nofel i’r arddegau

All posts tagged nofel i’r arddegau

Tom

Published Mehefin 5, 2019 by gwanas

Tom-Cynan-Llwyd-500x743

Nofel wedi ei hanelu at yr arddegau ydi ‘Tom’ gan y nofelydd newydd sbon danlli, Cynan Llwyd, ond fel sawl nofel debyg, mae hi’n berffaith ar gyfer oedolion hefyd.

Mae Manon Steffan Ros wedi ei disgrifio fel nofel ‘gyffrous, fentrus a chwbl unigryw’ a dwi’n cytuno 100%.

20190604_172533

O’r dudalen gyntaf un, dach chi’n gwybod eich bod chi mewn dwylo diogel:

20190605_092027

Mae’r sgwennu yn glir, yn fywiog ac yn llawn hiwmor. Ac mae’r cymeriadau yn neidio oddi ar y dudalen: Tom, sydd â’i siâr o angst yr arddegau, ond mae ganddo hefyd obsesiwn â glendid (daw’r rheswm dros hynny yn glir gyda hyn), mae o wrth ei fodd yn darllen hen gomics (snap!) a chwarae gemau fel Alien Death 2. Mi fydd y ffaith honno’n siŵr o daro tant efo nifer o’r gynulleidfa darged.

Wedyn mae gynnon ni Dai, cymydog yn y bloc fflatiau sydd yn ei 80au, ac Ananya sydd o dras Bangladeshi. Ro’n i wrth fy modd gyda’r disgrifiad yma ohoni:

20190603_182926

Digon o ddeunydd trafod yn fanna!

Mae’r fam yn gymeriad diddorol hefyd, heb sôn am y snichod Kev, Dez a Baz sy’n fygythiad cyson yn y nofel – peidiwch â rhoi hon i blant rhy ifanc, rhy sensitif. Nid nofel ysgol gynradd mo hon, mae ‘na ddarnau tywyll iawn ynddi.

Mae Cynan wedi llwyddo i greu nofel wirioneddol gyffrous, ac mi fyddwch chi’n cael trafferth i’w rhoi i lawr. O ddifri!

O’r diwedd, dyma nofel wedi ei gosod yn ardal Caerdydd (Grangetown fel mae’n digwydd) sy’n gwbl gymreig a Chymraeg ond yn hyfryd o aml-ddiwylliannol hefyd. Ro’n i wrth fy modd efo’r disgrifiadau o ddillad a bwyd – a’r aroglau, o, yr aroglau! – yng nghegin teulu Ananya. Anaml gewch chi nofel sy’n effeithio cymaint ar eich trwyn chi. Clyfar iawn, Cynan Llwyd!

Mae o’n gallu disgrifio golygfeydd sy’n gyffredin dros Gymru hefyd:

20190604_172621

Mae’n debyg mai ei wraig, Rachel, ysbrydolodd y llyfr. Mae hi’n athrawes uwchradd yng Nghaerdydd,

“Roedd ei disgyblion yn gofyn iddi am nofelau dinesig Cymraeg, a’r dewis yn siomedig. Felly es i ati i sgwennu un! Rwy’n teimlo nad oes llawer o nofelau i bobl yn eu harddegau yn y Gymraeg yn darlunio’r Gymru amlddiwylliannol ac urban yr wyf fi, a llawer o bobl yn eu harddegau sy’n medru’r Gymraeg, yn byw ynddi. Am wn i, yn hynny o beth, mae’r nofel yn unigryw.”

Ydi, yn bendant, mae hi. Ro’n i wrth fy modd efo hi, oherwydd y cyffro a’r perygl sydd ynddi yn sicr, ond hefyd oherwydd yr anwyldeb a’r caredigrwydd a’r cariad. Clincar o nofel.

Iawn, efallai bod ‘na fymryn bach gormod o gymariaethau ynddi at fy nant i, ond mi fydd athrawon Cymraeg yn glafoerio! Dwi’n 100% siŵr y bydd hon ar y cwricwlwm TGAU yn fuan iawn. Mae hi’n ticio’r bocsys i gyd.

Gobeithio na fydd ei gosod ar gwricwlwm yn lladd ei hud hi, ond na, mae hi’n rhy dda i hynny ddigwydd. Mae’n nofel i’w darllen jest er mwyn ei mwynhau hefyd, yn bendant, a dwi’n edrych ymlaen yn arw at y nesaf.

