Ysgol Bro Dyfrdwy

All posts tagged Ysgol Bro Dyfrdwy

CYFRES Y LLEWOD

Published Mawrth 16, 2018 by gwanas

Diolch o galon i Angharad Elen Blythe am hyn.

Angharad-Elen

Mi wnaeth hi sôn ar Facebook bod ei phlant wedi gwirioni efo Cyfres Y Llewod, llyfrau Cymraeg i blant a gafodd eu hysgrifennu gan y diweddar Dafydd Parri (1926–2001)(tad yr ap Dafydd-iaid – Myrddin, Deiniol ayyb. Cyhoeddwyd 23 stori gan wasg Y Lolfa yn ystod ail hanner y 1970au. Cafodd pump o’r llyfrau eu hail argraffu yn y 1990au.

Roedd y gyfres yn dilyn helyntion pum ffrind o’r enw Llinos, Einion, Wyn, Orig a Delyth. Erbyn deall, roedd llythyren gyntaf enwau’r cymeriadau yn creu teitl y gyfres – ‘Ll-e-w-o-d’. Clyfar de! Roedd y gyfres yn boblogaidd iawn am flynyddoedd, gwerthwyd miloedd o gopïau a chreuwyd clwb llyfrau ar gyfer darllenwyr y gyfres.

Ond roedden nhw’n rhy hwyr i mi! Ro’n i’n rhy hen iddyn nhw pan gawson nhw eu cyhoeddi yn anffodus, felly mi gollais i’r wefr o ddarllen llyfrau Cymraeg felna yn blentyn. Bw hw.

Ond maen nhw wedi cael bywyd newydd, ac ar ôl darllen adolygiad Cain (6) a Syfi (4), dwi jest â marw isio’u darllen nhw rŵan!

29243982_10160176950825013_2614077801136914432_n

CYFRES Y LLEWOD
Adolygiad Cain a Syfi (efo help Mam).

Ers dod o hyd i gopïau gwreiddiol, heb eu cyffwrdd, o rai o lyfrau ‘Cyfres y Llewod’ yn siop Palas Print yng Nghaernarfon ychydig wythnosau yn ôl, mae Cain a Syfi wedi mwynhau tri ohonyn nhw, drwy gael pennod bob nos gan Mam. Dyma’r tro cyntaf iddyn nhw fwynhau nofel, a phrofi stori dros gyfnod o amser yn hytrach na mwynhau’r sicrwydd o ddiweddglo a datrysiad bob nos.

Ar ddiwedd pob pennod mae yna cliffhanger ac mae’r straeon yn rhai cyffrous, llawn antur a dirgelion, sy’n plesio Cain a Syfi yn arw. Dwi’n meddwl eu bod yn hoffi’r syniad fod y plant yn y straeon – Llinos, Einion, Wyn, Orig a Del – yn cael crwydro a mynd ar anturiaethau fel fynnon nhw; eu bod yn cael eu hunain mewn dyfroedd dyfnion a’u bod yn datrys pob math o ddirgelion – a hynny heb help gan unrhyw oedolyn.

Mae Wyn wrth ei fodd yn dweud posau – mae un ymhob pennod, ac mae Cain yn edrych ymlaen yn eiddgar at y pôs bob tro. Yn arbennig, hoffodd hwn: ‘Beth sydd ar ddiwedd popeth?’ ‘Y llythyren ‘th’’ wrth gwrs! Dotiodd at yr ateb, a mae o wedi bod yn dweud y pôs wrth bawb a’i nain byth ers hynny. A hoffodd Syfi hwn: ‘Beth sydd â gwddf a bol ond nad oes ganddo freichiau na choesau?’ Yr ateb? ‘Potel!’
Caiff y plant eu rhyfeddu gan yr atebion i bob pôs, ac wrth iddyn nhw geisio gwneud pen a chynffon ohonynt, maent yn cael eu hannog i feddwl am y byd o ogwydd gwahanol (lateral thinking). Ond yn bwysicach na hynny – mae’n lot fawr o hwyl.

29261911_10160176958865013_8764024051891961856_n

Mae’r tri ohonan ni yn dotio at yr iaith, ac at ymadroddion sy’n anghyfarwydd inni. Er enghraifft, ‘cicio gwellt efo trwyn ei sgidiau’, ‘yr awyr fel gwin’ neu ‘yr awyr fel uwd’, ‘gweld fel cath’, ‘mor hawdd â bwyta brechdan jam’ a rydan ni wedi dechrau arddel ‘sgidiau dŵr’ yn lle ‘welintons’ yn barod.

Wrth gwrs, mae yma enwau ac ymadroddion sy’n ddieithr i’r plant, e.e. ‘teledydd’, ‘lamp baraffîn’, ‘bananau’, sef y luosog am fanana (cawsom ffit o gigls wrth ddarllen am ‘gnau a bananau’ mewn un bennod!), ‘modurfa’, a ‘cyn wired â phader’. Ond ychwanegu at yr hwyl a’r difyrrwch mae hyn, gan eu bod yn sbarduno trafodaeth ddifyr rhyngom ein tri.

Rydw innau hefyd yn ymelwa o ddarllen y straeon hyn i ’mhlant bob nos – ar sawl lefel. Bu’n rhaid imi ddarllen y dyfyniad canlynol yn uchel sawl tro, a rydw i wedi tynghedu i’w gadw cadw mewn cof wrth imi fy hun geisio ymbalfalu drwy gyfnodau astrus a thywyll bywyd:

‘Does yna fawr o ddim byd sy’n gwneud synnwyr yn y byd yma. Dydi daeargryn sy’n lladd miloedd o bobol ddim yn gwneud synnwyr; a phan fydd yr haul yn machlud ac yn peintio’r awyr mewn lliwiau bendigedig, dydy hynny ddim yn gwneud synnwyr chwaith. Ond does dim isio i neb fod yn drist ac anfodlon am ein bod yn methu a gweld rheswm ym mhopeth sy’n digwydd o’n cwmpas ni. Rhyfeddu at bopeth sy’n digwydd o’n cwmpas ni, fydda i.’

