Tywyn

All posts tagged Tywyn

Trwy’r Darlun

Published Mai 17, 2017 by gwanas

Dw i newydd orffen hon, ac yn methu credu nad o’n i wedi ei darllen cyn hyn, na chwaith bod neb WEDI DEUD WRTHA I Y BYDDWN I’N EI MWYNHAU HI GYMAINT! Felly dw i’n deud wrthach chi, rwan, iawn?

image

Os ydach chi, fel fi, yn hoffi straeon ffantasi am fydoedd eraill od, llawn hud a lledrith a chreaduriaid annisgwyl (fel y Cnorc – caru fo!) sy’n dangos chwip o ddychymyg ar ran yr awdur, mae hon yn WYCH!

image

Nofel gyntaf erioed Manon Steffan Ros oedd hon, nôl yn 2008. Sbiwch ifanc ydi hi yn y llun! Nid ei bod hi’n edrych yn hen rwan, wrth gwrs…

Mae’r nofel wedi ei hanelu at blant 9-13 oed fel rhan o Gyfres yr Onnen. Bachgen ydi’r prif gymeriad – Cledwyn, sydd ar fin mynd i Ysgol Uwchradd Tywyn, ond mae ei chwaer fawr o, Siân yn bwysig iawn i’r stori hefyd. Be wnes i ei fwynhau ydi’r ffaith nad oes yr un o’r ddau gymeriad yn berffaith, ond rydan ni’n dal i’w hoffi nhw – efallai oherwydd hynny. Dan ni’n gallu credu eu bod nhw’n wir, ac o’r herwydd, mae’r byd trwy’r darlun yn teimlo’n wir hefyd.

Mi wnes i hefyd fwynhau’r ffaith ei bod wedi ei gosod yn gadarn yn ardal Tywyn ac Aberdyfi. Mae ‘Clychau Aberdyfi’ yn bwysig ynddi er enghraifft – cân ro’n i wedi credu oedd yn un draddodiadol Gymreig, ond na, mae’n debyg mai ymddangos yn Saesneg wnaeth hi gynta, yn 1785! Hm…be nesa?

Ta waeth, mi wnes i syrthio mewn cariad efo cymeriad Gili Dŵ, sy’n methu deud ‘r’, ac mi wnewch chithau hefyd. Mi fydd y Marach a’r Abarimon yn aros yn y cof hefyd, a’r hen Gnorc bach druan. O, a gesiwch ble mae Gili Dŵ yn byw? Yn ‘Pendramwnwgl’! Sef enw fy hoff gân erioed gan dad Manon, Steve Eaves.

Dyma i chi dudalen yn agos at ddechrau’r stori i roi blas i chi:

image

Ia, eich gadael ar ymyl y dibyn yn fanna – neu ar ‘glo crog’ fel y cafodd ei benderfynu gan Elgan o Ysgol Cerrig-y-drudion ar raglen radio Aled Hughes bore ma – dyna fydd y term swyddogol am ‘cliffhanger’ o hyn ymlaen. Diolch am siarad cystal am lyfrau a dy lyfrgell, Elgan! Hen bryd cael barn plant am lyfrau plant, yn hytrach nac oedolion dragwyddol!

Gyda llaw, dyma ddarn gafodd ei gyhoeddi ar gwales.com pan gafodd Trwy’r Darlun ei gyhoeddi gyntaf:

Cafodd Manon y syniad am y stori ar ôl genedigaeth ei mab, Efan, yn 2005. Teimlodd dristwch na fyddai ei mab byth yn dod i adnabod ei Nain, oherwydd collodd Manon ei mam i gancr yn 2003. Yn hytrach na gweld ei Nain mewn hen luniau’n unig, penderfynodd Manon lunio stori’n cynnwys ei mam fel un o’r prif gymeriadau, gan obeithio y byddai Efan yn adnabod ychydig mwy arni drwy’r stori yn y dyfodol.
Mae sawl elfen arall o fywyd yr awdures ifanc yn cael eu hadlewyrchu yn y nofel. Gwlad hudol Crug yn y stori yw ardal enedigol ei mam ym Mryncrug; mae cymeriad Cledwyn yn y nofel wedi deillio o lun o hen berthynas iddi; ac mae Manon bellach yn byw yn ardal Aberdyfi, lle mae’r prif gymeriadau’n byw.

