Ysgol Bro Cinmeirch

All posts tagged Ysgol Bro Cinmeirch

Cyfaill darllen a Nadolig Gwyntog Rwdolff

Published Rhagfyr 19, 2017 by gwanas

Mi fues i ar fy ymweliad un-bob-tymor i Ysgol Bro Cinmeirch bore ma. Dwi’n ‘Gyfaill Darllen’ iddyn nhw ers blynyddoedd rŵan, ers i gynllun ‘Patron of Reading’ ddechrau. Hynny yw, dwi’n mynd yno i ddarllen ac i drafod llyfrau yn rheolaidd, a dwi wrth fy modd efo’r ffaith fy mod i’n nabod y plant a’r plant yn fy nabod i. Iawn, dwi’m yn cofio enwau pawb – dwi’m yn eu gweld nhw mor aml â hynna! Ond dwi’n cofio be maen nhw’n hoffi ei ddarllen…
Dyma ni bore ma, efo’r rhai oedd wedi cael sticeri Sêr Darllen a Darllenwyr Da yn Blwyddyn 5 a 6:

image

Roedd yr athrawon yn enwebu darllenwyr o bob blwyddyn; maen nhw’n gneud hynny bob tymor, a dwi’n siŵr bod hynny yn eu hannog i ddal ati i ddarllen ac i drio cael eu henwebu y tro nesa. Ond hyd y gwn i, fi ydi’r unig awdur sydd wedi ei mabwysiadu fel cyfaill darllen Cymraeg. Mae na gannoedd o rai Saesneg yn Lloegr a’r Alban! Dowch ysgolion Cymraeg, y cwbl sydd ei angen ydi dewis awdur, a thalu am eu hamser am fore neu bnawn. Gwell dewis un gweddol leol i osgoi costau teithio mawr. Rhowch gynnig arni yn 2018. Rhowch ‘Patron of reading’ yn Google am fwy o wybodaeth.

Dwi’m yn gwybod os ydi hyrwyddo darllen wedi cyfrannu at lwyddiant sgwennu creadigol y criw ond daeth 2 o blant Ysgol Cinmeirch i’r brig yn Nghystadleuaeth Straeon Nadolig Aled Huws. Un yn agos iawn iawn, sef Alex a dyma hi – efo fi yn darllen ei stori hyfryd o flaen gweddill yr ysgol:

image

A dyma’r bachgen gafodd ei ddewis fel un o’r 5 awdur gorau yn darllen ei stori yntau:

image

Gewch chi wybod ei enw o bore fory, ar Radio Cymru, achos ei stori o fydd yn cael ei darlledu y tro yma! Sgwn i os fydd yr actor go iawn yn ei darllen cystal ag y gwnaeth yr awdur bore ma…

Un stori wnes i ei darllen i’r criw iau oedd hwn:

image

Nadolig Gwyntog Rwdolff. Ia, addasiad, a dwi’n trio osgoi rhoi sylw i addasiadau ar draul llyfrau gwreiddiol Cymraeg, ond mae hwn yn addasiad mor dda, alla i ddim peidio.

image

Dewi Pws a’i wraig hyfryd, Rhiannon sydd wedi ei addasu, a gan fod y stori ar ffurf mydr ac odl, doedd hynny ddim yn hawdd.

image

Ond maen nhw wedi llwyddo’n wych efo’r stori hon am Rwdolff druan yn pwmpian/cnecu dragwyddol oherwydd ei fod wedi bwyta gormod o sbrowts!

imageimage

Gwych. Da iawn Dewi a Rhiannon. Roedd y plant yn eu dyblau! Yn bendant, does na ddim digon o lyfrau Cymraeg yn sôn am bwmpian a chnecu ac ati. Felly dwi’n gobeithio llenwi’r bwlch fymryn efo antur nesa Cadi…

Advertisements

Lluniau lliw ‘Cadi dan y Dŵr’ wedi cyrraedd!

Published Ebrill 10, 2017 by gwanas

Mae’r arlunydd gwych o Bontarddulais, Janet Samuel newydd yrru’r lluniau lliw terfynol ar gyfer Cadi dan y Dŵr! ( dilyniant i Coeden Cadi) Sbiwch – dyma flas ohonyn nhw:

cadi danydwr p14-15cadi danydwr p12cadi danydwr p20cadi danydwr p16-17

cadi danydwr p22-23 .jpg

Dwi wedi gwirioni’n rhacs! Lliwiau bendigedig, a manylder hyfryd. Arhowch nes gwelwch chi’r ceffylau môr a’r pysgod pwff … ond bydd raid i chi aros am y llyfr cyfan i weld rheiny. Dim dyddiad cyhoeddi eto – ond cyn Steddfod yr Urdd yn bendant, ac mi wnai ddangos y clawr terfynol fan hyn pan ddaw o – addo.

