Siân Lewis

All posts tagged Siân Lewis

Cerona Corona a sut i sgwennu

Published Ebrill 16, 2020 by gwanas

IMG_0889

Mae arna i ofn nad ydi’r hen feirws yma wedi fy ysbrydoli i o gwbl. Mae darllen yn anodd, heb sôn am sgwennu. Ond diolch byth am Angharad Tomos: mae hi wedi sgwennu a darlunio a chyhoeddi llyfr cyfan: ‘Pawennau Mursen’ – yn ddigidol. Mae hanes Rwdlan a’r Dewin Dwl yn styc yn y tŷ ar gael am ddim (“i blant drwg o bob oed”) fan hyn:

Dwi’n arbennig o hoff o’r ffaith fod Ceridwen yn cael trafferth dysgu’r criw drwg – bydd sawl rhiant yn cydymdeimlo, ddeudwn i!

Da iawn, Angharad.

AngharadTomos

Mae ‘na lyfr arall, mwy ffeithiol am y feirws ar gael am ddim hefyd.

Addasiad ydi o, ac mae ‘na adolygiad dwyieithog ar gael fan hyn ar wefan sonamlyfra:

https://www.sonamlyfra.cymru/post/coronaeirws-llyfr-i-blant-elizabeth-jenner-kate-wilson-a-nia-roberts

Dyma’r linc i’r llyfr ei hun:

https://atebol-siop.com/coronafeirws-llyfr-i-blant.html

Nofel hanesyddol

Mae Gwasg Carreg Gwalch wedi cyhoeddi e-lyfr am y tro cyntaf hefyd:

IMG_0890

Y Ci a’r Brenin Hywel gan Siân Lewis. Nofel ar gyfer Bl 5 a 6 (yn fras) ydi hi, yn rhan o gyfres am hanes Cymru, a chyfnod Hywel Dda sydd dan sylw fan hyn.

Dyma’r broliant ar wefan gwales.com:

Mae Gar mewn helynt. Mae wedi cnoi marchog pwysig, un o ffrindiau’r brenin Hywel. Yn ôl cyfraith newydd y brenin, fe gaiff ei gosbi’n llym. Felly rhaid i Gar adael ei gartref a mynd i chwilio am loches yng nghwmni Nest, ei ffrind.
Ond pan aiff Nest i lys y brenin ar ddiwrnod cyhoeddi’r gyfraith, mae Gar yn mynnu ei dilyn er gwaetha’r perygl. A fydd e’n dianc heb niwed o lys y Tŷ Gwyn?

Mae unrhyw beth gan Siân Lewis yn werth ei ddarllen! Ar gael am £5.95.

Tip sgwennu:

john-steinbeck-9493358-1-402

Un o’r sgwennwyr gorau erioed oedd John Steinbeck, ac mae’n debyg mai ei arddull o oedd i sgwennu’n hynod gyflym a pheidio â golygu na newid dim nes roedd y cyfan i lawr. A dyma pam: ‘Rewriting as a process is usually found to be an excuse for not going on,’ meddai. A wyddoch chi be, mae ‘na wirionedd yn hynna. Efallai mai dyna pam dwi mor araf yn sgwennu nofelau. Reit, dwi am drio dull Steinbeck, i weld os ga i well hwyl arni.

Roedd o hefyd yn credu bod sgwennu un dudalen bob dydd yn ganlyniad da, hyd yn oed os oedd o’n cymryd drwy’r dydd i’w sgwennu. O? Ydi hynna’n gwrthddeud yr uchod, dwch? Ond dim bwys, mae un dudalen yn rywbeth y galla i anelu ato, siawns.

Hefyd, roedd o, fel fi, yn hoffi deud ei ddeialog yn uchel wrth ei sgwennu. Mae o wir yn gweithio, os am gael deialog sy’n swnio fel sgwrs naturiol. Triwch o.

Iawn, dwi’n meddwl mod i’n teimlo rhyw fymryn o ysbrydoliaeth rŵan. Croesi bysedd!

Y Twrch a chyfres am feirws…

Published Mawrth 13, 2020 by gwanas

Mae’r Twrch Cymraeg wedi cyrraedd! A llyfrnod bach handi, ylwch:

IMG_0466

Mae’r llyfr yn fwy nag o’n i wedi’i ddisgwyl, ac yn edrych yn GRET!

