Prawf Mot

All posts tagged Prawf Mot

Lledrith yn y Llyfrgell

Published Mawrth 17, 2022 by gwanas

Wel dyma i chi be ydi bargen! Dim ond £1, neu am ddim gan eich llyfrwerthwr lleol a’r Lolfa Cyf ar Ddiwrnod y Llyfr – gawsoch chi un, do? Wel, ges i un drwy’r post, ond dim ond rŵan dwi’n cael cyfle i sbio arno fo (DWI’N BRYSUR!) a wir i chi, mi wnes i hedfan drwyddo fo.

Dyma’r dudalen gyntaf:

W! Mae’r llun yn dangos sgrifen y dudalen gefn fel’na tydi? Dydi o ddim mor ddrwg â hynna go iawn, wir yr! A be dach chi’n ddisgwyl am £1? A phun bynnag, mae’r stori’n llawer gwell na’r papur mae hi wedi ei hargraffu arni.

Anni Llŷn ydi’r awdur,

Wps, sori, na, nid Anni Llyn ydi hwn
Hon ydi Anni. Ffiw.

ac mae ei llais a’i harddull hi’n neidio oddi ar y dudalen, yn llawn dywediadau Cymreig a bywiog fel ‘llaesu dwylo’, ‘Naci’n tad’ a ‘Ara deg mae dal iâr…’

Mae’r enwau’n glincars, o enw’r dre ledrithiol Llanswyn-ym-Mochrith (swyn a rhith… da ydi hi de) i enwau’r cymeriadau: Mrs Surbwch am yr Arolygydd Llyfrgelloedd sy’n casau plant – a bob dim dan haul os dach chi’n gofyn i mi, a Slewjan a Sloj am yr efeilliaid sy’n glanhau ffenestri efo’u mopiau o wallt hynod o hir.

Dwi, wrth gwrs, fel un sy’n caru llyfrau a llyfrgelloedd yn meddwl bod y stori’n hyfryd am fod Chwim, y prif gymeriad yn caru darllen – ‘mae’n darllen yn ei gwely, darllen wrth wisgo, darllen wrth frwsio’i dannedd, darllen wrth adael parseli…’

A wyddoch chi be? Dwi yr un fath yn union. Nacydw, dwi’m yn DARLLEN wrth frwsio nannedd, ond dwi’n gwrando ar lyfr ar fy ffôn! Wir yr. A brwsh dannedd trydan sy gen i felly mae’n swnllyd – ond dwi’n dal ddim isio pwyso’r botwm ‘pause’ os dwi’n mwynhau’r llyfr…

Dyma i chi dudalen wnes i ei mwynhau’n arw:

Llawn bywyd ac addewid tydi? Ond dwi ddim am ddeud mwy rhag i mi ddifetha’r syrpreis sydd i ddod rhwng y tudalennau. Ond os dach chi ddim eto wedi dallt pam fod rhai ohonon ni’n CARU llyfrau – mae’r llyfr hwn yn ei egluro i’r dim. Mae na botensial am gyfres o lyfrau yn y syniad yn fy marn i.

Ymddiheuriad

A rŵan – dwi am ymddiheuro am fod mor dawel ar y blog yma, ond rhwng fy llyfrau fy hun, y gwersi dwi’n eu dysgu a phobl sydd isio gwersylla yn ein maes carafanau ni, a thrio gweld y teulu (sy’n tyfu) a mynd i ysgolion neu wneud sesiynau arlein, mae hi wedi bod yn rhemp acw!

Dwi’n addo gwneud mwy o ymdrech.

Ond ddoe mi ges i sesiynau hyfryd efo plant CA 1 ysgolion Powys – dros y we. A dyma i chi rai o’r lluniau roddwyd wedyn ar Twitter:

Methu cynnwys y rhai sy’n cynnwys fidios am ryw reswm. Ond mae gen i CA2 Powys fory! Edrych ymlaen yn arw.

O, ac os oes ‘na oedolyn acw isio ennill pecyn o lyfrau Gwasg y Bwthyn a phecyn o ddanteithion i’r ci, cofiwch am y gystadleuaeth yma:

Cystadleuaeth Prawf MOT!

