O’s sgrwb arnot ti?

All posts tagged O’s sgrwb arnot ti?

Nofel newydd sbon ar gyfer yr arddegau

Published Mehefin 6, 2020 by gwanas

image001

Mae Heiddwen Tomos yn hen law (gweld be wnes i yn fanna?) ar sgwennu nofelau bellach, ond rhai ar gyfer oedolion oedd rheiny, ac o’r diwedd, mae hi wedi cyhoeddi un ar gyfer yr arddegau – ieee!

Ro’n i’n gwybod y byddai’n un dda oherwydd:
1. Mae hi’n gallu sgwennu.
2. Mae’n athrawes uwchradd ers blynyddoedd, ac yn gwybod yn iawn be sy’n apelio at bobl ifanc 11-14, a sut maen nhw’n siarad ac ati.

Ac ro’n i’n iawn. Dwi wedi mwynhau Heb Law Mam yn arw.

Mae’n llawn hiwmor, emosiynau/angst a chynnwrf y cariad cyntaf, problemau teuluol a’r cyfeillgarwch ffug sy’n anffodus yn gymaint o ran o fywyd disgyblion ysgol – wel, merched o leia. Ac mi wnes i wir fwynhau casau Gwen (yr ast) a’i mam (arch-ast).

Dywedodd Heiddwen mai ei phrofiad mewn ysgol oedd yr “ysbrydoliaeth fwyaf ar gyfer ysgrifennu’r nofel hon. Neges y stori yw bod cyfnodau ym mywydau pawb yn gallu bod yn anodd, ond daw eto haul ar fryn.”

Neges bwysig, achos mae cyfnodau anodd yn eich arddegau yn gallu teimlo fel diwedd y byd.

Efa ydi’n harwres ni (enw da am arwres, os gai ddeud…) ac mae’n cael amser caled gan Gwen (yr ast) a rhai o’i ‘ffrindiau’ eraill. Mae hi hefyd yn dechrau ffansïo bachgen am y tro cyntaf. Ar ben hyn oll, mae mam Efa yn yr ysbyty yn disgwyl babi – ac am driniaeth gancr.

Dyma’r dudalen gyntaf i chi gael blas:

IMG_1434

Ydi, mae hi’n ddeheuol iawn ac yn llawn ymadroddion gwych ardal Llanbedr Pont Steffan, ffor’na. Do’n i ddim yn deall pob un, a dwi wir yn meddwl y byddai rhestr yn y cefn yn egluro rhai ohonyn nhw o help mawr.

Dyma dudalen arall:

IMG_1435

Mi wnes i holi Heiddwen drwy Facebook be oedd ystyr “O’s sgrwb arnot ti?” a dyma’r ateb ges i:

Ie pan ti wedi ymarfer dy gorff nes bod y muscles yn tynnu bore rôl ny😉

Tydi o’n ymadrodd gwych? Mae gen i awydd ei fabwysiadu. Ond does gen i’m clem be mae “yn mynd i ga’l hwp” yn ei feddwl. Gorffen efo rhywun? Cael slap? Rhoi tacl dda i rywun? Penderfynwch chi!

Ro’n i’n hoffi’r darnau sgwrsio tecst/whatsapp hefyd:

IMG_1436

Dywedodd Heiddwen hefyd iddi “fwynhau ysgrifennu’r nofel hon mas draw.” Ac mae hynny’n amlwg – mae’n llifo. “Fel mam i dri o blant, penderfynais ysgrifennu nofel iddyn nhw i’w darllen.” Ac mae’n swnio fel petae hi am sgwennu mwy ar gyfer yr arddegau: “mae cael bod yn bryfyn ar wal yn yr ystafell ddosbarth yn gyfoeth o straeon difyr dros ben!” Gwyliwch eich hunain, ddisgyblion Mrs Tomos…

Ond edrych ymlaen yn arw at gael darllen mwy o lyfrau fel hyn – gwell fyth os gawn ni eirfa hefyd! Llongyfarchiadau, Heiddwen.

image002

Mae Heb Law Mam gan Heiddwen Tomos ar gael rŵan/nawr (£5.99, Y Lolfa).
Addas ar gyfer: 11 – 14 oed yn ôl y wasg, ond dwi’n llawer hŷn ac mi wnes i ei mwynhau hi hefyd.