Ymbelydredd

All posts tagged Ymbelydredd

Adolygu

Published Mai 9, 2017 by gwanas

Difyr oedd darllen adolygiad Bethan Bryn o Ymbelydredd yn Y Wawr, cylchgrawn Mudiad Merched y Wawr.

IMG_3931

Roedd hi’n dweud nad oedd ganddi gymhwyster i adolygu llyfr; nad oedd yn llenor, bardd, beirniad llenyddol nac yn gweithio o fewn y maes llenyddol. Wel diolch byth am hynny ddyweda i! Mae ei hadolygiad yn un campus ac yn llawer mwy perthnasol a diddorol oherwydd nad oes ganddi ‘gymhwyster.’

Yn fy marn i, mae bod yn ddarllenydd yn hen ddigon o gymhwyster. Pam fod raid cyfyngu adolygiadau o lyfrau i’r un hen leisiau dragwyddol? Mae angen amrywiaeth barn, yn union fel mae angen amrywiaeth o ddeunydd darllen yn y Gymraeg. Ac mae barn Bethan Bryn cyn bwysiced bob tamed â barn unrhyw un arall.

Mae llyfrau Cymraeg angen sylw; mae angen mwy  o adolygu, ac mae hi’n syrffedus o anodd dod o hyd i bobl sy’n fodlon cyhoeddi eu barn. Maen nhw’n gwrthod gan amlaf oherwydd eu bod yn teimlo nad yw eu barn yn cyfrif, nad ydyn nhw’n ddigon pwysig, neu ddim yn ‘llais’ yn y byd llyfrau.

Lol botes! Dyna be sy’n gwneud adolygiadau ‘Tri ar y Tro’ yn Golwg mor ddifyr: mae gynnoch chi 3 llais o gefndir cwbl wahanol sy’n aml yn anghytuno am y llyfr/drama dan sylw, wedyn mae hynny’n gallu gwneud i chi fod eisiau darllen y llyfr neu fynd i weld y ddrama eich hunan, i weld drosoch chi eich hun.

Mae llyfrau ar gael i bawb. ‘Rhydd i bob meddwl ei farn, ac i bob barn ei llafar.’

Pam fod raid i gerddor fel Bethan Bryn gyfyngu ei hun i drafod y byd cerddorol? Mi sgwennodd chwip o adolygiad ac mi hoffwn i weld mwy o adolygiadau fel hyn os gwelwch yn dda.

maxresdefault

Braf fyddai gweld plant, yn hytrach nac oedolion yn adolygu llyfrau plant hefyd.

Mae angen platfform i farn plant Cymru – ond yn y cyfamser, mae croeso i chi yrru eich adolygiadau ata i i’w cynnwys ar y blog yma.

O, gyda llaw, dyma be fues i’n ei neud bore ma:

C_YPfBkXsAA7GpK

Darllen straeon i blant bach Meithrinfa Seren Fach, y Brithdir – a phawb yn ein pyjamas!