Sioned Wyn Roberts

All posts tagged Sioned Wyn Roberts

Nofel ddifyr ar gyfer plant 9-13 oed

Published Ebrill 20, 2021 by gwanas

Do, dwi wedi bod yn dawel yn ddiweddar – mae bywyd yn boncyrs rhwng bob dim, a dwi prin wedi cael amser i ddarllen llyfrau plant heb sôn am eu hadolygu. Mae’n ddrwg iawn gen i!

Ond dwi jest â marw isio darllen Gwag y Nos gan Sioned Wyn Roberts.

Mae’n swnio’n wych:

“O’dd y llyfr yma yn briliant. Mae’n hollol wahanol i bob llyfr arall dwi wedi ei ddarllen. Weithiau ro’n i eisiau crio ond nes i chwerthin lot hefyd.” Cain, 9 oed.

Dyma ran o’r datganiad i’r wasg:

Mae diddanu a chyffroi darllenwyr ifanc 9 i 13 oed, a’u denu i ddarllen llyfrau Cymraeg yn gallu bod yn heriol, ond dyna’n union beth mae’r awdures Sioned Wyn Roberts, sydd hefyd yn Gomisiynydd Rhaglenni Plant yn S4C, wedi llwyddo i’w wneud gyda’i nofel gyntaf Gwag y Nos.

Ffuglen yw’r nofel, wedi’i lleoli yn Wyrcws Gwag y Nos ym 1867. Magi Bryn Melys yw’r prif gymeriad, merch ifanc hyderus sy’n dipyn o rebel. Ers iddi hi symud i fyw i’r Wyrcws, mae wedi bod yn ddraenen yn ystlys Nyrs Jenat, ond mae ei bywyd hi ar fin newid am byth.

Mae’r gyfrol yn mynd a’r darllenwyr ar antur hanesyddol gyffrous. Cawn brofi bywyd torcalonnus y Wyrcws, ble mae plant a rhieni yn gorfod byw arwahan, yn cael eu cosbi a’i camdrin yn gyson. Cawn chwerthin ar driciau a direidi Magi, wrth iddi dalu ambell bwyth yn ol i Nyrs Jenat, rheolwraig gas y Wyrcws. Cawn deithio gyda Magi i’w chartref a’i swydd newydd fel Morwyn Plas y bonheddwyr yn Aberhiraeth. Byddwn yn ofni a rhyfeddu wrth iddi ganfod cyfrinach, a mynd ati i ddefnyddio’i ‘girl power’ i herio’r sefydliad a cheisio achub y dydd.

Er mai ffuglen yw hi, mae rhai rhannau o’r stori wedi’u selio ar ddigwyddiadau go iawn, gan gynnwys profiadau hen hen nain yr awdures, fu’n yn byw yn Wyrcws Pwllheli gyda’i phump o blant;

“Roedd bywyd plant yn y Wyrcws yn ofnadwy o anodd ac mae hynny yn amlwg o’r dystiolaeth sydd mewn dogfennau o’r cyfnod. Mae llawer o’r hanesion fel Now bach yn cael ei roi mewn sach a’i hongian o’r to, am wlychu’r gwely, a’r olygfa pan mae Magi a’r plant yn torri mewn i’r morg i achub ffrind, wedi dod o ddogfennau gwreiddiol. Dwi’n angerddol am ddod â hanes Cymru yn fyw i blant heddiw, er mwyn iddyn nhw weld pa mor anodd oedd hi i’n cyn-neiniau. Wrth ddarllen Gwag y Nos byddan nhw yn gweld beth sy’n wahanol am fywydau plant ers talwm ond, yn bwysicach fyth, beth sy’n debyg.” Sioned Wyn Roberts.

Mae Nanw MacIntyre Huws yn 10 oed, ac wedi gwirioni ar y gyfrol; “Mae’r llyfr yma’n briliant. Mae’n neud i ti deimlo fel bod ti yna, a mae ‘na gymaint o ‘cliff hangers’ i dynnu ti mewn o hyd. O’n i’n teimlo bechod dros Magi, dwi di gorfod byw efo Covid ond roedd Magi’n gorfod byw efo lot gwaeth. O’n i ddim yn mwynhau llyfrau Cymraeg gymaint, ond nes i garu darllen hwn ag o’n i          ddim eisiau stopio darllen o.”

Mae’r stori wedi creu dipyn o argraff ar fechgyn ifanc hefyd, ac roedd Deio, sy’n 10 oed wrth ei fodd gyda’r llyfr; “Mae hon yn stori gyffrous sy’n dysgu ni am fywyd ers talwm, y cyfoethog a’r tlawd. Mae’r disgrifiadau yn rhoi lluniau yn fy mhen a gwneud i mi fod eisiau gwybod mwy.”