IMG_0469

Dyma flas o’r tu mewn i chi:

IMG_0465IMG_0468IMG_0467

A sbiwch del ydi’r ‘end papers’ (rhywun yn gwybod oes na derm Cymraeg am rheiny?):
IMG_0470

I’r rhieni, mae ‘na ddarn ychwanegol am hanes y llyfr dros y blynyddoedd (yn cynnwys enwau’r cŵn mewn gwahanol ieithoedd) a darn am sut y daeth y fersiwn Gymraeg i’r fei O’R DIWEDD! A pham penderfynu ar Dwrch yn hytrach na Gwahadden…

Gyda llaw, os fydd hyn yn codi diddordeb mewn tyrchod/gwahaddod, mae Siân Lewis wedi cyhoeddi cyfres am yr un anifail:

51u18Q0FXkL._SX353_BO1,204,203,200_

Llyfrau yn y gyfres Ffrindiau Bach a Mawr, sef cyfres o lyfrau darllen ar gyfer disgyblion CA1/2 Ail Iaith. Llyfrau gwybodaeth syml am y twrch daear.

Hefyd, i blant chydig hŷn, mae Dafydd Llewelyn wedi sgwennu am Tomi:

getimg

Ac mae na dyrchod yn rhain hefyd:

A be am fynd draw i Ganolfan y Dechnoleg Amgen tua 3 milltir i’r gogledd o Fachynlleth ar yr A487 ger pentref bach Pantperthog, i gyfarfod Megan y Wahadden?

megan3-1920x1020

“Ymwelwch â byd tywyll tanddaearol Megan y Wahadden a darganfod mwy am y creaduriaid sy’n byw yn y pridd” meddai’r blyrb. Dwi rioed wedi gweld Megan fy hun, ond mae’n edrych yn wych yn y llun!

LLYFR AR GYFER OEDOLION IFANC:

Diolch i Lia sy’n gweithio yn Llyfrgell Dolgellau, dwi wedi darganfod awdur Saesneg sy’n sgwennu llyfrau wirioneddol anturus a brawychus ar gyfer oedolion ifanc. Roedd hi wedi sylwi mod i’n benthyca llwyth o lyfrau OI, ac mi gynigiodd ddod â’i chopi personol o The Enemy i mewn i mi gael blas.

Charlie Higson fu’n actio yn ‘The Fast Show’ (holwch eich rhieni) ydi’r awdur, dyma fo:

charlie-higson-967a727

A nefi, mi ges i fy machu gan The Enemy! Jest y peth i fechgyn a merched tua 12+ sy’n mwynhau cael sioc bob yn ail bennod. A’r peth od ydi: mae o am fyd lle mae ‘na feirws wedi cymryd drosodd, feirws sydd ddim yn effeithio ar blant!

Shocked-Face-1

Wel, nid rhai dan 15 oed o leia. Mae’r oedolion i gyd unai wedi marw neu wedi troi’n zombies… difyr. Felly oes, mae ‘na lot o ymladd a marw, felly peidiwch â mentro os nad ydach chi’n hoffi’r math yna o beth. Ond o… mae ‘na gymeriadau hyfryd. Ydyn nhw’n marw? Gewch chi weld.

3 llyfr oedd i fod yn y gyfres, ond mae’r rheiny wedi bod mor llwyddiannus, mi sgwennodd o 7 yn y diwedd!

71+UajF0YlL

Nofel newydd gan Siân Lewis

Published Mai 9, 2018 by gwanas

image

Os ydach chi’n blentyn tua 8-12 oed sy’n mwynhau darllen llyfrau hanesyddol neu straeon sy’n llawn cyffro ac antur, neu straeon am oes y Rhufeiniaid, dyma’r llyfr i chi! Dilyn Caradog, £5.99 gan Wasg Carreg Gwalch.

Mae’r awdur, Siân Lewis wedi llwyddo unwaith eto i greu nofel hynod ddifyr, ac mae plant o Aberystwyth i Gaernarfon yn cytuno. Ro’n i wrth fy modd efo’r erthygl Tri ar y Tro yn Golwg wythnos diwetha, gan mai barn 3 phlentyn oedd yno:

image

Ac er fod Hopcyn (8 oed) yn deud bod yr iaith yn anodd ar adegau, roedd o wedi mwynhau’n arw. Ac roedd Fflur (9 oed) a Martha (10 oed) wedi gwirioni!

image

Doedd Hopcyn na Fflur eriod wedi darllen un o lyfrau Siân o’r blaen felly mae ‘na wledd o lyfrau o’u blaenau nhw! A golygyddion cylchgrawn Golwg – gawn ni fwy o adolygiadau fel hyn gan blant os gwelwch yn dda? Maen nhw’n bwysig, yn effeithiol (mi wnes i ddarllen y llyfr yn syth ar ôl darllen barn y plant) ac yn fwy na dim, yn ddifyr i’w darllen. Mae plant yn aml yn fwy gonest nag oedolion…