Hwrê – mae gynnon ni awdur newydd, cyffrous ar gyfer yr arddegau! Dwi’n gwybod y byddai Gareth F Williams wedi gwirioni efo hi.

A chaiff pobl ifanc y gogledd ddim trafferth efo’r iaith ddeheuol chwaith. Mae hi’n berffaith ar gyfer pawb, o Wrecsam i Gaergybi i Hwlffordd a’r Drenewydd, heb sôn am ddarllenwyr y de ddwyrain – ac mi fydd rheiny wedi mopio.

Llongyfarchiadau, Cynan Llwyd.

cynan-llwyd-photo

Mis yr Ŷd a Wrecsam

Published Ebrill 19, 2019 by gwanas

Mae hi wedi ei wneud o eto.

20190418_095032

Nofel hyfryd arall ar gyfer yr arddegau (12-14 yn ôl y blyrb, ond darllenwyr da o 10 oed i fyny, ddeuda i) gan Manon Steffan Ros. Sut mae hi’n llwyddo i sgwennu cymaint o lyfrau da mor gyson, mor gyflym?

Dyma’r broliant i chi:

20190418_095250

“Stori gref am ragfarnau, cyfeillgarwch a brawdoliaeth rhwng dynion ifanc.” Ia, ac am sylweddoli nad yw eich rhieni’n iawn bob tro, ac am iselder a’r hyn sy’n gallu creu iselder, a ffrindiau sydd ddim wir yn ffrindiau, a bod modd dod o hyd i gyfeillgarwch yn y mannau mwya annisgwyl, a llawer, llawer mwy.

Dyma’r dudalen gyntaf:

20190418_095119

A dyma’r ffordd berffaith o orffen pennod gyntaf:

20190418_095213

“…roedd gen i deimlad yn fy mol fod pethau ofnadwy’n mynd i ddigwydd.” Gwneud i chi fod isio darllen ymlaen i’r bennod nesa yn syth tydi?

Mi ges i drafferth rhoi hon i lawr, er bod gen i gantamil o bethau eraill i’w gwneud. Mae’r stori a’r cymeriadau yn eich bachu, does dim gwastraffu geiriau ac mi fydd bechgyn 12+ yn ei mwynhau hi, dim bwys gen i faint o gwyno gwirion – “Dwi’m isio darllen blincin llyfr!” – wnawn nhw o flaen eu ffrindiau!

Mae hon yn un o gyfres o nofelau newydd ar gyfer yr oedran 12-14 gan CAA (prosiect wedi ei ariannu gan y Llywodraeth, yr un fath â chyfresi Y Melanai ac Yr Ynys) a dyma ddwy o’r rhai eraill sydd ar gael:

20190418_095350

Dim clem sut lyfrau ydi’r rheiny, gan mod i’n cael llyfrau i’w hadolygu gan y gweisg fel arfer, ond mi wnes i brynu hon gan Manon am fod y syniad wedi apelio gymaint ata i. Ac roedd hi’n werth bob ceiniog o’r £5.99!

O, ac os ydach chi’n caru llyfrau ac yn byw yng nghyffiniau Wrecsam, neu isio esgus i bicio yno am chydig o siopa, cofiwch am y Fedwen Lyfrau yn Saith Seren ar yr 11eg o Fai, 10-5. Fel y gwelwch chi o’r poster, mae ‘na rywbeth i bob oed yno.

poster a4 bedwen v2

Gethin Nyth Brân

Published Tachwedd 15, 2017 by gwanas

Addasiad o fy ngholofn yn yr Herald Gymraeg (y darn Cymraeg sydd yn y Daily Post bob dydd Mercher) ydi hwn:

colofn

Ond ro’n i am i bawb arall ei weld hefyd, felly dyma fo:

clawr

Dwi newydd orffen darllen nofel ar gyfer yr arddegau a dwi wedi gwirioni. A chan fod llyfrau plant yn cael cyn lleied o sylw ar y cyfryngau (rhai gwreiddiol yn yr iaith Gymraeg o leia) dwi’n mynd i neud yn blwmin siŵr bod hon yn cael sylw!

