O Ddawns i Ddawns

All posts tagged O Ddawns i Ddawns

Tlws Mary Vaughan Jones 2018

Published Hydref 20, 2018 by gwanas

Dyma i chi golofn sgwennais i ar gyfer Yr Herald Gymraeg wythnos dwytha:

Drinking pint in The Inklings pub, The Eagle & Child

Bob tair blynedd, bydd Cyngor Llyfrau Cymru yn cyflwyno tlws er cof am yr awdures Mary Vaughan Jones, ‘mam’ Sali Mali a Jaci Soch a chymaint o gymeriadau eraill helpodd genedlaethau o blant i ddysgu a mwynhau darllen.
250px-SaliMali
Hogan o ardal Llanrwst oedd hi, aeth yn athrawes ac yna’n ddarlithydd yn Y Coleg Normal, Bangor.
Bu farw yn 1983, ac yn 1985, dechreuwyd cyflwyno’r tlws i unigolion a wnaeth gyfraniad arbennig i faes llenyddiaeth plant yng Nghymru.

Dp207_dWwAAHphn
Dros y blynyddoedd, mae’r wobr wedi’i chyflwyno i’r mawrion, fel Ifor Owen, Emily Huws, T. Llew Jones, W. J. Jones, Roger Boore, J. Selwyn Lloyd, Elfyn Pritchard, Mair Wynn Hughes, Angharad Tomos, Jac Jones a Siân Lewis.
Ac eleni, y diweddar Gareth F Williams sydd wedi ei hennill a bydd yn cael ei chyflwyno i deulu Gareth mewn seremoni arbennig ym Mhortmeirion nos fory, sef nos Iau, 18 Hydref.
Dwi mor falch ei fod yn cael ei anrhydeddu fel hyn. Cyn iddo fo’n gadael ni mor greulon o fuan, llwyddodd Gareth i ysgrifennu ugeiniau o gyfrolau ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion, ac mae pob un wan jac ohonyn nhw yn werth eu darllen. Enillodd o Wobr Tir na n-Og chwe gwaith (dwi’m yn meddwl bod neb arall wedi dod yn agos), ac yn 2015, pinacl ei yrfa, enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn am ei nofel epig ar gyfer oedolion, Awst yn Anogia.
A rŵan, ac yntau ddim yma i roi’r wên annwyl ’na, mae o’n ennill gwobr arall. A deud y gwir, dwi bron yn siŵr mai hon ydi’r wobr fyddai wedi golygu fwya iddo fo; roedd o wrth ei fodd yn sgwennu ar gyfer plant a phobl ifainc, a dyma’r clod uchaf posib yn y maes. Diolch yn fawr i’r Cyngor Llyfrau am ei anrhydeddu fel hyn.
Bydd rhai o ddisgyblion Ysgol Eifionydd yn darllen a pherfformio eu hoff ddarnau o’u hoff lyfrau ganddo ar y noson, a dwi’n edrych ymlaen i’w clywed nhw na fu’r ratsiwn beth.

9780862432287

Pan fydda i’n meddwl am Gareth, mi fydda i’n meddwl am dŷ yn llawn llyfrau – ar silffoedd, ar lawr, ar ddesg a byrddau – bob man. Rhywbeth tebyg i fy nhŷ i a bod yn onest, a’r math o dŷ sy’n gwneud i mi wenu. Efallai bod tai taclus â dim llyfrau yn y golwg yn plesio cylchgronau sgleiniog fel Ideal Home a Hello ac ati, ond dydyn nhw’n gwneud dim lles i ddyfodol eich plant chi!