A fi

Awduron ar-lein

Published Ebrill 9, 2020 by gwanas

Gan nad ydan ni’n gallu mynd i ysgolion neu lyfrgelloedd i gyfarfod ein darllenwyr am sbel, mae nifer o awduron wedi addasu eu gwaith ar gyfer y we.

th-2

Mae’r gantores, Gwawr Edwards, sydd bellach yn awdures hefyd wrth gwrs, wedi recordio clipiau ohoni ei hun yn darllen rhai o anturiaethau Mali, efo’i merch fach, Nel wrth ei hochr yn gwrando’n astud. Os dach chi am eu clywed, ewch i’w thudalen facebook hi, Gwawr Edwards-Phillips, ac mae ‘na glip ohoni hi’n canu’r caneuon hefyd, efo’i chwaer, Meinir, yn cyfeilio. Mwynhewch!

9781784617240_300x400

Cystadleuaeth!

Mae Cwmni Atebol wedi dechrau cystadleuaeth, gyda gwobr o werth £25 o lyfrau Atebol a chyfle i lansio un o’u llyfrau yn eich hysgol chi pan fydd pob dim yn ôl i drefn:

Y cwbl sydd raid ei wneud ydi gyrru llun, neges neu fidio atyn nhw am rai o’u llyfrau nhw cyn y cyntaf o Fai. Un o’u llyfrau ydi hwn gan Huw Aaron, sydd ar restr fer Tir Na n’Og eleni, ac mae ‘na adolygiad ar wefan https://www.sonamlyfra.cymru/:

IMG_0620

Ac hefyd, llyfr newydd sbon gan Sioned Wyn Roberts, a lluniau gan Bethan Mai:

ffwlbart_ffred_-_drewi_fel_ffwrbart_newydd

Dim ond ar werth drwy http://atebol-siop.com ar hyn o bryd. Does ‘na ddim byd ar y wefan yn deud ar gyfer pa oed mae o, ond tua 4-7 oed dybiwn i? Dyma’r disgrifiad:

Mae Ffred a’i ffwlbart yn ffrindiau gorau
ond digwyddodd rhywbeth od un bore
wnaeth newid lliw trwyn Anti Gyrti –
ar fy ngwir! Dyma’r stori …

Dewch i gwrdd â Ffred a’i ffwlbart yn y llyfr cyntaf mewn cyfres newydd o lyfrau stori-a-llun am ffrindiau bach direidus.

Stori llawn hwyl gyda thestun sy’n odli yn seiliedig ar un o’n dywediadau Cymraeg mwyaf od!

A dyma lun o’r awdures efo’r llyfr:

EUwHK_nXYAE4t4a-1

Cofiwch hefyd am gystadleuaeth lliwio Cadi! Mae gynnoch chi tan ddiwedd y mis:

EUbvKQvXsAAUmtq

A dyma syniadau am bethau i’w gwneud tra dach chi adre:

EU_iWWoWAAANGA7

AR GYFER YR OEDOLION

Dwi newydd orffen Wal gan Mari Emlyn, sydd ddim yn nofel i blant er ei bod hi’n edrych felly i gychwyn!

9781784618452

Nofel glyfar, gynnil, hyfryd fydd yn bendant yn taro pob math o dannau efo pobl tua fy oed i a Mari, ond yn gweithio i bawb o tua 15 i fyny, ac mi fydd yn arbennig o dda ar gyfer dysgwyr hefyd.

Dywedodd Mereid Hopwood yn ei beirniadaeth ar y nofel hon yng nghystadleuaeth Y Fedal Ryddiaith, Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019, fod yma waith ‘cynnil, meistrolgar a chwbl wreiddiol’. Cytuno’n llwyr.

A difyr oedd gwylio Mererid Hopwood yn holi Mari yn y lansiad digidol. Dyma’r sgwrs fan hyn:
http://www.amam.cymru/ylolfa/693

Ar yr un wefan, mae Heiddwen Tomos (efo papur wal ffynci iawn y tu ôl iddi) yn trafod ei chasgliad o straeon byrion, O’r Cysgodion,

ETYqNKoXgAAzHBX

a gyhoeddwyd fis Mawrth eleni ac yn darllen ‘Brodyr’, sef un o’r straeon o’r gyfrol. Dwi ddim wedi cael fy machau ar gopi eto ond dwi’n edrych ymlaen yn arw:

http://www.amam.cymru/ylolfa/820

Cyfrannwch!

Dwi’n sylwi nad oes llawer wedi mentro rhoi sylwadau ar y llyfrau sydd ar wefan https://www.sonamlyfra.cymru/ eto. Plîs gwnewch! Mae’n ddifyr gweld barn gwahanol bobl, a phlant yn enwedig. Does dim angen sgwennu traethawd, dwi’n meddwl bod brawddeg neu ddwy yn gallu deud cymaint mwy weithiau. ee: y cwbl dwi wedi’i ddeud am Hwdi, Gareth F Williams ydi hyn…

Nofel wych ar gyfer unrhyw un sy’n mwynhau cael eu dychryn. Roedd yn rhaid i mi ei rhoi i lawr ar un adeg, i mi gael dechrau anadlu eto. A dydw i ddim yn dychryn yn hawdd!

Ond os dach chi isio syniadau am sgwennu adolygiadau, mae ‘na ganllawiau fan hyn:

https://www.booktrust.org.uk/books-and-reading/tips-and-advice/writing-tips/writing-tips-for-teens/how-to-write-a-book-review/