silff lyfrau

All posts tagged silff lyfrau

Wythnos Llyfrgelloedd

Published Hydref 1, 2020 by gwanas

Mae hi’n Wythnos Llyfrgelloedd wythnos nesa (5-10 Hydref), felly cofiwch ddefnyddio eich llyfrgell leol a Borrowbox a’r holl adnoddau sydd yn ein llyfrgelloedd. Ond hefyd, mae ‘na ymgyrch ar draws y Deyrnas Gyfunol i annog pobl i rannu llun o’u silff lyfrau ar y cyfryngau cymdeithasol.

Er mwyn gwneud yn siŵr bod llyfrau o Gymru ac yn Gymraeg yn rhan o’r ymgyrch, be am dynnu llun o’ch silff llyfrau a’i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol ar ôl 9.15yb ddydd Llun 5 Hydref gyda’r hashnodau #DymaFySilff #WythnosLlyfrgelloedd (#ExpressYourShelf #Libraries Week).

Gellid hefyd dewis lawrlwytho templed arbennig gan ddefnyddio’r ddolen isod, gan ychwanegu dyfyniad byr:https://drive.google.com/drive/folders/1H9aEzfqqd4oEYQOvTg7_1ak3xDhENbeV

Dwi newydd fod rownd y tŷ yn trio penderfynu pa silff i’w chynnwys, achos mae gan bawb fwy nag un silff siawns, oes ddim?

Dyma rai i chi:

A dyma fwy:

Na, dwi ddim yn daclus iawn o ran cadw fy llyfrau mewn trefn. Ond dwi’n gwybod lle maen nhw i gyd! Hefyd, dwi ar ganol gwagio rhywfaint ar fy silffoedd achos mae’r tŷ ar werth …

dyma’r manylion os oes gynnoch chi ddiddordeb: http://www.rgjones-property.co.uk/eng/property_details.php?pid=4831196

Ro’n i wedi cael cynnig gan Gymraes leol (ieee!) ond mae hi wedi tynnu’n ôl. C’est la vie.

Beth bynnag, dyma lun o rai o fy hoff lyfrau (am wahanol resymau):

Hen ffefrynnau

Gobeithio bod hyn wedi eich ysbrydoli chi i dynnu lluniau o’ch silffoedd chithau. Nod yr ymgyrch yw dathlu llyfrgelloedd a llyfrau a hyrwyddo darllen, sydd wrth gwrs yn bwysicach nag erioed yn y cyfnod yma.

Cofiwch hefyd bod dydd Sadwrn yma, 3 Hydref, yn Ddiwrnod Siopau Llyfrau!

Sut i hybu darllen

Published Mawrth 18, 2019 by gwanas

Dwi wedi gwironi efo’r syniad yma!

D19kY0iW0AEoGqs

Ei weld o ar Twitter wnes i: athro wedi trefnu bod plentyn gwahanol yn cael argymell llyfrau ar ei silff ei hun am gyfnod. Nodyn bychan am bob llyfr a sgor allan o ddeg. Tua Blwyddyn 5/6 ddeudwn i.

Yna rhywun arall yn cael gwneud yr un peth – am tua wythnos? Pythefnos efallai?
Mae o’n bendant yn gweithio achos dwi newydd archebu 5 o’r llyfrau o’r llyfrgell fy hun!

Be sy’n gwneud iddo fo weithio?
1. Y ffaith mod i wedi mwynhau o leia un o’r teitlau yn barod, felly yn gwybod y bydd y llyfrau eraill yn debygol o mhlesio i hefyd.
2. Mae’r cloriau i gyd yn sbio arnoch chi – nid ar eu hochrau.
3. Mae ‘na nodyn gonest a sgôr i bob llyfr gan yr un sydd wedi eu dewis.

Mae hi mor braf gweld syniadau creadigol fel hyn. Os dach chi’n nabod athrawon, yn sicr rhai cynradd (Bl 3-6) ond rhai uwchradd hefyd, soniwch wrthyn nhw am hyn. Mae’r syniadau gorau yn werth eu dwyn.

51zWY-IrXdL._SX258_BO1,204,203,200_