Rwdlan

All posts tagged Rwdlan

Hoff Lyfrau Luned Aaron

Published Mawrth 20, 2021 by gwanas

Luned Aaron sydd dan sylw yr wythnos yma: (this is all about Luned’s favourite children’s books and illustrators)

Mae hi’n byw yng Nghaerdydd rŵan, ond un o Fangor ydi hi, a dwi’n gwybod, achos ro’n i’n ei dysgu yn Ysgol Tryfan am gyfnod! Ac oedd, roedd hi’n bleser i’w dysgu.

Mae hi’n artist ac yn awdur – ac yn “wneuthurwr llyfrau” yn ôl ei Twitter (sy’n berffaith wir gan ei bod yn gwneud y lluniau yn ogystal â’r lluniau) sy’n creu llyfrau hyfryd sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn:

Ei gwobr gyntaf dwi’n meddwl

Mae hi a’i gŵr, Huw, ar y rhestr fer efo’i gilydd eleni:

Gobeithio na eith hi’n ffrae…

A dyma gloriau rhai o’i llyfrau hyd yma:

Felly mwynhewch ei hatebion am ei hoff lyfrau:

  1. Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?

Pan ro’n i’n yr ysgol gynradd,  dwi’n cofio i mi fwynhau cyfrolau Mary Vaughan Jones a Jac Jones,

Janet ac Allan Ahlberg,

yn ogystal â llyfrau Elwyn Ioan,

Roald Dahl, Elgan Philip Davies a Patricia St John.

Roedd cyfresi yn apelio hefyd, er enghraifft, cyfres Rwdlan gan Angharad Tomos a chyfres Storïau Hud pan ro’n i’n ifanc iawn; yn hwyrach ymlaen, mi ro’n i’n llyncu cyfresi fel Cyfres y Corryn neu gyfres y Llewod gan Dafydd Parry.

Roedd cyfresi Narnia gan C.S.Lewis a St Clare’s a Malory Towers gan Enid Blyton yn mynd â fy mryd hefyd.

Yn yr ysgol uwchradd, ro’n i’n mwynhau nofelau gan awduron fel Bethan Gwanas (Diolch! B x), Angharad Tomos, T. Llew Jones, Gareth F. Williams, Maya Angelou, Meg Elis, Irma Chilton, Judy Blume, Gwenno Hywyn a Mihangel Morgan.

Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Ydw, yn gyson. Mae cael plant yn golygu fy mod i gyda’r esgus perffaith i brynu a darllen llyfrau da i blant! Dwi’n hoff iawn o ddarganfod gwaith sy’n torri tir newydd gan artistiaid ac awduron tramor.

Yn lled ddiweddar, dwi wedi darganfod yr awdur a’r darlunydd amryddawn Beatrice Alemagna,

yn ogystal â darlunwyr dawnus eraill fel Isabelle Arsenault, Kenard Pak,

Tim Hopgood

(Mae’r llyfr yma gen i – ac mae’n wych! Bethan)

a Britta Teckentrup.

Mae Gŵyl Llên Plant Caerdydd yn lle delfrydol i gyfarfod awduron ac artistiaid dwi’n eu parchu. Yno y gwnes i gwrdd â Yuval Zommer a Petr Horáček – awduron a darlunwyr llyfrau plant dawnus dros ben.

Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Dwi eisoes wedi crybwyll yr Eidales Beatrice Alemagna – dwi wrth fy modd gyda’i gwaith hi, ei harddull gweledol anhygoel yn ogystal â’i gwaith storïo gwreiddiol a dychmygus.

Awdur ddarlunwyr eraill dwi’n eu parchu’n fawr ydi Rebecca Cobb a’r diweddar John Burningham gyda’i arddull trawiadol sy’n gamarweiniol o naïf.

Athrylith arall ym maes llyfrau plant yn fy marn i ydi Shirley Hughes – mae hi’n llwyddo i gamu i mewn i fyd plentyn gyda’i lluniau a’i geiriau mewn modd tyner a llawn manylion hyfryd sydd wir yn argyhoeddi.

