Mae Manon Steffan Ros wedi ei gwneud hi eto! Dyma i chi nofel ar gyfer darllenwyr 11-14 oed (yn ôl y cyhoeddwyr) (10-94 oed yn fy marn i) ddylai fod yn hynod o boblogaidd, yn bendant gyda phlant a phobl sy’n hoffi pêl-droed, ond hefyd gydag unrhyw un sy’n hoffi stori dda wedi ei dweud yn grefftus.
Os oeddech chi wedi cael eich swyno gan berfformiadau tîm Cymru yn yr Ewros 2016,
mi gewch eich swyno gan hon. Os ydach chi’n addoli Joe Allen,
mi fyddwch chi wedi gwirioni. A hyd yn oed os fyddai’n well gynnoch chi fwyta malwen na gwylio pêl-droed, mi fyddwch chi’n mwynhau hon. Ydi, mae hi am bêl-droed, ond mae hi hefyd am berthynas bachgen a’i fam, bachgen a’i dad, bachgen a’i waith cartref, am siarad Ffrangeg (ieee!), am deithio, am fod yn ran o lwyth neu ‘tribe’ a llawer iawn mwy.
Mae gwir angen nofel wreiddiol fel hon ar y byd llyfrau, ac os oes gynnoch chi blentyn sy’n gwrthod neu’n casau darllen oherwydd fod yn well ganddo/ganddi chwarae neu wylio pêl-droed, dwi wir yn meddwl y gallai hon wneud gwahaniaeth.
Marc Huws ydi enw’r bachgen yn y stori (oedd, roedd ei dad yn ffan mawr o Mark Hughes):
ac er fod y tad hwnnw yn absennol y rhan fwya o’r amser, mae’n cynnig mynd â Marc i weld Cymru’n chwarae yn Ffrainc. Mae’n gyfle iddyn nhw ddod i nabod ei gilydd yn well, a chan fod tad Marc yr un ffunud â Joe Allen, maen nhw’n cael llawer o hwyl. Ond fel y byddech chi’n disgwyl o unrhyw stori dda, dydi pethau ddim yn fêl i gyd…
Mae Manon yn cyfadde nad oedd ganddi lawer o ddiddordeb mewn pêl-droed tan yr Ewros, ond ers hynny, mae hi wedi mopio ei phen efo’r gêm – a thîm Lerpwl! A Mo Salah…
Dwi’n meddwl bod y ffaith bod o leia un o’i meibion wedi gwirioni efo pêl-droed yn rhannol gyfrifol am y droedigaeth i fyd y bêl gron!
Mae’n amlwg ei bod wedi mwynhau sgwennu’r nofel yn arw, a chwarae teg, mi wnaeth hi drydar y canlynol:
“Dwi byth yn deud digon am rôl golygydd yn y broses o greu’r llyfrau dwi’n sgwennu. Y gwir ydi, dwi’n lwcus iawn iawn iawn i gael gweithio efo pobl brwd a thalentog ‘sgin y gallu i awgrymu newidiadau heb frifo ego delicet awdur.”
Dwi’n eitha siŵr mai cyfeirio at Meinir Wyn Edwards mae hi yn fanna
– a dwi’n amenio. Hi sy’n golygu fy llyfrau plant i hefyd,
a dyma i chi un o luniau (heb ei liwio eto) o’r nesaf yng nghyfres Cadi:
Na, does ‘na’m digon o bêl-droed mewn llyfrau Cymraeg i’r arddegau a does ‘na’m digon o ddeinosoriaid a chnecu/pwmpian i blant iau!
Gyda llaw, dwi newydd dreulio wythnos hyfryd, ysbrydoledig (a blinedig!) yn Nant Gwrtheyrn yn rhoi blas o wahanol lyfrau i griw gwych o ddysgwyr. Mi fuon nhw a chriw mawr o bobl leol yn trafod un arall o lyfrau Manon, Inc:
(llyfr oedolion a pherffaith ar gyfer yr arddegau hŷn hefyd). 28 mewn un grŵp darllen!
Gawson ni bnawn hyfryd – a phawb yn canmol y nofel (a’r cwrs…), o, a sgwrs Ifor ap Glyn y noson flaenorol. Roedd o’n wych, ac mi werthodd lwyth o’i lyfrau iddyn nhw. Mi fu siop lyfrau’r Nant yn hynod brysur hefyd, yn gwerthu llyfrau Rhys Iorwerth, Sonia Edwards, Mihangel Morgan, Lleucu Roberts a Gareth Evans yn ogystal â rhai Ifor – o, a fi, wrth gwrs! O na fyddai Cymry iaith gyntaf mor barod i brynu a darllen llyfrau Cymraeg… diolch o galon i chi ddysgwyr hael, clen, darllengar!