Mae’r stori hwn am fachgen o’r enw Dewi, sydd yn mynd ar daith ysgol i fwyngloddiau aur Clogau, ger Dolgellau. Ond yn rhyfedd iawn, pan agorodd Ron Auron, y gofalwr, ddrws y mwynglawdd, doedd dim byd yn sgleinio yno. Roedd rhywun wedi dwyn yr aur!
Tybed a all Dewi ddatrys y dirgelwch? A fydd angen cymorth ei ffrindiau arbennig arno? Bydd angen i chi ddarllen y stori gyffrous hon er mwyn darganfod yr atebion. Rwyf yn wyth oed, ac fe ddarllenais y llyfr yn gymharol hwylus ar fy mhen fy hun. Roedd y clawr yn atyniadol, a’r lluniau lliwgar ar bob tudalen yn ei wneud yn fwy diddorol. Fe fwynheais y stori’n fawr iawn a byddwn wrth fy modd yn cael darllen mwy o lyfrau Dewi a Dwpsi, cyn fy mod yn rhy hen!
Gwern Prysor Davies
Ond mae Dewi wedi sgwennu bob math o lyfrau eraill – rhai digri, gwirion, boncyrs yn aml…!
A llyfr o gerddi doniol i blant:
A dyma i chi ddarn o un adolygiad gafodd Wps!:
Nid cerddi parchus y byddai rhiant am glywed ei blentyn yn eu hadrodd sydd yma, ond eto mae yma fyd anturus, dyrys a lliwgar. Mae’r cerddi yn mynd â phlentyn i fyd chwareus a direidus, byd lle mae Superman yn methu mynd i’r lle chwech a byd lle mae Tylwyth Teg y To yn gyfrifol am bopeth drwg y mae rhieni’n tueddu i ddwrdio’u plant amdano.
Sarah Down
Ac os dach chi dros tua… ym… 14? ( Dibynnu pa mor aeddfed/anaeddfed ydach chi) Dyma ei hunangofiant o, Theleri Thwp:
Y llyfr cynta erioed i mi ei olygu a deud y gwir. Lyn Ebeneser, ffrind Dewi ( mae gynno fo lot o ffrindiau) oedd yn gwneud y sgwennu, a Dewi jest yn ateb ei gwestiynau o – ond y broblem efo Dewi ydi nad oes gynno fo gof gwych iawn a doedd o ddim yn gallu cofio llawer! Bosib mai dyna pam fod ei atebion o i fy nghwestiynau am lyfrau ei blentyndod fymryn yn fyr…! Neu mae’r ddau jest mor hurt o brysur yn eu cartref newydd yn Nefyn – neu Forfa Nefyn, dwi byth yn siwr pa un. Dwi ddim wedi bod yno eto. Mi fydd raid i mi fynd rwan, yn bydd?!
Iawn, barod am atebion Dewi a Rhiannon? Mae’r ddau wedi ateb fel un. Dyma chi:
Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn? Ysgol Gynradd – Cymraeg a Saesneg
Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?
Ail edrych ar Lyfr Mawr y Plant a storïau T. LLew
Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?
Eric Heyman – Ffrind personol ac artist talentog o Gaerdydd. Lluniau yn llawn hwyl a lliw. Fo ddaru arlunio Dewi a Dwpsi x 2 a hefyd Wps!
- Nodyn gan Bethan: Roedd o’n ddyn tân am flynyddoedd cyn mentro i fyd dylunio llyfrau plant. A dyma fwy o’i luniau o, yn cynnwys llyfrau Catherine Aran – fi olygodd rheina hefyd, ac ro’n i wedi GWIRIONI efo lluniau Eric!
Be nath i ti ddechrau sgwennu?
Sgwrsio yn y camper van wrth drafeilio ar y cyfandir ar ein gwyliau.
Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?
Codi gwên – a bod yn annisgwyl a gwahanol.
Dwed chydig am dy nofel ddiweddara i blant.
Dau gyfieithiad o storïau plant – Rwdolff a Môr Leidr mewn Pyjamas.
Gwell gen i fod yn wreiddiol ond mae plant i weld wrth ei bodd gyda’r ddau lyfr – yn enwedig Rudolff yn torri gwynt!
Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?
Cyfieithiad arall o lyfr i blant am fywyd ar y fferm
Diolch yn fawr Dewi a Rhiannon! xx