Mae Lauren Child hefyd yn llwyddo i gyfleu meddyliau ifanc yn wych iawn,

ac i mi, pencampwraig yr odl fyddai Julia Donaldson.

O ran y gweledol, mae arddulliau collage Leo Lionni ac Eric Carle wastad yn fy swyno,

yn ogystal â darluniau paentiadwy a lliwgar Brian Wildsmith o’r chwedegau a’r saithdegau.

Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Dwi wedi mwynhau ysgrifennu ers yn ifanc iawn, a dwi’n dal i fod â chopïau o’r llyfrau bach gair a llun ro’n i’n eu creu pan yn yr ysgol gynradd gan i fy rhieni eu cadw nhw yn yr atig ar hyd y blynyddoedd!

Dwi’n siŵr fod mwynhau cyfrolau da fel cyfres Rwdlan yn fychan wedi bod yn sbardun mawr. Dwi’n cofio ysgrifennu at Angharad Tomos yn ifanc a sôn wrthi gymaint ro’n i’n hoffi ei gwaith.

Roedd gen i rieni ac athrawon oedd yn fy nghymell i o oedran ifanc i ysgrifennu’n gyson ac ymgeisio am gystadlaethau ac ati. Mi roedd ennill gwobrau mewn ambell i eisteddfod yn sicr yn hwb ac yn ysgogiad i ddal ati.

Be wyt ti’n ei fwynhau fwya’ am sgwennu?

Mae ysgrifennu dyddiadur yn gyson wedi bod yn arferiad ers ro’n i tua deg oed, felly mae rhoi mynegiant ar bapur i brofiadau yn bwysig iawn imi. Mewn rhyw ffordd, mae ysgrifennu yn fodd o ddogfennu a chroniclo teimladau a syniadau, ac mae hynny’n rhoi boddhad mawr imi.

Mae’r broses o greu rhywbeth mor derfynol â llyfr, sydd â pharhad iddo, yn sicr yn dod â’i foddhad. Mae yna wefr arbennig mewn agor bocs sy’n llawn llyfrau sydd newydd eu hargraffu!

Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.

Mae’r Cyfan i Ti (Atebol) ydi fy llyfr diweddaraf sydd wedi ei anelu at gynulleidfa ifanc. Mae’r gyfrol yn dilyn diwrnod ar ei hyd o wawrio’r haul ben bore tan iddi nosi yn yr hwyr, ac yn cyflwyno’r pum synnwyr i blant trwy wahanol olygfeydd cyfarwydd o fyd natur.

Mae’n gyfrol sydd ar ffurf mydr, a dwi’n gobeithio fod yr odl gyson a’r rhythm sydd yn y llyfr yn help i blant ymlacio ar ddiwedd y dydd.

Wrth ysgrifennu, ro’n i’n awyddus i gyfathrebu mewn modd a fyddai’n glir a diwastraff. Felly mi wnes i ofyn barn ambell i riant (gan gynnwys rhieni Cymraeg ail iaith), cyn athrawon ac ambell i fardd ro’n i’n eu parchu yn ystod y broses o ysgrifennu, er mwyn cael gwahanol safbwyntiau ynglŷn â ffyrdd o symleiddio’r dweud rhyw gymaint. Ro’n i am iddi fod yn gyfrol hygyrch, hawdd ei darllen, a do’n i’n sicr ddim eisiau dieithrio rhieni, yn enwedig rhieni ail iaith. Dwi’n falch bod cyfieithiad syml yng nghefn y llyfr sy’n llwyddo i ehangu apêl y llyfr gobeithio.

