Tlws Mary Vaughan Jones

All posts tagged Tlws Mary Vaughan Jones

Tlws Mary Vaughan Jones 2018

Published Hydref 20, 2018 by gwanas

Dyma i chi golofn sgwennais i ar gyfer Yr Herald Gymraeg wythnos dwytha:

Drinking pint in The Inklings pub, The Eagle & Child

Bob tair blynedd, bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn cyflwyno tlws er cof am yr awdures Mary Vaughan Jones, ‘mam’ Sali Mali a Jaci Soch a chymaint o gymeriadau eraill helpodd genedlaethau o blant i ddysgu a mwynhau darllen.
250px-SaliMali
Hogan o ardal Llanrwst oedd hi, aeth yn athrawes ac yna’n ddarlithydd yn Y Coleg Normal, Bangor.
Bu farw yn 1983, ac yn 1985, dechreuwyd cyflwyno’r tlws i unigolion a wnaeth gyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant yng Nghymru.

Dp207_dWwAAHphn
Dros y blynyddoedd, mae’r wobr wedi’i chyflwyno i’r mawrion, fel Ifor Owen, Emily Huws, T. Llew Jones, W. J. Jones, Roger Boore, J. Selwyn Lloyd, Elfyn Pritchard, Mair Wynn Hughes, Angharad Tomos, Jac Jones a Siân Lewis.
Ac eleni, y diweddar Gareth F Williams sydd wedi ei hennill a bydd yn cael ei chyflwyno i deulu Gareth mewn seremoni arbennig ym Mhortmeirion nos fory, sef nos Iau, 18 Hydref.
Dwi mor falch ei fod yn cael ei anrhydeddu fel hyn. Cyn iddo fo’n gadael ni mor greulon o fuan, llwyddodd Gareth i ysgrifennu ugeiniau o gyfrolau ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion, ac mae pob un wan jac ohonyn nhw yn werth eu darllen. Enillodd o Wobr Tir na n-Og chwe gwaith (dwi’m yn meddwl bod neb arall wedi dod yn agos), ac yn 2015, pinacl ei yrfa, enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn am ei nofel epig ar gyfer oedolion, Awst yn Anogia.
A rŵan, ac yntau ddim yma i roi’r wên annwyl ’na, mae o’n ennill gwobr arall. A deud y gwir, dwi bron yn siŵr mai hon ydi’r wobr fyddai wedi golygu fwya iddo fo; roedd o wrth ei fodd yn sgwennu ar gyfer plant a phobl ifainc, a dyma’r clod uchaf posib yn y maes. Diolch yn fawr i’r Cyngor Llyfrau am ei anrhydeddu fel hyn.
Bydd rhai o ddisgyblion Ysgol Eifionydd yn darllen a pherfformio eu hoff ddarnau o’u hoff lyfrau ganddo ar y noson, a dwi’n edrych ymlaen i’w clywed nhw na fu’r ratsiwn beth.

9780862432287

Pan fydda i’n meddwl am Gareth, mi fydda i’n meddwl am dŷ yn llawn llyfrau – ar silffoedd, ar lawr, ar ddesg a byrddau – bob man. Rhywbeth tebyg i fy nhŷ i a bod yn onest, a’r math o dŷ sy’n gwneud i mi wenu. Efallai bod tai taclus â dim llyfrau yn y golwg yn plesio cylchgronau sgleiniog fel Ideal Home a Hello ac ati, ond dydyn nhw’n gwneud dim lles i ddyfodol eich plant chi!

Reading Rupert - Christmas 15

Mae’n ffaith: mae astudiaeth ar y cyd rhwng prifysgolion yn Awstralia a Nevada wedi darganfod bod cael eich magu mewn tŷ llawn llyfrau, hyd yn oed os nad ydech chi’n eu darllen nhw, yn gwella eich canlyniadau addysg – a chyfoeth – ac IQ. Nid dim ond o ran eich sgiliau iaith ond o ran mathemateg a thechnoleg gwybodaeth hefyd.
Nid y darllen fel y cyfryw oedd yn gwneud y gwahaniaeth, mae’n debyg. ‘Mae’n anodd iawn rhoi eich bys arno,’ meddai Dr Sikora, prif awdur yr astudiaeth, ‘mae ’na fwy iddi na deud “jest darllena lwyth o lyfrau.” Mae’n ymwneud â bod o gwmpas llyfrau a phobl sy’n darllen. Mae’n bwysig i blant ifanc weld eu rhieni a phobl eraill yn amgylchynu eu hunain â llyfrau.’
house-full-of-books-21-portfolio
Pobl o wledydd fel Estonia, Norwy a Gwlad Tsiec oedd â’r nifer fwya o lyfrau yn eu tai pan oedden nhw’n 16. Cyfartaledd o 218 llyfr yn Estonia, dim ond 143 ym Mhrydain (dim clem faint o Gymru gafodd eu holi), 125 yn Nghanada a 114 yn yr Unol Daleithiau. Twrci oedd â’r nifer lleiaf o’r astudiaeth – 27 llyfr. Ond Norwy oedd â’r nifer fwya o bobl gyda thros 500 llyfr yn eu tai.
A dyma i chi ganlyniad diddorol: roedd gan oedolion gyda graddau prifysgol, ond oedd wedi eu magu gyda llai o lyfrau, yr un lefel llythrennedd â phobl oedd wedi gadael yr ysgol yn 15 oed, ond oedd wedi byw mewn tai llawn llyfrau.

