The Girl of Ink and Stars

All posts tagged The Girl of Ink and Stars

Nofel ffantasi Saesneg ar gyfer plant 9 +

Published Ebrill 21, 2017 by gwanas

GOIAS-banner

Dwi’n gorfod argymell hwn – The Girl of Ink and Stars gan Kiran Millwood Hargrave. Hyfryd, hyfryd, hyfryd. Jest y peth i blant (ac oedolion) sy’n hoffi ffantasi – a mapiau! Ac mae’r prif gymeriad yn ferch – ond mi ddylai bechgyn fwynhau’r stori, wir yr!

Mae Isabella yn breuddwydio am y gwledydd pell roedd ei thad yn arfer gwneud mapiau ohonyn nhw. Ond does neb yn cael symud ar yr ynys bellach. Pan mae ei ffrind yn diflannu, mae Isabella’n cynnig gwneud cofnod o’r daith. A dyna ddechrau taith a hanner, llawn afonydd sychion, coedwigoedd duon a bwystfilod – a thân.

Wedi ei sgwennu’n arbennig o dda.Nofel gyntaf yr awdures:

methode-times-prod-web-bin-ca5c2b06-13a2-11e6-bd58-7e24c8a47b2d

Os am wybod mwy amdani, dyma dudalen ar ei gwefan:

http://www.kiranmillwoodhargrave.co.uk/discover/faqs/

Dwi’n deud yn y pennawd mai ar  gyfer plant 9+ mae o, ond yn fras, plant 10-14 yw’r darllenwyr mwya tebygol. Ac mae’n dibynnu ar y plant tydi? Bydd ambell un 8 oed yn ei fwynhau’n arw, a rhai 18.

Mwynhewch!

Advertisements