Wrth greu’r gyfrol, roedd helynt Covid a’r cloi mawr ar ddechrau, a ro’n i’n fwriadol eisiau creu cyfrol gadarnhaol a fyddai’n ddathliad o rodd natur. Er caledi’r cyfnod yma, a’r holl golledion sydd wedi dod yn ei sgil i gynifer o unigolion, dwi’n meddwl fod y cyfnod yma wedi peri i ni werthfawrogi ein milltir sgwâr yn fwy nag erioed, ac roedden ni fel teulu, fel y rhelyw ohonom, yn mwynhau dod i adnabod ein milltir sgwâr yn well wrth fynd ar ein troeon dyddiol. A dweud y gwir, roedd dipyn o’r syniadau ar gyfer y llyfr yn dod i mi wrth fynd ar y troeon yma.

Mewn ffordd, ro’n i’n awyddus i gyfleu yn y gyfrol fod cymaint o ryfeddodau ar ein stepen drws y gallwn ni eu mwynhau – does dim angen mynd dramor i ryfeddu! Mi fyddwn i’n sylwi yn yr ardd, er enghraifft, fel y byddai fy merched yn mopio’n lân at bethau mor ymddangosiadol fychan; o deithiau prysur y morgrug i’r siapiau ar ddail a phetalau. Nhw sy’n iawn wrth gwrs – mae’r rhyfeddodau yma reit o flaen ein trwynau ni, dim ond i ni sylwi arnyn nhw.

O bosib, ar ryw lefel isymwybodol wrth fynd ati i greu’r llyfr, fy mod i am annog rhieni i sylwi o’r newydd ar y pethau yma hefyd, yng nghwmni’r plentyn, gan ddeffro’r plentyn ynddyn nhw o bosib. Elfen arall sy’n dod drosodd yn gynnil yn y gyfrol dwi’n meddwl ydi’r ffaith bod cyfrifoldeb arnom ni i edrych ar ôl y greadigaeth ryfeddol yma, yn ogystal â’i mwynhau. Eto, doedd hyn ddim yn neges ro’n i’n ei gyfleu’n amlwg, ac yn sicr, doeddwn i ddim am fod yn bregethwrol a didactig, ond mae’r neges yno o dan yr wyneb.

O ran arddull weledol y llyfr, techneg collage sydd yma gan fwyaf, gan gynnwys technegau argraffu a pheintio hefyd ar brydiau. Dwi wrth fy modd gyda thechneg collage – mae modd ymgolli a gwirioneddol fwynhau’r broses haenog yma o greu. Mewn ffordd, mae’r gyfrol yma’n esblygiad naturiol o’r cyfrolau yn fy nghyfres Byd Natur (Gwasg Carreg Gwalch), sy’n cynnwys technegau tebyg, ond bod mwy o gynnwys geiriol a stori yn perthyn i’r gyfrol yma, ochr yn ochr â’r lluniau.

Mi hoffwn i ategu mai dechrau taith y gyfrol oedd cael treulio wythnos ar gwrs ysbrydoledig yng nghanolfan Tŷ Newydd –

cwrs a gafodd ei drefnu ar y cyd gan Gyngor Llyfrau Cymru a Llenyddiaeth Cymru. Dwi’n ddiolchgar am bob cyfle i dreulio amser yn Nhŷ Newydd gan ei fod yn fan mor arbennig sydd wedi rhoi cychwyn ar sawl prosiect creadigol imi ar hyd y blynyddoedd. Yn ystod y cwrs yma y cychwynnodd y sgwrs ynglŷn â’r posibilrwydd o gyhoeddi’r gyfrol gyda Rachel Lloyd o gwmni Atebol. Braf oedd y broses o gydweithio gyda hi, ynghyd â’r dylunydd dawnus Elgan Griffiths.

Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Y ddwy gyfrol nesaf i blant fydd wedi eu hysgrifennu gen i fydd Nos Da Tanwen a Twm (Gwasg Carreg Gwalch) a Pam (Y Lolfa). Prosiectau ar y cyd gyda fy ngŵr, Huw Aaron, fydd y rhein – Huw fydd yn darlunio a dylunio’r ddwy gyfrol. Rhein fydd ein llyfrau cyntaf ar y cyd, felly dwi’n gyffrous iawn am gydweithio.