Reading Rupert - Christmas 15

Mae’n ffaith: mae astudiaeth ar y cyd rhwng prifysgolion yn Awstralia a Nevada wedi darganfod bod cael eich magu mewn tŷ llawn llyfrau, hyd yn oed os nad ydech chi’n eu darllen nhw, yn gwella eich canlyniadau addysg – a chyfoeth – ac IQ. Nid dim ond o ran eich sgiliau iaith ond o ran mathemateg a thechnoleg gwybodaeth hefyd.
Nid y darllen fel y cyfryw oedd yn gwneud y gwahaniaeth, mae’n debyg. ‘Mae’n anodd iawn rhoi eich bys arno,’ meddai Dr Sikora, prif awdur yr astudiaeth, ‘mae ’na fwy iddi na deud “jest darllena lwyth o lyfrau.” Mae’n ymwneud â bod o gwmpas llyfrau a phobl sy’n darllen. Mae’n bwysig i blant ifanc weld eu rhieni a phobl eraill yn amgylchynu eu hunain â llyfrau.’
house-full-of-books-21-portfolio
Pobl o wledydd fel Estonia, Norwy a Gwlad Tsiec oedd â’r nifer fwya o lyfrau yn eu tai pan oedden nhw’n 16. Cyfartaledd o 218 llyfr yn Estonia, dim ond 143 ym Mhrydain (dim clem faint o Gymru gafodd eu holi), 125 yn Nghanada a 114 yn yr Unol Daleithiau. Twrci oedd â’r nifer lleiaf o’r astudiaeth – 27 llyfr. Ond Norwy oedd â’r nifer fwya o bobl gyda thros 500 llyfr yn eu tai.
A dyma i chi ganlyniad diddorol: roedd gan oedolion gyda graddau prifysgol, ond oedd wedi eu magu gyda llai o lyfrau, yr un lefel llythrennedd â phobl oedd wedi gadael yr ysgol yn 15 oed, ond oedd wedi byw mewn tai llawn llyfrau.

Roedd y gwahaniaeth mwya ymysg pobl oedd wedi eu magu â llai o bres a manteision, felly gallai teuluoedd tlawd heddiw leihau’r gagendor addysg drwy ‘addurno’ eu cartrefi â llyfrau. Syml!

Felly faint o lyfrau oedd o’ch cwmpas chi yn 16 oed? Doedd gynnon ni ddim gymaint â hynny gan fod Mam yn mynnu rhoi ein hen lyfrau plant i aelodau eraill y teulu estynedig dragwyddol, ond wedi deud hynny, roedd hynny’n gweithio ddwy ffordd: roedden ni’n cael llyfrau ail law gan amrywiol fodrybedd yn weddol gyson. Mi fyddwn i’n cael llyfrau fel anrhegion pen-blwydd a Nadolig yn rheolaidd, ac yn eu trysori. Ond y fan llyfrgell oedd gwir ffynhonell ein deunydd darllen ni, a byddai’n rhaid rhoi’r rheiny yn ôl, wrth gwrs.

Mi fydda i’n dal i ddefnyddio ein llyfrgell leol yn aml, a diolch byth fod y lle yn dal yn agored, achos dwi wedi prynu a derbyn cannoedd ar gannoedd o lyfrau dros y blynyddoedd. Gormod a bod yn onest, gan mod i’n dechrau rhedeg allan o le i’w cadw, ac yn mynd â bocseidiau i siopau elusen pan fydd yr awydd i ddystio neu hŵfro yn codi (na, dydi hynny ddim yn digwydd yn aml…)

Mae rhai’n deud nad oes y fath beth â gormod o lyfrau, ond mae’n dibynnu ar faint eich tŷ chi tydi!
lessmore-screenshot

Dyma i chi ambell ddyfyniad am ddarllen sydd wedi fy nifyrru dros y blynyddoedd:
‘“Clasur” – llyfr y bydd pobl yn ei ganmol ond ddim yn ei ddarllen.’ Mark Twain.
‘Dylai llyfr gwych eich gadael â llawer o brofiadau, ac wedi ymlâdd fymryn ar y diwedd. Rydach chi’n byw sawl bywyd wrth ddarllen.’ William Styron
Ac un yn y Saesneg gwreiddiol am fod cyfieithu ‘daunting’ yn fachog yn anodd:
(wrth drafod llyfrau plant) ‘Books shouldn’t be daunting, they should be funny, exciting and wonderful…’ Roald Dahl.