Meddai Meinir Edwards, Golygydd Y Lolfa, “Dyma nofel ffres, llawn dychymyg. Mae Manon Steffan Ros yn awdures ifanc, newydd, gyffrous. Rwy’n siwr y clywn ni dipyn mwy amdani hi, a’i nofelau, yn y dyfodol.”

Roeddet ti’n iawn, Meinir! Mi enillodd y dilyniant, Trwy’r Tonnau, wobr Tir naN-og a dwi’n ysu i ddarllen honno rwan.

Bwystfilod a Bwganod gan Manon Steffan Ros

Published Ionawr 6, 2014 by gwanas

image

Un o gyfres yr Onnen ar gyfer darllenwyr da 9-13 oed ydi hon, felly mae’r iaith yn fwy coeth, yn fwy cymhleth. Ee: ‘Wyddai o ddim ai cyffro ynteu ofn ydoedd.’ Nefi. Ffurfiol iawn. Dwi ddim yn siwr ai Manon ( yr awdur- fan hyn)image neu’r golygyddion oedd yn gyfrifol am honna, ond mi neidiodd allan i mi. Ond peidiwch a phoeni, dydi gweddill y nofel ddim fel yna.

Mae’r stori’n llifo, efo digon o ddeialog bachog, a dwi wrth fy modd efo’r ffaith ei bod hi wedi ei lleoli yn Nhywyn, Meirionnydd, tref sydd angen sylw yn y byd Cymraeg a Chymreig. Efallai na chafodd Tywyn Eisteddfod yr Urdd, ond mae’n cael sylw mewn nofel! Mae’r awdur wedi cynnwys trefi eraill sydd ddim yn cael llawer o sylw mewn llyfrau ond bydd raid i chi ddarllen y nofel i weld os ydi eich tref chi ynddi!

Y cymeriadu ydi cryfder y nofel i mi; mae’r 3 prif gymeriad ( 3 plentyn ysgol sy’n rhyw fath o Ghostbusters Cymraeg) yn gwbl wahanol i’w gilydd: Tom, sy’n dipyn o iob a phôsar, Hywel, sy’n chydig bach o linyn trôns ym marn ei gyd-ddisgyblion, a Hilda, sydd â thipyn o geg arni. Mi fyddwch chi’n gweld y tri yn datblygu yn ystod y stori, ac yn dod i hoffi’r tri.
Mae yma ddigon o hiwmor, yn enwedig yn y cega rhwng Hilda a Tom; ambell ddarn eitha brawychus hefyd, pan fydd y tri yn mynd ar ôl yr ysbrydion a’r bwystfilod, ond nid stori i’ch dychryn ydi hon. Adloniant ydi hi, ond, fel mewn cymaint o straeon Manon Steffan, mae na elfennau trist hefyd, pethau fydd yn gwneud i chi feddwl.

Mi wnes i ei mwynhau hi, ac mi fydd yn siwr o blesio plant sydd eisoes yn mwynhau darllen nofelau Cymraeg. Dyna fwriad y gyfres wedi’r cwbl.

Ond am mod i wedi mwynhau llyfrau eraill Manon gymaint (‘Blasu’ ar gyfer oedolion ydi un o’r llyfrau Cymraeg gorau i mi eu darllen erioed), ges i fy siomi fymryn bach efo hon yn y diwedd. Peidiwch a nghamddallt i, mae hon yn nofel dda iawn, ond pan gaeais i’r clawr ar ôl ei gorffen, doedd y wefr o ‘www, dwi newydd ddarllen rhywbeth arbennig’ ddim yma tro ‘ma. Mi wnes i ei deimlo fo efo Baba Hyll, ond nid efo hon. Y diweddglo oedd ar fai dwi’n meddwl, a’r teimlad ges i nad oedd stori’r criw sy’n ceisio rhwystro’r tri rhag gwneud eu gwaith wedi taro deuddeg ar y diwedd. Nid i mi o leia. Ond os ydach chi’n anghytuno, cofiwch roi gwybod! Mae’n gas gen i fod yn negyddol, a do’n i wir ddim isio gweld bai o unrhyw fath, ond mae’n rhaid i mi fod yn onest mewn blog fel hyn yndoes?

Dwy nofel arall gan Manon (eto yng nghyfres yr Onnen) enillodd Wobr Tir na Nog iddi, a dwi’m wedi darllen rheiny eto ond mae pawb yn eu canmol, ‘Prism’ yn enwedig. Felly dwi am roi cynnig ar honno yn fuan.image