Running on the roof of the world

All posts tagged Running on the roof of the world

Sêl llyfrau plant a bobl ifanc

Published Ionawr 31, 2018 by gwanas

WYTHNOS NESAF! Bydd siopau Llyfrau Cymraeg yn cynnig Sêl fawr ar nifer o lyfrau plant a phobl ifanc! 📚 Cadwch lygad allan am gynigion arbennig yn eich siop lyfrau leol ac arlein: gwales.com

image

Ond fel awduron, rydan ni wastad yn gobeithio na fydd ein llyfrau ni yno… ond mae’n digwydd i bawb ryw ben, mae’n debyg.

8b3d909f0f9423cb40b81c9c80f340c3

Dau lyfr Saesneg (newydd) dwi newydd eu darllen ydi’r rhain:

image

Dwi’m yn meddwl y gwelwch chi’r un o’r rhain mewn unrhyw sêl am hir! Mae Michael Morpurgo yn ddifyr a darllenadwy fel arfer ac wedi gwneud ymchwil i mewn i hen gartref i blant amddifad o’r 18fed ganrif y Foundling Museum erbyn heddiw. Os dach chi’n hoffi dysgu am hanes (a cherddoriaeth a Handel) – mae hwn yn mynd i blesio.

Y llall oedd fy ffefryn i: Running on the roof of the world – nofel gyntaf merch sydd wedi byw yn Tibet yn blentyn ac mae hynny mor amlwg: mae blas ar arogl ac awyrgylch y lle yn pefrio drwy’r tudalennau. Os dach chi’n hoffi dysgu am wledydd eraill, isio gwybod sut anifail ydi Yak go iawn a phwy ydi’r Dalai Lama – ac isio mynd ar antur dros fynyddoedd ardal yr Himalayas efo merch a bachgen dewr, styfnig a difyr: mi wnewch chi fwynhau hon. Mi wnes i – yn arw, ac mi ddysgais i lawer am sefyllfa Tibet a’i phobl hefyd. Mae’n gwneud i mi fod isio teithio eto i sgwennu am fywyd plant a phobl ifanc mewn gwledydd tramor… a dwi’n bendant isio mynd i Tibet!

Mwy o sylw i lyfrau Cymraeg pan gai gyfle i’w darllen nhw – addo.