Roedd y gwahaniaeth mwya ymysg pobl oedd wedi eu magu â llai o bres a manteision, felly gallai teuluoedd tlawd heddiw leihau’r gagendor addysg drwy ‘addurno’ eu cartrefi â llyfrau. Syml!

Felly faint o lyfrau oedd o’ch cwmpas chi yn 16 oed? Doedd gynnon ni ddim gymaint â hynny gan fod Mam yn mynnu rhoi ein hen lyfrau plant i aelodau eraill y teulu estynedig dragwyddol, ond wedi deud hynny, roedd hynny’n gweithio ddwy ffordd: roedden ni’n cael llyfrau ail law gan amrywiol fodrybedd yn weddol gyson. Mi fyddwn i’n cael llyfrau fel anrhegion pen-blwydd a Nadolig yn rheolaidd, ac yn eu trysori. Ond y fan llyfrgell oedd gwir ffynhonell ein deunydd darllen ni, a byddai’n rhaid rhoi’r rheiny yn ôl, wrth gwrs.

Mi fydda i’n dal i ddefnyddio ein llyfrgell leol yn aml, a diolch byth fod y lle yn dal yn agored, achos dwi wedi prynu a derbyn cannoedd ar gannoedd o lyfrau dros y blynyddoedd. Gormod a bod yn onest, gan mod i’n dechrau rhedeg allan o le i’w cadw, ac yn mynd â bocseidiau i siopau elusen pan fydd yr awydd i ddystio neu hŵfro yn codi (na, dydi hynny ddim yn digwydd yn aml…)

Mae rhai’n deud nad oes y fath beth â gormod o lyfrau, ond mae’n dibynnu ar faint eich tŷ chi tydi!
lessmore-screenshot

Dyma i chi ambell ddyfyniad am ddarllen sydd wedi fy nifyrru dros y blynyddoedd:
‘“Clasur” – llyfr y bydd pobl yn ei ganmol ond ddim yn ei ddarllen.’ Mark Twain.
‘Dylai llyfr gwych eich gadael â llawer o brofiadau, ac wedi ymlâdd fymryn ar y diwedd. Rydach chi’n byw sawl bywyd wrth ddarllen.’ William Styron
Ac un yn y Saesneg gwreiddiol am fod cyfieithu ‘daunting’ yn fachog yn anodd:
(wrth drafod llyfrau plant) ‘Books shouldn’t be daunting, they should be funny, exciting and wonderful…’ Roald Dahl.

Byddai Gareth F wedi cytuno.


Roedd y noson yn un hyfryd, gynnes, emosiynol a diolch i bawb gyfrannodd iddi.
Wrth gerdded yn ôl drwy bentre Portmeirion, roedd y lleuad yn disgleirio ar yr afon roedd Gareth wedi ei fagu wrth ei hymyl, a dyma lun dynnais i efo fy ffôn.

Dp0RaaHWkAAi4EY

Holi Siân Lewis

Published Tachwedd 26, 2016 by gwanas

Mae’r awdures Siân Lewis newydd fod ar daith @LlyfrDaFabBooks o gwmpas ysgolion Sir Benfro. Un o gynlluniau  Cyngor Llyfrau Cymru i hyrwyddo darllen ydi’r daith, cyfle i ddisgyblion gyfarfod ag un o’n hawduron mwyaf toreithiog a phrofiadol. A dyma hi efo rhai o blant y sir:15135895_1094758903978799_2467915828179596585_n

Siân oedd awdur cyfrol fuddugol categori cynradd Gwobrau Tir na n-Og 2016 gyda’r arlunydd Valériane Leblond, sef Pedair Cainc y Mabinogi.

9781849672276_1024x1024

Hi hefyd oedd enillydd Tlws Mary Vaughan Jones yn 2015 am ei chyfraniad amhrisiadwy i fyd llenyddiaeth plant.  Mae’r tlws  yn cael ei roi bob tair blynedd i awdur sydd wedi sgwennu nifer fawr o lyfrau plant Cymraeg dros gyfnod o flynyddoedd, ac mae Sian Lewis wedi sgwennu cannoedd – yn llythrennol! Dros 250 o lyfrau i blant a phobl ifanc hyd yma.