Cyfrol fach liwgar a chwareus i blant ifanc ydi Nos Da Tanwen a Twm sy’n cyflwyno’r elfennau gwahanol o fynd i’r gwely gyda’r hwyr trwy ddangos teulu bach o deigrod yn mynd trwy’r rwtîn nosweithiol. Llyfr ysgafn, ar odl, ydi Pam, sy’n cyflwyno cwestiynau sy’n peri penbleth i blentyn bach direidus!

Diolch am dy atebion, Luned, a diolch arbennig am dynnu ein sylw at arlunwyr mor ddifyr! Pob lwc efo’r llyfrau i gyd.

Gyda llaw, dwi newydd ddarganfod y linc bach hyfryd yma, sy’n rhoi sylw i arlunydd llyfrau gwahanol bob wythnos (Mae’n siŵr bod Luned yn gwybod amdano’n barod). Mwynhewch!

Hoff lyfrau Angharad Tomos

Published Chwefror 8, 2017 by gwanas
ab6e18713197704aa3469e4495e13ee755bd44c2
Os nad ydach chi wedi clywed am Angharad Tomos, wel…mae’n amlwg nad ydach chi wedi clywed am Wlad y Rwla a llyfrau Rwdlan, welodd olau byd yn 1983.

Mae hi wedi sgwennu llond gwlad o lyfrau i oedolion a phlant:

ond hanesion criw Gwlad y Rwla, yn sicr ,yw’r ‘gwerthwyr gorau’. Mae brand Rwdlan fel y Star Wars Cymraeg: CDs, cardiau, teganau, llyfrau ‘sbin-off’ fel llyfrau llythrennau, llyfrau lliwio, jigsos, mygiau a chrysau T.
A tydi hi’n braf gweld nwyddau sy’n defnyddio cymeriadau Cymraeg (gafodd eu creu gan Gymraes yng Nghymru)?  Yn hytrach na’r bali mochyn pinc ‘na eto. Ffydd mewn cymeriadau a doniau Cymraeg sydd ei angen, drapia! O, ac Angharad sy’n gyfrifol am y lluniau hefyd, gyda llaw. Dim ffraeo am hawlfraint felly – call iawn, Angharad!
Ond mae ‘na lyfrau eraill i blant hŷn ganddi hefyd, fel Sothach a Sglyfath, stori ysbrydion hwyliog, llawn dychymyg ac enillydd gwobr Tir na n-Og 1994:
0862432960
Ar wefan gwales.com:
Rhoddodd George o Caerdydd i’r teitl yma ac ysgrifennodd:
“Rydw i’n meddwl bod y stori yma yn wych, wych iawn, iawn. Mae’n stori hynod wreiddiol. Mae’n stori sy’n gwneud i chi deimlo’n ofnus, ond ddim yn rhy ofnus. Mae’n addas i blant 8-11 oed.”

a rwan mae ganddi gyfres o lyfrau ffeithiol newydd sbon i blant bach, fel y ddau yma:

 

Chydig mwy o wybodaeth amdani:

Mae ganddi bump chwaer, aeth i Ysgol Dyffryn Nantlle ac mi fu’n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith am flynyddoedd.  Mae hi wedi ennill swp o wobrau am ei sgwennu, fel Coron Yr Urdd yn 1982 am Hen Fyd Hurt; ac mae hi wedi cael Y Fedal a Gwobr Tir na n-ôg ddwywaith, heb sôn am Wobr Mary Vaughan Jones am ei chyfraniad tuag at  lenyddiaeth plant yng Nghymru. Mae’n sgwennu colofn yn yr Herald Gymraeg (sydd yn y Daily Post bob dydd Mercher) ers BLYNYDDOEDD. Dwi wrthi ers rhyw 15 mlynedd ond roedd Angharad yno ym mhell cyn fi. Ac mae hi’n hen law am brotestio – dyma lun ohoni’n protestio yn erbyn cau Llyfrgell Penygroes ( mae ei mab yna hefyd – sy’n hoffi gneud ffilmiau)

images

a dyma glawr ei hunangofiant:

