Ynyr yr Ysbryd

All posts tagged Ynyr yr Ysbryd

Ynyr yr Ysbryd a’r Dylwythen Deg

Published Ebrill 11, 2022 by gwanas

Mae’n anodd adolygu llyfr gan rywun sy’n ffrind i chi, a dwi’n nabod Rhian Cadwaladr ers y coleg, ac wedi gweld ei merch Leri, yr arlunydd, yn datblygu ei sgiliau dros y blynyddoedd, felly os dach chi isio credu mai dim ond bod yn glên efo ffrind ydw i, iawn. Gewch chi feddwl hynny. Ond mi wnes i wir fwynhau darllen hon a dwi’n meddwl y bydd plant 3-7 oed yn ei mwynhau hefyd.

Efallai na fydd plant bach wedi sylwi eto bod sanau yn mynnu mynd ar goll, ond mi fydd yr oedolion sy’n darllen efo/iddyn nhw yn bendant wedi gwneud! Felly mi fydd y stori’n plesio ar draws y cenedlaethau.

Stori arall am Ynyr yr ysbryd bach hynod annwyl ydi hi:

Ia, mam arall sy’n rhy brysur i chwarae efo’i phlentyn DRWY’R amser, ac mae’n anodd i ysbryd bach wneud ffrindiau:

Difyr ydi’r dewis o froga yn hytrach na llyffant a’r gair ‘bolaheulo’ – gair deheuol ydi bola, ond mae bolaheulo yn air mor dda, dipyn gwell na ‘torheulo’ yn fy marn i, mi ddylai gael ei fabwysiadu a’i ddefnyddio dros Gymru gyfan, ac efo plant bach mae dechrau ynde.

Beth bynnag, mae Ynyr yn trio gwneud ffrindiau efo nifer o greaduriaid eraill, ond unai dydyn nhw ddim yn gallu ei weld o neu ei ofn o. Mae o’n dechrau teimlo’n drist, nes iddo fo gyfarfod Pip y dylwythen deg sy’n gallu ei weld o!

Ond dydi hi ddim angen ffrindiau, diolch yn fawr… mae hi’n trio ei anwybyddu, achos mae hi’n dylwythen deg fach hynod o brysur – sy’n casglu sanau:

Bydd raid i chi brynu eich copi eich hun (Gwasg Carreg Gwalch £6.50) neu fenthyg o’r llyfrgell (yr awdur yn cael 9.5c) er mwyn cael gwybod be sy’n digwydd, ond mi wnai ddeud ei bod hi’n stori fach hyfryd am ddal ati, dyfalbarhau, a phwysigrwydd cyfeillgarwch a chydweithio. A sanau.

Mae’r fam a’r ferch wedi cydweithio’n dda iawn unwaith eto, ac mae’r holl sanau gwahanol yn siwtio arddull Leri Tecwyn i’r dim!

Mwynhewch.

Ynyr yr Ysbryd

Published Rhagfyr 4, 2020 by gwanas

Do, mae’r llyfrau Nadolig ar gyfer plant wedi dechrau fy nghyrraedd i! Ond ges i sioc pan welais i ‘Ynyr yr Ysbryd’. Ro’n i wedi disgwyl iddo fo fod yn llyfr bychan fel llyfrau ‘Y Dyn Dweud Drefn’ neu ‘Tomos Llygoden y Theatr’ ond na, mae Ynyr yn FAWR! Maint A4, os dach chi’n un o’r bobl hynod daclus ‘ma sy’n licio silffoedd taclus. Neu’n brin o bapur lapio.

Ond mae’n werth gwneud lle iddo fo! Mae tîm y fam a’r ferch greodd o, sef Rhian Cadwaladr (y stori)

a Leri Tecwyn (y lluniau)

wedi creu cymeriad bach hoffus tu hwnt. Mae Ynyr yn gariad, o ran ei gymeriad a’i olwg. Mae ei lygaid fel dwy bêl bowlio, a Leri wedi cael hwyl garw ar gyfleu ei emosiynau drwy’r stori.

Dwi’n arbennig o hoff o’r lluniau lle mae ei fam o’n ei gysuro:

Does ‘na ddim llawer o waith darllen ar y stori felly mi gewch chi orffen hon mewn un eisteddiad – a mynd yn nôl ati faint fynnwch chi, wrth gwrs. Llyfr i blant dan 7 oed ydi o, ac un y bydd oedolion wrth eu boddau’n ei ddarllen yn uchel i blant iau.

Dyma sut mae’r stori’n dechrau:

Dwi’n falch o weld ‘Lleian Ddu’ yn lle’r bali ‘Black Nun’ oedd yn boen ar f’enaid i pan oeddwn i’n gweithio yng Ngwersyll Glan-llyn! Ges i lond bol o drio egluro i blant ofnus nad oedd ‘na ysbryd i ddechrau cychwyn, a pham yn y byd fyddai pobl Llanuwchllyn wedi rhoi enw Saesneg arni mewn lle mor hynod o Gymreig? Grrr. Ta waeth, yn nôl at y llyfr.

Problem Ynyr druan ydi bod ganddo ofn bob dim. Ofn trio pethau newydd, ofn mentro… swnio’n gyfarwydd? Felly yn ogystal â bod yn adloniant – achos bydd plant wrth eu boddau efo’r ‘Bw!’s i gyd – a’r dudalen yma! –

mae o hefyd â neges am bwysigrwydd mentro a dal ati. Mae’r ysgolion cynradd yn chwilio am fwy o lyfrau Cymraeg sy’n cynnwys themáu ‘Meddylfryd o Dwf’ (dyna un rheswm pam sgwennais i Cadi a’r Celtiaid…) ac mae Ynyr yn ffitio’r thema ‘dyfalbarhad’ i’r dim.

Dwi’n dallt bod Rhian am sgwennu mwy o helyntion Ynyr ac am ddelio efo ‘dychymyg’, ‘cydweithio’, ‘chwilfrydedd’ a ‘disgyblaeth’ yn y llyfrau sydd i ddod. Iawn, athrawon cynradd Cymru? Maen nhw ar y ffordd!

Wna i ddim difetha’r stori drwy ddeud sut mae hi’n gorffen, ond mae ‘na glyfrwch yma. Mi ges i fy mhlesio, a dwi’n eitha siŵr y cewch chithau hefyd. Mae’n stori annwyl, gynnes fydd yn rhoi gwên ar wyneb y plant iau cyn setlo i gysgu. Ac mi fyddan nhw isio edrych ar y llun o Ynyr yn gwenu fel giât am hir. Na, dwi ddim am ddangos hwnnw fan hyn – bydd raid i chi brynu’r llyfr! (Gwasg Carreg Gwalch, £6.50)

Gyda llaw, fydd unrhyw blant sy’n darllen hwn ddim yn debygol o wybod am ffilmiau Alfred Hitchcock, ond roedd o’n gyfarwyddwr fyddai weithiau’n cynnwys ei hun yn y ffilm. A sbiwch ar y llun yma:

Atgoffa chi o rywun?

Oes, mae isio mwy o bobl efo gwallt coch mewn llyfrau! Da iawn, Leri.