puffer fish

All posts tagged puffer fish

Lluniau lliw ‘Cadi dan y Dŵr’ wedi cyrraedd!

Published Ebrill 10, 2017 by gwanas

Mae’r arlunydd gwych o Bontarddulais, Janet Samuel newydd yrru’r lluniau lliw terfynol ar gyfer Cadi dan y Dŵr! ( dilyniant i Coeden Cadi) Sbiwch – dyma flas ohonyn nhw:

cadi danydwr p14-15cadi danydwr p12cadi danydwr p20cadi danydwr p16-17

cadi danydwr p22-23 .jpg

Dwi wedi gwirioni’n rhacs! Lliwiau bendigedig, a manylder hyfryd. Arhowch nes gwelwch chi’r ceffylau môr a’r pysgod pwff … ond bydd raid i chi aros am y llyfr cyfan i weld rheiny. Dim dyddiad cyhoeddi eto – ond cyn Steddfod yr Urdd yn bendant, ac mi wnai ddangos y clawr terfynol fan hyn pan ddaw o – addo.

Gyda llaw, yn y geiriadur, ‘chwyddbysgodyn’ ydi’r term Cymraeg am ‘puffer fish’ ond mi wnaeth plant Ysgol Bro Cinmeirch a finna benderfynu bod hwnnw’n air llawer rhy stiff a hirfaith. Mi wnaeth yr hogyn bach efo’r sbectol yng nghanol y llun yma o blant yn dynwared y pysgod hynny gynnig ‘pysgodyn pwff’ ac rydan ni wedi mynd am hwnnw yn y llyfr:

pysgod pwff

Dwi’n edrych ymlaen i weld y llyfr gorffenedig, bobol bach!

 

Advertisements

Llyfr Cadi arall ar y ffordd

Published Hydref 11, 2016 by gwanas

cadi-dan-y-dwr-art

Mae ‘na lyfr arall am helyntion Cadi ar y ffordd! Coeden Cadi oedd yn cyntaf, sydd wedi gwerthu’n hynod, hynod o dda!

unknown

Diolch yn bennaf i luniau hyfryd Janet Samuel:

IMG_0044

A’r help ges i gan y Cadi go iawn i sgwennu’r stori wrth gwrs.

dsc_0340

Mi ges i dipyn o help ganddi efo’r stori hon hefyd ( a gan ei nain, Llinos- y Mabon go iawn sydd efo hi yn y llun – a gan Haf Llewelyn

– rhyw ddarn bach oedd yn eu poeni felly mi wnes i ei newid, rhag ofn i blant bach Cymru wneud pethau gwirion ar lan y môr!)

Mae stori Cadi dan y Dŵr wedi ei chwblhau a’i gyrru at Janet, felly mae hi wrthi’n brysur yn gwneud y lluniau i gyd rŵan a’r gobaith ydi y bydd yn y siopau erbyn Steddfod yr Urdd flwyddyn nesa!

Dyma i chi sut mae’r stori’n dechrau:

Roedd hi’n ddiwrnod braf, poeth ac roedd teulu Cadi’n mynd i lan y môr. Roedd Mam wedi pacio pob dim oedd ei angen ar gyfer diwrnod ar lan y môr: dillad nofio, tyweli mawr cynnes, eli haul, hetiau haul, sbectol haul, bwced, rhaw, heb anghofio’r picnic wrth gwrs!

Wps, a Mabon, brawd bach Cadi, a’i lori fach las.

Roedd Cadi wedi cynhyrfu’n rhacs, wedi newid i’w gwisg nofio yn barod ac yn canu dros y lle yn y car:

“Mae hi’n haf ac mae hi’n braf!

A ’dan ni gyd yn mynd i lan y môr, i lan y môr, i lan y môr!

A dw i’n mynd i nofio yn y môr, yn y môr, yn y môr!

Yn y môôôr!”

Ond bydd raid i chi aros i gael darllen mwy… ond mi fydd ‘na greaduriaid fel hwn ynddo fo, puffer fish – neu chwyddbysgodyn!

unknown-1