220px-cyfres_y_cewri_23_cnonyn_aflonydd_llyfr

 

A dyma ei hatebion hi am ei hoff lyfrau plant:

  1. Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?  a) Ysgol Gynradd  – Cymraeg a Saesneg      b) Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg

Yn Gymraeg, byddai Dad yn rhoi straeon y Mabinogi i Blant inni, (Pwyll oedd enw fy nhedi i, a Pryderi oedd tedi fy chwaer!)

pwyll

Hoffwn straeon Tylwyth Teg, a straeon Elizabeth Watkin Jones yn fwy na rhai T.Llew Jones.

519mvbpqbl-_ac_us200_

Yn Saesneg – unrhyw beth gan Enid Blyton!

images

Stopiais ddarllen am gyfnod yn fy arddegau, (ar wahân i’r llyfrau roedd yn rhaid i mi eu darllen yn yr ysgol) a wedyn yn syth i ddeunydd Islwyn Ffowc Elis a gwirioni.

islwynffowcellis

Yn Saesneg, Wuthering Heights i Lefel O, ac roedd hynny yn agoriad llygad. Bronte  i mi bob tro, yn hytrach nac Austen.

 

Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Darllen mwy o rai i’r plant fenga, ond wrth i’r mab fynd yn hŷn, cefais agoriad llygad fod llawer o ddeunydd i bobl ifanc, a Manon Steffan yw fy ffefryn.

3540-16182-file-eng-manon-steffan-ros-281-400

Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Quentin Blake – am ei steil unigryw sy’n dal hanfod cymeriad.

Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Wrth fy modd efo’r weithred o sgwennu – mae llun ohonof tua saith efo pensil a phapur.

image

Heb deledu, roedd yn rhaid i ni’n pump ddiddanu ein hunain, a thynnu llun (yn fwy na sgwennu stori) oedd fy hoff bleser. Roedd y dasg ‘llun a stori’ bob bore yn yr ysgol gynradd yn fy mhlesio yn iawn!

Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Trio a thrio am wythnosau i roi ffurf ar syniad, a mwya sydyn – o rywle – mae’n dod. Unwaith dach chi wedi cael ‘y llais’, rydych chi wedi torri trwodd, ac mi ddaw yn llawer haws. Ond 90% o’r amser, gwaith caled a chadw trwyn ar y maen ydi o!

Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.

Wel, ddaru’r olaf nesh i  (un am wrthwynebydd cydwybodol) i bobl ifanc ddim gweithio, felly rydw i wedi rhoi honno o’r neilltu. ‘Paent’ oedd yr un ddwytha i’w chyhoeddi ac roedd honno yn dod o brofiad personol. Dewisais ymgyrch arwyddion Cymdeithas yr Iaith fel testun, ond gan fod cychwyn honno run pryd â’r Arwisgo (1969), fe’i gosodais yn y cyfnod hwnnw. Ro’n i’n blentyn fy hun yn y cyfnod hwnnw, felly doedd dim cymaint o waith ymchwilio. Ond roedd cymaint o faterion yn codi – brenhiniaeth, gweithredu di-drais, pwysau ffrindiau, ond yn fwy na dim, pwysau ysgol uwchradd i gyd-ymffurfio.Layout 1

 Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Nofel i bobl ifanc am hawliau merched.

