Gobeithio eich bod chi’n dal i ymdopi efo’r cyfnod Corona ‘ma. A gobeithio bod gynnoch chi ddigon o lyfrau i’ch cadw’n hapus! Mae’n debyg y bydd rhai llyfrgelloedd yn agor eto cyn hir, felly dyna gyfle i chi gael stoc newydd. Mae rhai siopau llyfrau Cymraeg wedi bod yn postio llyfrau dros y wlad hefyd, yn ogystal â gwales.com, felly cofiwch gysylltu efo nhw os dach chi isio llyfr i’w gadw go iawn.
Llyfrau oedolion dwi wedi bod yn eu darllen, a nifer ohonyn nhw’n rai Saesneg, ond ro’n i wedi benthyca fersiwn sain o hon o’r llyfrgell:
Chwip o nofel antur i’r arddegau +! Wedi edrych ar y sylwadau amdani ar amazon, dwi’n gweld nad ydi hi wedi plesio pawb – ond roedd 61% wedi rhoi 5 seren iddi. A dwi’n un o’r rheiny! Os dach chi isio nofel llawn adrenalin a braw a chynnwrf, rhowch gynnig arni.
Mi wnes i benderfynu holi plant iau ein teulu ni pa lyfrau maen nhw wedi eu mwynhau dros yr wythnosau caeth yma. Dau fachgen ydyn nhw, Caio Gwilym (8) a Mabon (6), ac ydyn, mae enwau’r ddau yn ymddangos yn llyfrau Cadi!
Ond ar wahân i lyfrau Cadi, mae arna i ofn mai cyfieithiadau sydd wedi eu hudo. Felly dwi’n gorfod torri fy rheol eto fyth! Be mae hyn yn ei ddeud am lyfrau Cymraeg gwreiddiol i blant, dwch? Trafoder…
Ta waeth, roedd y ddau (a’u mam) yn hoffi hon yn arw:
Llyfr sy’n ymdrin â thema bwlian. Mae un gwningen fawr greulon yn pigo ar weddill anifeiliaid bach y goedwig ac yn gwneud eu bywydau’n boen. Addasiad Helen Emanuel Davies.
Un arall sydd wedi plesio pawb ydi Seren Lowri, addasiad Mererid Hopwood:
Stori am ferch fach unig sy’n dod i sylweddoli fod cyfeillgarwch yn gallu bod yn brofiad pleserus a phoenus. Mae Lowri’n dod o hyd i seren fach go iawn oedd wedi syrthio ar y pafin ac mae’n dod a hi i’r tŷ, lle mae’r seren fach yn dechrau disgleirio eto.
Ac addasiad arall (gan Roger Boore):
I’r lleuad ac yn ôl cyn amser bath? Beth nesaf! Stori sy’n hudo efo’i dychymyg a’i diniweidrwydd meddan nhw. Wel nid geiriau Caio a Mabon oedd rheina. Ar Amazon ges i’r rheina. “Da,” ddeudodd yr hogia.
Ffefryn Caio ydi addasiad Steffan Alun o Wil yn achub y byd, “Doniol iawn” medda fo:
Ond mae ‘na un hen ffefryn gwreiddiol, diolch byth! Tydi Mabon ddim yn rhy hen i fwynhau darllen am Tomos Caradog fwy nag unwaith:
Felly dyna i chi chydig o syniadau am lyfrau i blant dan 8/9 am yr wythnosau/misoedd nesaf. Os oes gynnoch chi ffefrynnau gan awduron Cymraeg o Gymru, rhowch wybod, da chi!
Dyma un i chi, i blant fymryn yn hŷn (tua 11+), ac ydw, dwi’n canu fy nhrwmped fy hun am eiliad – mae’n rhaid i rywun… Ro’n i wedi anghofio am yr adolygiad hyfryd yma o Edenia gan ferched Ysgol Penweddig ar wefan lysh Cymru. Diolch eto, ferched hyfryd, caredig Abersytwyth:
https://www.lysh.cymru/edenia
Ac yn olaf, dyma i chi chwip o syniad ar gyfer eich hoff lyfrau: ail-greu y cloriau fel mae’r ddau yma wedi gwneud efo The Tiger who Came to Tea:
Be amdani efo’ch hoff lyfrau Cymraeg? Allwch chi ail greu’r rhain sgwn i?
Neu unrhyw lyfr o’ch dewis chi, wrth gwrs. A deud y gwir, dwi’n hoffi’r syniad gymaint, dwi am gynnig un o fy llyfrau plant yn wobr i’r ‘clawr’ gorau! Os oes gen i gopi o’r llyfr yn y tŷ, wrth gwrs – a dwi’n meddwl bod y rhan fwya gen i.
Gyrrwch eich cynigion ata i drwy Twitter – @BethanGwanas neu Facebook.
Dyddiad cau? Be am Mai 24?
Mwynhewch!