Pobol Drws Nesaf

All posts tagged Pobol Drws Nesaf

‘Tir na n-Og’ 2020

Published Gorffennaf 12, 2020 by gwanas

TNNO_llyfrau buddugol

Llongyfarchiadau MAWR i holl enillwyr Gwobr ‘Tir na n-Og’ 2020.

Mae Manon Steffan Ros wedi ennill gwobr ‘Tir na n-Og’ am y pumed tro! Hi, ar y cyd â’r darlunydd, Jac Jones, enillodd y brif wobr yn y categori cynradd gyda Pobol Drws Nesaf. Ro’n i eisoes wedi rhoi sylw a chanmoliaeth uchel i’r llyfr ar y blog yma (Rhowch deitl y llyfr yn y bocs chwilio ar y dde os am weld be ddywedais i). Dwi’n cofio mod i isio ychwanegu ei fod o’n haeddu gwobrau, ond wnes i’m meiddio – rhag ofn. Ddim isio’i jincsio nhw, na!

Byw yn fy Nghroen, llyfr wedi ei olygu gan Sioned Erin Hughes enillodd y categori uwchradd, ond rhaid cyfadde nad ydw i wedi gweld hwnnw eto. Mi fydd raid i mi rŵan, yn bydd! Dyna bŵer gwobrau ynde, maen nhw’n codi chwilfrydedd yn un peth.

Casgliad o brofiadau pobl ifanc sydd wedi gorfod brwydro gyda salwch a chyflyrau iechyd hirdymor ydi Byw yn fy Nghroen. Mae’r cyfranwyr i gyd yn bobl ifanc rhwng 10 a 26 oed, ac mae’r llyfr yn mynd i’r afael â chanser, epilepsi, clefyd Crohn’s, spina bifida, nam ar y golwg, OCD, iselder a gorbryder.

Dau lyfr pwysig iawn ar gyfer yr oes ryfedd hon.

Da iawn chi, yr enillwyr a’r cyfranwyr, a da iawn i bawb oedd ar y rhestr fer hefyd – roeddech chi gyd wir yn haeddu’r clod.

TNNO_Awduron-manonsteffanros-jacjones-sionederinhughes

Gwych hefyd oedd bod y bardd Gruffudd Owen wedi sgwennu englynion i gyfarch yr enillwyr – efo gwaith celf Ruth Jên. Dyma’r un i Manon a Jac:

Eclnu_mXsAYLePt

A dyma’r un i Sioned Erin a’r cyfranwyr:

EclqudnX0AAHKHb

Gwych, fel arfer, Mr Bardd Plant Cymru!

Bobl Bach, Breuddwydion Mawr

A dyma i chi lyfrau Saesneg dwi wedi gwirioni efo nhw, yn enwedig y rhai sy’n tynnu sylw at ferched rhyfeddol na wyddwn i fawr ddim amdanyn nhw.

IMG_1701

Oedden nhw’n llai enwog oherwydd eu bod yn ddu? Dyna’r gwir amdani, yn anffodus.

Rhan o gyfres wych ‘Little People, Big Dreams’ ydi’r rhain, a braf fyddai cael cyfres debyg yn Gymraeg ynde?

Dyma i chi flas o’r cynnwys – addas ar gyfer oedran 4+ (ac oedolion!) ddeudwn i:

IMG_1702IMG_1703

Dawnswraig ac ysbiwraig oedd Josephine Baker, ac athletwraig wych oedd Wilma Rudolph, oedd ar faglau oherwydd polio nes roedd hi’n 9 oed! Ro’n i isio ei gweld hi’n rhedeg yn syth ar ôl darllen y llyfr, a dyma linc i chitha gael ei gweld hi.

Digon hawdd gwglo i weld Josephine yn dawnsio hefyd.

Pobl – a straeon anhygoel. Ac mae ‘na lwythi ohonyn nhw yn y gyfres!

Llyfrau i daclo hiliaeth

Published Mehefin 4, 2020 by gwanas

Yn bendant, mae angen mwy o lyfrau ar gyfer plant ac oedolion sy’n delio efo hiliaeth. Maen nhw’n brin yn Gymraeg, ond dyma restru ambell un sy’n delio efo bod yn wahanol mewn rhyw ffordd:

Ar gyfer plant iau, Pobol Drws Nesaf gan Manon Steffan Ros:

EHeOqcAWsAAbUAI
20191128_085602

Stori hyfryd, syml, sy’n ein hannog i beidio â beirniadu rhywun sy’n edrych ac yn ymddwyn yn wahanol i ni, a bod rhaid parchu pawb. Ar restr Tir naNog eleni – ac yn haeddu bod arni…

Addasiad ydi hwn, gan y bardd, Mari George, a dwi ddim wedi gweld copi fy hun, ond dyma ddisgrifiad Gwales:

Y llyfr perffaith i’w ddarllen yn uchel, gyda darluniau llawen, mae’r stori hon yn dathlu amrywiaeth a chynhwysedd, tra’n tanlinellu pa mor bwysig yw undod yn ein byd.

