Sonia Edwards

All posts tagged Sonia Edwards

Fi a Joe Allen

Published Mai 19, 2018 by gwanas

20180519_151555_resized

Mae Manon Steffan Ros wedi ei gwneud hi eto! Dyma i chi nofel ar gyfer darllenwyr 11-14 oed (yn ôl y cyhoeddwyr) (10-94 oed yn fy marn i) ddylai fod yn hynod o boblogaidd, yn bendant gyda phlant a phobl sy’n hoffi pêl-droed, ond hefyd gydag unrhyw un sy’n hoffi stori dda wedi ei dweud yn grefftus.

Os oeddech chi wedi cael eich swyno gan berfformiadau tîm Cymru yn yr Ewros 2016,

JS79290843

mi gewch eich swyno gan hon. Os ydach chi’n addoli Joe Allen,

joe-allen-wale

mi fyddwch chi wedi gwirioni. A hyd yn oed os fyddai’n well gynnoch chi fwyta malwen na gwylio pêl-droed, mi fyddwch chi’n mwynhau hon. Ydi, mae hi am bêl-droed, ond mae hi hefyd am berthynas bachgen a’i fam, bachgen a’i dad, bachgen a’i waith cartref, am siarad Ffrangeg (ieee!), am deithio, am fod yn ran o lwyth neu ‘tribe’ a llawer iawn mwy.

Mae gwir angen nofel wreiddiol fel hon ar y byd llyfrau, ac os oes gynnoch chi blentyn sy’n gwrthod neu’n casau darllen oherwydd fod yn well ganddo/ganddi chwarae neu wylio pêl-droed, dwi wir yn meddwl y gallai hon wneud gwahaniaeth.

Marc Huws ydi enw’r bachgen yn y stori (oedd, roedd ei dad yn ffan mawr o Mark Hughes):

pa-photos_t_premier-league-managers-young-gallery-pies-1412m-758x506

ac er fod y tad hwnnw yn absennol y rhan fwya o’r amser, mae’n cynnig mynd â Marc i weld Cymru’n chwarae yn Ffrainc. Mae’n gyfle iddyn nhw ddod i nabod ei gilydd yn well, a chan fod tad Marc yr un ffunud â Joe Allen, maen nhw’n cael llawer o hwyl. Ond fel y byddech chi’n disgwyl o unrhyw stori dda, dydi pethau ddim yn fêl i gyd…

Mae Manon yn cyfadde nad oedd ganddi lawer o ddiddordeb mewn pêl-droed tan yr Ewros, ond ers hynny, mae hi wedi mopio ei phen efo’r gêm – a thîm Lerpwl! A Mo Salah…

Mo-Salah-692519

Dwi’n meddwl bod y ffaith bod o leia un o’i meibion wedi gwirioni efo pêl-droed yn rhannol gyfrifol am y droedigaeth i fyd y bêl gron!

Mae’n amlwg ei bod wedi mwynhau sgwennu’r nofel yn arw, a chwarae teg, mi wnaeth hi drydar y canlynol:

“Dwi byth yn deud digon am rôl golygydd yn y broses o greu’r llyfrau dwi’n sgwennu. Y gwir ydi, dwi’n lwcus iawn iawn iawn i gael gweithio efo pobl brwd a thalentog ‘sgin y gallu i awgrymu newidiadau heb frifo ego delicet awdur.”

Dwi’n eitha siŵr mai cyfeirio at Meinir Wyn Edwards mae hi yn fanna

dd1304traintour1

– a dwi’n amenio. Hi sy’n golygu fy llyfrau plant i hefyd,

Layout 1EFA6

a dyma i chi un o luniau (heb ei liwio eto) o’r nesaf yng nghyfres Cadi:

cadi dino p24

Na, does ‘na’m digon o bêl-droed mewn llyfrau Cymraeg i’r arddegau a does ‘na’m digon o ddeinosoriaid a chnecu/pwmpian i blant iau!

Gyda llaw, dwi newydd dreulio wythnos hyfryd, ysbrydoledig (a blinedig!) yn Nant Gwrtheyrn yn rhoi blas o wahanol lyfrau i griw gwych o ddysgwyr. Mi fuon nhw a chriw mawr o bobl leol yn trafod un arall o lyfrau Manon, Inc:

9781847716330_300x400

(llyfr oedolion a pherffaith ar gyfer yr arddegau hŷn hefyd). 28 mewn un grŵp darllen!