Byddai Gareth F wedi cytuno.


Roedd y noson yn un hyfryd, gynnes, emosiynol a diolch i bawb gyfrannodd iddi.
Wrth gerdded yn ôl drwy bentre Portmeirion, roedd y lleuad yn disgleirio ar yr afon roedd Gareth wedi ei fagu wrth ei hymyl, a dyma lun dynnais i efo fy ffôn.

Dp0RaaHWkAAi4EY

Advertisements

Hoff lyfrau Manon Steffan Ros

Published Tachwedd 9, 2016 by gwanas

Ar ddiwrnod fydd yn llawn newyddion brawychus o’r Unol Daleithiau, dyma ddechrau syniad newydd ar gyfer y blog llyfrau plant yma: holi gwahanol awduron am y llyfrau roedden nhw’n eu hoffi’n blant, be maen nhw’n ei ddarllen (a’i sgwennu) rwan ac ati.

A dyma ddechrau efo Manon Steffan Ros.

a1pmnnmlml-_ux250_

1. Pa lyfrau oeddet ti’n eu hoffi yn blentyn?
a) ysgol gynradd  – Cymraeg a Saesneg

Ro’n i wrth fy modd efo Cyfres Corryn, yn enwedig un llyfr arbennig a hyfryd o’r enw Cyfrinach Betsan Morgan gan Gwenno Hywyn.

220px-cyfres_corryn_cyfrinach_betsan_morgan_llyfr

Dwi wedi casglu’r rhan fwyaf o’r gyfres eto fel oedolyn drwy dyrchu mewn sels cist car a siopau elusen.

Yn Saesneg, dwi’n meddwl mai Boy gan Roald Dahl ydi fy hoff lyfr hyd heddiw.

boyroalddahl

Mae o’n gyfuniad perffaith o ddireidi a gwiriondeb a thorcalon. Dwi’n darllen Boy o leia’ unwaith y flwyddyn ers bron i chwarter canrif!

b) ysgol uwchradd – Cymraeg a Saesneg
Ro’n i wrth fy modd efo llyfrau gan awduron fel Judy Blume a Paula Danziger- llyfrau oedd yn son yn ddiflewyn ar dafod am fywyd go iawn pobol ifanc.
Mi wnaeth O Ddawns i Ddawns gan Gareth F. Williams newydd fy mherthynas i efo llenyddiaeth Gymraeg.

220px-o_ddawns_i_ddawns_llyfr

Ro’n i wedi teimlo cyn hynny fod rhyw bellter rhyngof fi a’r cymeriadau, ond roedd y bobol yn O Ddawns i Ddawns yn gig a gwaed, yn amherffaith ac felly’n hawlio sylw a chydymdeimlad. Dwi’n darllen O Ddawns i Ddawns o leia’ unwaith y flwyddyn ers bron i ugain mlynedd!
Roedd Mochyn Gwydr gan Irma Chilton hefyd yn ffefryn mawr. Mae’n fy synnu i’n fawr nad ydi’r nofel yma’n cael mwy o sylw, achos mae’n glasur, yn fy nhyb i.

51kg27fkw8l

2. Wyt ti’n dal i ddarllen llyfrau plant? Pa rai wyt ti wedi eu hoffi’n ddiweddar?
Dwi’n tueddu darllen llyfrau YA (Young Adult) yn fwy na llyfrau i oedolion. Ac mae gen i ddau o feibion, felly dwi’n darllen efo nhw. Mae Half-Brother gan Kenneth Oppel yn wirioneddol wych- hanes teulu sy’n mabwysiadu chimpanzee!  Dwi wrth fy modd efo Cyfres Clec, ac mae ‘na gyfrol o farddoniaeth dwi’n troi ‘nol ati dro ar ôl tro- Cerddi’r Cof, a olygwyd gan Mererid Hopwood.