9781849670982

Addasiad arall, wedi ei gyfeithu gan fardd arall, Mererid Hopwood,

getimg

a dwi ddim wedi gweld hwn chwaith, ond dyma ddisgrifiad Gwales:

Dewch i hedfan i bedwar ban byd gyda Mam-gu, a helpwch hi i gyfrif o un i ddeg ar ei thaith siopa fythgofiadwy. Stori ddifyr mewn mydr ac odl, gyda llun hudolus ar bob tudalen. Cyfieithiad o My Granny went to Market – A Round-the-World Counting Rhyme.

A dyma mae Sian Melangell yn ei ddeud amdano:

Dwi ar fin cael hwn i Ewen, yn un peth… am sawl rheswm (Mererid yn ffab, hoffi’r ffaith ei fod yn cyflwyno’r byd mewn stori, ac hefyd wrth gwrs, yr amrywiaeth bobl). Un peth dwi’n ymwybodol ohono ydi fod llyfr hefo bobl mewn gwledydd tramor hefo lliw croen gwahanol i’r Cymro bach yma yn un peth, ond mae llyfrau hefo bobl lliw gwahanol eu croen yn siarad Cymraeg ac yn gwneud pethau fel fo yn arbennig o bwysig hefyd.

Os am lyfr i blant 4-6 oed yn Saesneg, ac wedi ei sgwennu gan awdur du, ac am deithio drwy’r gofod, be am hwn gan Ken Wilson-Max?

astro-girl

Mae Astrid wrth ei bodd efo’r gofod ac isio bod yn astronot! Mae’n cael andros o hwyl efo’i thad yn darganfod be sydd ei angen i gyflawni ei breuddwyd, o wneud arbrofion i fwyta bwyd sych, i ddod i arfer efo “near-zero gravity”. Dim clem be ydi hwnnw yn Gymraeg, sori!

Mae o hefyd yn cynnwys ffeithiau am ferched go iawn sydd wedi bod yn y gofod. Felly llyfr sy’n ticio sawl bocs!

Mae angen cefnogi a darllen a phrynu llyfrau gan awduron sy’n gwybod am be maen nhw’n sôn, ac mae ‘na fwy o syniadau fan hyn:

https://www.booktrust.org.uk/booklists/r/represents-picture-books/

Saesneg eto, a dwi wedi sôn am rhain eisoes, ac maen nhw wir yn werth eu darllen:

22902132412_3

Dwi wedi cyfeirio at lyfrau eraill Jason Reynolds o’r Unol Daleithiau hefyd, awdur croenddu wirioneddol gyffrous. Teipwich ei enw yn y bocs chwilio.

513yussx5tl._sx309_bo1204203200_

Dwi newydd sylweddoli na wnes i ddeud ar y pryd mai awdur croenddu ydi Jason Reynolds. Ro’n i jest yn meddwl amdano fo fel awdur, nid awdur du. Sy’n beth da, gobeithio. Ond er mwyn y blog yma, dwi’n tynnu sylw at y ffaith, iawn!

Awdures dwi wedi ei chanmol droeon ar y blog yma ydi Catherine Johnson, ac mae ei llyfrau hi i gyd yn werth eu darllen, ac yn sôn am gymeriadau du eu croen:

Os am wybod mwy amdani a’i chysylltiadau Cymreig, teipiwch ei henw yn y bocs chwilio ar y dde.

Cymraeg – arddegau

Yn ôl i’r Gymraeg, ar gyfer yr arddegau, mi sgwennodd Gwyneth Glyn ‘Aminah a Minna’ nôl yn 2005, fel rhan o gyfres Pen Dafad:

getimg

Mae’n stori hyfryd, ffraeth sy’n sôn am dreialon bachgen sy’n dechrau mynd allan gyda merch o dras Asiaidd – er gwaetha’r problemau mae hynny’n ei greu efo pobl eraill.

Ar gyfer yr arddegau eto (tua 11+), mi wnes i drio delio gyda’r anhegwch o gael eich trin yn wahanol oherwydd eich bod yn edrych yn wahanol yn 2il a 3ydd llyfrau Cyfres y Melanai, Y Diffeithwch Du ac Edenia.

20180926_175004
4133j-opo9L

Wedyn, be am Tom gan Cynan Llwyd? Dydi o ddim yn gwneud sioe fawr o’r ffaith fod cymeriad Ananya o dras Bangladeshi, mae hi jest yno, yn ran naturiol o’r stori.

tom-cynan-llwyd-500x743

Mae angen mwy o luniau o bobl amrywiol yn gwneud pethau normal mewn cyhoeddiadau ac ar y we yn Gymraeg yn gyffredinol, felly dyma un fan hyn:

CH6xCTMb1Cv9Qsok-ilzysaGszLgE9gc7imp1IMDqFIwLeKMjYIKkB033oqwHZ9H6EFuX-5Y_aqvR9f-BowBRG7hQ94q5VWuZUSrYQnpooPEMqYemth2q8ED6urf6FHE5WpYqwTtobJnB5TLNf2fUEa2jnj5Vv-Al0c

Gyda llaw, mi wnes i gyhoeddi llyfr am fy mhrofiadau yn Nigeria yn yr 80au, lle ro’n i’n dysgu plant uwchradd (a chynradd o ran hynny), a dwi’n gobeithio’n arw nad o’n i’n hiliol ynddo fo, neu’n tanlinellu pethau fyddai’n gwylltio pobl groenddu, ond cofnod go iawn am fyw mewn pentre bach diarffordd ydi o, ac un o gyfnodau gorau, hapusaf fy mywyd. Doedd profiadau a bywydau plant Gbara ddim byd tebyg i blant duon Prydain, Ffrainc neu’r Unol Daleiethiau, ond dwi’n gobeithio bod y cariad deimlais i at fy nisgyblion a RHAI o fy nghyd-weithwyr yn dod drwadd ynddo fo.