Gareth Evans ydi enw’r awdur – a dyma ei nofel gyntaf erioed. Un o Benparcau, Aberystwyth ydi Gareth, ac os cofia i’n iawn, mi enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd pan roedd o tua 16 oed. Dwi’n digwydd cofio am ei fod o’r un oed â mi, ac mi fues i ar gwrs drama efo fo yn Harlech ryw dro yn y 1970au. Digwydd cofio hefyd ei fod o, fel fi, wedi gwirioni efo ieithoedd ond mai Almaeneg oedd ei hoff iaith dramor o. Aeth o i Fanceinion i astudio’r iaith honno (a drama) yn y Brifysgol, ac ar ôl cyfnod efo Radio Cymru ac yn sgwennu cyfres ‘Dinas’ aeth i fyw dramor am ddegawd, i Sbaen a’r Almaen.

Dyma fwy o’i hanes mewn taflen Adnabod Awdur:

DMgj83EXUAEvzI8

Doedd gen i ddim syniad mai fo oedd awdur y nofel hon nes i mi weld ei lun yn Golwg. Mae o’n byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd, ac wedi bod yn sgwennu’n dawel bach i Bobol y Cwm ers ugain mlynedd. Ond tua deng mlynedd yn ôl, pan oedd ei blant yn eu harddegau, dechreuodd feddwl am sgwennu nofel ar gyfer eu hoedran nhw. Roedd o wedi sylwi nad oedd llawer o lyfrau Cymraeg ar eu cyfer nhw – a bechgyn yn enwedig, a dyna sut y dechreuodd chwarae efo’r syniad o sgwennu am Guto Byth Brân.

A dyma’r canlyniad. Chwip o nofel antur/hanes/ffantasi/chwaraeon! Yr hyn sydd wedi fy mhlesio i fwya ydi bod cymaint o waith wedi mynd i mewn iddi. Mae ’na lawer gormod o nofelau Cymraeg i blant (ac i bawb o ran hynny) yn brin o ôl chwys. Mae hon yn llawn dop o ymchwil i hanes ardal Pontypridd a Chwm Rhondda, Cwm Taf ac ati. Roedd ganddo ddau fap o gyfnod Guto Nyth Brân (y 1700au cynnar) ar y wal wrth ei gyfrifiadur tra’n sgwennu hon – un o blwy Llanwynno a’r llall o ddwyrain Morgannwg, felly mae enwau’r ffermydd a’r bryniau a hyd yn oed y caeau yn berffaith gywir ynddi.

32678792521_094d1ba774_b

Mae’r traddodiadau fel hel calennig, diwrnod aredig ac ati yn neidio’n fyw oddi ar y dudalen; mae o’n amlwg wedi gwneud ymchwil i mewn i’r hyn fyddai pobl yn ei fwyta a’i wisgo, heb sôn am y ffordd fydden nhw’n siarad.

Dewr iawn oedd dod â’r Wenhwyseg i mewn i nofel ar gyfer pobl ifanc heddiw, ond iechyd, mae o wedi llwyddo! Dach chi’n gweld, stori am Gethin, hogyn 13 oed o’n hoes ni heddiw ydi hi, bachgen cyffredin sy’n ceisio delio efo ysgol, bwlis, y ferch mae’n ei ffansïo, ei fam a’i ‘Gransha’ sef ei daid/dad-cu sydd ddim yn siarad Cymraeg. Ond un noson Calan Gaeaf, ac yntau wedi ei wisgo fel Hobbit, mae’n rhedeg am ei fywyd rhag y bwlis pan mae’n syrthio yn anymwybodol – ac yn deffro yn 1713. Mae pawb o’i gwmpas yn uniaith Gymraeg rŵan, ac yn siarad yn od. Yn lle ‘tad’ maen nhw’n deud ‘têd’, ‘tên’ ydi tân, ‘acor’ ydi agor ac maen nhw’n deud pethau fel ‘hi gerddws’ ac ‘fe ddringws’ yn lle ‘cerddodd’ neu ‘ddringodd’. Mae’n gweithio’n berffaith, ac ro’n i fel darllenydd yn syrthio mewn cariad efo’r iaith, yn union fel Gethin – ac fel Gareth yr awdur, yn amlwg.
Doedd Gareth ddim yn siŵr am ddefnyddio’r Wenhwyseg fel hyn, ac yn ôl yr erthygl yn Golwg ‘dwi’n dal ddim yn siŵr.’ Oedd o’n ormod i ddisgwyl i ddarllenwyr 13-15 oed ymdopi efo darllen y Wenhwyseg? Wel, yn fy marn i, nag oedd. Mae’r ddarllenwraig 55 oed yma (sydd, dwi’n cyfadde, yn dipyn o nerd ieithyddol fel Gareth) wedi mopio, o leia! Ond dwi’n 100% siŵr y bydd pobl ifanc Morgannwg yn mopio hefyd, ac mae o wedi ei wneud o mor glyfar, fydd o’n amharu dim ar fwynhad pobl ifanc (a phobl hŷn o ran hynny) o ardaloedd eraill chwaith. A phun bynnag, mae’n rhoi lliw ychwanegol i’r darnau hanesyddol.