Dyma i chi flas o ddechrau’r nofel:

image

Cymeriad dychmygol ydi Morcant, hogyn bach dewr y byddwch chi’n ei hoffi yn arw, ond roedd Caradog yn berson go iawn, Brython dewr iawn fu’n brwydro yn erbyn y Rhufeiniaid am wyth mlynedd o tua OC43 ymlaen. Dyma hen lun ohono (wedi ei baentio ym mhell ar ôl Oes y Rhufeiniaid wrth gwrs!):

caradog

Roedd y frenhines Cartimandwa yn berson go iawn hefyd, ond dwi ddim am ddeud mwy rhag ofn i mi ddifetha’r stori i chi. Dyma’r broliant ar y cefn:

image

Da iawn, Siân Lewis!

Ac os ydach chi isio mwy o lyfrau am yr un cyfnod, mae Diwrnod Ofnadwy gan Haf Llewelyn yn addas i blant 7-9 oed,

getimg
(adolygiad ar y blog hwn – rhowch yr enw yn y blwch chwilio)

ac Y Llo Gwyn gan Hilma Lloyd Edwards yn addas i blant 8-12 oed. Dwi’m wedi darllen hwnnw – ydach chi? Rhowch wybod be oeddech chi’n ei feddwl.

220px-Cyfres_'Slawer_Dydd_Llo_Gwyn,_Y_(llyfr)

Published Ionawr 4, 2018 by gwanas

Dyma lun ddaeth y bardd a’r awdur Sian Northey o hyd iddi ar dudalen Facebook British Medieval History. Ia, llun Nadolig, ond un o’r 15fed ganrif, a sbiwch pwy sy’n darllen yn y gwely tra mae Joseff yn magu’r baban!

26113774_10155773214466839_3461916812306690953_n

Da! Neis won Mair (a’r artist).

Yn y gwely fydda i’n darllen fel arfer hefyd, a llyfr i blant ddarllenais i dros y Nadolig ydi hwn:

pax-book-movie

Pax gan Sara Pennypacker, awdures o America. Mae’n nofel brydferth, wahanol, fachodd fi o’r dechrau hyd y diwedd. Llwynog ydi Pax, wedi ei fagu gan Peter ers yn ifanc, ond un diwrnod, maen nhw’n cael eu gwahanu. Ond mae Peter yn benderfynol o achub Pax yn ac yn cychwyn cerdded i chwilio amdano. Yn y cyfamser, rydan ni’n dilyn hanes Pax ei hun yn ceisio deall be sydd wedi digwydd a sut i ymdopi mewn coedwig ar ei ben ei hun. Mae ‘na ryfel yn digwydd, neb yn ymddiried yn neb, ac mae’r byd yn le peryglus, ac ro’n i’n gweddio y byddai’r ddau yn dod drwyddi ac yn dod o hyd i’w gilydd eto. Mae hi am gariad, ffyddlondeb, ffydd – a llwynogod. Hollol, gwbl hyfryd – a lluniau gwych hefyd.

0214-BKS-Rundell-facebookJumbo-v2

Roedd un adolygydd ar Amazon yn meddwl ei bod hi’n stori rhy drist a thywyll i blant. Dibynnu ar y plentyn wrth gwrs, ond dwi – a miloedd o ddarllenwyr eraill yn anghytuno’n llwyr. Dwi’n mynd i drysori’r copi clawr caled sydd gen i o’r llyfr yma. Fydd hwn ddim yn mynd i siop elusen!

Ond dwi wedi bod yn trio cael gwared â rhai o’r llyfrau sy’n meddiannu fy nhŷ i ers blynyddoedd. Roedd y sefyllfa wedi mynd yn hurt – doedd gen i ddim lle ar ôl ar y silffoedd ac mae gen i lond tŷ o silffoedd! Roedden nhw o dan y gwely, yn fynydd ar fy soffa, yn beryg o ddisgyn ar fy mhen i neu Del. Ac ydi, mae hi’n debyg iawn i lwynog…

DSC_0233 2

Ond ar ôl mynd drwyddyn nhw yn fras, roedd cymaint ohonyn nhw yn lyfrau nad ydw i wedi cael amser i’w darllen eto – felly maen nhw’n ôl o dan y gwely ac yn erbyn y waliau – ond mae ‘na lai ohonyn nhw!