220px-cerddir_cof_%c2%96_goreuon_barddoniaeth_i_blant_llyfr

3. Pwy ydi dy hoff ddylunydd/arlunydd llyfrau? Pam?
Ychydig flynyddoedd yn ôl, ges i’r cyfle i weithio efo Jac Jones. Roedd o’n gymaint o fraint! Ro’n i’n eitha’ star-struck o gwrdd a fo. Dwi’n meddwl  ei fod o’n portreadu emosiwn yn glir iawn yn ei gymeriadau- ‘da chi’n teimlo be’ maen nhw’n teimlo. Mi fedra i grwydro orielau celf mawr pwysig heb deimlo’r empathi mae gwaith Jac yn ei greu.

51s9ivf-ppl-_ux160_

4. Be nath i ti ddechrau sgwennu?
Ro’n i ‘di bod yn gweithio fel actores, ac wedi rhoi’r gorau iddi pan ges i blant. Ro’n i wedi colli Mam pan roedd hi’n ifanc, ac roedd hi’n loes calon gen i feddwl na fyddai ‘mhlant i yn ei ‘nabod hi, felly mi ‘sgwennais i Trwy’r Darlun a Trwy’r Tonnau efo Mam yn brif gymeriad yn y nofelau. Ro’n i’n meddwl y byddai hynny’n ffordd dda o gyflwyno ei hiwmor a’i hanwyldeb i ‘mhlant. Mae fy mab hynaf yn darllen Trwy’r Darlun efo’i ddosbarth Cymraeg yn yr ysgol rŵan, sy’n deimlad rhyfedd a hyfryd iawn.

51fud-0vs4l-_uy250_

5. Be wyt ti’n ei fwynhau fwya am sgwennu?
Dwi’n meddwl mai dyma’r joban ora’ yn y byd! Dwi’n gallu ymgolli yn llwyr mewn bydoedd a phobol hollol newydd, yn gallu eistedd yn fy nghadair esmwyth yn y ty a mynd i bedwar ban byd heb symud cam. Mae’n fraint anhygoel pan fo rhywun yn codi un o fy llyfrau ac yn dechrau darllen, yn rhoi ei amser a’i meddwl i rywbeth dwi wedi ei greu.

6. Dwed chydig am Pluen, dy nofel ddiweddara i blant.

getimg
Mae Pluen yn nofel sy’n ymdrin a’r rhyfeloedd byd, ond o safbwynt modern a real iawn. Mae Huw, bachgen o Langefni, yn trio chwilio am hanes ei hen ewythr ar ôl yr ail ryfel byd. Ond mae’r nofel hefyd yn ymdrin a dementia. Mae hon yn nofel bersonol iawn i mi, ac ro’n i’n ei chael hi’n eitha’ anodd i’w ‘sgwennu ar brydiau. Ond yn y bon, dirgelwch hen ffasiwn sydd yn y stori, efo ‘chydig o dro yn y cynffon hefyd!

7. Pa lyfr(au) plant sydd ar y ffordd nesa gen ti?
Dwi wrthi’n sgwennu cyfres o lyfrau i blant bach, ac mae gen i nofel ar y gweill hefyd. Sgwennu i blant ydi ‘nghariad cynta’, heb os nag oni bai.

Diolch, Manon!

Gareth F Williams (a Phenwythnos Anferthol Caernarfon)

Published Hydref 2, 2016 by gwanas

garethfwilliams

Fel y llun uchod dwi’n cofio Gareth F – y wên a’r llygaid direidus, llawn sglein. Ond mae’r wên a’r sglein wedi’n gadael, gan adael anferth o dwll yn y byd llyfrau Cymraeg ac ym mywydau pawb oedd yn ei nabod.

Roedd o’n gariad o foi ac yn awdur gwych, fel mae’r ffaith ei fod wedi ennill Gwobr Tir na-nOg chwe gwaith yn ei brofi. Roedd ei lyfrau ar gyfer oedolion yn rai arbennig – yn enwedig Awst yn Anogia, y llyfr Cymraeg gorau i mi ei ddarllen erioed.

image

Ond blog am lyfrau plant a phobl ifanc ydi hwn i fod, ac roedd Gareth wrth ei fodd yn sgwennu ar gyfer yr oedran yna – am ei fod o’n dal mor ifanc ei hun yn ei ffordd o feddwl a’i agwedd at fywyd, am wn i.

