Quentin Blake

All posts tagged Quentin Blake

Holi awdur – Gwenno Hughes

Published Gorffennaf 7, 2017 by gwanas

Hwrê! Mae ‘na awdur llyfrau plant arall wedi ateb fy nghwestiynau! Dyma i chi luniau o Gwenno Hughes:

Gwenno

936095_10154469963540430_5285236437076999296_n

Ers iddi ddechrau cyhoeddi yn 1999, mae Gwenno wedi sgwennu naw o lyfrau ac wedi cyfrannu i nifer o gyfrolau, a dyma rai ohonyn nhw:

51B5GjilFGL._SY346_51EQkOoD5kL51lV03lGQvL._UY250_519Rpa3OL1L._UY250_getimg

 

Yn 2000, enillodd Wobr Tir na n-Og am ‘Ta-ta Tryweryn!’

Cyfres_Corryn_Ta-Ta_Tryweryn!_(llyfr)

Adolygiad Gwales
Syniad da yw cydio mewn digwyddiadau hanesyddol a’u cyflwyno ar ffurf stori neu nofel fer i blant. Dyna a wneir yma, a helynt boddi Cwm Celyn yw’r digwyddiad. Mae Iolo a rhai o’i ffrindiau yn clywed am y bygythiad ac yn mynd ati i chwarae rhan bwysig yn yr ymgyrch i geisio achub y cwm. Mae’r ymdrech hon yn cynnwys y daith enwog i Lerpwl pan gafodd Gwynfor Evans gyfle i annerch y Cyngor.

Ofer oedd y cyfan wrth gwrs, a cheir darlun o’r tristwch a ddaeth ar ddiwedd yr ymgyrch, a’r mudo o’r tai a’r ffermydd, cau yr ysgol a dymchwel y capel. Na, ni ystumiwyd dim ar ffeithiau pwysig yr hanes hwn.

Mae’r stori wedi ei hadrodd o safbwynt un teulu’n arbennig – teulu Iolo – ond yn dwyn i mewn lawer o gymeriadau eraill gan gynnwys y nain nad yw byth am adael. Ond gadael sy raid, hyd yn oed iddi hi.

Mynegwyd mŵd y lle a’r awyrgylch oedd yn bodoli yn y pentre a’r cyffiniau yn ardderchog gan yr awdur, ac y mae’r nofelig fechan hon yn enghraifft dda o’r hyn y gellir ei wneud, a hynny heb fynd dros ben llestri, gyda digwyddiadau yn hanes Cymru ddylai fod yn rhan o wybodaeth ac etifeddiaeth pob plentyn o Gymro.

Elfyn Pritchard

A dyma fwy o’i llyfrau hi:

getimggetimg-2getimg-3getimg-1

Hogan o Gaeathro ger Caernarfon ydi Gwenno, ond erbyn hyn, mae’n byw yng Nghaerdydd ac yn sgwennu’n llawn amser i gyfresi fel Pobol y Cwm, Dim ond y Gwir,

Logo_Rownd_a_Rownd_HDRownd a Rownd, Tipyn o Stad ayyb.

_41276353_huws203300

O, ac mae’r awdures Emily Huws yn rhyw fath o fodryb iddi! Cyfneither i’w thad, “felly Anti Emily ydi hi wedi bod i mi rioed,” meddai Gwenno. “Mae hi’n handi iawn cael awdures yn Anti – llyfrau am ddim!”

A dyma atebion Gwenno am ei hoff lyfrau:

  1. Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?  a) Ysgol Gynradd  – Cymraeg a Saesneg

Cymraeg – unrhyw beth gan T Llew Jones, Dafydd Parry, Emily Huws. Ro’n i’n hoffi’r cyfieithiadau Cymraeg o lyfrau Asterix hefyd.

yfforddberyglus_mawr1000000000205getimg-2asterix-gorchest-prydain

Saesneg – hoffi llyfrau Enid Blyton yn fawr.

enidblyton-10classicbookdustcovers_edited-1

b) Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg

Cymraeg – Cysgod y Cryman.

cysgod_y_cryman_mawr

Saesneg – The Secret Diary of Adrian Mole.

9780141010830-uk

 

  1. Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Ydw, dwi’n dal i ddarllen llyfrau plant. Dwi’n hoffi gweld beth sydd ar y farchnad. Dwi wedi joio holl gyfres Harry Potter a dwi’n hoffi stwff David Walliams. Doniol! Joio llyfrau Bethan Gwanas hefyd!   ( diolch, Gwenno! – 🙂  )

latest

David Walliams Book Signing - London

bethan_gwanas

  1. Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Quentin Blake – lluniau prysur, hudolus.

quentin-blake-hosp_1000078c

 

  1. Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Dwi’n sgwennu ers pan dwi’n ddim o beth, yn bennaf achos mod i’n cael pleser mawr o wneud hynny.