Un llyfr ar gyfer oedolion ro’n i wedi bwriadu ei ddarllen ers tro oedd hwn:

26195807_10155284888388511_4055794732788981731_n

Miwsig Moss Morgan gan Siân Lewis. Hon daeth yn ail agos ar gyfer y Daniel Owen yn 2013, pan enillodd Craciau gan Bet Jones. Roedd hi’n amlwg yn flwyddyn dda, ddiddorol! Yn bendant, mae ‘llinyn storiol’ Craciau yn gryfach yn yr ystyr ‘bestseller’ ond ew… roedd hi’n hynod o agos. Mi wnes i fwynhau hon yn arw. Ydi, mae hi’n fwy hamddenol o lawer, ond mae’n stori ddifyr, wahanol iawn, gyda chymeriadau hyfryd sy’n aros yn y cof. Ac am yr arddull – wel, mae’n canu. Iechyd, mae Siân Lewis yn gallu sgwennu. Do, mae hi wedi ennill gwobrau lu am ei llyfrau i blant ond hon oedd yr un gyntaf iddi ei sgwennu ar gyfer oedolion.

Dydi hi ddim yn berffaith: fymryn bach yn rhy hir efallai? Fymryn bach gormod o dindroi? Ond er hynny, mae’n hyfryd ac yn un o’r nofelau hynny na chafodd ddigon o sylw ar y pryd, er i Wasg y Bwthyn wneud ffilm fer er mwyn ei hyrwyddo. A dyma hi’r ffilm honno. Mae’n bendant yn rhoi blas o’r nofel i chi, ond eto, dwn i’m, mae ei darllen yn brofiad mor wahanol.

Difyr ydi darllen sylwadau beirniaid Daniel Owen 2013 amdani hefyd.

Os dach chi’n nabod oedolyn sy’n hoff o jazz, o sgwennu clyfar sy’n canu, neu o gymeriadau sy’n hanner atgoffa rhywun o Dan y Wenallt modern (mae ‘na rai ecsentrig iawn yma – a Daf yn wirioneddol ddigri) rhowch gopi o hwn iddyn nhw. Ac yn sicr, mi wneith lyfr difyr ar gyfer grŵp darllen.

Bargen – anrheg i blant 2-6 oed

Published Tachwedd 24, 2017 by gwanas

Cynnig gwych gan CAA Cymru:

🎄🎁 Anrheg Nadolig hyfryd i blant oed 2 i 6. 🎁🎄
Addas i ddysgwyr Cymraeg.

‘Tipyn o Gês – Anrheg Twm a Tam’

Yn cynnwys 10 llyfr (2 stori); 2 degan meddal; CD; gêm fwrdd a llyfr gwybodaeth dwyieithog
Hyn ôll am £10 (lawr o £50)!😯

☎️ 01970 622128 i archebu

IMG_2815

Hoff Lyfrau Anni Llŷn

Published Rhagfyr 16, 2016 by gwanas

Yr awdur diweddaraf i ateb fy nghwestiynau am ei hoff lyfrau plant ydi Anni Llŷn, sef Bardd Plant Cymru 2015-17, cyflwynydd pob math o raglenni plant a rhywun hynod dalentog sy’n gallu troi ei llaw at bob math o bethau!

annillyn01

p03c4ngn

Fel mae ei henw yn awgrymu, mae’n dod o Ben Llŷn ( Sarn Mellteyrn) ond yn byw yng Nghaerdydd ers tro. Mae newydd briodi Tudur Phillips ( rhywun arall hynod dalentog)

co2gdktwcaa8sgs

Ro’n i yn y parti priodas fel mae’n digwydd – noson dda!

A dyma rai o’i llyfrau hi:

9781847718402

A dyma atebion Anni:

Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?

Ysgol Gynradd:

Cymraeg – wrth fy modd pan o’dd Mam yn darllan cyfrola’r Mabinogion gan Gwyn Thomas efo lluniau hudolus Margaret Jones.

51ynd89s4l-_sx356_bo1204203200_

Saesneg – dwi’n cofio cael cyfnod o ddarllen Jaqueline Wilson ond does ’na ddim un llyfr penodol yn aros yn y cof.

Ysgol Uwchradd:

Llinyn Trôns, Bethan Gwanas!!  ( Diolch Anni – Bethan)

51m-rbd55hl

Luned Bengoch, Elisabeth Watkin-Jones.

c09999636887293596f79706741434f414f4141

Dwi ddim yn cofio llawer o lyfra Saesneg ond dwi yn cofio darllen llyfra Roald Dahl – dim clem pa oed!

