeddfed.

Mae’r nofel wedi’i hysgrifennu o safbwynt Ela, merch fach a gafodd ei darganfod ar ochr y ffordd fawr, wedi’i hanafu’n ddrwg. Cawn fynd gydag Ela ar daith i ddarganfod o ble y daeth, sut orffennol fu ganddi, a sut y daeth i fod yn gorwedd ar ochr y ffordd. Ond mae cwestiwn arall yn poeni Ela hefyd. Beth ddaw ohoni nawr, tybed? A gaiff hi aros gyda Dil, y ferch wnaeth ddod o hyd iddi, ac a ofalodd amdani mor garedig? Ydy, mae’r dyfodol hefyd yn ansicr iawn i Ela.

Mae’n stori sy’n llwyddo i ddal ein sylw o’r bennod gyntaf, ac mae’n ymdrin â phynciau anodd yn sensitif. Mae’r arddull yn llifo’n rhwydd, a’r ddeialog yn fywiog, ac mae’r cwestiynau sy’n codi o bennod i bennod yn annog y darllenydd i ddarllen ymlaen. Nofel fydd yn bendant yn apelio, yn arbennig efallai at y merched – ac mae’n gorffen yn hapus!

Haf Llewelyn

Adolygiad Gwales

Stori gyfoes gyda chymeriadau cryf yw Hogan Mam, Babi Jam. Ceir yma hanes cyfnod eithaf byr ond cythryblus iawn yn hanes teulu Beca. Mae Mam wedi diflannu i Unol Daleithiau America er mwyn dianc rhag ei phroblemau, gan adael Beca i ofalu am ei brawd a’i chwaer fach. I wneud pethau’n waeth fyth, mae’n rhaid iddi adael ei chartref a’i brawd mawr a mynd i aros gyda theulu ei llystad.

Ar ddechrau’r nofel mae Beca yn y maes awyr yn aros, gan obeithio bod ei mam ar ei ffordd yn ôl. Yna, mae hi’n meddwl am yr hyn sydd wedi digwydd iddi hi a’i theulu. Ceir diwyg diddorol a deniadol i’r nofel ac rydym yn teimlo bron fel petai Beca yn chwarae tâp fideo o’r cyfnod hwn yn ei bywyd.

Mae’r nofel hon yn apelio at ferched yn bennaf; ceir clawr pinc wedi’i orchuddio â dillad sy’n cyfleu hyn i’r dim! Hefyd, gan fod y stori wedi ei hysgrifennu o safbwynt Beca, rydym yn dod i’w hadnabod yn dda ac yn cydymdeimlo gyda’i sefyllfa. Archwilir y berthynas a’r gwrthdaro rhwng y cymeriadau yn effeithiol iawn. Braf fyddai wedi cael ymateb Geth, brawd Beca, i’r digwyddiadau ar ddiwedd y nofel ond efallai mai stori arall yw honno!

Gail Roper

Mae Emily hefyd yn enwog am gyfieithu nifer o glasuron yr iaith Saesneg i’r Gymraeg, yn eu plith straeon Beatrix Potter, Roald Dahl a Michael Morpurgo.

Ond efallai ei bod yn fwyaf enwog am ei chyfieithiad o un o lyfrau Harry Potter and the Philosopher’s Stone, sef Harri Potter a Maen yr Athronydd.

harrypotter

Yn 2009 cyfieithodd lyfr arall enwog i blant, ‘The Boy in the Striped Pyjamas’ sef ‘Y Bachgen Mewn Pyjamas’, ac enillodd wobr Tir Na Nog arall am ei chyfrol wreiddiol, ‘Bownsio’ yn yr un flwyddyn.

getimg-3

“Stori rymus yn sôn am ferch yn ei harddegau cynnar sy’n darganfod nad yw ei mam wedi marw wedi’r cyfan. Nofel sy’n ymdrin â gobeithion preifat a realiti bywyd go-iawn; addas i ddarllenwyr 9-11 oed.”

Felly os nad ydach chi wedi darllen un o lyfrau Emily eto – mae ‘na ddigon o ddewis i chi!

 

A dyma ei hatebion:

  1. Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn? a) Ysgol Gynradd  – Cymraeg a Saesneg

Fawr o gof am lyfrau ysgol. Adra: Darllen a Chwarae 2.