  1. Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Dechrau gyda thudalen wag ac yna gorffen gyda stori gyflawn. (Er gwaetha’r chwys, gwaed a chrafu pen!)stressed-girl-full-vector-cartoon-58813052.jpg

 

  1. Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.

Yr Haf Gorau Erioed oedd y nofel olaf i mi ei hysgrifennu. Stori antur wedi’i lleoli yn ardal Tregaron ydi hi. Mae yna ddirgelwch, dihirod a drwgweithredu ynddi hi. Ond hefyd mae yna dipyn o sbort!

getimg

Adolygiad Gwales
Mae’r ysgol wedi cau am wyliau’r haf. Mae chwe wythnos hir i’w llenwi. Mae angen chwilio am antur. A dyma’n union sydd yma. Yn un o lyfrau cyfres Strach, mae Yr Haf Gorau Erioed gan Gwenno Hughes yn ein cyffroi ninnau.

O’r dechrau un mae Lefi Daniels yn benderfynol o gael gwyliau gwerth chweil, gan wibio ar ei BMX ar drywydd ambell antur. Ond a ydi’r ffeit bomiau dŵr yn ddigon i gadw ei ffrind gorau Sbaner a’i chwaer fach Meg ac yntau rhag diflasu? Yn fuan iawn, mae pethau wedi poethi. Mae’r tri yn dod ar draws antur annisgwyliedig o gyfrinachau, o gyffuriau ac o drysor cudd ac maen nhw’n treulio eu haf yn mynnu dod at wraidd dirgelwch Keira a Tal, y ddau ddieithryn. Mae hon yn nofel sydd yn siŵr o’ch difyrru wrth i’r dirgelwch ddwysáu, gan gyrraedd uchafbwynt gyda’r ddamwain ddramatig ar y diwedd. Ydi Gang Gelli Aur yn dod yn arwyr, neu a yw hi’n ormod o gymhlethdod i dri mor ifanc?

Yn hynod o debyg i gyfres y Pump Prysur (addasiadau o waith Enid Blyton), stori yw hon sydd yn ddigon i’n difyrru ninnau hefyd. Bron nad yw’r darllenydd yn teimlo ei fod yntau wedi bod trwy’r antur law yn llaw â Lefi. O na byddai’n haf o hyd!

Llinos Griffin

 

  1. Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Does gen i ddim byd pendant ar y ffordd ar y funud – ond mae na gwpwl o syniadau’n cynniwair. Watch this space!

Diolch, Gwenno – pob lwc efo’r syniadau!

stock-vector-a-vector-illustration-of-cartoon-woman-writing-on-paper-127511033.jpg

 

Hoff lyfrau Angharad Tomos

Published Chwefror 8, 2017 by gwanas
ab6e18713197704aa3469e4495e13ee755bd44c2
Os nad ydach chi wedi clywed am Angharad Tomos, wel…mae’n amlwg nad ydach chi wedi clywed am Wlad y Rwla a llyfrau Rwdlan, welodd olau byd yn 1983.

Mae hi wedi sgwennu llond gwlad o lyfrau i oedolion a phlant:

ond hanesion criw Gwlad y Rwla, yn sicr ,yw’r ‘gwerthwyr gorau’. Mae brand Rwdlan fel y Star Wars Cymraeg: CDs, cardiau, teganau, llyfrau ‘sbin-off’ fel llyfrau llythrennau, llyfrau lliwio, jigsos, mygiau a chrysau T.
A tydi hi’n braf gweld nwyddau sy’n defnyddio cymeriadau Cymraeg (gafodd eu creu gan Gymraes yng Nghymru)?  Yn hytrach na’r bali mochyn pinc ‘na eto. Ffydd mewn cymeriadau a doniau Cymraeg sydd ei angen, drapia! O, ac Angharad sy’n gyfrifol am y lluniau hefyd, gyda llaw. Dim ffraeo am hawlfraint felly – call iawn, Angharad!
Ond mae ‘na lyfrau eraill i blant hŷn ganddi hefyd, fel Sothach a Sglyfath, stori ysbrydion hwyliog, llawn dychymyg ac enillydd gwobr Tir na n-Og 1994:
0862432960
Ar wefan gwales.com:
Rhoddodd George o Caerdydd i’r teitl yma ac ysgrifennodd:
“Rydw i’n meddwl bod y stori yma yn wych, wych iawn, iawn. Mae’n stori hynod wreiddiol. Mae’n stori sy’n gwneud i chi deimlo’n ofnus, ond ddim yn rhy ofnus. Mae’n addas i blant 8-11 oed.”