  1. Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Nes i ddarllen ‘Gwalia’, Llyr Titus (gwych!)

getimg

a ‘Pedair Cainc y Mabinogi’, Sian Lewis ddechra’r flwyddyn

9781849672276_1024x1024

ynghyd ac addasiadau Cymraeg o lyfra Roald Dahl.

Dwi newydd brynu ‘Pluen’ Manon Steffan Ross,

getimg

edrych ymlaen i’w darllen a dwi wrthi’n darllen llyfrau Cyfres Clec, Gwasg Carreg Gwalch. Dwi’n darllen cyfrolau barddonol i blant yn weddol aml, ‘Agor Llenni’r Llygaid’, Aneirin Karadog yn dda!

agor_llennir_llygaidmawr

  1. Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Wnaeth Valériane Leblond ddarluniau cwbl arbennig i fy nghyfrol farddoniaeth i ‘Dim Ond traed Brain’, wrth fy modd efo’i gwaith hi.

dim_ond_traed_brain

Dwi newydd fod yn gweithio ar gyfrol ddwyieithog fydd allan cyn bo hir gyda elusen BookTrust Cymru o’r enw ‘Pob un bwni’n dawnsio!’ – llyfr ‘Everybunny Dance!’ gan Ellie Sandall ac mae ei darlunia hi’n hyfryd hefyd.

everybunny-dance-9781481498227_hr

  1. Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Dwi ddim yn gwybod be nath i mi ddechra sgwennu ond mwya’n byd dwi’n meddwl pam mod i’n gwneud dwi’n teimlo mai rhyw chwilfrydedd ydi o. Dwi’n rhyfeddu at allu awduron i fod yn bwerus gyda geiriau, i fedru creu bydoedd, i athronyddu, i gwmpasu teimladau a syniadau. Dwi’n hoffi’r syniad o fynd mewn i dy ben dy hun a herio dy hun i ddarganfod y plethiad mwyaf effeithiol o eiriau i gyfleu beth bynnag sy ’na. Ond dim ond pan dwi’n ystyried y peth go iawn dwi’n meddwl am hynny i gyd. Dwi’n meddwl mai’r ateb syml ydi mod i’n mwynhau gwneud a thrwy wneud, dwi’n gobeithio fy mod i’n annog plant i ddarllen ac ymddiddori mewn sgwennu eu hunain.

  1. Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Y rhyddid, does dim rhaid cael ffiniau o gwbwl!

  1. Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.

Dwi heb gyhoeddi nofel ers ‘Asiant A’ –

9781847718402

nofel ysgafn am ferch ysgol sy’n ysbïwraig gudd. Ond yn y misoedd dwytha wedi cyhoeddi straeon i blant bach – ‘Cyw yn yr Ysbyty’ a ‘Fy llyfr Nadolig cyntaf’

sy’n lyfrau bach syml i blant meithrin, neu wrth gwrs, yn lyfrau da i blantos sy’n dechrau darllen!

  1. Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Ar y ffordd, mae ’na gyfrol farddonol ar y cyd â beirdd eraill a nofel ddoniol i blantos cyfnod allweddol 2!

Diolch yn fawr Anni – edrych mlaen at weld y nofel ddoniol newydd!

Holi Siân Lewis

Published Tachwedd 26, 2016 by gwanas

Mae’r awdures Siân Lewis newydd fod ar daith @LlyfrDaFabBooks o gwmpas ysgolion Sir Benfro. Un o gynlluniau  Cyngor Llyfrau Cymru i hyrwyddo darllen ydi’r daith, cyfle i ddisgyblion gyfarfod ag un o’n hawduron mwyaf toreithiog a phrofiadol. A dyma hi efo rhai o blant y sir:15135895_1094758903978799_2467915828179596585_n

Siân oedd awdur cyfrol fuddugol categori cynradd Gwobrau Tir na n-Og 2016 gyda’r arlunydd Valériane Leblond, sef Pedair Cainc y Mabinogi.

9781849672276_1024x1024

Hi hefyd oedd enillydd Tlws Mary Vaughan Jones yn 2015 am ei chyfraniad amhrisiadwy i fyd llenyddiaeth plant.  Mae’r tlws  yn cael ei roi bob tair blynedd i awdur sydd wedi sgwennu nifer fawr o lyfrau plant Cymraeg dros gyfnod o flynyddoedd, ac mae Sian Lewis wedi sgwennu cannoedd – yn llythrennol! Dros 250 o lyfrau i blant a phobl ifanc hyd yma.