A Raggedy Ann. b78bdb8a9c78cf27f8503876b0299fb7

Mae gen i deulu yn America roddodd gopi i mi flynyddoedd yn ôl, ac ro’n i wedi ei ddarllen gymaint, roedd o wedi mynd yn ddarnau.

img_5142Ond dwi wedi cael fersiynau newydd, mwy modern ohono fo rwan. Ond dwi methu dallt sut ar y ddaear ro’n i’n deall y Saesneg pan ro’n i mor ifanc!

raggedy-ann-with-books

(Nodyn Bethan ar ôl sbio ar Google: Johnny Gruelle (1880–1938), awdur o America ysgrifennoddy gyfres o lyfrau am ddoli glwt efo gwallt coch a thrwyn siâp triongl. Cafodd y cymeriad ei chreu yn 1915 fel doli a chael ei chyflwyno i’r cyhoedd yn 1918 efo’r llyfrau. Mi werthodd fel slecs wedyn!)

A Luned Bengoch gan Elizabeth Watkin Jones

c09999636887293596f79706741434f414f4141

 

  1. b) Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg

Eto…ddim yn cofio (mae’n bell, bell yn ôl i mi!!!!)

  1. Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Heb wneud ers tro, ond wedi mwynhau, ymysg eraill, gwaith Dahl ar hyd y blynyddoedd. Morpugo hefyd. Roedd hi’n fraint cael addasu’r ddau, a hefyd Ted Hughes.

getimg

O ie … dau lyfr GWREIDDDOL brynais i’m cymdogion dros y Dolig: Y llyfr ABC bendigedig gan Luned Aaron a Santa Corn Ceri Wyn Jones. GWYCH ( ond pam o PAM roedd yn rhaid iddo ddefnyddio No We ynddo?????)

 

  1. Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Jac Jones (wedi arlunio llawer o’m gwaith.)

 

  1. Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Athrawes oeddwn i … ac yn gweld yr angen mawr, mawr am ddeunydd i blant. Yn gweld yr holl gyfoeth oedd ar gael yn Saesneg a meddwl fod gan blant Cymru’r hawl i fwy nag oedd ar gael ar y pryd.

  1. Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Y sbort o feddwl am wahanol bytiau yn dod at ei gilydd i wneud stori.

  1. Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.

Ddim yn cofio prun oedd yr olaf, ond roedd Eco, Carreg Ateb a Babi Gwyrdd yn sôn am warchod yr amgylchfyd a ballu.

getimg-9

 

Adolygiad Gwales

ENILLYDD GWOBR TIR NA N-OG 2005

Nofel yw hon am ferch fach o’r enw Blodyn Haf, sy’n ferch i ryfelwraig eco o’r enw Helygain. Mae’r stori wedi cael ei hadrodd ar ffurf dyddiadur y ferch. Gwêl y ferch ei hanes hi yn debyg i stori y tri mochyn bach a’u hymdrechion i godi tai. Fel daw’r blaidd i chwythu a difetha’r cartrefi – hanes tebyg sydd i Blodyn Haf wrth i’r awdurdodau ddifetha cynlluniau a breuddwydion y fam a’r ferch. Cyflwyna’r stori egwyddorion y rhyfelwyr sy’n brwydro i amddiffyn ecoleg y byd rhag cael ei ddifrodi.

Ceir tair pennod i’r nofel sy’n adlewyrchu stori’r moch, dan y penawdau Tŷ Byrnau, Tŷ Gwiail a Thŷ Cerrig. ‘Yr hen a ŵyr a’r ifanc a dybia’ yw’r hen ddihareb, ac fe welir pawb yn ei dro yn gorfod cyfaddawdu er mwyn parhau â’u breuddwyd a byw’n hapus.

Llwydda Emily Huws i adrodd y stori hon gyda diniweidrwydd a sylwgarwch y plentyn. Crea gymeriad bach difyr yn Blodyn Haf, a daw un i gydymdeimlo â’r fechan wrth iddi geisio gwneud synnwyr o’r byd mawr, a mygu ei dyheadau ei hun er mwyn cefnogi ei mam.

Caf fy nhemtio i ddisgrifio’r gyfrol fel perl fach.

Ion Thomas

  1. Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Dim byd. Wedi dweud hanes fy nghŵn, Wmffra a Ned, yn y gorffennol. Dau labrador bendigedig. Rŵan, Tobi (ci defaid) sydd gen i. Ac mae o yn haeddu llyfr, chwarae teg. Ond wir, mae ’na gymaint o bethau rheitiach fel tyfu bwyd a chwynnu i’w gwneud!! A gofalu am Tobi a’r ieir a thair cath a thri chwarter (Mae ’na gath strae dwi’n ei alw yn Y Tramp yn dod i ngweld i’n gyson).

ned_llyfr

Diolch Emily, a plîs gawn ni lyfr am Tobi rwan? Neu’r Tramp?!

 

 

Gadael sylw