Mae ’na elfen gref o falchder bro yn treiddio drwy’r tudalennau, a synnwn i daten na fydd yn ysgogi rhai o blant Morgannwg i ailafael yn y Wenhwyseg. Iawn, falle mod i’n ormod o ramantydd yn fanna, ond wyddoch chi byth.

Ond mae ’na fwy, llawer iawn mwy yn y nofel hon: cymeriadau cofiadwy, byw; digonedd o ddigwyddiadau cyffrous ac anturus yn y ddau gyfnod a digon o redeg a rasys (neu redegfeydd fel roedden nhw ers talwm). Difyr oedd deall bod yr awdur wedi rhedeg sawl hanner marathon ei hun, ac yn dioddef o asthma – fel Paula Radcliffe. Mae’r cyfan yn y nofel, a’r cyfan yn taro deuddeg.

1200px-Gutonythbran

Roedd hi’n hen bryd i rywun sgwennu nofel fel hon am ardal Pontypridd a Morgannwg. Roedd hi’n hen bryd i rywun sgwennu nofel am Guto Nyth Brân a’i gyfnod hefyd. Ac roedd hi’n amlwg yn hen bryd i Gareth Evans droi at ryddiaith!
Dim ond gobeithio na fydd hi’n cymryd deng mlynedd arall i Gareth sgwennu nofel arall ar gyfer pobl ifanc. Un efo rhywfaint o Almaeng neu Sbaeneg ynddi efallai – pam lai? Mae angen hybu diddordeb mewn ieithoedd tramor ymysg Cymry ifanc hefyd.

Gobeithio y caiff ‘Gethin Nyth Brân’ y derbyniad a’r clod mae hi’n ei haeddu ac y bydd pob ysgol ym Morgannwg yn prynu stoc da ohoni. A phob ysgol arall yng Nghymru o ran hynny.

Ond mi fyddai’n well gen i tasech chi’n prynu’ch copi eich hun. Dach chi’n mwynhau rhedeg? Neu nofelau ffantasi? Neu jest nofelau da yn gyffredinol – efo ôl chwys arnyn nhw? Dyma’r anrheg Nadolig perffaith felly: £5.99 Gwasg Carreg Gwalch.

Dyma’r dudalen gyntaf i chi gael blas:

tud 1

Nofel gan Myrddin ap Dafydd

Published Gorffennaf 24, 2016 by gwanas

Nofel Gymraeg newydd – a gwreiddiol – i blant! Diolch yn fawr Myrddin ap Dafydd. O, a phen-blwydd hapus ( glywes i o ar raglen Dewi Llwyd bore ma…).

image

Ar gwales.com mae’n deud bod y nofel hon yn addas i blant 9-11 oed, ond mae’n addas i blant fymryn hŷn hefyd yn fy marn i. Ac er mai ‘gog’ ydi’r awdur, mae’r ddeialog ynddi i gyd yn ddeheuol. Pam? Wel, am mai hanes go iawn rhywbeth ddigwyddodd yn ardal Llangyndeyrn, Cwm Gwendraeth Fach, Sir Gaerfyrddin yn 1963 sydd yma – ond ar ffurf nofel. Roedd pobl Cwm Tryweryn eisoes wedi colli eu brwydr hwy, ac roedd cynlluniau ar droed i foddi Cwm Gwendraeth Fach er mwyn i Abertawe gael mwy o ddŵr.

Os dach chi isio gwybod be ddigwyddodd – wel, darllenwch y nofel ynde!

Dyma’r dudalen gyntaf, wedi ei hadrodd o safbwynt bachgen 12 oed:

image

Iaith y de, fel y dywedais i, ac er nad ydw i’n arbenigwraig o bell ffordd, mae’n swnio’n iawn i mi. Mae ‘na lawer iawn o ddeialog ynddi, felly digon o sgôp ar gyfer actio darnau.