Dyma i chi rai ohonyn nhw:

Un o ardal Aberystwyth ydy hi yn wreiddiol. Astudiodd Ffrangeg ( fel fi!) yng Nghaerdydd cyn dychwelyd i’w bro enedigol, ac ar  ôl cyfnod fel llyfrgellydd, bu’n gweithio i adran gylchgronau’r Urdd cyn mentro fel awdures ar ei liwt ei hun.

5586-19278-file-eng-sia%cc%82n-lewis-300-285

Ond tybed pa lyfrau oedd yn apelio ati hi ers talwm? Be ysbrydolodd hi i sgwennu cymaint? Dyma ei hatebion:

1. Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?
a) Ysgol Gynradd  – Cymraeg a Saesneg

Ces gopi o Trysorau Hafod Aur gan Idwal Jones ar fy mhen-blwydd yn 6. Dwi’n dal i gofio’r ias a’r cyffro, ac yn ffan o lyfrau ditectif byth oddi ar hynny.

Roedd nofelau Meuryn yn ffefrynnau.

230px-meuryn_barcud_olaf

Llyfr arall sy’n aros yn y cof yw Bandit yr Andes gan R. Bryn Williams.

31dn1tg9bul-_sl500_sx331_bo1204203200_

Yn Saesneg roedd raid darllen llyfrau Enid Blyton, yn enwedig y gyfres ‘Adventure’. Yr unig un wnaeth fy siomi oedd The Mountain of Adventure a leolir yng Nghymru. Cymru Blytonaidd iawn!

620wide5673640

Ro’n i hefyd yn mwynhau darllen llyfrau’r Americanesau Louisa M. Alcott a Susan Coolidge,

images

ac am amrywiol resymau, mae gen i atgof hapus iawn o The Secret Garden gan Frances Hodgson Burnett.

460559-bef4e5d312780a29f1b0ead896b92394

Bob wythnos, rhwng fy mrawd a minnau, roedd hanner dwsin o gomics yn cyrraedd tŷ ni. Gwych!

b) Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg

islwynffowcellis

Dyma pryd y dechreuais ddarllen a mwynhau llyfrau Islwyn Ffowc Elis ( dyna fo uchod),

a threulio oriau difyr yn helpu ditectifs John Ellis Williams i ddatrys dirgelion.

41v8acoy5l-_uy250_

Ro’n i’n breuddwydio am fod yn prima ballerina, felly ro’n i’n llowcio llyfrau Lorna Hill, A Dream of Sadler’s Wells ac ati.

adreamofsadlerswellsblog

Ffefryn arall oedd Mabel Esther Allan.

allan%2cmabelesther-swissholiday%28vine-cladhill%29%281956%29frontcover

Hefyd fe etifeddais set o glasuron y 19eg ganrif – Dickens, Hardy, Brontë – a chael blas go iawn ar eu darllen.

2. Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Dwi’n darllen llyfrau plant/pobl ifanc mor aml ag y galla i. Dwi newydd orffen Gwalia gan Llŷr Titus a The Lie Tree gan Frances Hardinge, llyfrau arbennig o dda.

Hefyd dwi wedi darllen Wcw, Mellten a Cip y mis hwn. Dwi’n dal i hoffi comics.

3. Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Dwi wedi cydweithio â llawer o arlunwyr, felly alla i ddim dewis rhyngddyn nhw. Mae gan bob un arddull unigryw, a dwi wastad yn edrych ymlaen yn fawr at weld ymateb arlunydd i’m llyfrau.

4. Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Dwi wedi bod yn arwres llawer iawn o storïau, achos roedd fy mam a ’nhad yn eu creu ar fy nghyfer bob nos wrth fynd i’r gwely. Dechreuais innau sgrifennu storïau cyfres – dechrau ond nid gorffen bob tro – a’u gyrru at Mam-gu a Tad-cu.

Mi ddechreuais sgrifennu go iawn ar ôl cael swydd yn Adran Gylchgronau’r Urdd.

qok8z7q3

5. Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Dwi’n mwynhau gweld syniadau’n sboncio o nunlle, eu dal, a rhoi trefn arnyn nhw – wel, gobeithio!

6. Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.

Pedair Cainc y Mabinogi oedd fy llyfr diwethaf.

9781849672276_1024x1024

Roedd yn hwyl ailgwrdd â’r hen gymeriadau, didoli’r deunydd a phenderfynu sut i’w gyflwyno. Mae lluniau Valériane Leblond

isa_760xn-6888435215_1d9dyn rhoi naws gwreiddiol, gwahanol i’r llyfr.