Tynnwch lun ohonoch chi a’ch ci, efo copi o Prawf MOT, nofel newydd wych Bethan Gwanas

Rhowch o ar eich cyfrif Trydar, neu Facebook neu Instagram, a’n tagio ni  ̶  Gwasg y Bwthyn!  

Neu anfonwch eich cais i:  marred@gwasgybwthyn.co.uk neu meinir@gwasgybwthyn.co.uk

Beirnaid: Richard Jones 

Dyddiad cau 31 Mawrth.

Gwobr: Pecyn o lyfrau Gwasg y Bwthyn a phecyn o ddanteithion i’r ci!

Ac os dach chi isio gweld Gai Toms a fi yn mwydro am gŵn:

📲

https://amam.cymru/carudarllen/prawf-mot-gan-bethan-gwanas

Ac os am wrando ar fersiwn stiwdio o gân hyfryd Gai:

Mae hynna’n ddigon am y tro – mae gen i lyfr i’w sgwennu!

Y Disgo Dolig Dwl

Published Rhagfyr 11, 2021 by gwanas

Dyma’r llyfr Nadolig mwya gwirion a boncyrs i mi ei weld eto. Ond do’n i’n disgwyl dim llai gan yr awdur Gruffudd Owen a’r arlunydd Huw Aaron.

Mae’r ddau wedi sgwennu a chyhoeddi llwyth o bethau gwallgo, gwirion a gwych yn y gorffennol. Rhowch y ddau efo’i gilydd a dyma’r canlyniad!

Dwi wedi ei fwynhau’n arw a dwi jest â drysu isio’i ddarllen yn uchel i blant y teulu. Mi fyddan nhw wrth eu bodd. A deud y gwir, dwi wedi cytuno i neud sgwrs efo dysgwyr (ia, oedolion) nos Fercher, a dwi isio darllen hwn iddyn nhw. Pam lai?

Mae’r cyfan mewn penillion sy’n odli:

Ac yn llawn idiomau a Chymraeg naturiol y gogledd:

Ia, fel ‘chwysu chwartia’, a ‘paned’ yn hytrach na ‘dishgled’ – a nes mlaen ‘Mrs Corn, gr’aduras’ ond mae pawb yn gwybod be ydi paned, tydyn? Os dach chi’n riant/Tadcu/Mamgu/athro o’r de, jest rhowch acen gog ymlaen, fel rhywun o Rownd a Rownd neu rywbeth, ac mae croeso i chi neud hwyl am ein pennau ni! Ond mae Gruffudd yn byw yn y de ac yn briod â Gwennan, merch o Ddyffryn Cothi’n wreiddiol, felly mae o’n gallu defnyddio pethau eitha deheuol hefyd, fel ‘chwysu’n stecs.’

Dwi ddim am ddeud be sy’n digwydd yn y stori, ond mae Sion Corn a’i griw yn cael disgo (cliw yn y teitl) yng Ngwlad yr Iâ:

A dyna un o fy hoff dudalennau, oherwydd y lliw a’r llun, ond yr holl syniad a’r arddull sgwennu hefyd. Mae’n gwneud i mi wenu, a dwi’n gallu clywed y plant (a Taid) yn chwerthin. Ond mae ‘na lawer mwy na hyn yn digwydd yn y disgo dwl ‘ma, felly ewch i chwilio am neu i ofyn am gopi ar gyfer eich hosan Dolig. Gwasg Carreg Gwalch £6.95. Clincar o lyfr i’w ddarllen cyn neu ar ôl eich cinio Dolig – ac unrhyw adeg liciwch chi. Ganol Awst os liciwch chi, os fydd hi’n rhy boeth.

O, a sori mod i ddim wedi rhoi llawer o sylw i ddim na neb ar hwn ers tro – dwi wedi bod yn brysur! Dyma lun sy’n egluro peth o’r prysurdeb:

A bydd nofel ar gyfer oedolion allan fis Chwefror, a dan ni wedi bod yn trio penderfynu pa fath o glawr fyddai’n apelio fwya. Iechyd, mae o wedi bod yn ddifyr gweld be sy’n apelio at bwy!

Bydd raid i chi aros i weld am ba un aethon ni.