Gyda llaw, yn y geiriadur, ‘chwyddbysgodyn’ ydi’r term Cymraeg am ‘puffer fish’ ond mi wnaeth plant Ysgol Bro Cinmeirch a finna benderfynu bod hwnnw’n air llawer rhy stiff a hirfaith. Mi wnaeth yr hogyn bach efo’r sbectol yng nghanol y llun yma o blant yn dynwared y pysgod hynny gynnig ‘pysgodyn pwff’ ac rydan ni wedi mynd am hwnnw yn y llyfr:

pysgod pwff

Dwi’n edrych ymlaen i weld y llyfr gorffenedig, bobol bach!

 

Llyfrau i wneud i chi chwerthin

Published Mawrth 12, 2015 by gwanas

Dyna’r dasg ro’n i wedi ei gosod i ddisgyblion Bl 3, 4, 5 a 6 Ysgol Bro Cinmeirch, lle dwi’n Gyfaill Darllen: dod o hyd i, darllen a rhannu llyfrau oedd yn gwneud iddyn nhw chwerthin.
Roedd ‘na lawer o rai Saesneg wrth gwrs, a nifer fawr o Henri Helynts, Tudur Budurs ac ati, ond addasiadau ydi’r rheiny, drapia!
Doedd neb wedi dod o hyd i lyfr Cymraeg, wedi ei sgwennu gan awdur Cymraeg, oedd wedi gwneud iddyn nhw chwerthin?
Oedd, diolch byth!
photo1

Hwre am Yr Wmp o Blwmp! A Llongyfarchiadau i’r awdures, Dwynwen Lloyd Llywelyn! Dyma i chi’r adolygiad ar wefan gwales.com :

Adolygiad Gwales
Ond dyw hi’n braf cael llyfrau gwreiddiol Cymraeg? Mae yna groeso mawr, felly, i gyfres Lolipop gan Gomer. Dyma stori gan awdures newydd – Dwynwen Lloyd Llywelyn – ond un sydd â phrofiad helaeth mewn ysgrifennu ar gyfer y theatr ac y mae dawn Dwynwen i ysgrfennu deialog yn amlwg yn y gyfrol hon.

Hanes efeilliaid a geir yn y stori hon, efeilliaid tawel iawn ar ddechrau’r gyfrol ond os oes rhywun yn achosi iddynt siarad – wel, yr Wmp o Blwmp yw hwnnw. Dyma greadur glas, blewog a chrwn a ddarganfuwyd yn ystafell wely Defi a Dewi. Ers iddo gyrraedd, mae popeth rywsut yn llwyddo. Mae’r efeilliaid yn siarad, ac yn fwy na hynny mae’r ddau yn llwyddo i roi taw ar fwli mawr Blwyddyn 6 a’i antics. Mae yna ddigon o gyffro yn y stori hon, a phob canmoliaeth hefyd i Helen Flook am y lluniau.

Dyma lyfr addas i’w ddarllen i unrhyw blentyn ond fe fydden ni’n tybio ei fod yn bennaf addas ar gyfer oed darllen Blynyddoedd 2 a 3. Edrychwn ymlaen at straeon eraill yn y gyfres Lolipop.

Sarah Down-Roberts

Iawn, felly prynwch o (£4.99) neu ei fenthyg o’r llyfrgell. Wedyn bydd yr awdures yn cael rhywfaint o £ fydd yn ei galluogi a’i hysbrydoli i sgwennu mwy o lyfrau gwreiddiol, Cymraeg i wneud i chi chwerthin. Dydi David Walliams ddim yn brin o bres, felly mi allwch chi fenthyca llyfrau hwnnw i’ch gilydd heb deimlo’n euog. A fydd Gruffudd Antur, sydd wedi addasu un o’i lyfrau i’r Gymraeg ddim yn cael ceiniog yn sgîl gwerthiant y llyfr. Yr awdur gwreiddiol sy’n cael y breindal dach chi’n gweld.