  • Neges gan Bethan- Edrych mlaen, Angharad!

angharadtomos

 

 

 

Llyfrgell mewn blwch ffôn – a Roald Dahl

Published Medi 13, 2016 by gwanas

431428_509338602424905_1887898818_n.jpg

 

Syniad hollol wych ar Facebook ydi hwn: pan dach chi’n cymryd llyfr, rydach chi’n rhoi un arall yn ei le. Ffordd hyfryd o roi bywyd newydd i’n hen flychau coch, a’n llyfrau yr un pryd. Mi fydda i’n pasio un bron bob bore ar fy meic ( ar y ffordd gefn i Lanfachreth o Rydymain) a dwi eisoes wedi hel chydig o lyfrau i’w rhoi yno bore fory. Does ‘na’m silffoedd del fel rhain yno ond mae ‘na saer coed yn byw rownd y gornel i’r ciosg…a boi wedi ymddeol sy’n chwip  foi efo morthwl yn byw i lawr y rhiw ( dyna be dan ni’n ddeud am ‘allt’ yn y parthau hyn…).

Mi wnai adael i chi wybod sut eith hi! Dwi am roi llyfrau plant yno hefyd.

Sôn am rheiny, dwi ar ganol un gwych yn Saesneg rwan: Time Travelling with a Hamster gan Ross Welford.

51ced8ru8nl-_sx324_bo1204203200_

Dwi’n cael trafferth ei roi i lawr! A dwi’n gwybod y bydda i’n crio cyn y diwedd. Dwi wedi chwerthin gryn dipyn hyd yma ond mae gen i deimlad ym mêr fy esgyrn… gawn ni weld. Mae’n sicr yn o’r llyfrau prin ‘na sy’n gweithio ar gyfer plant ac oedolion.

Ie, llyfr Saesneg, ond ro’n i jest isio rhoi sylw i awdur plant ar wahân i Roald Dahl heddiw…

14359229_10154534714034777_1822123112638276331_n

Ydi, mae ei lyfrau o’n arbennig o dda – ond nid yn plesio pawb – mae hynny’n amhosib – mae pawb yn hoffi pethau gwahanol tydyn? Ac ydi, mae o’n haeddu sylw, ond dydi o rioed wedi stopio cael sylw nacdi?

Dyna pam wnes i ddweud y pethau wnes i eu dweud ar Radio Cymru neithiwr ar Dan yr Wyneb http://www.bbc.co.uk/programmes/b07v811y

a bore ‘ma ar Taro’r Post: http://www.bbc.co.uk/programmes/b07tllwh

Ond i ateb y cwestiwn: be ydi dy hoff lyfr Dahl? Charlie and the Chocolate Factory, yn bendant.images

Y clawr ar y chwith oedd gynnon ni.

A dwi ddim yn erbyn Dahl o bell ffordd! Newydd neud gweithdy sgwennu yn y Llyfrgell Genedlaethol yn defnyddio’r BFG fel ysbrydoliaeth, a dyma lun neu ddau:

image-7

image-2

Do, gawson ni goblyn o hwyl, felly diolch Roald Dahl – a’r Roald Dahl Foundation sy’n ariannu llawer iawn o’r gweithgareddau dathlu ‘ma.

Mae ‘na fwy o lyfrau gwreiddiol i blant bach gan Y Lolfa erbyn hyn gyda llaw:

Dau lyfr newydd sbon yng nghyfres boblogaidd Cyfres am Dro, sy’n rhan o gynllun darllen Darllen mewn Dim ar gyfer plant y Cyfnod Sylfaen:

sitemgr_photo_19014

9781784612795_large

 Llyfrau ffeithiol  am fyd natur ydyn nhw, gan Angharad Tomos. Hi sydd wedi gwneud y lluniau o gymeriadau Gwlad y Rwla hefyd. Yn Ar y Traeth mae modd dysgu am y llanw a thrai, am y creaduriaid, yr anifeiliaid mawr a bach, a’r planhigion sy’n byw ar lan y môr. Yn Dydd a Nos mae Rwdlan a’r Dewin Dwl yn mynd ar daith drwy’r dydd a’r nos gan ddysgu am ddiwrnodau, yr haul a’r lleuad, y sêr a’r planedau.

Hyfryd.