Y Gwylliaid

All posts tagged Y Gwylliaid

Cloriau llyfrau

Published Ebrill 3, 2019 by gwanas

images

Dyma be ydi clincar o glawr ynde? A dyma un arall dwi’n hoff iawn ohono:

41mN6FBCVGL._SX316_BO1,204,203,200_

Gofynodd Mared Lewis, yr awdures ar Facebook yn ddiweddar “Be sy’n gwneud clawr da i chi?” a chafodd ymateb difyr: y rhan fwya’n deud nad oedden nhw’n hoffi ffotograffau ar gloriau.

“Well gen i ddarn o gelf na ffoto ar nofel neu ffuglen.”
“Llun neu sgetch a’r lliwiau yn gweddu i’r stori. ddim ffoto.”
“Dwi’n casáu ffotograffau ar gloriau. Yn enwedig os oes wyneb person yna.”

Dwi’n tueddu i gytuno, ond mae’n dibynnu ar natur y llun a’r llyfr wrth gwrs.

Dyna rai o’r goreuon yn Gymraeg yn fy marn i (er y gallai teitl “Y Llyfrgell” fod yn gliriach, ond mae’r llun yn un da):

Yn rhoi naws y llyfr ac yn tynnu sylw. Ond efallai eich bod chi’n anghytuno?

O ran fy llyfrau fy hun, dyma’r cloriau dwi fwya balch ohonyn nhw:

O, a hwn:

9781847716491

Wedi ei ysbrydoli gan Game Of Thrones – y gyfres newydd ar y teledu yn fuan – ieee!

A dyma gloriau eraill dwi’n meddwl sy’n gweithio’n arbennig o dda:

Mae’r genre yn gwbl amlwg tydi?

Mae’r un peth yn wir am hwn:

me-before-you-jo-jo-moyes

Dach chi’n gwybod yn syth sut fath o lyfr ydi o.

Ac o ran llyfrau plant, mae hwn yn un o fy ffefrynnau:

61JSEHA5EVL._SX258_BO1,204,203,200_

Rhowch wybod be sy’n gwneud i glawr weithio yn eich barn chi.

Gyda llaw, dwi’n dal fel nodwydd wedi sticio, mi wn, ond dim ond 2 lyfr gwreiddiol gan awduron o Gymru sydd yn rhestr Gwerthwyr Gorau plant y mis yma.

55771769_10156486920978650_6215337986830106624_n

Oni fyddai llyfrau Cymraeg GWREIDDIOL yn cael gwell chwarae teg a sylw pe bai modd darparu dwy restr? Un ar gyfer llyfrau gwreiddiol yn unig? Dim ond gofyn.

Advertisements

Diwrnod y llyfr

Published Mawrth 11, 2019 by gwanas

Mi ges i ddau gyfle i ddathlu diwrnod y llyfr! Yn gyntaf, ar ddydd Gŵyl Dewi, ges i wahoddiad i Lyfrgell Dolgellau i ddarllen darnau o stori Cadi a’r Deinosoriaid a rhannu ambell boster. Mi wnes i wrthod taith i Sierra Leone er mwyn bod yn y llyfrgell (wir yr), ond peidiwch â deud hynny wrthyn nhw. Nhw oedd wedi gofyn gynta, wedi’r cwbl.

IMG_0019

Andros o hwyl! Fyddai Sierra Leone ddim wedi gallu cymharu. A gwneud lluniau a chrefftau deinosoraidd a Dydd Gŵyl Dewi-aidd wedyn:

IMG_0030

Yr unig ddarn anodd o’r diwrnod oedd trio penderfynu pwy oedd yn haeddu gwobr am y wisg orau. Pawb mor dda a’r holl lygaid mawr yn syllu i fyw fy llygaid a minnau’n chwysu, ddim isio pechu neb…

IMG_0028

Bu’n rhaid i mi ddewis goreuon y gwisgoedd eto ar Fawrth y 7fed yn Ysgol Llanfechell, Ynys Môn. A sbiwch anodd oedd hynny!

_105929376_llun-o-bawb
_105929378_efaacelsa-loli

A dim ond y plant bach oedd hynna!

Un o fy ffefrynnau ymysg y rhai hŷn, wrth reswm, oedd hon:

D1EZFsBW0AEQUQA

Dyna sut i blesio awdur! Wedi astudio’r clawr yn fanwl, ylwch:

51xLV3OPoLL._SX322_BO1,204,203,200_

O, ac mae Ysgol Gyfun Gwent Is Coed yng Nghasnewydd wedi plesio’n arw hefyd – sbiwch!

D1D9n82XQAA16ih

Dim ond gobeithio eu bod nhw wedi mwynhau’r darllen ynde. Gyda llaw, dwi’n clywed bod ‘na ambell ymgom Bl 7-9 arbennig wedi bod yn eiteddfodau lleol yr Urdd (Y Gwylliaid ydi’r testun) a dwi’n edrych mlaen yn arw i’w gweld a’u clywed yn y Genedlaethol fis Mai!

Ond yn ôl i ben arall y wlad, i Fôn: mi ges i fodd i fyw yn Llanfechell, unwaith i mi ddod o hyd i’r lle. Eitha anodd – yn enwedig yn y gwynt a’r glaw.

20190307_144134

Ond roedd o werth o.

Doedd fy wythnos greadigol ddim ar ben: ro’n i’n tiwtora yn Nhŷ Newydd ar y dydd Sadwrn – a’r cwrs yn llawn o bobl oedd â diddordeb mewn sgwennu ar gyfer plant a/neu bobl ifanc.

20190309_123927

Ac un peth gafodd ei drafod bod gormod o lyfrau Cymraeg gwreiddiol yn rhy ‘neis’ a dim digon o rechen/cnecian/pwmpio a phethau felly.

20190301_124146

Roedd ‘na syniadau gwych gan y criw yma!

A sôn am sgwennu a syniadau gwych, dyma lyfr i’ch rhieni/nain/taid/modryb/ athrawon. Nofel ddiweddara Sian Northey. Wrth fy modd efo hi!

20190302_190611

Y Gwylliaid ar lwyfannau’r Urdd!

Published Medi 13, 2018 by gwanas

Weihei! Da iawn annwyl bwyllgor theatr/drama Steddfod yr Urdd 2019! Maen nhw wedi dewis darnau o nofelau i blant ar gyfer dwy gystadleuaeth ymgom.

Testun ymgom Bl 6 ac iau ydi ‘Ffrindiau’ gan y diweddar Gareth F Williams.

51j5AQmatqL._SX324_BO1,204,203,200_

Ardderchog. Dwi’n edrych ymlaen at weld a chlywed y gystadleuaeth honno ar lwyfannau Cymru.

Ac wrth gwrs, dwi wedi gwirioni efo’r dewis ar gyfer Ymgom Bl.7, 8 a 9
(2–4 mewn nifer) oherwydd mai dyma be sydd yn y rhaglen:

Detholiad penodol o ‘Y Gwylliaid’, Bethan Gwanas
neu
Ddetholiad dewisol o’r nofel
Copi o’r detholiad penodol ar gael o Adran yr Eisteddfod, Glan-llyn
Dim hwy na 5 munud gan gynnwys amser i osod a chlirio llwyfan.

51xLV3OPoLL._SX322_BO1,204,203,200_

Cyfle gwych i roi sylw – a chyfle – i nofelau Cymraeg (gwreiddiol) i blant a phobl ifanc – o’r diwedd!

Felly os ydach chi’n hoffi (neu’n nabod rhywun sy’n hoffi) actio a pherfformio, ewch ati i ddarllen a dethol ac ymarfer.

A phob lwc!

preview