Chwarae teg, roedd un disgybl wedi dewis hwn hefyd, llyfr am neiniau oedd wedi ei sgwennu ymhell cyn y llyfr Saesneg am nain, ac sy’n llawer gwell hefyd, yn fy marn i! Nain! Nain! Nain! gan Sian Eirian Rees Davies – darllenwch o i weld os ydach chi’n cytuno.

image

Roedd un o Bl 6 wedi dewis Pen Dafad hefyd, diolch byth!

Unknown-1

Be amdanoch chi? Oes ‘na lyfrau Cymraeg wedi gwneud i chi/eich brodyr/chwiorydd/rhieni/ffrindiau chwerthin?
Mi wnes i ofyn y cwestiwn ar Facebook, a dyna sut ges i wybod am hwn, Straeon Bobli Blaidd gan Catherine Jones:
getimg

A hei, ydi, mae o’n ddigri! 4 stori am deulu o fleiddiaid sy’n llawn cymeriad a dawn deud. Mae o allan ers 2010, ond chafodd o fawr o sylw felly does neb yn gwybod amdano. Grrrr… wel, dach chi’n gwybod rwan!
Addas i oed 7-9 neu Cyfnod Allweddol 2 yn ôl Gwales. A dwi wedi ychwanegu adolygiad cwsmer a 5 seren:
“Gwych! Straeon wirioneddol ddoniol. Iaith eitha gogleddol ond ddylai hynny ddim cadw’r deheuwyr draw. Dawn dweud a straeon wnaeth i mi chwerthin. Lluniau gwych hefyd.”

Be am i chi wneud yr un peth? Neu rhowch wybod i mi ar hwn, ac mi wnai roi sylw i’r llyfrau hynny.
A dyma i chi fwy o lyfrau digri:
Unknowngetimg.phpimage

A hwn:
getimg.php
Llyfr llawn hwyl sy’n cynnwys posau, jôcs, gêmau a storïau am gymeriadau fel Capten Clonc a’r Prif Cop. Oriau o chwerthin i blant o bob oed.

Roedd yr awdur, Huw Aaron yn un o’r criw oedd yn cymryd rhan yn Sioe Lyfrau Fwya’r Byd yng Nghaernarfon wythnos yma. Sbiwch ciw oedd ar ei gyfer o wedyn:
ciw

A dim ond un neu ddau oedd i fi a Gruffudd:
photo2 Hoffi’r ffoto-bomiwr?!
A dydi hwn ddim yn lun gwych, ond mae’n dangos y gwahaniaeth mewn maint ciwiau…
photo ciw
Does dim pwynt trio cystadlu efo cartwnydd…

Gyda llaw, yn Ysgol Cinmeirch, rydan ni’n rhoi bathodynnau arbennig i’r sêr darllen, a dyma i chi lun neu ddau:
gwobrauphoto3
Da iawn pawb! Daliwch ati.

O, a dyma fy hoff lun o Ddiwrnod y Llyfr: Awen o Ysgol Treganna efo’i hoff lyfr! Ieee! Gwylliaid!
Awen
Diolch Awen… ti’n grêt. xx

Diwrnod y Llyfr? Mis y llyfr!

Published Mawrth 1, 2015 by gwanas

Mi fydd hi’n Ddiwrnod y Llyfr ar Fawrth y 5ed, felly gobeithio y byddwch chi’n dathlu llyfrau mewn rhyw ffordd ar y diwrnod hwnnw. Mae llawer o ysgolion yn ei gwneud hi’n wythnos y llyfr, pam lai?
Ar y 4ydd fydda i’n mynd i Ysgol Bro Cinmeirch a thrafod llyfrau sy’n gwneud i ni chwerthin fyddwn ni – a rhoi gwobrau i’r darllenwyr gorau! Y rhai sydd wedi gwella eu sgiliau darllen, y rhai sy’n
Unknown bwyta llyfrau fwya (ddim go iawn) ayyb.

Ond fel mae’n digwydd, dwi wedi bod yn teithio i bob cwr o Gymru yn ddiweddar yn sôn am lyfrau a hybu darllen a sgwennu. Ro’n i yn ysgolion ardal hyfryd Abergwaun Unknown-1
yn Sir Benfro ddechrau Chwefror. Plant hyfryd – a gobeithio bod y siop lyfrau yn gwerthu llawer iawn mwy o lyfrau Cymraeg rwan!