20180516_151543_resized

Gawson ni bnawn hyfryd – a phawb yn canmol y nofel (a’r cwrs…), o, a sgwrs Ifor ap Glyn y noson flaenorol. Roedd o’n wych, ac mi werthodd lwyth o’i lyfrau iddyn nhw. Mi fu siop lyfrau’r Nant yn hynod brysur hefyd, yn gwerthu llyfrau Rhys Iorwerth, Sonia Edwards, Mihangel Morgan, Lleucu Roberts a Gareth Evans yn ogystal â rhai Ifor – o, a fi, wrth gwrs! O na fyddai Cymry iaith gyntaf mor barod i brynu a darllen llyfrau Cymraeg… diolch o galon i chi ddysgwyr hael, clen, darllengar!

Hoff Lyfrau Sonia Edwards

Published Mawrth 24, 2017 by gwanas

Sonia_Edwards100_2sonia edwards

 

Mae Sonia Edwards wedi cyhoeddi rhyw 30 llyfr i gyd, ar gyfer plant ac oedolion ac mi enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn ym 1996 am Glöynnod a’r Fedal Ryddiaith yn 1999 am Rhwng Noson Wen a Phlygain. Llwyddodd i sgwennu’r holl lyfrau tra roedd hi’n athrawes (Gymraeg) yn Ysgol Gyfun Llangefni, Ynys Môn.  A dyma rai o’i llyfrau hi:

image3

Llyfrau_Lloerig_Help!_Mae_'Na_Hipo_yn_y_Cwstard!_(llyfr)Cyfres_Whap!_Angel_Pen_Ffordd_(llyfr)

Adolygiad Gwales o Angel Pen Ffordd

Llongyfarchiadau mawr i’r awdur, Sonia Edwards, am lunio nofel sydd mor atyniadol i bobl ifanc. Braf iawn yw cael nofel wreiddiol mor ddarllenadwy yn Gymraeg.

Mae popeth sydd ei angen mewn nofel dda i’w gael yn hon. Yn gefndir iddi mae byd y sioeau cerdd – pwy gaiff actio’r brif ran? Dyma stori ddirgelwch gyda thipyn o antur a chyffro – a fyddech chi’n fodlon mentro allan i dŷ gwag yn y tywyllwch er bod ysbryd yno? Pwy sydd eisiau rhoi’r tŷ ar dân? Dyma stori ddigon doniol ar adegau, yn enwedig anturiaethau Wilff y ci yn bwyta’r hosan! A dyna i chi’r stori garu, pwy mae Arwyn yn ei ffansïo? Beth sy’n digwydd rhwng Moelwyn ac Enfys?

Mae holl ing a theimladau bod yn eich arddegau yma y gall bob person ifanc uniaethu â nhw, o’r cochi a’r ffrindiau, i fechgyn a rhieni yn codi cywilydd arnoch. Mae hi’n sicr yn nofel sy’n darllen ac yn llifo’n hawdd (diolch yn bennaf i benodau byr a stori afaelgar). Mae’r iaith ynddi yn gref a chyhyrog ond yn gyfoes iawn, ac yn siŵr o ehangu geirfa – roeddwn i’n hoff iawn o’r holl gnawes, jadan, a jolpan. Efallai fod y diweddglo yn rhy ffuglennol o hapus, a bod cymeriad y prifathro braidd yn ystrydebol, ond dyma yn sicr nofel berffaith i’r rhai dros 11 oed.

Gwenllïan Dafydd

Cyfres_Strach_Brecwast_i_Gath,_Swper_i_Gi_(llyfr)

Erbyn hyn mae hi wedi ymddeol o’i swydd dysgu ers haf 2016.

“Roedd hi’n hen bryd ar ôl deng mlynadd ar hugain! Mwy o amser i (gymryd arnaf fy mod i’n) sgwennu!”

