Palas Print

All posts tagged Palas Print

Parti Maes y Mes

Published Mai 22, 2018 by gwanas

Sbiwch syniad da!

33037685_1993892883976366_70318995571474432_n

Hyd yn oed os nad ydech chi wedi darllen un o 4 llyfr Maes y Mes eto, mi fyddwch yn siŵr o gael hwyl yn y parti yng Nghaernarfon ddydd Sadwrn Mai 26 – dydd Sadwrn yma.

Cyfle i glywed Nia, yr awdures, yn darllen y ddau lyfr newydd – a gwneud pethau difyr fel gwneud tylwyth teg allan o begiau, ac adeiladu nythod! Ac ar ben hynny, mi gewch chi fag parti fydd yn cynnwys llyfr. Bargen am £5.

Mae’r llyfrau wedi eu hanelu at blant 7-9 oed, ond dwi’n meddwl y bydd plant 6 oed yn eu mwynhau hefyd os ydyn nhw’n mwynhau darllen, a phlant 5 oed os ydyn nhw’n mwynhau gwrando ar straeon.

Ewch i siop lyfrau Palas Print ddydd Sadwrn.

A dwi newydd dderbyn 2 lun o’r sesiwn wnes i yng Nghastell Caerdydd yn ddiweddar fel rhan o ŵyl Llên Plant. Dyma fi’n darllen i’r criw:

dav

A dyma rai o’r lluniau wnaethon nhw o ddeinosoriaid a môr-forynion. Ond pam na fyddai rhywun wedi deud wrtha i mod i’n dal y poster ar ben i lawr?!

sdr

Advertisements

Amser Stori a Diwrnod Siopau Llyfrau

Published Hydref 7, 2017 by gwanas

22007444_1464356617013994_1187637140055394275_n

Mae unrhyw un call yn gwybod bod amser stori yn gwneud byd o les i blant. Roedd Michael Morpurgo yn brifathro am flynyddoedd, ac yn gwneud hyn yn rheolaidd. Ond mae trefnwyr y cwricwlwm yn Lloegr yn anghytuno am ryw reswm. Dwi’m yn hollol siŵr be ydi’r rheolau ynglyn â amser stori penodol yng Nghymru ond dwi’n gwybod bod ein cwricwlwm ni’n pwysleisio’r angen i ddarllen er mwynhad.

A gredwch chi hyn? Mae un athrawes o Loegr yn deud (ar Twitter) ei bod wedi cael ei lambastio gan OFSTED am gynnal ‘amser stori’. Roedd ei gwersi eraill i gyd yn “outstanding” neu “good with outstanding features”. Bu’n rhaid iddi gael ei goruchwylio’n wythnosol am weddill yr hanner tymor. Does isio gras!

8024df764535c768344d37c056628009--teacher-evaluation-smiley-faces

Mi fydda i’n darllen storis i blant yn Llanwddyn pnawn ma tua 2.15 – os llwydda i i ddod o hyd i’r lle. Dwi rioed wedi bod yn Llanwddyn, cofiwch. Cadi dan y Dŵr yn un y bydda i’n darllen pytiau ohoni. Addas iawn i bentre gafodd ei foddi!

cadi danydwr p37

 

Gyda llaw, mae heddiw yn ddiwrnod dathlu siopau llyfrau. Am hynny mae Palas Print Caernarfon yn  cynnig bargen o 4 llyfr am bris 3 heddiw. Hefyd, bag Môr a Mynydd o Lyfrau am ddim wrth wario £10 neu bag ‘limited edition’ Orla Kiely am wario £25. Mae’n siŵr bod eich siopau llyfrau lleol chi yn gwneud pethau tebyg. Ewch yn llu i fwynhau eich siopau llyfrau!

Clwb Darllen Tudur Owen

Published Tachwedd 20, 2014 by gwanas

1477364_10153301096898356_9114480777081369707_n

Cofiwch wrando ar Tachwedd 28, pan fyddwn ni’n trafod pob math o lyfrau (a bywyd yn gyffredinol am wn i.

Y stori dditectif yma rydan ni i fod i’w thrafod:
getimg.php

Ond dwi’n amau a fydd y criw wedi cael amser erbyn y 28ain… gawn ni weld!
Ond os ydach chi awydd ei ddarllen hefyd er mwyn gallu cytuno neu anghytuno efo’n sylwadau ni ( pan gaiff o ei drafod!), dyma ddisgrifiad oddi ar gwales.com:

Ar ôl treulio dwy flynedd ar secondiad ym Mhencadlys yr heddlu, mae’r Ditectif Jeff Evans yn ôl yn nhref Glan Morfa − a does dim llonydd i’w gael.

O fewn dyddiau i’w gilydd, mae un o gychod pysgota’r ardal yn ffrwydro yn y bae a darganfyddir corff merch ifanc ar un o lonydd gwledig yr ardal. Dwy ddamwain anffodus, tybed? Nid yn ôl greddf Jeff. Pwy sy’n berchen ar y car mawr du a welwyd o amgylch y dref? Ac a oes cysylltiad â pherchnogion anhysbys Plas y Fedwen?

Gyda chymorth yr heddferch Meira Lewis, arweinir y ditectif penderfynol ar antur gyffrous a dirgel at y gwir.

‘Dyma beth yw chwip o stori. O’r agoriad i’r clo mae’r stori’n cydio … ac yn gwrthod gollwng gafael.’
Lyn Ebenezer.