Wythnos dwytha, ro’n i ym mhen arall y wlad, yng Nghaergybi, Ynys Môn efo plant Ysgol Morswyn, a dyma i chi lun ohona i efo’r plant bach:

photo1

Y wenynen fawr felen yna ydi rhywbeth ddois i o hyd iddo wedi ei daflu ar ochr y ffordd yn ymyl Cwm Pennant,
image008
coeliwch neu beidio. Wel, mi wnes i syrthio mewn cariad efo hi’n syth wrth reswm, ac es i a hi efo fi i Gaergybi i ofyn i’r plant am help i:
a) roi enw iddi
b) feddwl am stori amdani.
Diolch i ferch fach benfelen o’r enw Millie (dwi’n meddwl), mae gen i enw hyfryd iddi – Heulwen y Wenynen! Ac efo help plant Morswyn, mae gen i syniad am stori, a wyddoch chi byth, efallai y gwelwch chi lyfr am Heulwen yn y siopau un o’r dyddiau yma!

Siarad efo oedolion ro’n i yng Nghaernarfon fore Sadwrn, fel rhan o Gwyl Ddewi Arall y dre – da! Daeth criw da i wrando arna i’n sôn am drafferthion sgwennu a chyhoeddi, ac mi wnes i anghofio tynnu llun o’r stondin lyfrau tra roedd y genod yn gwerthu’n brysur, ond dyma lun wedi i bawb fynd:

photo3

Mae gweld stondin yn llawn o’ch llyfrau yn brofiad hyfryd i’r hyder a’r ego. Ac os wnewch chi sbio’n ofalus, mi welwch bod gen i lyfr newydd ar y stondin:

photo2

Nid llyfr i blant bach! Dylai’r gair ‘Crogwr’ fod yn gliw… mae ‘na dipyn o waed a ballu yn hon. Rhan o gyfres Stori Sydyn ydi hi – cyfres oedd yn arfer bod yn £1.99 y copi, ond maen nhw hyd yn oed yn rhatach rwan! £1 yn unig. Llyfrau wedi eu hanelu at bobl sydd ddim yn darllen llawer, am eu bod nhw’n rhy brysur neu’n ddi-hyder o ran eu Cymraeg efallai, ac mae’r gyfres hon i fod yn addas ar gyfer ysgolion uwchradd hefyd, plant tua 15+ ddeudwn i, neu 14+ os ydach chi’n eitha aeddfed.

Llyfr arall ar gyfer oedolion sydd wedi cyrraedd yr wythnos yma ydi hwn:
photo5
Dwi’n hoff iawn o lyfrau Mared Lewis, felly dwi’n edrych ymlaen i ddarllen hwn yn arw.

Ond cwyn sydd gen i i orffen: dwi’n falch bod cynllun Llyfr y Mis i Blant wedi dechrau, ond pam o pam oedd raid ei lansio efo nofel sy’n gyfieithiad?
photo4
Bydd, mi fydd yn hawdd ei farchnata am fod David Walliams yn enw mor fawr yn y byd llyfrau bellach. Ond llyfrau Cymraeg sydd angen eu marchnata, awduron Cymraeg sydd angen hwb i’r gwerthiant! A sut fath o neges mae hyn yn ei roi am gyflwr y byd cyhoeddi yng Nghymru? Ydw, dwi’n flin…
images

Ysgol Bro Cinmeirch

Published Rhagfyr 17, 2014 by gwanas

Dim ond isio dymuno Nadolig Llawen i holl blant a staff Ysgol Bro Cinmeirch gan eu Cyfaill Darllen. Ia, fi ydi honno, rhag ofn eich bod wedi anghofio!

image

Gobeithio y bydd ‘na lond gwlad o lyfrau difyr yn eich sannau Dolig wythnos nesa, a chofiwch ddeud wrtha i amdanyn nhw fis Mawrth. Mi fydda i isio gwybod am lyfrau sy’n gwneud i chi chwerthin y tro yma!

Fel hwn o bosib?

Unknown

Neu hwn tybed?

getimg.php

A be am hwn?

getimg-1.php

Ydach chi wedi eu darllen nhw sgwn i? Be oeddech chi’n ei feddwl? Wnaethoch chi chwerthin?

Os oes ‘na rywun yn gallu argymell llyfr doniol, digri, da ar gyfer plant cynradd, rhowch wybod ar y blog yma os gwelwch yn dda. Diolch!

Cyfaill Darllen a Llyfrau am Anifeiliaid

Published Hydref 10, 2014 by gwanas

Photo on 10-10-2014 at 13.52

Fues i yn Ysgol Bro Cinmeirch eto, ar fy ymweliad rheolaidd fel Cyfaill Darllen ( Patron of Reading). Pleser bob amser!
A’r tro yma, ro’n i wedi gosod cystadleuaeth, i bawb yn Bl 3,4,5 a 6 wneud lluniau o Rhys a Mari, prif gymeriadau Gwylliaid
image

A dyma i chi’r lluniau ro’n i’n eu hoffi fwya.