7.Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Stori’r Brenin Arthur fydd y llyfr nesaf. Unwaith eto mae’r hanesion yn bodoli’n barod, llawer gormod i un llyfr. Felly’r dasg yw dewis pa storïau i’w cynnwys a sut i’w clymu wrth ei gilydd. Mae Prydain gyfan a rhannau o’r cyfandir wedi hawlio Arthur, ond Arthur y Cymry fydd hwn.

Diolch yn fawr, Siân! Edrych mlaen yn arw at weld Stori’r Brenin Arthur.

Gwobrau Tir Na N-og 2016

Published Mehefin 2, 2016 by gwanas

Ddeudis i yndo! ‘Gwalia’ gan Llyr Titus enillodd y categori uwchradd yng Ngwobrau Tir Na N-og eleni. Llongyfarchiadau!

getimg

Dwi’n dal ddim wedi darllen y ddau arall oedd ar y rhestr fer uwchradd, ond roedd ‘na raglen ddifyr am bob llyfr ar y rhestr  ar ‘Heno’ nos Lun.

Dyma’r linc os na welsoch chi hi:

http://www.bbc.co.uk/programmes/p03vjj9y

Roedd hi’n gystadleuaeth dda, yn sicr. A llongyfarchiadau i Sian Lewis a Valériane Leblond, enillwyr y categori cynradd, am eu cyfrol ‘Pedair Cainc y Mabinogi’.

_89866838_tirnanog

Mi wnaethon nhw guro fy llyfr i a Janet Samuel: ‘Coeden Cadi’, ond roedden ni, y rhai na enillodd, â syniad golew nad oedden ni wedi ennill ers tro…os nad ydech chi wedi clywed dim erbyn rhyw wythnos cyn Steddfod yr Urdd, dyna ni, dach chi’n gwybod eich bod chi wedi colli – eto! Na, dwi’m yn ddig o gwbl – ro’n i’n amau’n gryf mai’r gyfrol hon fyddai’n mynd â hi. Mae’n un dda, yn dangos ôl gwaith mawr.

Unknown

Roedd safon y lluniau eleni yn ardderchog, ac os fyddwch chi’n prynu Golwg heddiw, mae ‘na erthygl am y 4 darlunydd oedd ar y rhestr fer:

FullSizeRender

Ac wythnos nesa, mi fydd ‘na erthygl am Gordon. Dwi’n deud dim mwy, ond mae Gordon yn dipyn o foi.

Cofiwch roi gwybod am unrhyw lyfrau Cymraeg ( gwreiddiol!) sy’n eich plesio – neu beidio.

Rhywbeth da allan ar gyfer Steddfod yr Urdd? Dwi’m wedi gallu mynd. Bw hw. Poen/arthritis/nerf femoral/dim mynedd egluro’r stori dragwyddol… mi wnai sgwennu nofel am arthritis a methu cerdded rhyw dro!

 

 

 

 

Gwerthu Llyfrau mewn Gŵyl Theatr

Published Hydref 20, 2015 by gwanas

Newyddion brys!

Os ydach chi’n hoffi llyfrau a drama, be am fynd i Theatr Felin-fach ar 23 a 24 Hydref? Yng nghanol yr wyl ddrama flynyddol, bydd Gwasg Carreg Gwalch – gyda chydweithrediad Siop y Smotyn Du, Llanbed – yn cynnal bwrdd gwerthu llyfrau yng nghyntedd y theatr. Cyfle gwych i bori drwy a phrynu copïau cynnar o rai o deitlau y Nadolig.

I blant mae dwy gyfrol newydd: Straeon Nadolig y Plant

getimg.php
sef casgliad o straeon a sgwennwyd gan blant cynradd ac a ddarlledwyd ar y radio y Nadolig diwethaf. Ro’n i’n un o’r beirniaid ac mae ‘na straeon GWYCH yn eu canol nhw!

Cyfrol arall a gaiff groeso yw Dim Gobaith Caneri sy’n cyflwyno idiomau drwy stori, cartŵn a rhigwm.

getimg-1.php

Bydd y ffotograffydd Marian Delyth yn hyrwyddo ei chyfrol hyfryd o ffotograffau ac atgofion personol am Ynys Enlli

getimg.php
a bydd cyfrol arall yn cyflwyno straeon a hanesion nifer o’r ynyswyr yn ystod yr ugeinfed ganrif: Pobol Enlli.getimg-1.php
Neu be am gyfrol ar hanes y traddodiad drama sy’n sylfaen gadarn i Theatr Felin-fach: Theatr a Chymdeithas gan Euros Lewis.getimg.php

Bargen yr ŵyl yw cynnig yn seiliedig ar gyfres o bum nofel hanes diweddar i blant – unrhyw 3 nofel am bris 2. Mae dwy o’r nofelau – gan Gareth F. Williams – wedi ennill gwobrau Tir na n-Og ac mae’r lleill gan Angharad Tomos a Siân Lewis. Straeon ydyn nhw am drychineb glofa Senghennydd 1913; Nadolig yn y ffosydd 1914; brwydr Teulu’r Beasleys; ymgyrch baentio arwyddion ffyrdd 1969 a thaith y Cymry cyntaf i Batagonia.