Dyma i chi rai ohonyn nhw:

Un o ardal Aberystwyth ydy hi yn wreiddiol. Astudiodd Ffrangeg ( fel fi!) yng Nghaerdydd cyn dychwelyd i’w bro enedigol, ac ar  ôl cyfnod fel llyfrgellydd, bu’n gweithio i adran gylchgronau’r Urdd cyn mentro fel awdures ar ei liwt ei hun.

5586-19278-file-eng-sia%cc%82n-lewis-300-285

Ond tybed pa lyfrau oedd yn apelio ati hi ers talwm? Be ysbrydolodd hi i sgwennu cymaint? Dyma ei hatebion:

1. Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?
a) Ysgol Gynradd  – Cymraeg a Saesneg

Ces gopi o Trysorau Hafod Aur gan Idwal Jones ar fy mhen-blwydd yn 6. Dwi’n dal i gofio’r ias a’r cyffro, ac yn ffan o lyfrau ditectif byth oddi ar hynny.

Roedd nofelau Meuryn yn ffefrynnau.

230px-meuryn_barcud_olaf

Llyfr arall sy’n aros yn y cof yw Bandit yr Andes gan R. Bryn Williams.

31dn1tg9bul-_sl500_sx331_bo1204203200_

Yn Saesneg roedd raid darllen llyfrau Enid Blyton, yn enwedig y gyfres ‘Adventure’. Yr unig un wnaeth fy siomi oedd The Mountain of Adventure a leolir yng Nghymru. Cymru Blytonaidd iawn!

620wide5673640

Ro’n i hefyd yn mwynhau darllen llyfrau’r Americanesau Louisa M. Alcott a Susan Coolidge,

images

ac am amrywiol resymau, mae gen i atgof hapus iawn o The Secret Garden gan Frances Hodgson Burnett.

460559-bef4e5d312780a29f1b0ead896b92394

Bob wythnos, rhwng fy mrawd a minnau, roedd hanner dwsin o gomics yn cyrraedd tŷ ni. Gwych!

b) Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg

islwynffowcellis

Dyma pryd y dechreuais ddarllen a mwynhau llyfrau Islwyn Ffowc Elis ( dyna fo uchod),

a threulio oriau difyr yn helpu ditectifs John Ellis Williams i ddatrys dirgelion.

41v8acoy5l-_uy250_

Ro’n i’n breuddwydio am fod yn prima ballerina, felly ro’n i’n llowcio llyfrau Lorna Hill, A Dream of Sadler’s Wells ac ati.

adreamofsadlerswellsblog

Ffefryn arall oedd Mabel Esther Allan.

allan%2cmabelesther-swissholiday%28vine-cladhill%29%281956%29frontcover

Hefyd fe etifeddais set o glasuron y 19eg ganrif – Dickens, Hardy, Brontë – a chael blas go iawn ar eu darllen.

2. Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Dwi’n darllen llyfrau plant/pobl ifanc mor aml ag y galla i. Dwi newydd orffen Gwalia gan Llŷr Titus a The Lie Tree gan Frances Hardinge, llyfrau arbennig o dda.

Hefyd dwi wedi darllen Wcw, Mellten a Cip y mis hwn. Dwi’n dal i hoffi comics.

3. Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Dwi wedi cydweithio â llawer o arlunwyr, felly alla i ddim dewis rhyngddyn nhw. Mae gan bob un arddull unigryw, a dwi wastad yn edrych ymlaen yn fawr at weld ymateb arlunydd i’m llyfrau.

4. Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Dwi wedi bod yn arwres llawer iawn o storïau, achos roedd fy mam a ’nhad yn eu creu ar fy nghyfer bob nos wrth fynd i’r gwely. Dechreuais innau sgrifennu storïau cyfres – dechrau ond nid gorffen bob tro – a’u gyrru at Mam-gu a Tad-cu.

Mi ddechreuais sgrifennu go iawn ar ôl cael swydd yn Adran Gylchgronau’r Urdd.

qok8z7q3

5. Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Dwi’n mwynhau gweld syniadau’n sboncio o nunlle, eu dal, a rhoi trefn arnyn nhw – wel, gobeithio!

6. Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.

Pedair Cainc y Mabinogi oedd fy llyfr diwethaf.

9781849672276_1024x1024

Roedd yn hwyl ailgwrdd â’r hen gymeriadau, didoli’r deunydd a phenderfynu sut i’w gyflwyno. Mae lluniau Valériane Leblond

isa_760xn-6888435215_1d9dyn rhoi naws gwreiddiol, gwahanol i’r llyfr.

7.Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Stori’r Brenin Arthur fydd y llyfr nesaf. Unwaith eto mae’r hanesion yn bodoli’n barod, llawer gormod i un llyfr. Felly’r dasg yw dewis pa storïau i’w cynnwys a sut i’w clymu wrth ei gilydd. Mae Prydain gyfan a rhannau o’r cyfandir wedi hawlio Arthur, ond Arthur y Cymry fydd hwn.

Diolch yn fawr, Siân! Edrych mlaen yn arw at weld Stori’r Brenin Arthur.