tsili

All posts tagged tsili

Deri Dan y Daliwr Dreigiau

Published Hydref 13, 2017 by gwanas

image

Llyfr newydd, gwreiddiol gan Haf Llewelyn, a lluniau hyfryd gan Petra Brown. Wel, newydd ers yr haf ond dim ond rŵan dwi’n llwyddo i’w darllen hi! Mae’n werth aros weithiau…

Mae’n ran o gyfres Roli Poli, fel Nan a’r sioe fawr gan Ifan Jones Evans.

9781785621093_large

Felly mae wedi ei anelu at blant 7-9 oed ( yn fras).

Mae pawb yn disgwyl i Deri Dan ddilyn ôl traed ei gyndeidiau trwy fod yn ddaliwr dreigiau o fri. Ond “byddai’n well gan Deri Dan fod yn UNRHYW BETH yn y byd, heblaw bod yn ddaliwr dreigiau…” Mae o’n hoffi dreigiau; mae ganddo ddraig fach anwes, annwyl o’r enw Beti a dydi o ddim isio bod yn gyfrifol am gaethiwo draig mewn dwnjwn tywyll… ond does ganddo fawr o ddewis. Y canlyniad ydi stori ddifyr, llawn antur a hiwmor ddylai blesio plant sy’n ei darllen yn annibynnol neu fel dosbarth.

Dyma i chi sut mae’n dechrau ( cliciwch ar y llun i’w wneud yn fwy):

A dyma lun yn nes ymlaen yn y stori, sy’n rhoi syniad da i chi o arddull  y llyfr:

image

A dyma adolygiad oddi ar wefan gwales.com gan ddarllenydd 9 oed:
Adolygiad Gwales
Stori antur yw Deri Dan y Daliwr Dreigiau gan Haf Llewelyn. Stori gynhyrfus, lawn dychymyg am deulu dewr a mentrus sy’n ceisio dal dreigiau ffyrnig a pheryglus ers blynyddoedd. Roedd Taid Deri Dan yn ddaliwr dreigiau adnabyddus, ac wedi llwyddo i ddal Dorcas y ddraig enfawr pan oedd yn iau. Mae Deri Dan a Beti yn mynd am antur i geisio dal Dot y ddraig sy’n dinistrio gerddi Cwm Cynnes.

Perthynas agos sydd gan Deri Dan a Beti’r ddraig fach ffyddlon, sef anifail anwes Deri Dan. Ond a ydy Deri Dan a Beti yn llwyddo i ddal y ddraig wyllt sy’n creu trafferth i drigolion pentref Cwm Cynnes? A all Deri Dan a Beti achub y dydd er mwyn sicrhau bod diwrnod carnifal Cwm Cynnes yn llwyddiannus?

Mae’r awdur talentog wedi defnyddio iaith loyw a llawer o idiomau, ansoddeiriau a chymariaethau er mwyn creu dirgelwch. Gall chwarae gyda geiriau hefyd i ychwanegu hiwmor i’r stori, a lluniau llawn manylder sy’n creu cymeriadau lliwgar a realistig sydd i’w gweld gan yr arlunydd crefftus, Petra Brown.

Llyfr cyffrous a llawn antur ydi hwn. Heb os nac oni bai, bydd plant sy’n hoffi dreigiau ac anifeiliaid anwes wrth eu boddau yn ei ddarllen ac ar bigau drain i’w orffen. Rwyf yn argymell y llyfr yma i ddarllenwyr ifanc rhwng 6 a 9 oed, felly dewch am helfa i chwilio am ddreigiau cynddeiriog gyda Deri Dan a Beti bach!

Siwan Fflur Rees (9 oed)

Wedi ei phlesio, ddeudwn i! A finna hefyd, Siwan.
Ond jest un peth bach. Mae’r rhain yn bwysig i’r stori:
chillies-1200x800
Ond rhaid i mi ddeud, mae’r sillafiad ‘tsili’ yn edrych braidd yn ‘sili’ i mi. Mae Geiriadur Bruce yn hapus efo ‘chilli’; mae’r sillafiad dros y byd yn amrywio rhwng chili, chile a chilli. Ond dyna fo, fydda i byth yn bwyta ‘tsips’ chwaith na galw rhywun yn ‘tsaf’. Chips a chafs ydyn nhw i mi. Anghytuno? Cytuno? Trafodwch!
Ond diolch Haf, am lyfr gwreiddiol arall ar gyfer plant 7-9 oed. Ieeee!
Mae plant Cymru yn ysu am fwy o straeon tebyg – dwi’n gwybod achos dwi wedi bod yn siarad efo llwythi ohonyn nhw yn ddiweddar. e.e: dyma griw o blant ardal Llanwddyn a Phapur Bro yr Ysgub, lle fues i’n darllen straeon fel rhan o’r Ffair ddydd Sadwrn ( a phrynu chytnis a bara brith bendigedig):
FullSizeRender
Ac fel rhan o Wythnos LLyfrgelloedd, mi fues i yn Llyfrgelloedd Tywyn, Pwllheli a Phorthmadog a chael coblyn o hwyl efo plant fel rhain:
FullSizeRender 2
Bechod garw bod cyn lleied o ymweliadau awduron bellach oherwydd yr holl doriadau. Maen nhw’n gwneud gwahaniaeth, tydyn athrawon/rieni/blant?
Ysgolion: cysylltwch efo’ch hoff awduron – yn enwedig os ydyn nhw’n lleol – does dim rhaid i ymweliad awdur fod yn ddrud. Ers talwm, ro’n i’n daer bod angen i ni awduron Cymraeg fod yn fwy ‘Proffesiynol’ a hawlio tâl fel awduron dros y ffin, ond yn yr oes dlawd hon, dwi, a sawl awdur arall, wedi gadael i’r ‘p’ fynd yn un llai. Yn anffodus, dwi ddim yn meddwl bod gynnon ni ddewis os am geisio osgoi cael ein boddi o dan yr holl addasiadau ‘enwog’.
Ac mae sgwrsio efo’ch darllenwyr yn eich ysbrydoli, bobol bach!