O.M.

All posts tagged O.M.

2 lyfr newydd sbon i blant bach a Llyfr y Flwyddyn

Published Gorffennaf 9, 2021 by gwanas

Pan dynnais i’r llun, ro’n i wedi meddwl sôn am y 4 llyfr yr un pryd ond mae na dipyn o waith darllen ar y 2 yn y cefn, felly llyfrau’r plant iau – Ben Llestri a’r bwced ych-a-fi a Nos Da, Tanwen a Twm amdani y tro yma:

Mae Ben Llestri a’r bwced ych-a-fi gen i ers tro ond dwi wedi bod fymryn yn brysur yn ddiweddar rhwng bob dim (yn cynnwys symud tŷ) felly doedd gen i jest mo’r amser i sgwennu dim, er i mi ei ddarllen o’n syth – a mwynhau’n arw.

Mae Huw Davies yr awdur yn amlwg yn hen law ar sgwennu i blant (fo sgwennodd y nofel Saesneg ‘Scrambled’ i blant uwchradd), ac mae o’n bendant yn nabod plant – a phlant sydd fymryn bach yn ddrwg. Wel, yn ddrygionus ta.

Clywodd ei wraig yn dwrdio un o’u plant un diwrnod, a daeth cymeriad direidus Ben Llestri i fodolaeth yn fuan wedyn. Mae lluniau’r arlunydd Lowri Roberts yn grêt – a sbiwch be sy ar siwmper/crys chwys Ben… pa mor hir fydd hi’n cymryd i’r darllenydd ifanc ddeall pam fod ‘na blatiau a chyllyll a ffyrc ar ei siwmper o sgwn i?

Be am y stori? Wel… un diwrnod mae Ben (Llestri) yn teimlo’n ddiflas felly mae’n penderfynu chwarae tric.

*Dyna pryd mae triciau’n cael eu chwarae gan amlaf ynde? Pan does ‘na ddim byd arall i’w neud, neu pan dydy rhywun ddim yn gallu meddwl am unrhyw beth gwell i’w neud. Neu pan nad oes rhywun callach o gwmpas i ddeud wrthach chi: “Ym, be am beidio?”

Ta waeth, dyma be mae Ben yn ei neud:

A llawer mwy o bethau afiach tebyg! Wedyn, mae’n gosod y bwced ar ben y drws ac yn disgwyl…

Ac yn disgwyl…nes i fwy o bobl fynd drwy’r drws. Be sy’n mynd i ddigwydd? Bydd raid i chi brynu a darllen y llyfr i gael gwybod! (£4.99 Y Lolfa). Mi fydd yn apelio at blant bach tebyg i Ben, yn BENdant, ond bydd rhieni a modrybedd a neiniau a theidiau a phwy bynnag sy’n darllen efo’r plant yn cael hwyl efo’r llyfr yma hefyd.

Mae ‘na rywbeth yn deud wrtha i y cawn ni fwy o helyntion Ben Llestri. Edrych mlaen!

A dyma lyfr arall fydd yn plesio’r plant a’r oedolion fel ei gilydd: Nos Da, Tanwen a Twm.

Mae’n amser gwely ar Tanwen a Twm, a dan ni’n cael mynd drwy bob cam cyfarwydd (a’r seiniau) efo nhw:

A fy ffefryn i – achos dyma ro’n i’n mwynhau ei neud yn blentyn (a wastad yn gadael i’r plant ro’n i’n eu gwarchod wneud hefyd – ond peidiwch â deud wrth eu rhieni):

Ond rydan ni gyd yn gyfarwydd efo’r problemau sy’n codi jest cyn iddyn nhw setlo tydan? Teganau angenrheidiol wedi cael traed… rhywbeth brawychus o dan y gwely… y stafell yn rhy dywyll… UNRHYW BETH HEBLAW CYSGU!

Cwtsh a sws a diffodd y golau… ond ai dyna ddiwedd y diwrnod i Twm a Tanwen – a’u rhieni/nain/taid/gwarchodwyr? Go brin…

Mae unrhyw un sy’n blentyn bychan ac unrhyw un sydd wedi gorfod cael plentyn bach i fynd i’w wely yn mynd i fwynhau hon. Mae pob un yn canu cloch! A’r darllen storis cyn cysgu… ac un arall… ia ia, wedi bod ene!

Y pâr priod/rhieni Luned a Huw Aaron sydd wedi sgwennu hwn, a dwi’n eitha siŵr y bydd yn boblogaidd tu hwnt. £6.95 Gwasg Carreg Gwalch.

A sôn am Huw Aaron… mae o ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 2021! Llongyfarchiadau, Huw – a phawb arall sydd arni. Mae’n mynd i fod yn chwip o gystadleuaeth.

O’m rhan i, Mynd amdani ar gyfer y categori barddoniaeth, Tu ôl i’r Awyr ar gyfer y ffuglen, O.M. ar gyfer y ffeithiol a #Helynt ar gyfer y categori plant (sori, Huw!). A’r brif wobr? Hm… mae’n anodd penderfynu – ond un o’r pedwar yna… mi faswn i’n hapus tase unrhyw un o’r 4 yna’n mynd â hi. Faswn i ddim yn anhapus tase unrhyw un o’r lleill yn fuddugol chwaith, cofiwch.

Pob lwc i bawb!