Mae’n dal i fyw yn Llangefni, ac wedi cael ci newydd: ast Dogue de Bordeaux o’r enw Popi (enw swyddogol y Kennel Club: Ynys Mon Pabi Coch)

A dyma lun o’r math o gi ydi Popi!

9608013d59b26f2ee9494d8183569aa0-e1459262525714

Sori Sonia, dwi’n siwr bod Popi yn ddelach na hynna…

“Na, dan ni ddim yn mynd i Cruft’s! Bellach dan ni fel fersiwn mwy benywaidd o Turner and Hooch. O, mae hi’n ciwt! A mwy o rincls na fi felly dwi’n edrach yn fengach wrth ei hochr hi!”

Y newyddion da ydi ei bod hi’n defnyddio ei rhyddid newydd i sgwennu gryn dipyn. Bydd nofel ar gyfer oedolion allan erbyn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae nofel i’r arddegau ar y gweill. Y gobaith yw gweld honno yn 2018 – tân dani, Sonia!

Mae hi hefyd wedi dechrau ymddiddori mewn siabi-shicio dodrefn. “Ac mi leciwn i ddweud fy mod i’n canu mewn band ond Rhys y mab sy’n gneud hynny! Fo ydi prif leisydd Fleur de Lys felly mae yna dipyn o ‘street cred’ mewn bod yn fam i roc star!”

Clip o’r band yn y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd fan hyn:

https://www.bbc.co.uk/music/artists/f3e89ced-db84-41c5-9427-acb4618f3fa4

A dyma atebion Sonia i fy nghwestiynau i:

  1. Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?  a) Ysgol Gynradd  – Cymraeg a Saesneg

Popeth Enid Blyton a ‘Lois’ ac ‘Esyllt’ gan Elisabeth Watkin Jones.

 

9780850885064-uk-300

  1. b) Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg

Nofelau Islwyn Ffowc Elis fel ‘Ffenestri Tua’r Gwyll’ ac ‘Wythnos yng Nghymru Fydd’ a stwff y chwiorydd Brontë – ‘Jane Eyre’, ‘Wuthering Heights’ a ‘Villette’.

51TEBMC3B3L._SX338_BO1,204,203,200_

50995549472012084833

 

  1. Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

‘Pen Dafad’ gan Bethan Gwanas hefo Bl. 7 cyn i mi ymddeol! Wastad yn ffefryn! (Diolch, Sonia… 🙂 Bethan)

0862438063

  1. Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Brett Breckon – lliwgar ac yn tynnu sylw.

jeepster-S-P_02_4-3-10_small

brett-breckon-guardian-angelPapa_Panov_detail+1000gwlad_y_dreigiau_bach

9781848511941

 

  1. Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Steddfod Môn 1992 ac Eigra’n beirniadu.

250px-Eigra_Lewis_Roberts

 

  1. Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Dihangfa. Mae o’n therapiwtig pan dwi angen symud fy meddwl. Rhywbeth i droi ato mewn argyfwng hyd yn oed!

 

  1. Dwed chydig am dy lyfr diweddara i blant.

‘Bryn Arth’. Cwmni lorïau yn cael ei redeg gan dedi bêrs. Dipyn ers hynny erbyn hyn.

Cyfres_Swigod_Bryn_Arth_(llyfr)

Disgrifiad Gwales
Nofel am deulu bach o eirth sy’n rhedeg cwmni loris Edwyn Bêr a’i Fab, Bryn Arth. Mae’r cwmni’n cael llawer o anturiaethau wrth fynd o gwmpas y lle yn cyflawni eu gwaith bob dydd, yn cynnwys helpu i ddal jiraff sydd wedi dianc o sŵ Caer, mynd â’r fuwch ddu Seren Nadolig i Sioe’r Sir, achub llond lori o hufen iâ rhag mynd yn wastraff a llwyddo i ddatrys problem carnifal y pentref.
Adolygiad Gwales

Nofel fer, lawn hiwmor am deulu o eirth sy’n rhedeg busnes lleol llwyddiannus ym mhentref Bryn Arth. Edwin Bêr biau’r cwmni ac mae’n berchen ar fflyd o lorïau coch a melyn yr un lliwiau â baner Owain Glyndŵr. Mae ganddo lorïau ar gyfer gwahanol anghenion – lorri ludw i gario sbwriel, lorri i gario dodrefn i bob rhan o Gymru, lorri sgip, lorri wartheg a lorri-cario-pob-dim. Gyrwyr y lorïau ac arwyr y stori yw Tecwyn Bêr (Tecs), mab Edwin, a Stwnsh, ffrind gorau Tecs. Tipyn o gês a thynnwr coes yw Stwnsh. Ac ni ddylid ychwaith anghofio am Moli sy’n gofalu am y swyddfa brysur.

