Isio cefnogi llyfrau Cymraeg ond ddim yn hoffi darllen? Neu’n nabod rhywun sydd ddim yn hoffi darllen am ryw reswm? Neu ydach chi’n un o’r miloedd sy’n cael pleser wrth liwio? Wel, dyma syniad ar gyfer anrheg Nadolig:
Mae Lliwio’r Chwedlau / Colouring Welsh Tales gan yr artist Dawn Williams yn cynnwys 21 o luniau hyfryd i’w lliwio, yn seiliedig ar chwedlau poblogaidd Cymru, gan gynnwys golygfeydd o straeon Blodeuwedd, Cantre’r Gwaelod, Twm Siôn Cati, Rhys a Meinir, Santes Dwynwen, a Culhwch ac Olwen.
Mae’n dilyn llwyddiant Lliwio Cymru / Colouring Wales, sef y llyfr lliwio cyntaf Cymreig i oedolion a gyhoeddwyd llynedd gan werthu dros fil o gopïau.
Ond maen nhw jest y peth ar gyfer plant o rhyw 10 oed i fyny hefyd ddeudwn i – os ydyn nhw’n hoffi lliwio wrth gwrs!
Gwelwyd twf yng ngwerthiant llyfrau lliwio i oedolion wedi i seicolegwyr honni bod canolbwyntio ar liwio yn cael gwared ar feddyliau negyddol, yn gwella effeithiau straen ac yn ymlaciol. Er mai rhywbeth i blant oedd lliwio rhwng y llinellau ar un adeg, mae bellach yn cael ei ddefnyddio fel math o therapi i helpu oedolion leddfu straen a gorbryder ac i ymlacio’r meddwl, y corff a’r enaid. Mae ‘na lyfrgelloedd yn cynnig sesiynau lliwio ers tro rŵan, a dwi’n siŵr y byddan nhw’n hapus iawn efo’r llyfr yma.
Os oes gynnoch chi awydd rhoi cynnig arni, mae’r sesiwn nesaf yn Llyfrgell Dolgellau ar Tachwedd 7fed, 10.30-11.30 a Sesiwn liwio nesaf Llyfrgell Porthmadog ar 14 Tachwedd 1:30- 3:00. Dyma griw Porthmadog yn ddiweddar:
Mae’n siŵr bod llyfrgelloedd eraill wrthi hefyd.
‘Mae chwedlau Cymreig yn rhan bwysig o’n diwylliant a’n hanes ni fel Cymry ac wedi ffurfio asgwrn cefn corff ein llenyddiaeth Cymraeg,’ meddai Dawn, yr arlunydd. ‘Gobeithio bydd y llyfryn hwn yn ffordd wahanol o adrodd straeon ac yn galluogi i bobl ymlacio hefyd.’ A dyma hi yn edrych yn falch iawn o’r llyfr:
Mae hi’n haeddu edrych yn falch tydi! Da iawn Dawn. Pob lwc efo’r gwerthiant.
Ar gael rwan am £4.99, (Y Lolfa)