Ewch a mwynhwch!

Mwy o gyfres Lolipop

Published Medi 24, 2015 by gwanas

Mi ges i becyn hyfryd yn y post heddiw – swp o lyfrau plant Gwasg Gomer!
Dyma ddau ohonyn nhw, y diweddaraf yng Nghyfres Lolipop, sydd ar gyfer plant 6-8 oed sy’n dechrau darllen yn annibynnol:
llanast_bach

dal_ati_gwenbach

Dwi’n meddwl mai dyma’r tro cyntaf i Mari Lovgreen Unknown
gyhoeddi nofel wreiddiol. Mae hi wedi addasu un neu ddau o’r blaen, ond dyma’r cam cyntaf i fyd llyfr ‘go iawn’! Ac mae hi wedi gwneud sioe dda iawn ohoni. Mi wnes i fwynhau darllen ‘Llanast!’ yn arw. Digon o hiwmor, fel y byddech chi’n ei ddisgwyl gan Mari, a chymeriadau sy’n fyw yn y geiriau, heb sôn am luniau hyfryd Helen Flook. Dyma’r fam flêr, fymryn yn ecsentrig, er enghraifft:
photo 1
Wrth fy modd efo hi, a nabod ambell fam debyg a deud y gwir!

A dyma chi’r broliant ar y cefn:

‘Dwi’n mynd i aros at Begw heno. Wela i chi fory!’
Mae Anni’n ysu am gael mynd at ei ffrind drws nesaf er mwyn osgoi llanast ei chartref hi. Ond mae’n rhaid iddi weithio’i ffordd yn ofalus at y drws ffrynt yn gyntaf – heibio teulu o grwbanod, pentwr o hen blatiau blodeuog, beic, gôl bêl-droed a chwningen dew.
Tybed a fydd hi yr un mor frwd i ddod adref yn y bore?

Stori hyfryd – mwy plîs Mari! Ond, a dwi’n bod yn hynod ffyslyd rwan, dwi’m yn siwr am dudalen 61:
photo 2
‘…wrth iddi daro’i llaw fechan?’ Yy? Oes ‘na eiriau ar goll yn fan’na? Be am ‘…wrth iddi daro’i llaw fechan ar y drws?’ neu be oedd o’i efo:’wrth iddi gnocio’r drws’?

Mae’r awdures arall, Siân Lewis yn hen law ar sgwennu llyfrau – mae hi wedi sgwennu dros 250. Ia, 250! Dyma hi efo Ysgol Gymraeg Aberystwyth:proj_kite_sian_lewis
Mae hi wedi ennill nifer o wobrau am ei llyfrau, a’r diweddara oedd Tlws Mary Vaughan Jones eleni. A dyma ddifyr – Ffrangeg wnaeth hi ei astudio yn y coleg, fel fi. Hoffi chwarae efo iaith, yn amlwg!

Dyma froliant y llyfr:

‘Cwc-w!’ gwaeddodd llais uchel. ‘Dere â sws.’
Dyna sioc gafodd Gwen un bore Sadwrn o agor drws y ffrynt a gweld Eic, y parot Affricanaidd, yn syllu ‘nôl arni. Roedd gan Tom, ei berchennog, ffafr fawr i ofyn i’w gymdoges fach swil.
Stori liwgar a blasus sy’n llawn sbort a sbri! Iym-iym-iym!

A dyma ambell dudalen o’r tu mewn:
photo 3photo
Stori fywiog arall, fydd yn hwyl garw i’w darllen yn uchel.

Dau lyfr da arall yn y gyfres Lolipop. O na fyddai mor hawdd cael llyfrau Cymraeg gwreiddiol ar gyfer plant 12 + ynde!

Gyda llaw, ges i ddiwrnod diddorol a hwyliog efo plant dalgylch y Gader heddiw, yn gweithio ar eu sgiliau ymchwilio, darllen, sgwennu, golygu a chydweithio fel tîm. Ond mi wnaethon ni anghofio tynnu llun! O wel…