Mae ‘na nifer ddarllenodd ‘O ddawns i Ddawns’ ac ‘Adref heb Elin’ 220px-o_ddawns_i_ddawns_llyfr

1843236818_2_13  yn ystod eu dyddiau ysgol yn y 1990au yn dal i’w cofio’n glir, flynyddoedd yn ddiweddarach.

Mae ‘Anji’ ( ar gyfer yr arddegau) hefyd yn gampwaith,

41s52hsimil-_ac_us160_   a’r darn am y fam yn poenydio ei merch drwy actio bod yn fochyn ymysg y pethau mwya pwerus i mi eu darllen erioed.

images-1 Roedd ‘Hwdi’ mor frawychus, mi fu’n rhaid i mi ei rhoi i lawr i gael fy ngwynt ataf cyn medru dal ati. Roedd o’n wych am greu tensiwn: Jara, Y dyn gwyrdd, Tacsi i’r tywyllwch, y ddwy nofel am y Ddwy Lisa, Eira Mân, Eira Mawr…

220px-jara_llyfrimages-210378692

Roedden nhw i gyd yn dywyll a chelfydd a hynod, hynod gyffrous.

Roedd y ddwy ddiweddar: Y Gêm a Cwmwl Dros Y Cwm yn gampweithiau oedd yn dod â hanes yn fyw i bobl ifanc – ac oedolion.

 

Roedd ganddo ddychymyg ffantastic, hynod weledol ac roedd Ifor ap Glyn isio gwneud ffilm o Mei ling a Meirion,

images-3  nofel fer ( ar gyfer oedolion) wedi ei gosod yn ardal Porthmadog, oedd mor annwyl iddo fo. Ond roedd y rhan fwya o’i nofelau â photensial ffilm ynddyn nhw.

images-5415uvk7v8l-_ac_us160_

Mi fydda i wastad yn annog bechgyn sydd ddim yn hoffi ffuglen i ddarllen hwn:

images-4

Rhyfedd o Fyd – Llyfr am y creaduriaid (neu’r bwystfilod) rhyfedd mae rhai yn dweud sy’n bod go iawn, fel Bigfoot, anghenfil Loch Ness ac ati. Gwnaeth Gareth gryn dipyn o ymchwil i mewn i’r pwnc ar gyfer hon, ond roedd o’n gwybod gryn dipyn beth bynnag gan fod creaduriaid o’r fath wedi bachu ei ddychymyg ers ei blentyndod.

Os nad ydach chi wedi darllen un o lyfrau Gareth eto, gwnewch. Mae ‘na ddigonedd yn y siopau ( ar wahân i Awst yn Anogia – sydd allan o brint ond falle y caiff ei ailgyhoeddi rwan?) neu ewch i’ch llyfrgell leol. Un ffordd o gadw’r atgof am rywun yn fyw ydi drwy ddarllen eu geiriau nhw.

A thrwy ddathlu eu gwaith a’u bywyd nhw, fel y digwyddodd efo Roald Dahl eleni. Braf fysa cael diwrnod i ddathlu Gareth F ryw dro.

Roedd Penwythnos Anferthol Caernarfon mor llwyddiannus, dwi’n siwr y gwelwn ni rywbeth tebyg eto. Mi ges i’r fraint o roi gweithdy creu cewri yng ngardd gefn siop Palas Print, a dyma rai lluniau i chi dynnwyd gan Iolo Penri. Dwi wedi eu dwyn o dudalen FB Palas Print, ond dwi’n siwr y byddan nhw’n fodlon i mi wneud hynny!

Mi ges i goblyn o hwyl efo’r criw, a gwirioni efo’u doniau a’u syniadau nhw – rhai yn hollol boncyrs! Mi fysa Roald Dahl –  a Gareth F wedi gwirioni hefyd.