Ac fel y byddech chi’n ei ddisgwyl gan fardd, mae ‘na ddisgrifiadau hyfryd yma:

“A dyma’r clychau’n awr sy’n ein galw i’r gad. Mae’n deimlad cysegredig, fel canu emyn mewn mynwent, fel gwrando ar ddau’n dweud eu haddunedau priodas. Mae’r clychau’n canu am ein dyletswydd ni at y cwm.”

Dyma i chi fymryn mwy o’r bennod gyntaf i godi blas ( cliciwch ar y llun i’w wneud yn fwy):

image

Ond os ydach chi isio gweld mwy, dim ond £5.99 ydi pris y llyfr. Os oes gynnoch chi ddiddordeb mewn hanes ardal Cwm Gwendraeth, hanes Cymru a digwyddiadau ‘go iawn’, ac yn hoffi stori dda wedi ei dweud yn dda, yn hoffi cwningod a choed a chlywed am Gymry yn sefyll yn gadarn gyda’i gilydd, mi ddylech chi fwynhau hon.

Mi fydd oedolion yn ei mwynhau hi hefyd, yn enwedig pobl ardal Cwm Gwendraeth.

Nofel gyntaf Myrddin ap Dafydd, ond nid yr olaf ddywedwn i.

myrddin01p

 

 

Gwalia, Llŷr Titus

Published Ebrill 15, 2016 by gwanas

getimg

Dwi ddim yn gallu canmol digon ar hon! Un newydd yn y gyfres Strach gan Wasg Gomer, cyfres ar gyfer plant 9-11 oed yn fras (ac oedolion fel fi). A stori ffuglen-wyddonol (sci-fi) am unwaith! Ieeee!

Mae’r awdur, Llŷr Titus o Frynmawr, Llŷn, wedi profi ei fod yn un o’r bobol brin yna sy’n gallu sgwennu llyfrau yn ogystal â dramau ( mae o’n cael hwyl ar rheiny hefyd). Mae hon yn llifo fel triog melyn dros ddarn o dôst poeth; mae’r dawn deud yn hyfryd ond ddim yn tynnu gormod o sylw at ei hun. Y stori a’r cymeriadau sy’n bwysig, ac mae o wir yn dallt be sy’n bwysig mewn stori ffuglen-wyddonol.

A merch ydi’r prif gymeriad! Mae o wedi ei dallt hi… ( gweler The Hunger Games, Divergent…) Oes, mae ‘na fechgyn ynddi hefyd wrth reswm, ond Elan, sydd wedi byw ar long ofod erioed (wel, fwy neu lai), ydi’r seren.

Dyma’r broliant: “Cawn ddilyn taith Elan a’i ffrindiau ar long ofod wrth iddynt deithio o blaned i blaned. Ond tybed beth fydd yn digwydd wrth i’r llong gyrraedd planed newydd sbon? Mewn byd lle nad yw popeth yn ymddangos fel y dylent daw Elan ar draws cymeriadau rhyfedd iawn ar hyd y daith.”

Mae ‘na fanylion bach hyfryd yma a dychymyg wnaeth i mi chwerthin yn uchel. Mi fyddwch chi hefyd. O ddifri, rwan. Does dim rhaid i chi fod yn ffan o straeon am y gofod i hoffi hon.

Dyna pam ei bod hi ar restr fer Gwobr Tir na n-Og 2016 yn y categori uwchradd.

Mae Stori Cymru  gan Myrddin ap Dafydd  (Carreg Gwalch) getimg.php

a Paent!  gan Angharad Tomos (Carreg Gwalch eto)

getimg-1.php    ar yr un rhestr, a dwi’m wedi darllen rheiny eto ond mi fydd yn rhaid iddyn nhw fod yn wych i guro hon – yn fy marn i.

Tipyn o gamp ydi sgwennu nofel gyntaf cystal â hon, ac mae o’n ifanc – mae o’n dal yn  fyfyriwr (ymchwil) ym Mhrifysgol Bangor, felly mae ‘na obaith am lwyth o nofelau tebyg.

O, ac mae o’n gyn-aelod o Sgwad Sgwennu Gwynedd, felly mae hynna’n egluro lot tydi?

Diolch i Lleucu a’i mam, Nia Peris, am dynnu fy sylw at Gwalia gyda llaw – gwneud sylw ar y blog ma wnaethon nhw – a dwi’n dal i ddisgwyl dy sylwadau di amdani, Lleucu!