a rwan mae ganddi gyfres o lyfrau ffeithiol newydd sbon i blant bach, fel y ddau yma:

 

Chydig mwy o wybodaeth amdani:

Mae ganddi bump chwaer, aeth i Ysgol Dyffryn Nantlle ac mi fu’n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith am flynyddoedd.  Mae hi wedi ennill swp o wobrau am ei sgwennu, fel Coron Yr Urdd yn 1982 am Hen Fyd Hurt; ac mae hi wedi cael Y Fedal a Gwobr Tir na n-ôg ddwywaith, heb sôn am Wobr Mary Vaughan Jones am ei chyfraniad tuag at  lenyddiaeth plant yng Nghymru. Mae’n sgwennu colofn yn yr Herald Gymraeg (sydd yn y Daily Post bob dydd Mercher) ers BLYNYDDOEDD. Dwi wrthi ers rhyw 15 mlynedd ond roedd Angharad yno ym mhell cyn fi. Ac mae hi’n hen law am brotestio – dyma lun ohoni’n protestio yn erbyn cau Llyfrgell Penygroes ( mae ei mab yna hefyd – sy’n hoffi gneud ffilmiau)

images

a dyma glawr ei hunangofiant:

220px-cyfres_y_cewri_23_cnonyn_aflonydd_llyfr

 

A dyma ei hatebion hi am ei hoff lyfrau plant:

  1. Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?  a) Ysgol Gynradd  – Cymraeg a Saesneg      b) Ysgol Uwchradd – Cymraeg a Saesneg

Yn Gymraeg, byddai Dad yn rhoi straeon y Mabinogi i Blant inni, (Pwyll oedd enw fy nhedi i, a Pryderi oedd tedi fy chwaer!)

pwyll

Hoffwn straeon Tylwyth Teg, a straeon Elizabeth Watkin Jones yn fwy na rhai T.Llew Jones.

519mvbpqbl-_ac_us200_

Yn Saesneg – unrhyw beth gan Enid Blyton!

images

Stopiais ddarllen am gyfnod yn fy arddegau, (ar wahân i’r llyfrau roedd yn rhaid i mi eu darllen yn yr ysgol) a wedyn yn syth i ddeunydd Islwyn Ffowc Elis a gwirioni.

islwynffowcellis

Yn Saesneg, Wuthering Heights i Lefel O, ac roedd hynny yn agoriad llygad. Bronte  i mi bob tro, yn hytrach nac Austen.

 

Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?

Darllen mwy o rai i’r plant fenga, ond wrth i’r mab fynd yn hŷn, cefais agoriad llygad fod llawer o ddeunydd i bobl ifanc, a Manon Steffan yw fy ffefryn.

3540-16182-file-eng-manon-steffan-ros-281-400

Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?

Quentin Blake – am ei steil unigryw sy’n dal hanfod cymeriad.

Be nath i ti ddechrau sgwennu?

Wrth fy modd efo’r weithred o sgwennu – mae llun ohonof tua saith efo pensil a phapur.

image

Heb deledu, roedd yn rhaid i ni’n pump ddiddanu ein hunain, a thynnu llun (yn fwy na sgwennu stori) oedd fy hoff bleser. Roedd y dasg ‘llun a stori’ bob bore yn yr ysgol gynradd yn fy mhlesio yn iawn!

Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?

Trio a thrio am wythnosau i roi ffurf ar syniad, a mwya sydyn – o rywle – mae’n dod. Unwaith dach chi wedi cael ‘y llais’, rydych chi wedi torri trwodd, ac mi ddaw yn llawer haws. Ond 90% o’r amser, gwaith caled a chadw trwyn ar y maen ydi o!

Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.

Wel, ddaru’r olaf nesh i  (un am wrthwynebydd cydwybodol) i bobl ifanc ddim gweithio, felly rydw i wedi rhoi honno o’r neilltu. ‘Paent’ oedd yr un ddwytha i’w chyhoeddi ac roedd honno yn dod o brofiad personol. Dewisais ymgyrch arwyddion Cymdeithas yr Iaith fel testun, ond gan fod cychwyn honno run pryd â’r Arwisgo (1969), fe’i gosodais yn y cyfnod hwnnw. Ro’n i’n blentyn fy hun yn y cyfnod hwnnw, felly doedd dim cymaint o waith ymchwilio. Ond roedd cymaint o faterion yn codi – brenhiniaeth, gweithredu di-drais, pwysau ffrindiau, ond yn fwy na dim, pwysau ysgol uwchradd i gyd-ymffurfio.Layout 1

 Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?

Nofel i bobl ifanc am hawliau merched.

  • Neges gan Bethan- Edrych mlaen, Angharad!

angharadtomos