Diolch yn fawr, Cain a Syfi! A chofiwch, os oes ‘na rywun arall isio sôn am eu hoff lyfrau Cymraeg (gwreiddiol os yn bosib…) dwi’n fwy na hapus i’w cyhoeddi ar y blog yma. Fy ebost i ydi: gwanas@btinternet.com

DJBjVnrUQAAvyqG

O, a diolch hefyd i blant Blwyddyn 2 Ysgol Bro Dyfrdwy am yr hwyl ges i efo nhw bore ma yn sôn am fy mhrofiadau yn Nigeria!

IMG_4302

Holi Morgan Tomos

Published Gorffennaf 19, 2017 by gwanas

morganllai

Morgan Tomos ydi’r diweddaraf i ateb fy nghwestiynau i. Mae o’n fwyaf adnabyddus am ei gyfres am Alun yr Arth:

DSC_0185

A/W Clawr Alun Arth 5  ceriAlun-yr-Arth-ar-Hunllef-Morgan-Tomos97817846106610862437903

ond mae o wedi sgwennu ambell lyfr arall hefyd, ac mae ‘na fwy ar ei wefan o (linc yn is i lawr y blog).

Nadolig_Llawen_y_Blaidd_Mawr_Drwg_(llyfr)

Daw Morgan  o Gaernarfon yn wreiddiol ond mae’n byw ym Mirmingham ar hyn o bryd – ond yn ceisio gwneud ei ffordd yn ôl i Gymru. Mae wedi’i hyfforddi fel animeiddiwr ac mae wrth ei fodd yn teithio o gwmpas ysgolion Cymru yn trafod llyfrau a chynnal gweithdai.

group2BumesiuIEAAueGk

Alun-yr-Arth-ar-Wy-Pasg-003

A dyma ei atebion o am ei hoff lyfrau:

  1. Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn? a) Ysgol Gynradd  – Cymraeg a Saesneg. Sali Mali

    a Seraffin: roedd na gyfeithiad Cymraeg ohono fo ar gael yn y 1970au: 

 

  1. 64e2afb4ee25170b9cc23ae52398cf88--coqs-philippe   c024e9a7a8e76c8f5cdd86f1535ae700philippe-fix-feat

  a Barti Ddu gan T Llew Jones

barti_ddu_new

Allai ddim cofio rhai Saesneg.

Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg.

Allai ddim cofio heblaw am i mi droi at lyfrau y gwnaed ffilmiau ohonynt er mwyn cymharu.

  1. Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Tydw i ddim wedi darllen llyfrau i blant yn ddiweddar heblaw mewn sesiynau gyda phlant. Roedd ‘na un am ddeinosoriaid.jig_so_deinosoriaid

 

  1. Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau?

E H Shepard. Mae ei luniau’n llawn brwdfrydedd.

369b87a226a4a2d691c59d606fbb034cwinnie_pooh_04b

 

eh-shepard-poohpooh410

  1. Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Sgwennu ar gyfer fy mhlant yn gyntaf. Mae’r ddau, Robin a Carwyn, yn eu harddegau rŵan.

 

  1. Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Cyfuno llun a geiriau.

 

  1. Dwed chydig am dy lyfr diweddara i blant.

Alun yr Arth a’r Ddraig Fach Goch. Yn y stori mae Alun yn dod yn ffrindiau a Draig Goch ac yn cael dysgu am Gymru. Daeth y stori’n fyw yn ystod sesiwn gyda plant Ysgol Bro Dyfrdwy.

alun yr arth

 

  1. Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Dwi wedi bod yn arbrofi. Mae sefyllfa llyfrau plant wrthi’n newid gyda theclynnau megis yr i-pad ac ati ac mae’n rhaid ymateb i hyn; ymateb yn swyddogol ond yn y bôn yn answyddogol ac anffurfiol oherwydd y bwriad yw cynnal brwdfrydedd tuag at ddarllen – am fwynhad ac i gynnal gwerthoedd.

Felly dwi wedi bod yn creu stori gyda phlant Ysgol Bro Dyfrdwy gan greu stori’n seiliedig ar syniadau’r plant, ‘Gwlad y Gacen’. Y bwriad yw mynd drwy’r broses fesul cam ond gorffen gyda stori gyfa. Mi wnes i rywbeth tebyg gyda phlant ysgol yn ystod yr Ŵyl ‘Spread the Word’ (Lleidr Cariad) ym mis Mawrth. Y prif fwriad yw creu stori – rhaid i stori sefyll ar ei thraed ei hun heb ddyletswyddau y tu allan i’r stori. Mi fuasai’r Ysgol yn cyflawni y gwaith angenrheidiol o gynnig addysg, ond hefyd yn cynnig y llwyfan i ddangos yr hwyl a sbri sydd i’w gael o weithio’n greadigol ac yn ffrwythlon. Ceisio torri tir newydd ydw i fel ymateb i’r newid ym myd llyfrau plant ac mae ffrwyth yr ymdrech hyd yma i’w weld ar:

https://morgantomos.wixsite.com/straeon

Tydw i heb osod yr oll o’r deunydd ar y wefan eto. Pwysleisiaf mai arbrawf yw hyn a dwi wedi cael modd i fyw gyda’r plant ysgol ond gyda byd y llyfrau plant yn newid rhaid cael ymateb creadigol, agored.

morgan_modelMorgan-Tomos-Alun-yr-Arth

Diolch, Morgan!

175x175bb