Cymeriadau annwyl iawn yw’r rhain. Maent yn weithwyr caled, a chydag amser gwelwyd y cwmni yn ehangu ac yn cyflogi mwy o weithwyr. Ar eu teithiau bu’n rhaid iddynt wynebu pob math o argyfyngau ond llwyddant i’w datrys.

Ychwanegiad at yr hiwmor a geir yn y nofel yw darluniau du-a-gwyn Helen Flook.

Nofel anthropomorffaidd yw hon, lle y priodolir nodweddion dynol i anifeiliaid. Mae hyn yn ddyfais gyffredin mewn llenyddiaeth plant, er enghraifft Siôn Blewyn Coch, Wil Cwac Cwac a Winnie the Pooh. Pam, tybed, mae anifeiliad wedi’u personoleiddio mor boblogaidd mewn storïau i blant ac i ba bwrpas y gwneir hynny? Maes trafod diddorol.

  1. Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Nofel i’r arddegau wedi’i chomisiynu gan y CAA. Stori am efeilliaid 13 oed gafodd eu gwahanu ar eu genedigaeth a’u mabwysiadu.

Diolch, Sonia! Pob lwc efo’r sgwennu – a Popi.

Dogue de Bordeaux puppy, Freya, 10 weeks old, with young fluffy rabbit

 

Barn y plant

Published Mehefin 5, 2014 by gwanas

Mi fues i yn Ysgol Bro Cinmeirch eto ddydd Mercher, fy ysgol Cyfaill Darllen. Os nad ydach chi’n gwybod be mae hynna’n ei feddwl, sbiwch ar wefan patronofreading.com
Dwi bron yn siwr mai fi ydi’r unig un Cymraeg hyd yma a dwi methu dallt pam na fyddai mwy o ysgolion yn bachu ar y syniad, achos mae’n wych!
Dyma lun ohona i a’r criw gafodd sticeri arbennig Seren Darllen (aur) a Darllenwr Da (arian). Un plentyn o bob blwyddyn, a bydd hyn yn digwydd bob tymor, sef bob tro y bydda i yno. Da de? image

Un o’r darllenwyr brwd yn yr ysgol ydi Efa, ac mae hi wedi rhoi rhestr o’i hoff lyfrau i mi! Diolch yn FAWR Efa, mae hyn yn ddiddorol ofnadwy, ac yn siwr o roi syniadau i ddarllenwyr eraill, o bob oed!

Helo Bethan Gwanas,
Efa sydd yma o Ysgol Bro Cinmeirch. Rydw i am argymell rhai o lyfrau i chi roi yn eich blog, sef ‘Pants are Everything’ gan Mark Loweryimage
oherwydd mae’n ddoniol. ‘Tom Gates’ gan L.Pichon oherwydd mae’n ddoniol hefyd ac oherwydd mae’r lluniau yn dda.image
‘Cyfrinach Ifan Hopcyn’ gan Eiry Miles cyfrinach_ifan_hopcyn_mawr

a ‘Jelygaid’ gan Sonia Edwards
image am fod y straeon yn wreiddiol ac yn wahanol.
Dau o fy hoff lyfrau yn y byd yw
image ‘The Treasure House’ gan Linda Newbery oherwydd mae y stori yn anturis iawn a ‘Sky Hawk’ gan Gill Lewis
image oherwydd ei bod yn stori deimladwy a thrist.
Efa

Diolch eto, Efa. Ond ges i dipyn o sioc pan ddangosaist ti y llyfr Pants na i mi! Nid ar gyfer plant bach diniwed! Ond ydi, mae o’n ddoniol…
Be am i fwy o blant rannu eu hoff lyfrau efo fi? Dim gwobrau am wneud, dim ond y clod a’r anrhydedd!