Photo on 10-10-2014 at 13.52

Mi wnes i anghofio sgwennu’r manylion i lawr, ond dwi’n 99% siwr mai Cari enillodd, yr un ieuenga ohonyn nhw i gyd – yn Bl 3! Dwi’n arbennig o hoff o’r ci, a gwallt Mari. Do, mi gafodd wobr gen i – copi o Gwylliaid. Ro’n i wedi bwriadu sgwennu neges y tu mewn, ond aeth amser yn drech na ni am ryw reswm, felly os wnei di ddod a’r llyfr i’r ysgol efo ti y tro nesa, mi wnai sgwennu neges bryd hynny, Cari!

Trafod llyfrau am anifeiliaid fuon ni efo’r rhai h^yn, ac roedd sawl un wedi dod â llyfrau Michael Morpurgo efo nhw, oedd ddim yn sioc o gwbl; mae o’n sgwennu’n wych am anifeiliaid. Ond mi ges i sioc bod cymaint o lyfrau am ddreigiau! Roedd eu Cyfaill Darllen Saesneg, Shoo Rayner, newydd fod draw hefyd,ac roedd pawb yn canmol hwn:

Unknown-1

Roedd Efa wedi mwynhau “One dog and his boy” gan Eva Ibbotson ( yr un wnes i ei argymell)

Unknown-3

ond roedd hi’n canmol “Sky Hawk” gan Gill Lewis i’r cymylau.

Unknown-2

Felly dwi’n bendant am ddarllen hwnna rwan. Ac mae ‘na fersiwn Gymraeg:

getimg-2

Addasiad gan Elin Meek. Ond mynd am y gwreiddiol fydda i, a bod yn gwbl onest. Ydw, dwi’n un styfnig!

Barn y plant

Published Mehefin 5, 2014 by gwanas

Mi fues i yn Ysgol Bro Cinmeirch eto ddydd Mercher, fy ysgol Cyfaill Darllen. Os nad ydach chi’n gwybod be mae hynna’n ei feddwl, sbiwch ar wefan patronofreading.com
Dwi bron yn siwr mai fi ydi’r unig un Cymraeg hyd yma a dwi methu dallt pam na fyddai mwy o ysgolion yn bachu ar y syniad, achos mae’n wych!
Dyma lun ohona i a’r criw gafodd sticeri arbennig Seren Darllen (aur) a Darllenwr Da (arian). Un plentyn o bob blwyddyn, a bydd hyn yn digwydd bob tymor, sef bob tro y bydda i yno. Da de? image

Un o’r darllenwyr brwd yn yr ysgol ydi Efa, ac mae hi wedi rhoi rhestr o’i hoff lyfrau i mi! Diolch yn FAWR Efa, mae hyn yn ddiddorol ofnadwy, ac yn siwr o roi syniadau i ddarllenwyr eraill, o bob oed!

Helo Bethan Gwanas,
Efa sydd yma o Ysgol Bro Cinmeirch. Rydw i am argymell rhai o lyfrau i chi roi yn eich blog, sef ‘Pants are Everything’ gan Mark Loweryimage
oherwydd mae’n ddoniol. ‘Tom Gates’ gan L.Pichon oherwydd mae’n ddoniol hefyd ac oherwydd mae’r lluniau yn dda.image
‘Cyfrinach Ifan Hopcyn’ gan Eiry Miles cyfrinach_ifan_hopcyn_mawr

a ‘Jelygaid’ gan Sonia Edwards
image am fod y straeon yn wreiddiol ac yn wahanol.
Dau o fy hoff lyfrau yn y byd yw
image ‘The Treasure House’ gan Linda Newbery oherwydd mae y stori yn anturis iawn a ‘Sky Hawk’ gan Gill Lewis
image oherwydd ei bod yn stori deimladwy a thrist.
Efa

Diolch eto, Efa. Ond ges i dipyn o sioc pan ddangosaist ti y llyfr Pants na i mi! Nid ar gyfer plant bach diniwed! Ond ydi, mae o’n ddoniol…
Be am i fwy o blant rannu eu hoff lyfrau efo fi? Dim gwobrau am wneud, dim ond y clod a’r anrhydedd!