51fqoiiatyl-_sy344_bo1204203200_

LLYFRAU OEDOLION:

Fel mae’n digwydd, dwi wedi bod yn darllen llyfrau gwych gan awduron croenddu yn ddiweddar. Dwi ar ganol Becoming, hunangofiant Michelle Obama, ac yn mwynhau’n arw.

81dDwAzxtrL

Dwi ddim yn disgwyl y bydd hunangofiant Mrs Trump cweit cystal.

A llyfr wnes i syrthio mewn cariad yn llwyr efo fo ydi hwn, Girl, Woman, Other gan Bernardine Evaristo:

51ahH0NU6BL._SX324_BO1,204,203,200_

Enillydd y wobr Booker 2019. Fel arfer, dydi ennill y wobr honno ddim yn golygu y bydda i’n mwynhau, a chan nad oes unrhyw atalnod llawn yn y nofel hon, mae rhywun yn teimlo ar y dechrau: “O dyma ni, stwff arti-ffarti…” ond na, gyfeillion! Er ei fod wedi bod yn chydig o waith dal ati ar y dechrau, nefi, mi ges fy hudo! Mae’n delio gyda nifer o gymeriadau gwahanol, a phob un yn agoriad llygad i ddarllenydd croenwyn fel fi. Dwi wedi perswadio ein grŵp darllen i ddewis hon fel ein nofel Saesneg y tro yma a dwi wir yn edrych ymlaen at weld be fydd eu barn nhw. A diaw, dwi am gynnig Becoming ar gyfer y cyfarfod ar ôl hwnnw, hefyd.

Mae hi wir yn drueni bod George Floyd wedi gorfod marw er mwyn i’r byd sylweddoli o ddifri be mae pobl sydd ddim yn wyn eu croen yn gorfod delio ag o, ond er mwyn osgoi magu cenhedlaeth arall o bobl hiliol, mae’n rhaid i ni ehangu gorwelion a gwybodaeth PAWB. Cam bach ydi cyflwyno llyfrau efo cymeriadau amrywiol i blant, ond mae’n gam i’r cyfeiriad iawn.

Ac i gloi, dyma fidio ar youtube drawodd fi fel gordd:

Llyfr am barchu pobl wahanol i ni

Published Tachwedd 28, 2019 by gwanas

EHeOqcAWsAAbUAI

Perl arall gan Manon a Jac. Llyfr gyda’r mymryn lleia o eiriau, sy’n gadael i blentyn ‘ddarllen’ y lluniau. Felly mi allwch chi orffen hwn yn hawdd mewn un eisteddiad, a dwi’n siŵr y bydd y plant (a’r oedolion) yn sylwi ar rywbeth newydd yn y lluniau gyda phob darlleniad.

Ond cofiwch, “easy reading is damned hard writing” felly mi fedra i eich sicrhau chi bod Manon wedi pwyso a mesur bob gair, bob cymal, ac wedi torri a chwynnu er mwyn cael y cyfniad perffaith o eiriau a lluniau.

20191128_085402

Mae’n stori bwysig hefyd, yn enwedig yn yr oes sydd ohoni. Mae’n ein dysgu i beidio â beirniadu rhywun sy’n edrych ac yn ymddwyn yn wahanol i ni, a bod rhaid parchu pawb.

20191128_085436

Mae gan y cymdogion eu iaith eu hunain, ond maen nhw’n gallu siarad Cymraeg hefyd, a dwi wrth fy modd efo’r dudalen hon. Mi fydd plant wedi dotio.

20191128_085623

Fel mae’n digwydd, mae’r plentyn gwahanol (piws) yn hoffi chwarae pêl-droed hefyd…gêm sydd wedi dod â phobl wahanol at ei gilydd ers blynyddoedd; ond nid pawb sy’n ddigon lwcus i gael byw drws nesa i’r teulu newydd a dod i’w nabod, ac mae rhai o’r plant yn yr ysgol yn gas efo’r plentyn newydd piws, ond mae’n plentyn gwyrdd ni yn edrych ar ei ôl…

20191128_085602

Llyfr wirioneddol hyfryd. Bargen gan Y Lolfa am £3.99, ac yn eisin ar y gacen i mi, mae Manon wedi cyflwyno’r llyfr i’w chymdogion: “I Tomos Wyn a Huw Evans – y bobol drws nesaf ond un” sy’n digwydd perthyn i mi! Mi fydd y ddau wedi gwirioni.